Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Rhianta Corfforaethol

Mae’r panel Rhianta Corfforaethol wedi cael blwyddyn lwyddiannus iawn, ac mae gwaith yn seiliedig ar y themâu canlynol:

  • Cartref
  • Addysg
  • Iechyd
  • Hamdden, Gwasanaethau Ieuenctid, Chwarae
  • Gadael Gofal

Cyfrannodd pobl ifanc at greu Cynllun Rhianta Corfforaethol sy’n gyfeillgar i blant. Cynhyrchwyd dau fersiwn, un am 0-10 blynedd ac un arall ar gyfer 10+ o flynyddoedd. Rhannwyd y cynlluniau hyn gyda phobl ifanc.

Mae Aelodau Etholedig Conwy yn ymroddedig iawn i sicrhau fod Rhianta Corfforaethol yn llwyddo i ddatblygu Strategaeth Rhianta Corfforaethol newydd am y tair blynedd nesaf. Bydd y ddogfen strategaeth ddiwygiedig yn cael ei lansio ym mis Mai 2016.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Plant sy'n Derbyn Gofal

Pan Fydda i’n Barod: paratoi pobl ifanc ar gyfer annibyniaeth

Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles yn cynnwys dyletswydd newydd i gynnig y cyfle i unrhyw Blentyn sy’n Derbyn Gofal Maeth aros yn eu hamgylchedd teuluol sefydlog, lle maent yn cael eu meithrin nes eu bod yn barod i symud ymlaen. Yn hytrach na bod y person ifanc yn symud allan yn 18 oed, gallant bellach aros mewn Gofal Maeth nes eu bod yn 21, neu hyd at 25 oed os ydynt mewn addysg amser llawn. Mae’r cynllun Pan Fydda i’n Barod hefyd yn ymestyn dyletswydd newydd i’r bobl ifanc hynny sy’n byw gyda Gofalwyr Maeth o Fewn y Teulu ac Unigolion Cysylltiedig, sy’n gadarnhaol iawn.

wir-cymRydym wedi cyfrannu’n ymarferol at greu polisi rhanbarthol ar draws y chwe awdurdod lleol yng Ngogledd Cymru.

  • Crëwyd taflenni gwybodaeth ar gyfer pobl ifanc, Gofalwyr Maeth a brodyr a chwiorydd.
  • Darparwyd hyfforddiant i staff allweddol sy’n ymwneud â “Pan Fydda i’n Barod”. Darparwyd sesiynau hyfforddi’r hyfforddwr hefyd er mwyn cyrraedd y gweithlu ehangach.
  • Er mwyn ein helpu i ddiwallu anghenion o ran “Pan fydda i’n Barod”, datblygwyd protocolau newydd ar y cyd â Budd-dal Tai a hawliau Lles i sicrhau bod Gofalwyr Maeth a phobl ifanc yn ymwybodol o’u hawliau ac nad ydynt o dan anfantais yn ariannol.
  • Cafwyd ymagwedd ranbarthol tuag at ymgysylltu gyda darparwyr annibynnol, yn enwedig o ran yr angen iddynt drosglwyddo i’r Awdurdod Lleol os ydynt yn dod yn Ofalwyr Maeth “Pan Fydda i’n Barod”.
  • Anfonwyd gwybodaeth am “Pan Fydda i’n Barod” at bob person ifanc (16+) trwy’r newyddlen a ddatblygwyd gan y tîm Ymgynghorwyr personol, sy’n targedu pob person ifanc (16+) sydd â hawl i gael gwasanaeth gadael gofal.

Wrth edrych ymlaen o ran y galw tebygol, dros y 12 mis nesaf, mae gennym hyd at chwech o bobl ifanc sy’n debygol o fod angen parhau yn eu lleoliad o dan drefniant “Pan Fydda i’n Barod”, a deg yn rhagor o bobl ifanc y flwyddyn ganlynol.

 

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Plant sy'n Derbyn Gofal

Recriwtio Gofalwyr Maeth

fostering1

Mae angen ystod o leoliadau i ddiwallu anghenion Plant sy’n Derbyn Gofal. Er mwyn adeiladu ar ein hamrywiaeth o leoliadau maethu mewnol, mae angen strategaeth ddiwygiedig arnom i sicrhau bod ein hoffer marchnata a’n proses recriwtio’n addas at y diben. Gan weithio mewn partneriaeth gyda chwmni annibynnol, rydym wedi adolygu ein prosesau presennol ac adnewyddu ein harfau marchnata presennol.

