Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Adolygiadau mwy prydlon / cynhwysfawr o’r trefniadau gofal ar gyfer oedolion mewn gofal preswyl

Mae nifer o achosion proffil uchel o gau cartrefi gofal preswyl yng Nghonwy dros y 12 mis diwethaf wedi tynnu sylw at yr angen i ailedrych ar ein proses adolygu mewn perthynas â lleoliadau mewn gofal preswyl a nyrsio. Mae nifer fawr o leoliadau y mae angen eu hadolygu bob amser wedi bod yn anodd rheoli oherwydd materion capasiti.

Yn ogystal, mae AGGCC wedi nodi’r angen am adolygiadau mwy prydlon yn eu hadroddiad blynyddol ar gyfer y sir. Mae hyn wedi arwain at yr angen am gynllun gweithredu penodol.

Beth sydd wedi newid?

Mae gweithgor wedi cynhyrchu Fframwaith Adolygu.

Mae ymarferwyr bellach yn fwy ymwybodol o’r angen i gynnal adolygiadau prydlon a sut mae hyn o fudd ac yn diogelu’r defnyddiwr gwasanaeth a’u gofalwr.

Ceir cyswllt cynhyrchiol gyda Swyddogion Monitro yn y broses adolygu.

Cyflwynwyd Hyfforddiant Gofal Iechyd Parhaus i bob ymarferydd ac mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd adolygiadau amserol i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu gosod/ ariannu yn briodol.

Wrth ysgrifennu’r adroddiad, mae 30 adolygiad yn weddill

yn Abergele , 29 ym Mae Colwyn , 57 yn Llandudno a 27 yn Llanfairfechan

Penodwyd Gweithiwr Cymdeithasol Locwm a bydd yn gyfrifol am gwblhau pob adolygiad “hwyr”.(Dyddiad dechrau 20/4/15).

Bydd adolygiadau wedyn yn cael eu dyrannu bob 3 mis gan alluogi ymarferwyr i gynnal yr adolygiad mewn modd amserol a gynlluniwyd yn dda.

Pa wahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud? Mae’r gwaith hwn ar y gweill.

Bydd yn ymateb mwy cydlynol i adolygu defnyddwyr gwasanaeth mewn Gofal Preswyl / Nyrsio. Bydd nifer yr adolygiadau hwyr yn gostwng yn sylweddol.

O ran y Gweithgor – bydd Adolygiadau’n cael eu hystyried yn flaenoriaeth yn y Sir a bydd yn fframwaith cadarn gan gynnwys Polisi Adolygiad.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Dilyniant ers 2013-14

Cynlluniau Strategol ar gyfer datblygu gwasanaethau cymunedol ar gyfer pobl â dementia.

Yn 2013, amcangyfrifodd y Gymdeithas Alzheimer bod 10,727 o bobl â dementia yn rhanbarth Gogledd Cymru. Maent yn amcangyfrif y bydd 2,307 pobl â dementia (pob oedran) yng Nghonwy. Mae hon yn her glir ar gyfer y dyfodol a rhaid inni fod yn barod i gwrdd â hi.

Yng Nghonwy rydym eisiau i bobl sy’n byw â dementia allu byw bywydau bodlon, ystyrlon. Rydym eisiau iddynt deimlo’n ddiogel a’u bod yn cael cefnogaeth yn eu cymunedau a bod yn sicr y bydd gwasanaethau gofal a chymorth hyblyg lle bynnag y mae taith dementia’n mynd â nhw i fodloni eu dymuniadau a’u teimladau unigryw eu hunain. Rydym hefyd eisiau cefnogi’r rhai sy’n gofalu am bobl â dementia gan eu galluogi i barhau yn y swyddogaeth ofalu am gyhyd ag y dymunant.

Mae ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol yn un lle mae Iechyd, Gofal Cymdeithasol, y 3ydd sector a’r sector darparwyr annibynnol yn gweithio gyda’i gilydd i ddarparu gwasanaethau sydd wedi’u teilwra i ddiwallu anghenion unigolion yr effeithir arnynt gan ddementia.

Rydym eisiau datblygu ymagwedd sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gyda phobl â dementia a’u gyrfaoedd. Mae gweithredu’r Fframwaith Asesu Integredig Genedlaethol y llynedd yn gyfle i sicrhau bod asesiadau ar y cyd o anghenion yn cael eu cynnal ac nad oes dull a rennir i reoli risg.

Beth sydd wedi newid?

Rydym yn ddiweddar wedi sefydlu grŵp newydd – Partneriaeth Dementia Conwy, sy’n anelu at hyrwyddo lles pobl sy’n byw â dementia yng Nghonwy a gyda’u gofalwyr. Yn fwy penodol, bydd y bartneriaeth yn gwerthuso a datblygu gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli ar gyfer pobl â dementia ac yn nodi a chynllunio gwasanaethau newydd arloesol i ddiwallu anghenion presennol ac yn y dyfodol. Mae aelodaeth y bartneriaeth yn cynnwys cynrychiolwyr Iechyd, Gofal Cymdeithasol, a’r 3ydd sector a darparwyr Sector annibynnol.

Gan fod y grŵp yn gymharol newydd, roedd y darn cyntaf o waith yn cynnwys ymarferiad mapio i edrych ar daith person ar hyd y llwybr dementia. Diben yr ymarferiad hwn oedd nodi gwasanaethau sydd eisoes yn bodoli a hefyd i nodi tagfeydd neu fylchau posibl yn y meysydd / cymorth gwasanaeth. Roedd yr ymarferiad mapio hwn yn cynnwys digwyddiad ymgynghori cyhoeddus lle rhoddwyd y cyfle i’r cyhoedd ddweud wrthym beth yw eu barn. Roedd presenoldeb da iawn yn y digwyddiad ac rydym eisoes wedi nodi rhai meysydd y mae angen eu datblygu – yn bennaf o ran darparu gofal seibiant.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy hefyd wedi ysgrifennu Datganiad Drafft o Sefyllfa’r Farchnad mewn perthynas â gwasanaethau dementia. Mae Dau Aelod Cyngor wedi cymryd swyddogaeth Cefnogwyr Gofalwyr. Byddant yn sicrhau bod materion Gofalwyr yn cael eu hystyried drwy holl waith y Cyngor a byddant yn cyfrannu at bolisïau a gweithdrefnau mewn perthynas â Gofalwyr.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Dilyniant ers 2013-14

Dilyniant ers 2013-14

Nodwyd meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwella gan AGGCC yn dilyn ein hadroddiad yn 2013/14. [Read more…]

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Dilyniant ers 2013-14

Cyflwyniad

Croeso i adroddiad blynyddol y Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer 2014-2015. Flwyddyn yn ddiweddarach, ac mae’r heriau’n parhau er bod cynnydd da wedi’i wneud o ran ein taith i gefnogi gweithrediad y Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Lles fis Ebrill nesaf. [Read more…]

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Cyflwyniad

  • « Previous Page
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@conwy.gov.uk

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2026 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English