Mae’n hanfodol fel Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, ein bod yn derbyn cefnogaeth gan aelodau ac uwch reolwyr y Cyngor. Rydym yn ffodus yng Nghonwy bod yna lefel ardderchog o ddealltwriaeth a chefnogaeth i’n gwasanaethau. Mae’r Strategaeth Rhianta Corfforaethol yn enghraifft wych i ddangos yr ymrwymiad hwn o gydweithio effeithiol rhwng gwasanaethau’r cyngor.
Strategaeth Rhianta Corfforaethol
Cefndir
- Lluniwyd strategaeth strategol Rhianta Corfforaethol tair blynedd o hyd
- Datblygwyd pum thema allweddol: Cartref, Addysg, Iechyd, Hamdden a Gadael Gofal
Mae Uwch grŵp y ‘Rhieni Corfforaethol’ yn derbyn adroddiad am bob thema bob chwarter
Beth sydd wedi newid?
- Mae pennaeth y gwasanaeth yn arwain ar ddatblygu’r addewidion yr ymrwymwyd iddynt o fewn y cynllun strategol
- Ffocws cryfach ar Blant sy’n Derbyn Gofal a chyfrifoldeb atgyfnerthol ar y Rhiant Corfforaethol
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Mae enghreifftiau o ddatblygiadau drwy Rianta Corfforaethol yn cynnwys:
- Darparu tocynnau hamdden i blant mewn gofal
- Cynnal digwyddiad i ddathlu Plant sy’n Derbyn Gofal ar 30 Mai 2014
- Mae ymgysylltu â phartneriaid megis iechyd, addysg, hamdden a thai yn gadarnhaol wrth gyflwyno canlyniadau ar gyfer Plant sy’n Derbyn Gofal ac sy’n Gadael Gofal