Fel Awdurdod Lleol, rydym yn cystadlu gyda’r sector annibynnol i recriwtio Gofalwyr Maeth, ac yn teimlo bod angen hunaniaeth brand cryf. Ar ôl ymgynghori â Gofalwyr Maeth a staff presennol, mae gennym bellach ddeunyddiau marchnata cryfach, wedi eu halinio â Chonwy.  Mae darpar Ofalwyr Maeth bellach yn cael neges glir ein bod “Angen Gofalwyr Maeth i Faethu Plant Conwy”.

fostering2

Mae pecynnau gwybodaeth Gofalwyr Maeth wedi cael eu hadnewyddu hefyd, ac mae Gofalwyr Maeth presennol wedi cyfrannu at greu pedwar fideo, sy’n canolbwyntio ar y meysydd canlynol:

  • Maethu brodyr a chwiorydd
  • Maethu Plant ag Anableddau
    (Seibiant byr)
  • Proses Asesu a Chefnogi
  • Maethu Plant yn eu Harddegau

Mae’r fideos yma wedi cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol (Facebook, Twitter ac YouTube), i foderneiddio’r ffordd yr ydym yn recriwtio Gofalwyr Maeth.

Diweddarwyd gwefan Conwy i sicrhau ei bod yn fwy deniadol a gellir bellach llenwi ffurflenni cais ar-lein.

Er bod recriwtio Gofalwyr Maeth newydd yn flaenoriaeth i ni, mae’n bwysig i ni gadw’r rhai sydd gennym yn barod. Felly, datblygwyd dulliau newydd i’n cynorthwyo i gadw staff, fel newyddlen bob chwarter a diwrnod Dathlu Derbyn Gofal i ddathlu llwyddiannau Plant sy’n Derbyn Gofal.  Mae cynllun cymhellion ar gyfer Gofalwyr Maeth hefyd ar waith, lle y gellir ennill gwobrau am gyfeirio darpar Ofalwyr Maeth newydd i wneud cais. Mae Gofalwyr Maeth presennol hefyd yn cefnogi nosweithiau gwybodaeth, a digwyddiadau recriwtio cymunedol.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Plant sy'n Derbyn Gofal

Allwedd i fy Nyfodol

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy bartneriaeth gyda Conwy Connect for Learning Disabilities – dewiswyd prosiect Cynllunio ar gyfer y Dyfodol i fynd drwodd i’r rownd derfynol yng Ngwobrau Gofal Cymdeithasol 2015.

Mae’r Gwobrau, sy’n cael eu harwain gan Gyngor Gofal Cymru, yn dathlu arfer gorau – gan helpu gwneud y gweithlu’n fwy proffesiynol a thrawsnewid gofal cymdeithasol, blynyddoedd cynnar a gofal plant ar draws Cymru.

Ar y rhestr fer yn y categori gwasanaethau dan arweiniad ar y Dinesydd, roedd prosiect Cynllunio ar gyfer y Dyfodol Conwy yn canolbwyntio ar addysgu defnyddwyr gwasanaethau anabl sy’n byw yng nghartref y teulu gyda gofalwyr hŷn.

Mae pobl ag anabledd dysgu yn gynyddol yn byw ar ôl eu rhieni / gofalwyr, felly gall cynllunio ar gyfer y dyfodol, er bod hynny’n galed, gynnig tawelwch meddwl.  Pan ddechreuodd prosiect Conwy yn 2011, roedd tua 30 o ofalwyr unigol dros 65 oed yn gofalu am fab, merch neu rywun roeddent yn ei garu yng nghartref y teulu.

Nod y prosiect oedd dechrau cynllunio’n agored ar gyfer y dyfodol. Roedd gan rai teuluoedd syniadau clir iawn, ond nid oeddynt wedi rhannu syniadau gyda staff gofal cymdeithasol, ac roedd teuluoedd ar ben arall y sbectrwm nad oedd eisiau meddwl am y peth, gan ei fod yn fater mor anodd ei ystyried.  Roedd hefyd rhywfaint o ansicrwydd ynghylch lefel y ddealltwriaeth ymysg defnyddwyr gwasanaethau gydag anableddau dysgu a oedd yn byw gyda gofalwyr hŷn am yr hyn a fyddai’n digwydd pe na allent barhau i fyw yng nghartref y teulu.

Roedd gan y prosiect ddau grŵp gwahanol dan sylw, y rhieni / gofalwyr hŷn a’r oedolion gydag anabledd dysgu a oedd yn byw gyda nhw.  Y prif nod ar gyfer y ddau grŵp oedd rhannu gwybodaeth a darparu fforwm lle gallent rannu pryderon, gofyn cwestiynau a datblygu eu dealltwriaeth eu hunain o’r sefyllfa a gwneud eu cynlluniau eu hunain. Gobeithiwyd y byddai hyn wedyn yn rhoi mwy o dawelwch meddwl i’r rhieni / gofalwyr a’r person ag anabledd dysgu.

