Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu
You are here: Home / 2014-15 / Strategaeth Rhianta Corfforaethol

Strategaeth Rhianta Corfforaethol

Mae gan Gonwy strategaeth Rhianta Corfforaethol tair blynedd er mwyn sicrhau bod yr holl Awdurdodau Lleol yn ymrwymo i’w dyletswydd Rhianta Corfforaethol i Blant sy’n Derbyn Gofal

Mae gan y strategaeth bum thema: Cartref, Addysg, Iechyd, Hamdden a Gadael Gofal

Beth sydd wedi newid?

Mae’r Strategaeth wedi bod yn effeithiol wrth gyflawni addewidion allweddol i Blant sy’n Derbyn Gofal wrth i swyddogion allweddol fod yn atebol am gyflawni’r addewidion. Dyma rai o lwyddiannau allweddol y flwyddyn ddiwethaf:

  • Mae gan bob aelwyd sy’n Maethu a phob plentyn mewn gofal Maeth fynediad i docynnau hamdden am ddim. Cynigir tocyn hamdden i bawb sy’n gadael gofal, mae hyn wedi ei ymestyn yn ddiweddar fel y gallant fynd â ffrind hefyd
  • Mae cynnydd Addysgol Plant sy’n Derbyn Gofal yn cael ei hyrwyddo drwy’r panel ‘ysgol Rhithwir’
  • Mae gan y panel rhianta Corfforaethol drosolwg o’n holl arolygiadau sy’n canolbwyntio ar “Blant sy’n Derbyn Gofal” neu’r ddarpariaeth gofal a ddarperir iddynt
  • Roedd y panel Rhianta Corfforaethol wedi comisiynu’r cyngor ieuenctid a grŵp lleisiau Uchel sef grŵp o bobl ifanc mewn gofal i ddatblygu dau fersiwn o’r cynllun sy’n addasi blant. Fel y gall Plant sy’n Derbyn Gofal fod yn glir am yr hyn rydym yn addo ei gyflawni yn yr addewidion
  • Mae’r panel Rhianta Corfforaethol wedi comisiynu’r swyddogion i ymgymryd â dadansoddiad o anghenion llety i bobl sy’n gadael Gofal ac ystyried bylchau yn y dyfodol
  • Bu gan y panel Rhianta Corfforaethol ddiddordeb ymarferol yn y modd rydym yn hyrwyddo anghenion iechyd corfforol ac emosiynol Plant sy’n Derbyn Gofal
  • Mae gan y panel Rhianta Corfforaethol diddordeb ymarferol yn yr ystod o ddewisiadau gofal rydym yn eu darparu i Blant sy’n Derbyn Gofal

Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?

Mae’r gwaith Rhianta Corfforaethol wedi cael ei gydnabod mewn nifer o’n Arolygiadau AGGCC yn ystod y 12 mis diwethaf fel “Archwiliad Ymddygiad Peryglus a’r Archwiliad Maethu” fel maes arfer da. Mae’r Arolygwyr wedi eu plesio gan elfen cyfranogiad ymrwymiad rhianta corfforaethol Conwy. Dangosir enghraifft o hyn mewn rhai o’r lluniau isod sy’n dangos y gwaith gan grŵp o bobl ifanc mewn gofal i ddatblygu “Fersiwn o’r cynllun Rhianta Corfforaethol sy’n addas i bobl ifanc”.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, LAC Sefydlogrwydd

Chwilio

Adroddiad 2014-15

Cyflwyniad

Cyflwyniad

Dilyniant ers 2013-14

Dilyniant ers 2013-14

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

LAC Sefydlogrwydd

LAC Sefydlogrwydd

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb
Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@conwy.gov.uk

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2026 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English