Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Dad-ddwysáu o’r Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (ACG)

Llywiwyd yr Adolygiad Cyfiawnder Teuluol (2011) gan ymchwil helaeth ar effeithiau cam-drin ac esgeulustod ar blant, yn enwedig rhai o dan 5 oed. Canfu fod achosion yn cymryd 50 wythnos ar gyfartaledd i fynd drwy’r system Llysoedd, gyda rhai achosion yn cymryd cymaint â 61 wythnos .Casgliad yr adolygiad oedd bod hyn yn annerbyniol ac roedd angen ail-ddylunio’r system er mwyn lleihau’r amser roedd plant yn aros am benderfyniadau ynghylch sefydlogrwydd.

Cryfhawyd y gweithdrefnau drwy’r Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (ACG), sy’n ei gwneud yn ofynnol i gwblhau pob achos gofal a goruchwyliaeth o fewn uchafswm o 26 wythnos.

Wrth weithio gyda theuluoedd, ac fel arfer pan fydd plant wedi bod ar y gofrestr Amddiffyn Plant am 9 mis i flwyddyn a bod dirywiad yn sefyllfa’r teulu a chynnydd amlwg yn y risg, gall hyn arwain at sefydlu gweithdrefnau Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus (ACG).Cytunir ar gontract rhwng yr Awdurdod Lleol a’r teulu, lle mae disgwyl i’r rhieni/gofalwyr ymrwymo i leihau’r risg o niwed i’r plentyn. Byddai’r contract Cyfraith Gyhoeddus yn cael ei gytuno fel ‘dewis olaf’ i wella’r sefyllfa cyn sefydlu Gweithdrefnau Gofal.

Byddai cytundebau/contractau Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus yn cael eu hadolygu yn ddamcaniaethol bob 6 wythnos a chynnydd yn cael ei fesur. Os bydd dirywiad yn parhau a risg o niwed i’r plentyn/plant yn cynyddu, byddai’r ALl yn cyflwyno cais am Orchymyn Gofal Dros Dro. Os nad yw’r awdurdod lleol yn cyhoeddi achosion gofal ar ôl 6 mis, bydd yr awdurdod lleol yn adolygu’r contract ACG a gallent benderfynu ‘camu i lawr’ i statws plentyn mewn angen neu ‘gamu i fyny’ i gyhoeddi achosion gofal. Mae’r Awdurdod Lleol yn gyfrifol rŵan am gyflwyno dogfennau perthnasol ar ddechrau achosion gofal ac felly disgwylir iddynt fod wedi cwblhau unrhyw asesiad perthnasol, yn ogystal ag unrhyw asesiadau arbenigol a datganiadau tystiolaeth ar adeg cyflwyno.

Pa wahaniaeth mae hyn wedi ei wneud yng Nghonwy?

2014 – 2015: Aeth 11 achos, gyda chyfanswm o 25 o blant i mewn i’r broses ACG, roedd hyn yn golygu eu bod wedi cyrraedd y trothwy ar gyfer achosion cyfreithiol a wnaed yn unol â chytundeb ACG cyn y cyfarfod Trafodion. O’r 11 achos hynny, cyhoeddwyd 6 fel achosion gofal, a oedd yn golygu nad oedd lefel y risg i’r plant wedi ei ostwng i lefel foddhaol yn ystod y broses ACG. O’r 6 achos hynny, cyhoeddwyd 4 fel achosion gofal yn dilyn digwyddiad penodol a gafodd ei ystyried yn risg rhy uchel i’r ALl beidio â rhannu cyfrifoldeb rhiant, roedd y 2 arall yn sgil pryderon cynyddol oherwydd bod diffyg cynnydd yn cael ei wneud. O’r 6 achos hynny a gyhoeddwyd fel achosion gofal (o ACG), cwblhawyd 3 o fewn y 26 wythnos a osodwyd ac mae 3 ar y gweill ond disgwylir iddynt fod wedi eu cwblhau o fewn 26 wythnos yn ôl yr amserlen.