Sefydlwyd grŵp budd-ddeiliaid, yn cynnwys staff Conwy, aelodau Conwy Connect, rhieni/ gofalwyr a phobl ag anableddau dysgu. Cynhaliwyd digwyddiad cyntaf yn 2011 ar gyfer rhieni / gofalwyr. Ers hynny, mae Conwy wedi cynnal 4 digwyddiad blynyddol ‘Cynllunio Gyda’n Gilydd’ ar gyfer rhieni / gofalwyr a 4 digwyddiad ‘Allwedd i fy Nyfodol’ ar gyfer pobl ag anableddau dysgu. Mae defnyddwyr gwasanaeth sydd wedi symud ymlaen oddi wrth y teulu yn cyflwyno eu straeon eu hunain mewn ffilmiau byr, cyfweliadau ‘sioe sgwrsio’ a chyflwyniadau PowerPoint drwy luniau. Mae rhieni a gofalwyr yn gwneud yr un peth. Mae hyn yn aml iawn yn deimladwy a bob amser yn cael derbyniad da. Mae pobl sydd wedi bod yn awyddus iawn am y broses, yn teimlo eu bod yn cael eu calonogi gan deuluoedd eraill yn esbonio sut y bu pethau iddyn nhw.

Keys to my future

Mae’r grŵp budd-ddeiliaid hefyd wedi cynhyrchu canllaw ‘Cynllunio ar gyfer y Dyfodol’. Caiff teuluoedd a’r person sy’n derbyn gofal eu hannog i lenwi’r adrannau y maent yn credu sy’n bwysig iddyn nhw. Gellir wedyn cadw hyn mewn lle diogel ar gyfer y dyfodol.

Credwyd o’r dechrau y byddai’r darn hwn o waith yn ‘llosgi’n araf’. Mae pobl ond yn barod i gynllunio pan fod yr amser yn iawn iddyn nhw. Efallai y byddant yn clywed gwybodaeth un flwyddyn am rywbeth ac nad yw’n berthnasol o gwbl iddynt hwy ond y bydd yn berthnasol erbyn y flwyddyn nesaf. Mae’r gynulleidfa hefyd yn newid, mae rhai pobl wedi dod bob blwyddyn ac eraill yn picio i mewn ac allan pan ei bod yn gyfleus iddyn nhw. Mewn gwirionedd, o 2104 ymlaen y dechreuodd nifer sylweddol yn fwy o gysylltiadau gan deuluoedd sydd am gwrdd â’r gwasanaethau cymdeithasol i siarad am gynlluniau i’r dyfodol a dyma’r pwynt roeddem wir am ei gyrraedd yn y lle cyntaf. Cydnabyddir ei bod yn cymryd amser i feithrin y berthynas sydd angen i ymgymryd â’r gwaith hwn.

Mae’r prosiect yn parhau i ddatblygu, mae bellach ar agor i bob oedran ac eleni llwyddodd Conwy Connect i dderbyn grant 3 blynedd gan Sefydliad Banc Lloyds i gyflogi Cydlynydd Cynllunio ar gyfer Gwasanaeth y Dyfodol a fydd yn Cefnogi unigolion ag anableddau dysgu a’u rhieni / gofalwyr i gynllunio ar gyfer a’u helpu wrth iddynt symud ymlaen i fyw’n annibynnol.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Anabledd

Llys Gogarth, gwasanaethau preswyl cyfun i blant gydag anableddau

gogarth1

Fel rhan o fenter Ysgolion yr 21ain Ganrif, llwyddodd Conwy yn ei gais am arian grant i adeiladu ysgol newydd ar gyfer plant ag anghenion addysgu ychwanegol ar safle Ysgol y Gogarth. Rhoddodd hyn gyfle i’r Adran Addysg a Gwasanaethau Cymdeithasol ddarparu bloc preswyl newydd i blant a phobl ifanc ag anableddau yng Nghonwy. Mae’r prosiect wedi dwyn ynghyd dau wasanaeth – Llys Gogarth (darpariaeth addysg breswyl ar y safle i ddisgyblion sy’n mynd i Ysgol y Gogarth) a Tir Na Nog (Cartref Plant cofrestredig, sy’n darparu gwasanaeth seibiant i gynorthwyo teuluoedd).

Agorodd y gwasanaeth preswyl cyfun newydd ym mis Hydref ar gyfer plant rhwng 7 ac 19 oed. Mae gan y plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth sbectrwm eang o anableddau corfforol ac anghenion dysgu ychwanegol yn amrywio o Anawsterau Dysgu Dwys a Lluosog (ADDLl) i Anawsterau Dysgu Cymedrol ( MLD) ac Anhwylder Sbectrwm Awtistig (ASD).

