Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Swyddogaeth yr Uned Ddiogelu o fewn datblygiad y Polisi Diogelu Corfforaethol

Dros y deuddeg mis diwethaf, mae’r Uned Ddiogelu wedi parhau i gymryd rhan arweiniol yn y gwaith o weithredu’r Polisi Diogelu Corfforaethol. Mae’r Uned Ddiogelu wedi cyflwyno’r hyfforddiant Ymwybyddiaeth Diogelu Sylfaenol i staff ar draws y Cyngor, gan gynnwys pob Aelod. Yn ogystal, bydd yr Uned Ddiogelu yn cyflwyno hyfforddiant Ymwybyddiaeth Diogelu Sylfaenol pellach dros y deuddeg mis nesaf.

Yng Nghonwy, bydd hefyd yn rhaid i bob Arweinydd Dynodedig ar gyfer Diogelu ym mhob adran y cyngor fod wedi dderbyn hyfforddiant diogelu ar y ddeddf SSWB. Bydd yr hyfforddiant hwn yn cefnogi’r Arweinwyr Dynodedig i ddeall y gofynion o amgylch y ddyletswydd i adrodd.

Mae’r Uned Ddiogelu hefyd wedi cynorthwyo gydag adran drwyddedu CBSC wrth gyflwyno hyfforddiant Cam-fanteisio’n Rhywiol ar Blant gorfodol i yrwyr tacsi ar draws Conwy.

Mae’r Uned hefyd wedi cynorthwyo cydweithwyr mewn Addysg o amgylch gweithredu gofynion y Canllawiau Cadw Dysgwyr yn Ddiogel.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Safonau Ansawdd

Sicrhau Ansawdd Cynadleddau Amddiffyn Plant ac Adolygiadau Plant sy’n Derbyn Gofal

Fel rhan o’r Fframwaith Sicrhau Ansawdd yn yr Uned Ddiogelu, ar ôl pob Cynhadledd Amddiffyn Plant a chyfarfod Adolygu Plant sy’n Derbyn Gofal Plant, mae’r Cadeirydd yn cwblhau offeryn archwilio ar-lein.

Ar gyfer y Gynhadledd Amddiffyn Plant, mae’r offeryn archwilio yn canolbwyntio ar y meysydd ymarfer canlynol:

  • Ymgysylltu â’r Plentyn a’r Teulu cyn y gynhadledd
  • Ansawdd yr Adroddiadau a gyflwynwyd
  • Ansawdd cyffredinol y Gwaith Amddiffyn Plant

Adroddiad Gwaith Cymdeithasol wedi’i rannu gyda’r Uned Ddiogelu o leiaf ddau ddiwrnod gwaith cyn y gynhadledd
Do (13) 93%
Naddo (1) 7%

Ansawdd Adroddiad y Gweithiwr Cymdeithasol (Ansawdd Adroddiad y Gweithiwr Cymdeithasol)
Da (8) 57%
Digonol (6) 43%
Annigonol (-)

Ar gyfer y Cyfarfod Adolygu Plant sy’n Derbyn Gofal, mae’r offeryn archwilio ar-lein yn canolbwyntio ar y meysydd ymarfer canlynol:

  • Ymgysylltu â’r Plentyn a’r Teulu cyn y gynhadledd adolygu
  • Ansawdd Adroddiadau a gyflwynwyd yn y cyfarfod Adolygu
  • Presenoldeb yn y cyfarfod Adolygu
  • A oedd y Cynllun Gofal yn cael ei ddatblygu ac yn diwallu anghenion y plentyn

Mae adroddiad amlygu yn cael ei gwblhau gan yr Uned Diogelu, cyflwynir yr adroddiad i’r Pennaeth Gwasanaeth, y cyfarfod Rheolwyr Gwasanaeth ac yn y cyfarfod Rheolwyr Adain / Tîm.

Fe wnaeth yr adroddiad amlygu dynnu sylw at y meysydd lle ceir arfer da a meysydd y dylid eu gwella.

