Mae gan Gonwy strategaeth Rhianta Corfforaethol tair blynedd er mwyn sicrhau bod yr holl Awdurdodau Lleol yn ymrwymo i’w dyletswydd Rhianta Corfforaethol i Blant sy’n Derbyn Gofal [Read more…]
LAC Sefydlogrwydd
Mae ystod o ddatblygiadau yn ystod 2014-15 wedi helpu i wella ein sefyllfa o ran darparu a chynnal sefydlogrwydd a lleoliadau sefydlog ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal. [Read more…]
Atal derbyniadau preswyl ac adleoli pobl mewn tai priodol
Mae atal mynediad i ofal preswyl trwy ddefnyddio eiddo presennol CBSC fel llety dros dro wedi ei gwneud yn bosibl i ailsefydlu unigolion cymhleth mewn tai priodol.
Drwy weithio gyda’r Gwasanaethau Tai, datblygwyd proses i sicrhau y gwneir defnydd effeithiol o eiddo a addaswyd ar draws Gogledd Cymru. Esblygodd hyn i ddechrau i fod yn Gofrestr Cyfateb Eiddo a Addaswyd sydd bellach wedi newid unwaith eto i fod yn Un Llwybr Mynediad at Dai a Datrysiadau Tai.
Beth sydd wedi newid? Pe na bai fflatiau Canolfan Marl ar gael a heb y gwaith ar y cyd gyda Gwasanaethau Anabledd ac asiantaethau Tai, mae’n bosibl y byddai darpar denantiaid wedi gorfod cael eu rhoi mewn gofal preswyl neu nyrsio dros dro neu mewn llety dros dro llai addas a fyddai wedi effeithio ar eu hannibyniaeth a’u lles.
Cyflawnwyd hyn wrth i ymarferwyr Gwaith Cymdeithasol a Therapyddion Galwedigaethol nodi ai’r datrysiad tai dros dro gorau fyddai i rywun symud i mewn i’r fflatiau. Byddai panel tîm amlddisgyblaethol yn prosesu’r ceisiadau ac yn monitro’r tenantiaethau.
Gallai fflatiau Canolfan Marl yng Nghyffordd Llandudno fod yn addas ar gyfer pob person anabl yn Nghonwy.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud? Gallai 12 o’r defnyddwyr gwasanaeth gael mynediad ac aros yn y 6 fflat yng Nghanolfan Marl yn 14/15. Roedd hyn yn golygu nad oedd rhaid iddynt gael eu derbyn i gartref preswyl neu nyrsio tra’n bod yn canfod llety wedi’i addasu’n briodol neu tra bod addasiadau’n cael eu gwneud ar eu heiddo eu hunain ac yn galluogi’r cwsmeriaid i aros yn agos at eu cymorth cymunedol a’u teuluoedd.
Astudiaeth Achos
Mae gan Ms X Sglerosis Ymledol ac roedd yn byw mewn fflat ail lawr. Mae ei chyflwr wedi gwaethygu unwaith eto a chafodd ei derbyn i’r ysbyty ac nid oedd yn gallu dychwelyd adref oherwydd na fyddai hi wedi gallu ymdopi â’r grisiau. Yn dilyn cyfnod o adsefydlu yn yr ysbyty, rhyddhawyd Ms X i fflatiau Canolfan Marl. Cwblhawyd atgyfeiriad at y Gwasanaethau Cyfateb Eiddo a Addaswyd a daeth y Gwasanaethau Tai o hyd i eiddo addas ac yn dilyn asesiad Therapi Galwedigaethol, bydd rŵan yn cael ei addasu ar gyfer ei hanghenion fel defnyddiwr cadair olwyn. Mae Ms X wedi bod yn byw yng Nghanolfan Marl am 3 mis ac yn gobeithio gallu symud o fewn y 6 mis nesaf.
Camau Ffitrwydd
Mae gan Ffyrdd o Fyw Egnïol a Chreadigol (yn y Gwasanaeth Datblygu Cymunedol), hanes o ddarparu cymorth cadarnhaol i alluogi mynediad i wasanaethau hamdden, profiad gwaith a chyfleoedd cyflogaeth i bobl ddiamddiffyn. Mae sefydlu prosiect peilot gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi adeiladu ar y llwyddiant hwn ac wedi ein galluogi i archwilio cyfleoedd newydd drwy wirfoddoli a phrofiad gwaith yn ein cyfleusterau hamdden gan alluogi unigolion i fagu hyder i symud ymlaen at bethau eraill.
Datblygwyd Camau Ffitrwydd ym mis Mehefin 2014. Mae’n rhaglen ar gyfer oedolion ag anableddau dysgu, anableddau corfforol a nam ar y synhwyrau, ac yn galluogi unigolion i gael gwybod am a mynychu gweithgareddau mewn Canolfannau Hamdden lleol ledled Conwy.
Darperir cefnogaeth am hyd at 16 wythnos y gellir ei ymestyn os oes angen, i alluogi unigolion, yn y pen draw, i fynd i’r Ganolfan Hamdden ar eu pennau eu hunain, defnyddio’r cyfleusterau yn y ganolfan hamdden a mynd i’r gweithgaredd yn gwbl annibynnol.
Wrth i’r person ddysgu sut i wneud hyn, maent yn cael eu cefnogi’n llawn gan aelod o staff y Gwasanaethau Anabledd a fydd yn addysgu’r sgiliau sydd eu hangen i gyrraedd yno a chymryd rhan yn y gweithgaredd.