Mae yna nifer o fanteision i gyfuno’r ddau wasanaeth, ac un ohonynt yw gwneud y gorau o botensial yr adeilad newydd pwrpasol, gyda chyfleusterau arbenigol ar y safle gan gynnwys pwll hydrotherapi, ystafelloedd synhwyraidd rhyngweithiol, canolbwyntiau galwedigaethol, neuadd chwaraeon, lleoedd chwarae awyr agored a gynlluniwyd yn arbennig a Chanolfan Adnoddau Dysgu. Mae’r lleoliad yn Llandudno hefyd yn ganolog gyda mynediad hawdd i ystod o gyfleusterau cymunedol e.e. sinema, pwll nofio, siopau ac ati. Nid oes bellach angen cludo plant a fyddai’n arfer defnyddio Tir Na Nog o’r ysgol i uned allanol gryn bellter i ffwrdd ym Mae Cinmel. Mae’r gwasanaeth cyfun hefyd yn gweithredu 52 wythnos y flwyddyn (roedd uned breswyl Llys Gogarth ond yn arfer bod ar waith yn ystod y tymor ysgol yn unig).

gogarth2

Mae’r gwasanaeth cyfun hefyd yn caniatáu cydweithio amlasiantaethol agosach. Mae staff yn parhau i ddatblygu cysylltiadau agos gyda theuluoedd, Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol Anabledd Conwy, Timau Diogelu, Lleferydd ac Iaith, Dadansoddwyr Ymddygiad Cymhwysol, Therapi Galwedigaethol a’r Gwasanaeth Anableddau Dysgu Plant a Phobl Ifanc (CALDS).

Mae’r gwasanaeth yn darparu amgylchedd gofalgar, strwythuredig a chartrefol, a gynlluniwyd i gwrdd ag anghenion pob unigolyn. Y nod cyffredinol yw creu’r amodau i bob plentyn a pherson ifanc lwyddo hyd eithaf eu potensial, i adeiladu gwytnwch personol a theuluol, i baratoi ar gyfer byw mor annibynnol â phosibl ac i gael bywyd llawn fel oedolion.

gogarth

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Anabledd

Hyfforddiant Ymchwilio i Weithwyr Cymdeithasol

Roedd Rheolwr Adran y Tîm Asesu a Chymorth wedi nodi bod angen adolygu a diwygio’r Hyfforddiant Ymchwilio i Weithwyr Cymdeithasol (SWIT). Roedd yr hyfforddiant wedi bod ar y ffurf bresennol ers nifer o flynyddoedd a chytunwyd bod angen ei diweddaru i gyflwyno hyfforddiant mwy perthnasol ar faterion arfer cyfredol.

Darparwyd yr hyfforddiant dros 5 diwrnod i 18 o staff. Roedd gweithwyr cymdeithasol o Gonwy a Sir Ddinbych gan gynnwys y Gwasanaeth Anabledd yn bresennol. Am y tro cyntaf ers diddymu’r Hyfforddiant Ymchwilio ar y Cyd (JIT) estynnwyd y gwahoddiad am yr hyfforddiant i gydweithwyr o Heddlu Gogledd Cymru ac roedd swyddogion o dîm Onyx hefyd yn bresennol. Mae’r tîm Onyx yn dîm newydd a ffurfiwyd sy’n gweithio gyda Phlant sydd mewn perygl o Gam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant.

Aliniwyd yr hyfforddiant â’r broses Gweithwyr Cymdeithasol yn unol â Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan 2008 a’r categorïau o Gam-drin Corfforol, Rhywiol, Esgeulustod ac Emosiynol. Darparwyd yr hyfforddiant gan nifer o weithwyr proffesiynol yn eu maes eu hunain, gan gynnwys Gweithiwr Cymdeithasol Annibynnol (Pennaeth blaenorol y Gwasanaethau Plant) yn canolbwyntio ar Esgeulustod a Cham-drin Emosiynol; Paediatregydd Cymunedol yn trafod cam-drin corfforol wedi’i ddarlunio gan luniau o wahanol senarios a chymharu damweiniau annamweiniol gyda rhai damweiniol; Swyddogion yr Heddlu sy’n arbenigo mewn cam-drin ar-lein; a defnyddiwr gwasanaeth sydd wedi profi blynyddoedd o gam-drin domestig yn cyflwyno eu stori mewn modd grymus a didwyll.

Am y tro cyntaf darparom senario byr a actiwyd gan y Grŵp Drama o Goleg Llandrillo, a gafodd effaith sylweddol ar y gynulleidfa.  Yn dilyn y cyflwyniadau cafodd y staff a oedd yn bresennol y cyfle i ddangos eu dehongliad o’r dysg.  Gwnaed hyn gyda chymorth y myfyrwyr drama a ddychwelodd yn ddiweddarach yn ystod y cwrs i actio senarios amddiffyn plant realistig.

Roedd yr adborth a ddarparwyd yn ardderchog ac mae’r buddsoddiad i ail-ganolbwyntio’r SWIT wedi darparu arf dysgu effeithiol.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth

Atgyfeiriadau Ansawdd i’r Gwasanaethau Plant

Mae’r Gwasanaethau Plant yn derbyn nifer uchel o atgyfeiriadau nad ydynt yn cyrraedd y trothwy ar gyfer gwasanaeth gan Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth. Yn ogystal, bu oedi wrth ddarparu gwasanaethau ar gyfer y rhai hynny sy’n cwrdd y trothwy o ganlyniad i wybodaeth annigonol yn yr atgyfeiriad gwreiddiol.  Teimlai rheolwyr y Tîm Asesu a Chymorth felly fod angen buddsoddiad mewn cyflwyno hyfforddiant yn uniongyrchol i staff Addysg ac Iechyd er mwyn gwella pa mor briodol yw’r wybodaeth a dderbynnir a’i ansawdd.