O’r 5 achos sy’n weddill, roedd 1 achos yn y broses ACG am 9 mis cyn cael ei ddadgofrestru a dod allan o’r broses ACG a bellach yn cael ei weithio arno fel achos Plentyn mewn angen, aeth y fam yn yr achos i’r afael â’r materion gydag alcohol a gweithredodd dad yn briodol fel gofalwr diogel.

Roedd 1 achos yn y broses ACG am 13 mis a bydd yn cael ei ddadgofrestru o’r gofrestr Amddiffyn Plant ymhen 1 mis, ac yna bydd yn cael ei weithio am gyfnod byr fel Plentyn mewn angen, roedd y materion mewn perthynas â’r tad yn bennaf, fodd bynnag, nid yw bellach yn gofalu am y plentyn, nid oes unrhyw bryderon ynglŷn â gofal y fam am y plentyn fel unig ofalwr.

Roedd 1 achos yn y broses ACG am 12 mis, mae’r tad wedi gweithio gyda’r cynllun ac wedi lleihau’r meysydd risg, mae’r achos yn agored rŵan fel achos Plant mewn angen.

Roedd 1 achos yn y broses ACG am 6 mis, mae’r fam wedi mynd i’r afael â’r meysydd risg ac esgeulustod, mae’r achos yn cael ei weithio arno rŵan fel achos Plentyn mewn angen.

Mae 1 achos yn parhau i fod yn y broses AGC ac wedi bod yn y broses am y 5 mis diwethaf, bydd angen i’r adran i adolygu eu safbwynt ymhen y mis a phenderfynu a ddylid parhau i weithio yn yr AGC neu a ddylid cyhoeddi achosion gofal.

Mae’r Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus wedi’i gyfuno â’r Adolygiad Cyfiawnder Teuluol yn seiliedig ar yr egwyddorion o gadw plant yng nghartref y teulu neu gartref teuluol arall lle bynnag y bo modd. Mae’r cymorth a gynigir drwy ymyrraeth gwaith cymdeithasol wedi ei anelu at nodi cryfderau’r rhieni/gofalwyr ac adeiladu ar eu gwydnwch er mwyn gwella eu sgiliau rhianta. Felly, cafodd y 5 achos a amlinellwyd uchod effaith gadarnhaol ar gyfer y plant o fewn y teuluoedd hynny a oedd yn gallu aros o fewn eu huned deuluol.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Panel Trothwy Gofal

Mae’r panel Trothwy Gofal yn cynnwys cynrychiolwyr Gwaith Maes, Maethu a’r Tîm Ymyriadau Teuluol, ac yn cymryd ymagwedd gyfannol at gynllunio a gwneud penderfyniadau ynglŷn â’r plant a’r bobl ifanc sydd yn y mwyaf o berygl o ddod i gofal.

Bydd y panel Trothwy Gofal yn canolbwyntio ar:

  • Achosion sydd ar y gofrestr amddiffyn plant am fwy na chwe mis, lle mae’r gweithiwr cymdeithasol yn teimlo bod yr achos yn mynd tuag at y broses PLO
  • Achosion lle mae’r gweithiwr cymdeithasol wedi nodi’r angen am asesiadau hyfywedd
  • Achosion CIN lle yr ystyrir bod risg y bydd y person ifanc yn dod i ofal

Swyddogaethau’r panel

  • Rhoi cyfle i gyflwyno a thrafod achosion Gwarchod Plant cymhleth sydd ar agor am dros chwe mis lle nad yw cynnydd yn cael ei wneud o dan y protocol cyn-achosion.
  • Trafod achosion lle mae aelodau o’r teulu yn cael eu hystyried fel gofalwyr amgen.
  • Olrhain cynnydd o ran cwblhau’r ddogfen unigolion cysylltiedig llawn
  • Grymuso’r gweithiwr, cryfhau penderfyniadau gweithwyr cymdeithasol.
  • Rhannu perchnogaeth rhwng Gwaith Maes a Maethu wrth benderfynu ar y cyd.
  • Sicrhau atebolrwydd cliriach a nodi canlyniadau i deuluoedd.