Hyd yn hyn, mae pobl sydd wedi cymryd rhan yn y rhaglen wedi elwa yn y dulliau canlynol:
- Dysgu sgiliau newydd a dod yn gwbl annibynnol wrth deithio i weithgareddau
- Gwneud ffrindiau newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau eraill o ganlyniad i’r cyfeillgarwch newydd
- Dysgu sgiliau rheoli amser
- Mwy o gymhelliant a dewis cymryd rhan mewn gweithgareddau ychwanegol heb eu cymell
- Gwell lles meddyliol – cysgu, lleihau pryderon, dewis i fwyta bwydydd iachach
- Colli pwysau
- Gwelliant mewn cyflyrau iechyd fel diabetes
- Gwelliant mewn sgiliau cymdeithasol
- Mwy o gysylltiad â’r cyhoedd, gwella integreiddiad gyda’r gymuned ehangach
- Gwell hyder mewn aelodau o’r teulu yn annog annibyniaeth ymhellach yn yr unigolyn
- Lleihad yn yr oriau o gymorth sydd eu hangen o fodelau gwasanaeth traddodiadol
Gwneud y Rhaglen Gwaith Amdani yn gynaliadwy
Datblygwyd y Rhaglen Gwaith Amdani i ddarparu “siop un stop” i gefnogi pobl yng Nghonwy i oresgyn y rhwystrau a oedd yn eu hatal rhag symud ymlaen i addysg, hyfforddiant, gwirfoddoli, profiad gwaith a chyflogaeth. Roedd angen hyn gan fod nifer o grantiau, pob un yn ariannu meysydd gwahanol o waith ac wedi’u hanelu at wahanol grwpiau o gleientiaid fel:
- Genesis – yn cefnogi rhieni’n bennaf
- Taith i Waith – yn cefnogi defnyddwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol yn bennaf
- Grant Teuluoedd yn Gyntaf – yn cefnogi rhieni a phobl ifanc 16+ oed
- Grant Porth Ymgysylltu – yn cefnogi pobl i ddechrau gwirfoddoli
Gwnaethant gefnogi 1447 o bobl yn y 5 mlynedd hyd at fis Mai 2014, gan gyflawni’r canlyniadau canlynol:
- Sicrhaodd 163 o bobl gyflogaeth
- enillodd 396 o bobl gymwysterau
- symudodd 174 ymlaen at ragor o addysg
- symudodd 144 ymlaen i leoliadau gwirfoddoli neu waith
- sicrhaodd 147 o bobl gyfweliad am swydd
- Cafodd cyfanswm o 80% o’r bobl ganlyniad cadarnhaol a oedd yn cyfrannu at eu lles
Cynhaliwyd dadansoddiad budd-dal i nodi arbedion posibl o ran:
- budd-daliadau diweithdra
- Gwasanaethau Iechyd Meddwl
- Gwasanaethau Plant a Theuluoedd
- Gwasanaeth Anabledd
Roedd hyn yn dangos tystiolaeth o’r angen i’r gwasanaeth barhau a dangosodd fod y prosiect yn gynaliadwy drwy sicrhau arbedion o ran cost i’r Gwasanaethau Cymdeithasol, yr Adran Gwaith a Phensiynau (budd-daliadau diweithdra) a’r Gwasanaethau Iechyd.
Felly, ariannodd yr adran Gofal Cymdeithasol ac Addysg dîm craidd y Rhaglen Gwaith Amdani o fewn y Gymuned a Lles, dan y Gwasanaethau Ataliol.Roedd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei ystyried fel gwasanaeth ataliol da i’n helpu i gyflawni Deddf Gofal Cymdeithasol a Lles.Ein nod yw darparu cymorth arloesol ynghylch amrywiaeth eang o faterion sy’n effeithio ar unigolion sydd eisiau cael mynediad at waith am dâl, profiad gwaith, gwirfoddoli a hyfforddiant.
I fod yn gymwys am y gwasanaeth mae angen i berson gael:
- Rhwystr sylweddol rhag gwaith, gwirfoddoli neu hyfforddiant
- Bod yn ddi-waith
- Byw yn sir Conwy
- Yn 16 oed neu’n hŷn
- Dymuno i gyflawni eu potensial a symud ymlaen i waith cyflogedig.
Bydd y gwasanaeth yn darparu:
- Cyfarfodydd un i un gydag ymgynghorydd, yn y cartref fel arfer
- Gwaith unigol a gwaith grŵp pwrpasol ar sail angen, gan gynnwys
- gweithgareddau i wella hyder a hunan-barch
- Cyfleoedd hyfforddi i wella sgiliau ar gyfer gwaith
- Cyfleoedd gwirfoddoli a lleoliadau gwaith i gael profiad gwaith ymarferol
- Helpu gyda sgiliau chwilio am swyddi ac ysgrifennu CV
- Cymorth gyda cheisiadau am swyddi
- Help gyda thechnegau cyfweliad
Nid oes llwybr rhagnodedig, mae’r gwasanaeth yn cael ei arwain gan anghenion ac yn dilyn cynllun gweithredu unigol, sy’n cael ei ddatblygu rhwng ein hymgynghorwyr a’r cyfranogwr. Defnyddir cyflawniadau yn canolbwyntio ar y cleient ar y cynllun gweithredu i annog a chymell unigolion i gyflawni eu potensial.
O fis Awst 14 i fis Mawrth 15, mae 83 o bobl wedi cael cymorth gan y tîm craidd, gyda 67 eisoes yn cyflawni canlyniadau cadarnhaol.
Mae’r tîm craidd a’u sgiliau wedi cael eu cynnal a gellir eu defnyddio mewn unrhyw gynigion yn y dyfodol i gynyddu gallu’r gwasanaeth.