Trefnwyd tri digwyddiad hyfforddi fesul gwasanaeth, gan dargedu 180 o staff. Roedd yr hyfforddiant yn darparu gwybodaeth ac enghreifftiau o ran pryd i wneud atgyfeiriad a sut i wneud atgyfeiriad o ansawdd da i’r Gwasanaethau Plant. Roedd yr hyfforddiant yn rhoi eglurhad dros y gwahaniaeth rhwng atgyfeiriad Plentyn Mewn Angen ac atgyfeiriad Amddiffyn Plant ac yn darparu enghreifftiau o atgyfeiriadau da a golwg ar ansawdd gwael rhai o’r atgyfeiriadau a dderbyniwyd. Roedd yr hyfforddiant yn egluro’r trothwy i dderbyn gwasanaeth gan y Gwasanaethau Plant a hefyd yn rhoi cyfle i ddatblygu perthnasau gwaith cadarnhaol gyda chydweithiwr o asiantaethau eraill.

Cafwyd adborth cadarnhaol iawn o’r digwyddiadau hyfforddi hyn, ac o ganlyniad, rydym yn derbyn atgyfeiriadau o ansawdd gwell sy’n darparu’r wybodaeth sy’n caniatáu i’n rheolwyr wneud penderfyniadau gwybodus heb oedi diangen.  Dylai data o 2016/2017 ddarparu tystiolaeth o effeithiolrwydd yr hyfforddiant a gyflwynir ac a yw wedi cael y canlyniad a ddymunir.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth

Cam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant

O fewn y cyfryngau mae Cam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant (CSE) wedi cael llawer o sylw yn ystod y 12 mis diwethaf.  Gan fod y gwasanaeth ‘drws ffrynt’ o fewn Plant, Teuluoedd a Diogelu, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod yn darparu gwasanaeth gyda staff medrus iawn sydd â gwybodaeth gyfoes ar y tueddiadau presennol a datblygu arfer. Yng Nghonwy ac yn enwedig y Timau Asesu a Chymorth ac Ymyrraeth Teuluoedd cydnabuwyd y dylai ein staff gael gwell hyfforddiant ar gam-fanteisio’n rhywiol ar blant er mwyn ymateb yn effeithiol i’r pryder cynyddol.

Gall staff yn gyffredinol gael mynediad i hyfforddiant ymwybyddiaeth sylfaenol ond yng Nghonwy rydym yn cydnabod yr angen i ddarparu gwasanaeth effeithiol i deuluoedd yn enwedig gyda’r risg gynyddol a gyflwynwyd i blant drwy gyfryngau cymdeithasol.  Y nod yw parhau i wella sgiliau’r gweithlu i ddarparu ymyrraeth uniongyrchol i’r plant sydd mewn perygl o gam-fanteisio rhywiol. Gwnaethom waith ymchwil i nodi a chomisiynu sefydliad i gyflwyno pecyn hyfforddiant pwrpasol 2 ddiwrnod o hyd.  Gwnaethom dargedu sgiliau, offer a gwybodaeth ymarferol yn benodol i ymgysylltu, a gweithio gyda phlant a’u teuluoedd sydd mewn perygl o gam-fanteisio rhywiol.

Roedd yr hyfforddiant yn canolbwyntio ar gyflwyno awgrymiadau ar ymyriadau i gynorthwyo’r gwaith uniongyrchol a wneir gan weithwyr cymdeithasol a gweithwyr ymyrraeth yn eu cyswllt â’r plant a’r bobl ifanc mwyaf diamddiffyn.   Roedd yr adborth yn gadarnhaol dros ben ac rydym yn bwriadu comisiynu’r hyfforddiant eto er mwyn rhoi cyfle i weithwyr proffesiynol ychwanegol nad ydynt yn gallu dod i’r digwyddiad cyntaf. Mae’r offer a ddarperir wedi cynyddu sail sgiliau ein gweithlu i alluogi cymorth effeithiol i deuluoedd a lleihau risg.  Mae’r adnoddau hefyd yn cael eu rhannu gyda gweithwyr proffesiynol eraill.  Er ei bod yn rhy fuan i adrodd ar fesurau neu ganlyniadau diriaethol, mae’r hyfforddiant hwn yn elfen bwysig o ddatblygu fframwaith amlasiantaethol i gwrdd â’r her hon.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth

Gweithio integredig yn Ysbyty Gwynedd

Ers mis Awst 2015 mae’r gwasanaeth gwaith cymdeithasol yn Ysbyty Gwynedd wedi cael ei leoli mewn swyddfa bwrpasol sy’n canolbwyntio ar integreiddio rhwng y Gwasanaethau Cymdeithasol, PBC a’r Trydydd Sector.