Mae gan Aelodau’r Panel ddigon o awdurdod i ymrwymo adnoddau yn ychwanegol at gyfeirio gweithwyr cymdeithasol i wasanaethau priodol. Lle bo angen, bydd aelodau’r panel yn cyflymu darpariaeth gwasanaethau a nodwyd mewn perthynas â’u ddisgyblaethau perthnasol. Mae’r panel yn sicrhau ansawdd ac yn adolygu’r achosion gyda’r Rheolwr Tîm a’r gweithiwr cymdeithasol lle mae penderfyniad yn cael ei wneud i beidio â darparu llety, ond bod angen monitro parhaus.

Meini prawf y Panel Atgyfeirio

  • Achos Plentyn mewn Angen Agored / Plentyn ar y gofrestr gwarchod Plant / Aelodau teulu ehangach y plentyn yn amodol ar asesiad unigolion cysylltiedig
  • Asesiad craidd wedi’i gwblhau mewn perthynas â’r plentyn

Bydd y panel yn:

  • cyfarfod unwaith y mis i ddechrau/ neu fel sy’n ofynnol os yw arweinwyr yr adran yn teimlo bod angen
  • ystyried achosion yn seiliedig ar asesiad anghenion
  • cael awdurdod dan ddirprwyaeth i ddyrannu adnoddau o’u maes gwasanaeth
  • Os nad yw cymorth a aseswyd ar gael, darparu cymorth dros dro

Cynhaliwyd pedwar panel Trothwy Gofal ers iddynt ddechrau ym mis Hydref 2014. Rydym yn y camau cychwynnol o ran mesur eu heffaith.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Cam-fanteisio Rhywiol ar Blant a Phlant ar Goll

Yn ystod 2014-15, cyfarfu Grŵp Tasg Plant ar Goll Conwy a Sir Ddinbych bob chwarter. Roedd Barnardos hefyd yn bresennol. Bydd gwaith y grŵp hwn yn cael ei gryfhau gan Brosiect Ymarferydd CSE 3 blynedd i godi ymwybyddiaeth am Ecsbloetio Plant yn Rhywiol (CSE) a gwella’r canlyniadau i bobl ifanc y nodwyd eu bod mewn perygl.

Cynnydd yn nifer y cyfarfodydd SERAF a ysgogwyd gan archwiliad achos. Rhai o’r canfyddiadau allweddol:

  • Lefelau da o gyfranogiad aml-asiantaeth yn y broses SERAF
  • Mae’r cyfarfod SERAF cychwynnol yn amlygu’r risgiau a’r camau gweithredu posibl i’w cymryd.
  • Lle mae risgiau sylweddol yn cael eu nodi, mae’r broses gynllunio Amddiffyn Plant yn cael ei rhoi ar waithRoedd yr Archwiliad yn canolbwyntio ar daith y plentyn, y graddau yr oedd cofnodion achos yn adlewyrchu dealltwriaeth o’r rhesymau pam fod y plentyn yn rhedeg i ffwrdd, i ba raddau y cadwyd at Brotocol Plant ar Goll Cymru Gyfan wrth asesu a rheoli risg, ac effaith cyfraniadau a wnaed gan asiantaethau ar ganlyniadau ar gyfer y plant.
  • Cynhaliwyd Archwiliad Ffeil Achos Sicrhau Ansawdd hefyd mewn perthynas â Phlant ar Goll.

Cafodd ffactorau ‘Gwthio’ a ‘Thynnu’ eu cynnwys yn yr pecyn archwilio er mwyn archwilio hyn yn fwy manwl; aeth rhai plant i sefyllfa a oedd yn cyflwyno mwy o risg. Roedd ffactorau ‘Gwthio’ a ‘Thynnu’ i’w gweld ym mhob un o’r achosion a archwiliwyd. Roedd dylanwad cyfoedion yn ffactor ‘tynnu’ arwyddocaol. Roedd ffactorau ‘Gwthio’ yn cynnwys rhedeg i ffwrdd oddi wrth ddadleuon a gwrthdaro gyda rhieni, llys rieni neu ofalwyr. Nodwyd ymddygiad troseddol mewn dau achos. Roedd diffyg terfynau rhianta yn broblem ym mhob achos. Nodwyd mai’r thema mewn tri o’r achosion oedd Person ifanc nad oedd mewn addysg neu gyflogaeth na hyfforddiant.