Os oes gennych unrhyw ymholiad, mae croeso i chi ffonio 01492 576360 neu anfon e-bost i:[email protected]
Canolfannau Iechyd a Lles Ardal
Ddechrau 2014 cytunodd chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar y fframwaith a ddefnyddir i’r dyfodol ar gyfer cyflwyno Iechyd a Gofal Cymdeithasol integredig ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth. Cyhoeddwyd Datganiad Bwriad yn pwysleisio’r angen i gymryd ymagwedd gadarn ac uniongyrchol tuag at Integreiddio Gwasanaethau ar gyfer Pobl Hŷn.
Nid yw Gofal Integredig yn ymwneud â strwythurau, sefydliadau neu lwybrau, nac am y ffordd y mae gwasanaethau’n cael eu comisiynu a’u hariannu. Ei brif bwrpas yw sicrhau bod dinasyddion yn cael profiad gwell wrth dderbyn gofal a chymorth, a’u bod yn profi llai o anghydraddoldeb ac yn cael gwell canlyniadau. Mae wedi ei seilio ar y ddealltwriaeth y dylai iechyd, gofal cymdeithasol, gwasanaethau’r trydydd sector a gwasanaethau annibynnol ar gyfer Pobl Hŷn fod wedi eu cynllunio a’u darparu i hyrwyddo a chynyddu lles; gan alluogi’r person i fyw’n annibynnol yn eu cymuned cyhyd ag y bo modd a bod gwasanaethau’n cael ei darparu yng nghartref y person ei hun neu mewn lleoliadau cymunedol i osgoi’r angen am ofal parhaus, gofal aciwt neu ofal sefydliadol.
Beth sydd wedi newid?
Darperir gofal integredig trwy ddatblygu Canolfannau Iechyd a Lles Ardal ar draws Dwyrain Conwy a Gorllewin Conwy, Llandudno, Llanrwst a Bae Colwyn. Mae’r isadeiledd hwn yn galluogi’r partïon, h.y. CBSC, Iechyd a’r Trydydd Sector weithio o’r canolfannau, darparu Gwasanaethau Lles yn amrywio drwy’r sbectrwm cyfan, e.e. Canolfan Iechyd, Cyfeirio, Ail-alluogi, Gofal Canolradd, Gofal Gwell, Ysbyty, ac ati
Pa wahaniaeth wnaeth hyn? Astudiaeth Achos…
Y Cleient Mae wedi profi llawer o boen yn ystod y blynyddoedd ers cael ei eni gyda fertebrâu sacrol ychwanegol, coes chwith fyrrach ac wedi dioddef 3 llithriad disg. Cyn cael Atgyfeiriad Meddyg Teulu i’r gwasanaeth gosodwyd orthotegau yn y ddwy esgid ac roedd yr ymgynghorydd wedi rhagweld yr angen am lawdriniaeth i glipio’r esgyrn canol ynghyd ar un droed ac asio’r ffêr. Pan wnaed yr atgyfeiriad, roedd y boen mor ddwys fel ei fod fwy neu lai wedi rhoi’r gorau i gerdded, yn syrthio’n gyson, yn magu pwysau ac yn dioddef effeithiau meddyliol. I reoli hyn, roedd hefyd yn cymryd llawer o gyffuriau gwrth-lidiol ar bresgripsiwn.
Cymorth i’r Cleient: I ddechrau, ymunodd â Chynllun Cerdded y Cyngor am gymorth i ddysgu cerdded yn unionsyth ar ôl i orthoteg newydd gael eu gosod gan arwain at wastadau ei uchder gwahaniaethol. Ar ôl elwa’n fawr o’r Cynllun Cerdded cafodd ei atgyfeirio ymhellach ar y Rhaglen ‘Atal Syrthio’. Heddiw mae ond yn profi diwrnodau achlysurol o boen, ychydig iawn o feddyginiaeth lladd poen y mae’n ei gymryd, mae’n gallu cerdded yn rhydd ac mae’r driniaeth ddisgwyliedig wedi cael ei gohirio ac mae’n cael ei fonitro’n unig gan yr Ymgynghorydd.
Adborth y Cleient: Derbyniwyd tystlythyr Cleient oddi wrtho, lle mae’n datgan bod yr Ymgynghorydd wedi ‘synnu ychydig’ gyda’r cynnydd a welwyd, nad yw bellach mae’n cerdded gyda ‘rholiad morwyr’, yn anaml y mae’n disgyn bellach, ond pan mae’n gwneud mae fel arfer yn gallu arbed ei hun, gall rŵan gerdded ble bynnag y mae’n dymuno ac ychydig iawn o boen y mae’n dioddef.
Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)
Dad-ddwysáu o’r Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (ACG)
Llywiwyd yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol (2011) gan ymchwil helaeth ar effeithiau cam-drin ac esgeulustod ar blant, yn enwedig rhai o dan 5 oed. Canfu fod achosion yn cymryd 50 wythnos ar gyfartaledd i fynd drwy’r system Llysoedd, gyda rhai achosion yn cymryd cymaint â 61 wythnos .Casgliad yr adolygiad oedd bod hyn yn annerbyniol ac roedd angen ail-ddylunio’r system er mwyn lleihau’r amser roedd plant yn aros am benderfyniadau ynghylch sefydlogrwydd.
Cryfhawyd y gweithdrefnau drwy’r Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (ACG), sy’n ei gwneud yn ofynnol i gwblhau pob achos gofal a goruchwyliaeth o fewn uchafswm o 26 wythnos.