Mae holl adrannau Gwasanaethau Cymdeithasol y Gogledd Orllewin, Conwy, Gwynedd ac Ynys Môn wedi eu lleoli yma yn ychwanegol at Nyrsys Cyswllt Rhyddhau, Rheolwyr Gwlâu, cynrychiolwyr y Trydydd Sector a’r tîm gweinyddol.

Yr amcan cyffredinol oedd gwella cyfathrebu ymhlith yr asiantaethau i hwyluso rhyddhau diogel ac amserol o Ysbyty Gwynedd.

Cynhelir cyfarfodydd y Bwrdd yn ddyddiol i nodi cleifion sy’n barod ar gyfer cynllunio i’w rhyddhau ac i amlygu unrhyw faterion posibl a allai achosi oedi cyn rhyddhau.

Mae cyfarfodydd Oedi wrth Drosglwyddo Gofal wedi cael eu sefydlu sy’n cael eu cynnal bob prynhawn Gwener i nodi cleifion sy’n barod i’w rhyddhau ond gall materion nad ydynt yn feddygol achosi oedi. Mae’r fforwm hwn yn ystyried ffyrdd eraill o ddiwallu anghenion y cleifion os nad yw’r hyn a nodwyd ar gael.

Mae tystiolaeth glir bod cyd-leoli yn gwella gwaith amlddisgyblaethol i hwyluso rhyddhau diogel ac amserol.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Gwaith Cymdeithasol Pobl Hŷn ac Ysbytai

Datblygu’r canolbwynt Iechyd a Lles newydd yn Llanrwst

Mae Gofal Cymdeithasol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi bod yn brysur yn datblygu Canolfannau Iechyd a Lles sy’n cynnig gweithgareddau Iechyd a Lles ar draws pum ardal Conwy er mwyn cyrraedd holl gymunedau Conwy gyda’r nod o helpu pobl i aros yn iach ac mor annibynnol ag y bo modd o fewn eu cymunedau eu hunain am gyhyd ag y bo modd, yn ogystal â galluogi gwaith ardal integredig ar y cyd rhwng Gofal Cymdeithasol ac Iechyd.

Mae’r Canolfannau wedi eu lleoli o amgylch yr adeiladau canlynol:

Llandudno – Canolfannau Cymunedol Tŷ Llywelyn, Tŷ Hapus a Craig y Don, Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Tan y Fron, Canolfan y Drindod

Dyffryn Conwy – Hen Dŷ’r Ysgolfeistr, Ffordd Tan yr Ysgol, Llanrwst, Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Hafan Gwydir, Llyfrgell Llanrwst, The Kitten Crafty, Golygfa Gwydyr, Glasdir

Llanfairfechan – Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Llys y Coed a Llyfrgell Llanfairfechan

Bae Colwyn – Canolfan Hamdden Colwyn, Clwb Golff Llandrillo-yn-Rhos, Canolfan ar gyfer Ymgysylltu Diwylliannol, Lost Sheep, Yr Orsaf, Tape, Cymunedau yn Gyntaf Bae Colwyn, Chwaraeon Dŵr Bae Colwyn

Abergele a Phensarn –
Cynllun Tai Gofal Ychwanegol Hafod y Parc, ITACA, Canolfan Dewi Sant, The Bee Hotel

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Gwaith Cymdeithasol Pobl Hŷn ac Ysbytai

Moderneiddio’r ffordd rydym ni’n gweithio

Mae Gofal Cymdeithasol yn cynnwys rhyngweithio gyda’r unigolion rydym yn eu cefnogi – yn aml mae hyn yn golygu ymweld â phobl yn eu cartrefi eu hunain, yn unrhyw ran o’r sir.  Mae gennym hefyd nifer o swyddfeydd mewn gwahanol leoliadau yn y sir, felly mae’n gwneud synnwyr i weithio o’r swyddfa gyfleus agosaf yn hytrach nag un ddesg arbennig mewn swyddfa benodol.

Ers peth amser, mae Gofal Cymdeithasol wedi treialu “Doethwaith” – gan ddefnyddio gliniaduron yn hytrach na PCs sefydlog, a defnyddio RAG (porth mynediad o bell) i alluogi staff i weithio o unrhyw le gyda mynediad i’r rhyngrwyd a dal i gysylltu â’n systemau rhwydweithiol.  Mae hyn yn golygu llai o amser teithio, y gallu i weithio o gartref lle mae hyn yn gwneud synnwyr, y gallu i wneud mwy rhwng cyfarfodydd.

Mae Doethwaith bellach wedi datblygu i fod yn rhan o Raglen Foderneiddio ehangach ar gyfer Conwy. Gyda’n cydweithwyr yn TG ac adrannau eraill, rydym yn cyflwyno’r cysyniad i’r holl staff.