I ymateb i ganfyddiadau’r archwiliad cynhaliwyd Gweithdy Plant ar Goll fis Ebrill 2015. Roedd y gweithdy’n canolbwyntio ar ofynion trefniadol ac amlygu arfer da, gan gynnwys:

  • Canolbwyntio fwy ar weithio aml-asiantaeth, asesu anghenion yn dda gan roi ystyriaeth lawn i faterion hanesyddol.
  • Cynlluniau diogelwch unigol sy’n cynnwys barn plant a’u teuluoedd
  • Canolbwyntio ar ansawdd perthynas y plentyn gyda gweithwyr proffesiynol penodol ac ymdrechion ar y cyd i wrando ac ymateb i safbwyntiau’r plentyn
  • Yr angen am gyfateb lleoliad yn ‘dda’ gyda gofalwyr a gefnogwyd yn dda.

Cynhelir archwiliad pellach yn ymwneud ag achosion SERAF a Phlant ar Goll yn 2015/16. Mae gwaith hefyd yn cael ei wneud ar Lefel Ranbarthol er mwyn sicrhau bod pob asiantaeth yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau mewn perthynas â chodi ymwybyddiaeth yn ogystal â chanfod achosion o Gam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant.

Yng Nghonwy, cyflwynwyd gwybodaeth am Gam-fanteisio yn y Panel Diogelu Corfforaethol a Rhianta Corfforaethol hefyd. Rhoddwyd cyflwyniad ar Rhianta Corfforaethol ym mis Mawrth 2015.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Y Prosiect ‘Bydis’

Mae 2 nod i’r prosiect hwn:

  • Darparu a dod o hyd i gyngor i weithwyr proffesiynol mewn perthynas ag achosion o blant ifanc sydd wedi mynd, neu’n mynd ar goll o gartref.
  • Cynghori, arwain a gwrando ar bobl ifanc sy’n rhedeg i ffwrdd. Galluogi’r bobl ifanc hynny i wneud dewisiadau mwy diogel am sut i ofalu amdanynt eu hunain, a lle y bo’n briodol i’w helpu i ddychwelyd adref yn ddiogel.

Trefnwyd noson ymgynghorol i ddefnyddio rhai sy’n gadael gofal CBSC ar hyn o bryd/rhai sydd wedi gwneud i ddarparu cyngor i weithwyr proffesiynol sy’n cyfarfod yn rheolaidd i drafod ‘plant ar goll’.

Mae’r oedolion ifanc hyn (y ‘Bydis’) yn rhannu eu rhesymau dros redeg i ffwrdd pan oeddent yn y system ofal. Y prif fater a godwyd oedd y byddai wedi bod yn ddefnyddiol iawn pe bai ganddynt rywun i siarad â nhw pan eu bod ar ffo.

Eu syniad oedd cynnig gwasanaeth bydi/mentor i bobl ifanc a oedd ar goll fel y gallai’r plant siarad â rhywun nad oedd yn broffesiynol ac yn deall yr hyn roeddent yn ei deimlo oherwydd eu profiadau eu hunain yn y gorffennol. Maent yn awyddus i gynnig gwasanaeth i’r plant, rhoi cyngor iddynt am sut i gadw’n ddiogel, bod yn rhywun y gallant siarad â nhw na fydd yn eu barnu am eu rhesymau dros redeg i ffwrdd. Teimlai’r Bydis y byddai wedi gwneud gwahaniaeth pe bai ganddynt rywun a fyddai wedi gwrando arnynt.

Beth sydd wedi newid?

Mae’r Bydis bellach wedi datblygu i fod yn ddarpariaeth sydd ar gael i’r Gwasanaethau Plant, Heddlu Gogledd Cymru a Barnardos. Gall pob asiantaeth wneud atgyfeiriad am ymyrraeth Bydis.

Mae gwaith creadigol y Bydis wedi cael ei gydnabod mewn arolygiadau perthnasol – ‘ymddygiad peryglus’, arolwg LAC a’r arolwg maethu diweddar.