Wrth weithio gyda theuluoedd, ac fel arfer pan fydd plant wedi bod ar y gofrestr Amddiffyn Plant am 9 mis i flwyddyn a bod dirywiad yn sefyllfa’r teulu a chynnydd amlwg yn y risg, gall hyn arwain at sefydlu gweithdrefnau Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (ACG).Cytunir ar gontract rhwng yr Awdurdod Lleol a’r teulu, lle mae disgwyl i’r rhieni/gofalwyr ymrwymo i leihau’r risg o niwed i’r plentyn. Byddai’r contract Cyfraith Gyhoeddus yn cael ei gytuno fel ‘dewis olaf’ i wella’r sefyllfa cyn sefydlu Gweithdrefnau Gofal.
Byddai cytundebau/contractau Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yn cael eu hadolygu yn ddamcaniaethol bob 6 wythnos a chynnydd yn cael ei fesur. Os bydd dirywiad yn parhau a risg o niwed i’r plentyn/plant yn cynyddu, byddai’r ALl yn cyflwyno cais am Orchymyn Gofal Dros Dro. Os nad yw’r awdurdod lleol yn cyhoeddi achosion gofal ar ôl 6 mis, bydd yr awdurdod lleol yn adolygu’r contract ACG a gallent benderfynu ‘camu i lawr’ i statws plentyn mewn angen neu ‘gamu i fyny’ i gyhoeddi achosion gofal. Mae’r Awdurdod Lleol yn gyfrifol rŵan am gyflwyno dogfennau perthnasol ar ddechrau achosion gofal ac felly disgwylir iddynt fod wedi cwblhau unrhyw asesiad perthnasol, yn ogystal ag unrhyw asesiadau arbenigol a datganiadau tystiolaeth ar adeg cyflwyno.
Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud yng Nghonwy?
2014 – 2015: Aeth 11 achos, gyda chyfanswm o 25 o blant i mewn i’r broses ACG, roedd hyn yn golygu eu bod wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer achosion cyfreithiol a wnaed yn unol â chytundeb ACG cyn y cyfarfod Trafodion. O’r 11 achos hynny, cyhoeddwyd 6 fel achosion gofal, a oedd yn golygu nad oedd lefel y risg i’r plant wedi ei ostwng i lefel foddhaol yn ystod y broses ACG. O’r 6 achos hynny, cyhoeddwyd 4 fel achosion gofal yn dilyn digwyddiad penodol a gafodd ei ystyried yn risg rhy uchel i’r ALl beidio â rhannu cyfrifoldeb rhiant, roedd y 2 arall yn sgil pryderon cynyddol oherwydd bod diffyg cynnydd yn cael ei wneud. O’r 6 achos hynny a gyhoeddwyd fel achosion gofal (o ACG), cwblhawyd 3 o fewn y 26 wythnos a osodwyd ac mae 3 ar y gweill ond disgwylir iddynt fod wedi eu cwblhau o fewn 26 wythnos yn ôl yr amserlen.
O’r 5 achos sy’n weddill, roedd 1 achos yn y broses ACG am 9 mis cyn cael ei ddadgofrestru a dod allan o’r broses ACG a bellach yn cael ei weithio arno fel achos Plentyn mewn angen, aeth y fam yn yr achos i’r afael â’r materion gydag alcohol a gweithredodd dad yn briodol fel gofalwr diogel.
Roedd 1 achos yn y broses ACG am 13 mis a bydd yn cael ei ddadgofrestru o’r gofrestr Amddiffyn Plant ymhen 1 mis, ac yna bydd yn cael ei weithio am gyfnod byr fel Plentyn mewn angen, roedd y materion mewn perthynas â’r tad yn bennaf, fodd bynnag, nid yw bellach yn gofalu am y plentyn, nid oes unrhyw bryderon ynglŷn â gofal y fam am y plentyn fel unig ofalwr.
Roedd 1 achos yn y broses ACG am 12 mis, mae’r tad wedi gweithio gyda’r cynllun ac wedi lleihau’r meysydd risg, mae’r achos yn agored rŵan fel achos Plant mewn angen.
Roedd 1 achos yn y broses ACG am 6 mis, mae’r fam wedi mynd i’r afael â’r meysydd risg ac esgeulustod, mae’r achos yn cael ei weithio arno rŵan fel achos Plentyn mewn angen.
Mae 1 achos yn parhau i fod yn y broses AGC ac wedi bod yn y broses am y 5 mis diwethaf, bydd angen i’r adran i adolygu eu safbwynt ymhen y mis a phenderfynu a ddylid parhau i weithio yn yr AGC neu a ddylid cyhoeddi achosion gofal.
Mae’r Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus wedi’i gyfuno â’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol yn seiliedig ar yr egwyddorion o gadw plant yng nghartref y teulu neu gartref teuluol arall lle bynnag y bo modd. Mae’r cymorth a gynigir drwy ymyrraeth gwaith cymdeithasol wedi ei anelu at nodi cryfderau’r rhieni/gofalwyr ac adeiladu ar eu gwydnwch er mwyn gwella eu sgiliau rhianta. Felly, cafodd y 5 achos a amlinellwyd uchod effaith gadarnhaol ar gyfer y plant o fewn y teuluoedd hynny a oedd yn gallu aros o fewn eu huned deuluol.
Panel Trothwy Gofal
Mae’r panel Trothwy Gofal yn cynnwys cynrychiolwyr Gwaith Maes, Maethu a’r Tîm Ymyriadau Teuluol, ac yn cymryd ymagwedd gyfannol at gynllunio a gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r plant a’r bobl ifanc sydd yn y mwyaf o berygl o ddod i gofal.