Trwy fod yn fwy symudol, rydym yn cynyddu ein gofod swyddfa a rhyddhau ystafelloedd cyfarfod. Mae cefnogi gweithio hyblyg i staff yn helpu i wneud y defnydd gorau o’n hamser  Mae’r broses gyflwyno hefyd yn cynnwys twtio, rhoi sgriniau newydd mwy i’r holl staff, gan ddisodli gliniaduron a Chyfrifiaduron dros 5 mlwydd oed, a gwella gwelededd a hygyrchedd uwch reolwyr.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Cymorth a Thrawsnewid Busnes

Uwchraddio’n llwyddiannus i’n System Gwybodaeth Cleientiaid (PARIS)

Defnyddir y system PARIS i storio cofnodion a gwybodaeth am y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau a ddarperir gan adran gwasanaethau cymdeithasol Conwy. Llwyddodd y tîm sy’n gyfrifol am PARIS i uwchraddio’r feddalwedd ym mis Chwefror 2015.

Daeth yr uwchraddio a diwedd ar gyfnod hir o brofion, gan sicrhau bod swyddogaethau pwysig yn gweithio ac yn addas i’r diben.

Roedd uwchraddio PARIS yn newid mawr o’r fersiwn a oedd yn cael ei defnyddio, a chymerodd lawer o ymdrech i sicrhau nad yw’r broses o gyflwyno’r fersiwn newydd yn amharu ar ddarpariaeth gwasanaethau i’r cyhoedd.

Ar gyfer y staff sy’n defnyddio PARIS, mae’r uwchraddio yn dod â golwg hollol newydd i’r system, gan ei gwneud yn haws ac yn gyflymach i staff ei defnyddio. Mae’n rhoi mynediad i dîm PARIS i offer system newydd y byddwn yn eu defnyddio i wella ansawdd y datblygiad system.

Mae’r uwchraddio hefyd yn ein galluogi i rannu gwybodaeth gyda systemau eraill yn y Gwasanaethau Cymdeithasol, fel CallConfirmLive! Mae hyn yn golygu y byddwn yn arbed amser wrth orfod trosglwyddo gwybodaeth rhwng staff sy’n gweithio mewn gwahanol rannau o’r adran, a hyd yn oed yn gallu anfon gwybodaeth fel amserlenni gwaith yn uniongyrchol ac yn ddiogel i ffonau symudol gwaith y staff.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Cymorth a Thrawsnewid Busnes

Technoleg newydd ar gyfer gweithwyr cymorth cymunedol

Mae Gweithwyr Cefnogi Cymunedol yn gweithio gydag unigolion yn eu cartrefi eu hunain yn eu cefnogi gyda thasgau bob dydd fel gofal personol, paratoi prydau bwyd a rheoli meddyginiaeth.  Yn y gorffennol, byddai dyraniad gwaith yn cael ei gydlynu gydag un system bapur, a byddai taflenni amser papur yn cael eu cyflwyno ar gyfer cyflogau a bilio defnyddwyr gwasanaeth.

Mae CallConfirmLive! yn system fodern sy’n defnyddio technoleg ffonau clyfar i ddarparu gwybodaeth amser real i Weithwyr Cymorth Cymunedol gan sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu’n llawn am bob un o’u hymweliadau dydd ac unrhyw newidiadau a allai fod eu hangen.  Mae’n cynnwys Porth Teuluoedd sy’n galluogi cleientiaid a’u teuluoedd i weld eu hymweliad unigol eu hunain. Mae hefyd yn cefnogi rheolwyr gan eu bod yn gallu gwneud y gorau o amser gweithwyr a lleihau teithio diangen ar draws yr awdurdod.  Mae’n cefnogi iechyd a diogelwch gyda system o rybuddion yn hysbysu’r swyddfa nad yw gweithwyr cymorth wedi cyrraedd neu adael galwad a drefnwyd a bydd y system yn cynhyrchu ffeil electronig ar gyfer cyflogau heb fod angen llenwi amserlenni papur.

Mae CallConfirmLive! wrthi’n cael ei weithredu a disgwylir iddo fod yn hollol weithredol erbyn diwedd 2016.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Cymorth a Thrawsnewid Busnes

Amddiffyn Oedolion

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, cynhaliwyd trafodaethau o fewn yr adran ynghylch y broses Oedolyn Mewn Perygl. Cydnabuwyd nad oedd yn gynaliadwy i gael un cydlynydd POVA sydd â chyfrifoldeb Rheolwr Arweiniol Dynodedig dros gant o achosion Oedolyn mewn Perygl ar unrhyw adeg benodol. Edrychwyd ar nifer o opsiynau ynghylch swydd y cydlynydd POVA, ond o ystyried y cyfarwyddyd cenedlaethol a rhanbarthol, gwnaed y penderfyniad i ail-ddylunio swydd-ddisgrifiad y Cydlynydd POVA a rhoi mwy o bwyslais ar swydd y Rheolwyr Adain / Tîm o fewn y broses Oedolion mewn Perygl.