Mae’r Bydis wedi derbyn hyfforddiant perthnasol i’w harfogi yn well o fewn y swydd hon a bydd hyn yn parhau. Mae’r Bydis wedi ymrwymo eu hamser i gyfarfodydd misol yn ogystal â gwaith uniongyrchol gyda phobl ifanc / plant.

Pa wahaniaeth mae hyn wedi gwneud?

Mae pobl ifanc/plant sydd wedi derbyn gwasanaeth gan Bydi wedi dweud bod y gwasanaeth o fudd iddynt gan eu bod yn teimlo bod rhywun sydd wedi cael profiadau tebyg iddynt yn fodlon gwrando arnynt.

Bydd gwaith y Bydis yn y dyfodol yn edrych ar waith ataliol gyda phlant a allai fod yn agored i Gam-fanteisio ar Blant a all arwain at iddynt redeg i ffwrdd, a rhoi cyflwyniadau ar eu gwaith yn yr ysgolion.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Comisiynu a Chynllunio Teuluoedd yn Gyntaf

Mae Teuluoedd yn Gyntaf yn brosiect a ariannir gan Lywodraeth Cymru i gyflawni gwell iechyd a lles, addysg a gwaith ar gyfer teuluoedd sy’n byw mewn tlodi. Gall awdurdodau lleol ddewis sut i wario’r arian yn eu hardal mewn ffordd a fydd yn gwneud y gwahaniaeth mwyaf yn lleol. Cyn i’r rhaglen ddechrau yn 2012 buom yn siarad â llawer o deuluoedd a ddywedodd wrthym eu bod eisiau cymorth ychwanegol ym meysydd arian a chyllid, iechyd meddwl ac emosiynol, cam-drin domestig a chymorth i ddod o hyd i waith. Yna edrychom ar ba gymorth oedd eisoes ar gael a defnyddio’r cyllid i lenwi unrhyw fylchau a welsom.

Beth sydd wedi newid?

Mae’r rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf wedi gweithredu am dair blynedd ac rydym yn dechrau gweld tystiolaeth o’r gwahaniaeth y mae’n ei wneud i fywydau pobl. Gyda’r rhaglen i fod i ddod i ben ymhen dwy flynedd, rydym yn cynllunio rŵan i sicrhau bod y gwaith da hwn yn parhau yn y tymor hir. Rydym yn siarad â theuluoedd am yr hyn sydd wedi gweithio’n dda a’r hyn y gellid ei wella; cefnogi prosiectau i ddod o hyd i ffyrdd o barhau ar ôl diwedd y rhaglen; ac edrych ar ba wasanaethau y bydd eu hangen yn y dyfodol a sut i’w hariannu. Rydym yn gwneud llawer o’r gwaith hwn ar y cyd ag awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru sy’n ein helpu ni i wneud y gorau o’n hadnoddau a dod o hyd i feysydd lle mae’n well i ni gydweithio i ddarparu gwasanaethau. Rydym hefyd wedi cyfuno ein profiadau o gomisiynu Teuluoedd yn Gyntaf i mewn i ‘becyn cymorth’ rydym wedi rhannu ledled Cymru.

Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?

Yn 2014-15 darparodd Teuluoedd yn Gyntaf gyngor am arian a helpodd deuluoedd ym Mwrdeistref Sirol Conwy i sicrhau dros £1.5 miliwn mewn budd-daliadau a chonsesiynau ychwanegol. Mae’r gwaith ar y cyd gydag awdurdodau lleol eraill i ba wasanaethau sydd eu hangen wedi arwain at gyd-gontractau ar gyfer gwasanaeth Gofalwyr Ifanc ac Eiriolaeth i Blant a Phobl Ifanc. Mae prosiectau Teuluoedd yn Gyntaf hefyd wedi helpu dros 5,000 o aelodau o’r teulu gan gynnwys cymorth i gael cyflogaeth, cyfleoedd chwarae, rhianta, cwnsela a chanoli teuluol, a phrosiectau i gefnogi plant ag anableddau. Mae teuluoedd sy’n cymryd rhan wedi rhoi adborth gwych am y gwahaniaeth y mae’r gefnogaeth wedi ei wneud ac mae’r data a rydym yn ei gasglu yn dangos gwelliant i deuluoedd sy’n cynnwys mwy o hyder, gwydnwch a gwell perthnasau a bywyd teuluol.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Datblygiadau Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Mae’n ofyniad statudol bod gan bob awdurdod yng Nghymru Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Sefydlwyd gwasanaeth penodol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn 2001, ac mae’n darparu gwybodaeth berthnasol i deuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd gyda chymorth ein cronfa ddata: www.conwyfamilyinformation.co.uk neu http://www.conwyfamilyinformation.co.uk/