Bydd y panel Trothwy Gofal yn canolbwyntio ar:
- Achosion sydd ar y gofrestr amddiffyn plant am fwy na chwe mis, lle mae’r gweithiwr cymdeithasol yn teimlo bod yr achos yn mynd tuag at y broses PLO
- Achosion lle mae’r gweithiwr cymdeithasol wedi nodi’r angen am asesiadau hyfywedd
- Achosion CIN lle yr ystyrir bod risg y bydd y person ifanc yn dod i ofal
Swyddogaethau’r panel
- Rhoi cyfle i gyflwyno a thrafod achosion Gwarchod Plant cymhleth sydd ar agor am dros chwe mis lle nad yw cynnydd yn cael ei wneud o dan y protocol cyn-achosion.
- Trafod achosion lle mae aelodau o’r teulu yn cael eu hystyried fel gofalwyr amgen.
- Olrhain cynnydd o ran cwblhau’r ddogfen unigolion cysylltiedig llawn
- Grymuso’r gweithiwr, cryfhau penderfyniadau gweithwyr cymdeithasol.
- Rhannu perchnogaeth rhwng Gwaith Maes a Maethu wrth benderfynu ar y cyd.
- Sicrhau atebolrwydd cliriach a nodi canlyniadau i deuluoedd.
Mae gan Aelodau’r Panel ddigon o awdurdod i ymrwymo adnoddau yn ychwanegol at gyfeirio gweithwyr cymdeithasol i wasanaethau priodol. Lle bo angen, bydd aelodau’r panel yn cyflymu darpariaeth gwasanaethau a nodwyd mewn perthynas â’u ddisgyblaethau perthnasol. Mae’r panel yn sicrhau ansawdd ac yn adolygu’r achosion gyda’r Rheolwr Tîm a’r gweithiwr cymdeithasol lle mae penderfyniad yn cael ei wneud i beidio â darparu llety, ond bod angen monitro parhaus.
Meini prawf y Panel Atgyfeirio
- Achos Plentyn mewn Angen Agored / Plentyn ar y gofrestr gwarchod Plant / Aelodau teulu ehangach y plentyn yn amodol ar asesiad unigolion cysylltiedig
- Asesiad craidd wedi’i gwblhau mewn perthynas â’r plentyn
Bydd y panel yn:
- cyfarfod unwaith y mis i ddechrau/ neu fel sy’n ofynnol os yw arweinwyr yr adran yn teimlo bod angen
- ystyried achosion yn seiliedig ar asesiad anghenion
- cael awdurdod dan ddirprwyaeth i ddyrannu adnoddau o’u maes gwasanaeth
- Os nad yw cymorth a aseswyd ar gael, darparu cymorth dros dro
Cynhaliwyd pedwar panel Trothwy Gofal ers iddynt ddechrau ym mis Hydref 2014. Rydym yn y camau cychwynnol o ran mesur eu heffaith.
Cam-fanteisio Rhywiol ar Blant a Phlant ar Goll
Yn ystod 2014-15, cyfarfu Grŵp Tasg Plant ar Goll Conwy a Sir Ddinbych bob chwarter. Roedd Barnardos hefyd yn bresennol. Bydd gwaith y grŵp hwn yn cael ei gryfhau gan Brosiect Ymarferydd CSE 3 blynedd i godi ymwybyddiaeth am Ecsbloetio Plant yn Rhywiol (CSE) a gwella’r canlyniadau i bobl ifanc y nodwyd eu bod mewn perygl.
Cynnydd yn nifer y cyfarfodydd SERAF a ysgogwyd gan archwiliad achos. Rhai o’r canfyddiadau allweddol:
- Lefelau da o gyfranogiad aml-asiantaeth yn y broses SERAF
- Mae’r cyfarfod SERAF cychwynnol yn amlygu’r risgiau a’r camau gweithredu posibl i’w cymryd.
- Lle mae risgiau sylweddol yn cael eu nodi, mae’r broses gynllunio Amddiffyn Plant yn cael ei rhoi ar waithRoedd yr Archwiliad yn canolbwyntio ar daith y plentyn, y graddau yr oedd cofnodion achos yn adlewyrchu dealltwriaeth o’r rhesymau pam fod y plentyn yn rhedeg i ffwrdd, i ba raddau y cadwyd at Brotocol Plant ar Goll Cymru Gyfan wrth asesu a rheoli risg, ac effaith cyfraniadau a wnaed gan asiantaethau ar ganlyniadau ar gyfer y plant.
- Cynhaliwyd Archwiliad Ffeil Achos Sicrhau Ansawdd hefyd mewn perthynas â Phlant ar Goll.
Cafodd ffactorau ‘Gwthio’ a ‘Thynnu’ eu cynnwys yn yr pecyn archwilio er mwyn archwilio hyn yn fwy manwl; aeth rhai plant i sefyllfa a oedd yn cyflwyno mwy o risg. Roedd ffactorau ‘Gwthio’ a ‘Thynnu’ i’w gweld ym mhob un o’r achosion a archwiliwyd. Roedd dylanwad cyfoedion yn ffactor ‘tynnu’ arwyddocaol. Roedd ffactorau ‘Gwthio’ yn cynnwys rhedeg i ffwrdd oddi wrth ddadleuon a gwrthdaro gyda rhieni, llys rieni neu ofalwyr. Nodwyd ymddygiad troseddol mewn dau achos. Roedd diffyg terfynau rhianta yn broblem ym mhob achos. Nodwyd mai’r thema mewn tri o’r achosion oedd Person ifanc nad oedd mewn addysg neu gyflogaeth na hyfforddiant.
I ymateb i ganfyddiadau’r archwiliad cynhaliwyd Gweithdy Plant ar Goll fis Ebrill 2015. Roedd y gweithdy’n canolbwyntio ar ofynion trefniadol ac amlygu arfer da, gan gynnwys:
- Canolbwyntio fwy ar weithio aml-asiantaeth, asesu anghenion yn dda gan roi ystyriaeth lawn i faterion hanesyddol.