O fis Mai 2015, cymerodd y Rheolwyr Adran / Tîm gyfrifoldeb arweiniol mewn perthynas â’r Broses Oedolion mewn Perygl. Cafodd swydd y Cydlynydd POVA ei hailgynllunio i fod yn Gydlynydd Amddiffyn Oedolion, gyda’r tasgau allweddol canlynol:

  • Monitro ansawdd, archwilio a gwerthuso gwaith Rheolwyr Adain / Tîm yn y Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol
  • Cynhyrchu dangosyddion perfformiad ar y ffurf ofynnol i gefnogi hyn i’r gwasanaeth ac i Lywodraeth Cymru.
  • Darparu adroddiadau chwarter blwyddyn ar berfformiad, themâu a thueddiadau sy’n ymwneud â’r gweithgareddau diogelu ac amddiffyn.
  • Gweithio gydag aelodau o staff mewnol, gan gynnwys Rheolwyr Adain ac asiantaethau partner a darparu cyngor ac ymgynghori ar faterion Diogelu Oedolion

Cefnogi Rheolwyr Adain / Tîm yn eu swyddi, mae’r adran wedi comisiynu hyfforddiant arbenigol ynghylch Cadeirio Cyfarfodydd Oedolion mewn Perygl. Cyflwynwyd yr hyfforddiant hwn ym mis Chwefror a mis Mawrth eleni. Fel rhan o’r Gwaith Sicrhau Ansawdd a gynhaliwyd gan yr Uned Diogelu, archwiliwyd atgyfeiriadau Oedolion mewn Perygl pan mai’r penderfyniad oedd Dim Gweithredu Pellach.

Roedd yr archwiliad yn canolbwyntio ar y meysydd proses ac arfer canlynol:

  • Gwerthusiad Cychwynnol
  • Rhesymeg dros Wneud Penderfyniadau
  • Cofnodi Achosion

At ei gilydd, archwiliwyd 344 achos, lle mai penderfyniad POVA oedd Dim Gweithredu Pellach. Archwiliwyd y cyfnod rhwng 1 Ionawr 2015 a 31 Rhagfyr 2015.

Crynodeb Cyffredinol o’r Canfyddiadau

  • Dim ond mewn un o’r 344 o achosion a archwiliwyd yr anghytunodd yr archwilydd â’r penderfyniad i beidio â dilyn y broses POVA a threfnu Cyfarfod Strategaeth.
  • Roedd nifer o’r atgyfeiriadau POVA a wnaed yn amhriodol. Nodwyd bod nifer o’r atgyfeiriadau a wnaed gan Ddarparwyr Gofal yn ymwneud â materion Ansawdd a Gofal.
  • Nid yw nifer sylweddol o atgyfeiriadau yn cynnwys gwybodaeth ynghylch gallu, categori cam-drin ac os oedd y Defnyddiwr Gwasanaeth yn ymwybodol o’r atgyfeiriad. Cafodd hyn effaith ar swydd y Rheolwr Arweiniol Dynodedig, a olygai’n aml fod rhaid i’r rheolwr gasglu gwybodaeth.
  • Roedd enghreifftiau o arfer da ynghylch gwaith dilynol yn amlwg mewn sawl achos, yn arbennig y nifer o ymweliadau cartref a wnaed ac asesiadau risg wedi’u diweddaru.
  • Yn gyffredinol ers y newidiadau yn y broses POVA (4 Mai, 2015), ni nodwyd unrhyw ddirywiad o ran arfer mewn adborth archwilio, yn wir roedd gwelliannau wedi’u gwneud yn arbennig dros y tri mis diwethaf (Hydref – Rhagfyr).

Mae angen gwneud rhagor o waith yn 2016/17, gan ganolbwyntio ar wella ansawdd yr atgyfeiriadau, a datblygu hyfforddiant mwy arbenigol i Reolwyr Arweiniol Dynodedig ynghylch y Broses Oedolyn mewn Perygl.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Safonau Ansawdd

Prydlondeb Cynadleddau Amddiffyn Plant

Mewn ymateb i berfformiad gwael yn y maes ymarfer yn 2014/15, cytunwyd i ddatblygu cynllun gweithredu mewnol.  Roedd gan y Cydlynydd Amddiffyn Plant gyfrifoldeb pennaf am wella prydlondeb ar gynadleddau achos. Cwblhawyd nifer o gamau gweithredu gan gynnwys:

  • Mynd i gyfarfodydd tîm i atgoffa staff am yr amserlenni o fewn Gweithdrefnau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan
  • Darparu gweithdai i wahanol asiantaethau o gwmpas y broses gynadleddau
  • Sicrhau ansawdd pob cais am gynhadledd achos gychwynnol i sicrhau bod materion yn ymwneud â phrydlondeb yn cael sylw.

Cafodd cyfanswm eleni o 289 allan o 289 o adolygiadau Plant ar y Gofrestr Amddiffyn Plant eu cynnal o fewn y terfynau amser statudol. Mae’r canlyniad o 100% ychydig yn uwch na’r targed a gytunwyd yn lleol (98.0%).

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Safonau Ansawdd

  • 1
  • 2
  • Next Page »

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English