Yn 2014 lansiwyd ein cronfa ddata a’n gwefan newydd gan fod yr un blaenorol a ddefnyddiwyd er 2001 braidd yn anodd i’r cyhoedd ac i ni ei defnyddio. Roeddem eisiau rhywbeth symlach i bawb. Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) newydd a lansiwyd a oedd angen mynediad hawdd i bob math o wybodaeth i deuluoedd. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn i ni ddarparu gwybodaeth ychwanegol felly roedd eisiau system hyblyg i’n caniatáu ni i ychwanegu’r wybodaeth hon.

Beth sydd wedi newid?

Lansiwyd ein cronfa ddata newydd ym mis Mehefin 2014. Rydym yn gweithio’n agos gyda darparwr ein cronfa ddata newydd sydd eisoes wedi cael profiad o weithio gyda’r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd a gweithiom yn agos gyda Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Ddinbych a Sir y Fflint sydd â’r un darparwr cronfa ddata. Gwrandawom ar yr hyn roedd teuluoedd yn ei ddweud am ein cronfa ddata a gwneud yn siŵr ein bod yn cynnwys y wybodaeth roeddent yn gofyn amdani. Ni wnaethom ni gynnwys gwybodaeth ormodol na gwybodaeth amherthnasol. Ychwanegwyd adran Ddigwyddiadau fel y gallai teuluoedd wybod beth oedd yn digwydd yn yr ardal. Ychwanegwyd adran i sefydliadau gyflwyno a diweddaru eu gwybodaeth eu hunain. Yn ogystal â gwybodaeth y gronfa ddata mae gennym hefyd lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar destunau a fyddai’n ddefnyddiol ar gyfer teuluoedd neu ddarparwyr gofal plant e.e. mathau o ofal plant a sut i ddod yn ddarparwr Gofal Plant.

Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?

Mae pobl yn ei chael yn haws i ddefnyddio’r gronfa ddata newydd. Gall pobl ei defnyddio i chwilio am bob math o bethau fel y dangosir gan Fam a gysylltodd â ni yn ddiweddar. Ynghyd â’i theulu, mae hi’n gobeithio symud o Loegr i Gonwy. Gofynnodd i ni os gallem ei helpu gyda gwybodaeth am Ofal Plant, addysg ‘a gwybodaeth a fyddai’n ddefnyddiol i drigolion newydd’. Drwy esbonio sut i ddefnyddio’r gronfa ddata ac anfon gwybodaeth, gallem roi cymorth gyda Gwarchodwyr Plant, Meithrinfeydd Dydd, Grwpiau Rhieni a Phlant Bach / Cylchoedd Ti a Fi, Grwpiau Chwarae / Cylchoedd Meithrin, Addysg Feithrin rhan amser a Ariannwyd ar gyfer Plant Tair Oed, Gweithgareddau Hamdden , Cyflogaeth, a dosbarthiadau Cymraeg. Yr ymateb a gawsom ganddi oedd ‘Mae’r holl wybodaeth wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Diolch i chi unwaith eto am eich help a’ch caredigrwydd. Byddaf yn anfon e-bost atoch chi yn y misoedd nesaf yn nodi unrhyw ddatblygiadau. ‘ Edrychwn ymlaen at ei chroesawu hi a’i theulu i Gonwy!

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Strategaeth glir ar gyfer y dyfodol yw datblygu ein gwasanaethau ataliol ac ymyrraeth gynnar, fel y gall pobl aros yn annibynnol ac yn llai dibynnol ar ofal a chymorth a reolir. [Read more…]

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@conwy.gov.uk

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2026 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English