- Cynlluniau diogelwch unigol sy’n cynnwys barn plant a’u teuluoedd
- Canolbwyntio ar ansawdd perthynas y plentyn gyda gweithwyr proffesiynol penodol ac ymdrechion ar y cyd i wrando ac ymateb i safbwyntiau’r plentyn
- Yr angen am gyfateb lleoliad yn ‘dda’ gyda gofalwyr a gefnogwyd yn dda.
Cynhelir archwiliad pellach yn ymwneud ag achosion SERAF a Phlant ar Goll yn 2015/16. Mae gwaith hefyd yn cael ei wneud ar Lefel Ranbarthol er mwyn sicrhau bod pob asiantaeth yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau mewn perthynas â chodi ymwybyddiaeth yn ogystal â chanfod achosion o Gam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant.
Yng Nghonwy, cyflwynwyd gwybodaeth am Gam-fanteisio yn y Panel Diogelu Corfforaethol a Rhianta Corfforaethol hefyd. Rhoddwyd cyflwyniad ar Rhianta Corfforaethol ym mis Mawrth 2015.
Y Prosiect ‘Bydis’
Mae 2 nod i’r prosiect hwn:
- Darparu a dod o hyd i gyngor i weithwyr proffesiynol mewn perthynas ag achosion o blant ifanc sydd wedi mynd, neu’n mynd ar goll o gartref.
- Cynghori, arwain a gwrando ar bobl ifanc sy’n rhedeg i ffwrdd. Galluogi’r bobl ifanc hynny i wneud dewisiadau mwy diogel am sut i ofalu amdanynt eu hunain, a lle y bo’n briodol i’w helpu i ddychwelyd adref yn ddiogel.
Trefnwyd noson ymgynghorol i ddefnyddio rhai sy’n gadael gofal CBSC ar hyn o bryd/rhai sydd wedi gwneud i ddarparu cyngor i weithwyr proffesiynol sy’n cyfarfod yn rheolaidd i drafod ‘plant ar goll’.
Mae’r oedolion ifanc hyn (y ‘Bydis’) yn rhannu eu rhesymau dros redeg i ffwrdd pan oeddent yn y system ofal. Y prif fater a godwyd oedd y byddai wedi bod yn ddefnyddiol iawn pe bai ganddynt rywun i siarad â nhw pan eu bod ar ffo.
Eu syniad oedd cynnig gwasanaeth bydi/mentor i bobl ifanc a oedd ar goll fel y gallai’r plant siarad â rhywun nad oedd yn broffesiynol ac yn deall yr hyn roeddent yn ei deimlo oherwydd eu profiadau eu hunain yn y gorffennol. Maent yn awyddus i gynnig gwasanaeth i’r plant, rhoi cyngor iddynt am sut i gadw’n ddiogel, bod yn rhywun y gallant siarad â nhw na fydd yn eu barnu am eu rhesymau dros redeg i ffwrdd. Teimlai’r Bydis y byddai wedi gwneud gwahaniaeth pe bai ganddynt rywun a fyddai wedi gwrando arnynt.
Beth sydd wedi newid?
Mae’r Bydis bellach wedi datblygu i fod yn ddarpariaeth sydd ar gael i’r Gwasanaethau Plant, Heddlu Gogledd Cymru a Barnardos. Gall pob asiantaeth wneud atgyfeiriad am ymyrraeth Bydis.
Mae gwaith creadigol y Bydis wedi cael ei gydnabod mewn arolygiadau perthnasol – ‘ymddygiad peryglus’, arolwg LAC a’r arolwg maethu diweddar.
Mae’r Bydis wedi derbyn hyfforddiant perthnasol i’w harfogi yn well o fewn y swydd hon a bydd hyn yn parhau. Mae’r Bydis wedi ymrwymo eu hamser i gyfarfodydd misol yn ogystal â gwaith uniongyrchol gyda phobl ifanc / plant.
Pa wahaniaeth mae hyn wedi gwneud?
Mae pobl ifanc/plant sydd wedi derbyn gwasanaeth gan Bydi wedi dweud bod y gwasanaeth o fudd iddynt gan eu bod yn teimlo bod rhywun sydd wedi cael profiadau tebyg iddynt yn fodlon gwrando arnynt.
Bydd gwaith y Bydis yn y dyfodol yn edrych ar waith ataliol gyda phlant a allai fod yn agored i Gam-fanteisio ar Blant a all arwain at iddynt redeg i ffwrdd, a rhoi cyflwyniadau ar eu gwaith yn yr ysgolion.
Comisiynu a Chynllunio Teuluoedd yn Gyntaf
Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn brosiect a ariannir gan Lywodraeth Cymru i gyflawni gwell iechyd a lles, addysg a gwaith ar gyfer teuluoedd sy’n byw mewn tlodi. Gall awdurdodau lleol ddewis sut i wario’r arian yn eu hardal mewn ffordd a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn lleol. Cyn i’r rhaglen ddechrau yn 2012 buom yn siarad â llawer o deuluoedd a ddywedodd wrthym eu bod eisiau cymorth ychwanegol ym meysydd arian a chyllid, iechyd meddwl ac emosiynol, cam-drin domestig a chymorth i ddod o hyd i waith. Yna edrychom ar ba gymorth oedd eisoes ar gael a defnyddio’r cyllid i lenwi unrhyw fylchau a welsom.
Beth sydd wedi newid?
Mae’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf wedi gweithredu am dair blynedd ac rydym yn dechrau gweld tystiolaeth o’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud i fywydau pobl. Gyda’r rhaglen i fod i ddod i ben ymhen dwy flynedd, rydym yn cynllunio rŵan i sicrhau bod y gwaith da hwn yn parhau yn y tymor hir. Rydym yn siarad â theuluoedd am yr hyn sydd wedi gweithio’n dda a’r hyn y gellid ei wella; cefnogi prosiectau i ddod o hyd i ffyrdd o barhau ar ôl diwedd y rhaglen; ac edrych ar ba wasanaethau y bydd eu hangen yn y dyfodol a sut i’w hariannu. Rydym yn gwneud llawer o’r gwaith hwn ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru sy’n ein helpu ni i wneud y gorau o’n hadnoddau a dod o hyd i feysydd lle mae’n well i ni gydweithio i ddarparu gwasanaethau. Rydym hefyd wedi cyfuno ein profiadau o gomisiynu Teuluoedd yn Gyntaf i mewn i ‘becyn cymorth’ rydym wedi rhannu ledled Cymru.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Yn 2014-15 darparodd Teuluoedd yn Gyntaf gyngor am arian a helpodd deuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Conwy i sicrhau dros £1.5 miliwn mewn budd-daliadau a chonsesiynau ychwanegol. Mae’r gwaith ar y cyd gydag awdurdodau lleol eraill i ba wasanaethau sydd eu hangen wedi arwain at gyd-gontractau ar gyfer gwasanaeth Gofalwyr Ifanc ac Eiriolaeth i Blant a Phobl Ifanc. Mae prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf hefyd wedi helpu dros 5,000 o aelodau o’r teulu gan gynnwys cymorth i gael cyflogaeth, cyfleoedd chwarae, rhianta, cwnsela a chanoli teuluol, a phrosiectau i gefnogi plant ag anableddau. Mae teuluoedd sy’n cymryd rhan wedi rhoi adborth gwych am y gwahaniaeth y mae’r gefnogaeth wedi ei wneud ac mae’r data a rydym yn ei gasglu yn dangos gwelliant i deuluoedd sy’n cynnwys mwy o hyder, gwydnwch a gwell perthnasau a bywyd teuluol.
Datblygiadau Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Mae’n ofyniad statudol bod gan bob awdurdod yng Nghymru Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Sefydlwyd gwasanaeth penodol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn 2001, ac mae’n darparu gwybodaeth berthnasol i deuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd gyda chymorth ein cronfa ddata: www.conwyfamilyinformation.co.uk neu http://www.conwyfamilyinformation.co.uk/
Yn 2014 lansiwyd ein cronfa ddata a’n gwefan newydd gan fod yr un blaenorol a ddefnyddiwyd er 2001 braidd yn anodd i’r cyhoedd ac i ni ei defnyddio. Roeddem eisiau rhywbeth symlach i bawb. Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) newydd a lansiwyd a oedd angen mynediad hawdd i bob math o wybodaeth i deuluoedd. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn i ni ddarparu gwybodaeth ychwanegol felly roedd eisiau system hyblyg i’n caniatáu ni i ychwanegu’r wybodaeth hon.
Beth sydd wedi newid?
Lansiwyd ein cronfa ddata newydd ym mis Mehefin 2014. Rydym yn gweithio’n agos gyda darparwr ein cronfa ddata newydd sydd eisoes wedi cael profiad o weithio gyda’r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd a gweithiom yn agos gyda Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Ddinbych a Sir y Fflint sydd â’r un darparwr cronfa ddata. Gwrandawom ar yr hyn roedd teuluoedd yn ei ddweud am ein cronfa ddata a gwneud yn siŵr ein bod yn cynnwys y wybodaeth roeddent yn gofyn amdani. Ni wnaethom ni gynnwys gwybodaeth ormodol na gwybodaeth amherthnasol. Ychwanegwyd adran Ddigwyddiadau fel y gallai teuluoedd wybod beth oedd yn digwydd yn yr ardal. Ychwanegwyd adran i sefydliadau gyflwyno a diweddaru eu gwybodaeth eu hunain. Yn ogystal â gwybodaeth y gronfa ddata mae gennym hefyd lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar destunau a fyddai’n ddefnyddiol ar gyfer teuluoedd neu ddarparwyr gofal plant e.e. mathau o ofal plant a sut i ddod yn ddarparwr Gofal Plant.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Mae pobl yn ei chael yn haws i ddefnyddio’r gronfa ddata newydd. Gall pobl ei defnyddio i chwilio am bob math o bethau fel y dangosir gan Fam a gysylltodd â ni yn ddiweddar. Ynghyd â’i theulu, mae hi’n gobeithio symud o Loegr i Gonwy. Gofynnodd i ni os gallem ei helpu gyda gwybodaeth am Ofal Plant, addysg ‘a gwybodaeth a fyddai’n ddefnyddiol i drigolion newydd’. Drwy esbonio sut i ddefnyddio’r gronfa ddata ac anfon gwybodaeth, gallem roi cymorth gyda Gwarchodwyr Plant, Meithrinfeydd Dydd, Grwpiau Rhieni a Phlant Bach / Cylchoedd Ti a Fi, Grwpiau Chwarae / Cylchoedd Meithrin, Addysg Feithrin rhan amser a Ariannwyd ar gyfer Plant Tair Oed, Gweithgareddau Hamdden , Cyflogaeth, a dosbarthiadau Cymraeg. Yr ymateb a gawsom ganddi oedd ‘Mae’r holl wybodaeth wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Diolch i chi unwaith eto am eich help a’ch caredigrwydd. Byddaf yn anfon e-bost atoch chi yn y misoedd nesaf yn nodi unrhyw ddatblygiadau. ‘ Edrychwn ymlaen at ei chroesawu hi a’i theulu i Gonwy!
Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)
Strategaeth glir ar gyfer y dyfodol yw datblygu ein gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar, fel y gall pobl aros yn annibynnol ac yn llai dibynnol ar ofal a chymorth a reolir. [Read more…]
Mwy na geiriau (diweddariad)
Mae’r strategaeth Mwy Na Geiriau yn dal i fod yn faes blaenoriaeth i’r cyngor ac rydym wedi ymrwymo i gwblhau’r camau gweithredu ym mlynyddoedd un a dau’r cynllun a pharatoi ar gyfer blwyddyn tri.
Beth sydd wedi newid?
Cyhoeddodd Uned Ymchwil a Gwybodaeth Corfforaethol CBSC fwletin ymchwil o’r enw ‘Yr Iaith Gymraeg ym Mwrdeistref Sirol Conwy’. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chyflwyno yn ôl rhanbarth etholiadol, ardal cyngor cymuned, oedran a dosbarthiad daearyddol. Gofynnodd yr awdurdod hefyd i weithwyr ‘beth yw eich dewis iaith? ‘ Datblygwyd holiadur dwyieithog i’w anfon at bob darparwr gwasanaethau yn yr ardal i ganfod proffil iaith eu staff.
Nododd y Rheolwr Systemau TGCh, sy’n rhan o’r gweithgor a sefydlwyd gan y Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol, y grwpiau allweddol canlynol o swyddogion sy’n rhoi cefnogaeth TGCh i Wasanaethau Cymdeithasol:
- Tîm Systemau TG 2
- Tîm Cymorth Technegol TG 2
- E-Lywodraeth (Tîm y We, LLPG, GIS ac EDM)
Mae rheolwyr atebol o’r timau uchod a’r Rheolwr ei hun wedi edrych ar y DVD Mwy na Geiriau.
Mae fersiwn newydd o System Gwybodaeth Rheoli PARIS (V5) yn cael ei phrofi (cyfnod beta) ar hyn o bryd a gall y ‘deilliant i ddefnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr fod yn Gymraeg neu Saesneg’.
Tîm Gofal Cwsmer Dwyieithog (h.y. Gwasanaeth pwynt cyswllt cyntaf) yn gofyn cwestiynau allweddol i’r galwr, gan gynnwys dewis iaith. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei chofnodi ar y system PARIS (Gwasanaeth Gwybodaeth Reoli) a’i defnyddio gan reolwyr wrth ddyrannu ymarferwyr sy’n gallu cyfathrebu yn newis iaith yr unigolyn.
Datblygwyd canllawiau ynghylch yr hyn yw gwasanaeth ‘Cynnig Gweithredol’.
Dosbarthwyd 220 o gortynnau gwddf i’r holl staff sy’n siarad Cymraeg. Fodd bynnag, soniwyd y byddai’n ddefnyddiol pe bai cortynnau gwddf tebyg ar gyfer Dysgwyr ac rydym wrthi’n prynu’r cortynnau gwddf dysgwyr ar gyfer staff.
Rydym wedi dadansoddi demograffeg Conwy i nodi lefelau siaradwyr Cymraeg yn y boblogaeth a’u mesur yn erbyn lefelau’r siaradwyr Cymraeg yn y gweithlu gofal cymdeithasol yn ei gyfanrwydd. Y diben yw nodi a yw nifer y staff sy’n siarad Cymraeg yn y gweithlu yn cyfateb â lefelau ym mhoblogaeth Conwy. Rydym eisoes yn gwybod bod cyfran siaradwyr Cymraeg yn y sector preifat yn is na chyfran y boblogaeth.
Rhoddir ystyriaeth i sgiliau iaith Gymraeg tîm pryd bynnag y caiff swydd ei hysbysebu – yna trafodir yr asesiad hwn gyda Swyddog Iaith Gymraeg yr awdurdod. Rydym wedi trafod gofynion y fforwm blynyddol gyda’n darparwyr gofal yn y cartref a darparwyr cartrefi preswyl/nyrsio.
Mae’r strategaeth Mwy Na Geiriau wedi ei chynnwys fel rhan o raglen sefydlu gorfforaethol i staff newydd.
Rydym yn sicrhau bod hyfforddiant yn cydymffurfio â Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol y Cyngor Gofal:
Amcan Dysgu 1: egwyddorion a gwerthoedd gofal
- Deall pwysigrwydd yr Iaith Gymraeg a diwylliant Cymreig wrth gefnogi unigolion.
Amcan Dysgu 4: gwrando a chyfathrebu’n effeithiol.
- Deall yr angen i ddiwallu anghenion cyfathrebu ac iaith, dymuniadau a dewisiadau a) unigolion, b) teuluoedd, c) gofalwyr a ch) eraill
- Mae ein cyngor ieuenctid wedi datblygu DVD o’r enw ‘don’t be shy – siarad Cymraeg’ sy’n ymwneud â hyrwyddo’r iaith ymysg pobl ifanc.
http://conwyyouthcouncil.org.uk/dont-be-shy-siarad-cymraeg/
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Yn gyffredinol mae mwy o ymwybyddiaeth o’r angen i sicrhau ymateb cadarn i gynnig y dewis neu ‘gynnig gweithredol’ yn Gymraeg i’n defnyddwyr gwasanaeth. Rydym yn gwybod bod gwaith i’w wneud yn y sector gofal a’n nod yw cefnogi darparwyr gofal preswyl a gofal yn y cartref drwy hyfforddiant ac annog y gweithlu i fod yn fwy hyderus yn eu defnydd o’r iaith.