Mewn perthynas ag Amddiffyn Plant, mae’r adran wedi gallu nodi’r meysydd arfer da canlynol

  • Roedd ansawdd cyffredinol adroddiadau gweithwyr cymdeithasol ar gyfer y gynhadledd yn dda.
  • Mae ansawdd yr adroddiadau gan Awdurdod Iechyd ar gyfer y gynhadledd yn gyson o ansawdd da gyda chynnwys manwl.
  • Roedd yr ymgysylltu â Phlant a Phobl Ifanc yn y gynhadledd achos yn gwella

Nodwyd prydlondeb adroddiadau cynadleddau sy’n cael eu rhannu gyda’r Uned Ddiogelu fel maes i’w wella.

Mewn perthynas â’r broses adolygu LAC, mae’r archwiliadau wedi nodi’r meysydd arfer da canlynol:

  • Mae tystiolaeth yn parhau i fod o lefelau da o ymgysylltu â’r Plentyn / Person Ifanc yn y Cyfarfod Adolygu. Cofnodir barn yn y cyfarfod.
  • Gwella mewn perthynas â phrydlondeb o ran cynllunio parhad

Mae’r adroddiadau archwilio wedi nodi meysydd lle mae angen gwelliant mewn perthynas â phresenoldeb asiantaethau partner mewn adolygiadau plant sy’n derbyn gofal. Mae’r Uned Ddiogelu wedi cyfarfod gyda’r Uwch Reolwyr perthnasol yn yr asiantaethau hyn i edrych ar ffyrdd o wella presenoldeb.

Mae’r adroddiadau amlygu hefyd yn rhoi data meintiol a nifer yr achosion lle bu’n rhaid dilyn y Polisi Uwchgyfeirio.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Safonau Ansawdd

KickStart

Mae’r gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn wedi gweithio mewn partneriaeth gyda Gofal Castell a Cymdeithas Tai Wales and West i gynllunio a datblygu model gofal unigryw i ddiwallu anghenion oedolion ifanc diamddiffyn sy’n gadael gofal neu sy’n byw bywydau di-drefn yn y gymuned. Mae hyn yn parhau i ganolbwyntio ar ‘adfer’ ac mae gan dai swyddogaeth allweddol wrth gefnogi ac annog pobl i ddatblygu’r sgiliau sydd angen arnynt i fyw’n annibynnol yn eu cymuned. Mae hyn yn golygu y gall pobl symud oddi wrth ofal preswyl a dysgu sut i ymdopi â’r gweithgareddau bob dydd y mae’r rhan fwyaf o bobl yn eu cymryd yn ganiataol, fel gofal personol a thasgau yn y cartref, rheoli eu harian a ffurfio cysylltiadau gydag eraill a chymryd rhan yn eu cymunedau.

Bydd y Prosiect yn darparu un tŷ byw a rennir ar gyfer pedwar o bobl ifanc a saith fflat unigol ar gyfer pobl eraill ddiamddiffyn. Bydd y fflatiau’n rhan o stad o dai newydd a fydd yn cael ei hadeiladu yn Abergele. Bydd unigolion yn derbyn cymorth wedi’i deilwra gan Gofal Castell er mwyn datblygu eu sgiliau byw’n annibynnol a’u helpu i gynnal eu tenantiaethau. Mae’r Prosiect yn rhoi’r cyfle i’r bobl ifanc hynny symud allan o ofal maeth a gofal preswyl i gychwyn eu taith datblygu a fydd yn y pen draw yn arwain at lwyddo i fyw’n annibynnol.

Mae’r Grant Rhaglen Cefnogi Pobl, sy’n gronfa i ddarparu gwasanaethau cymorth sy’n gysylltiedig â llety er mwyn helpu pobl i gyflawni neu gynnal bywyd annibynnol yn eu cymuned, wedi cael ei ddefnyddio gan y gwasanaeth i gychwyn y datblygiad cyffrous hwn. Rydym wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’r Gymdeithas Dai i nodi pa rai o’n defnyddwyr gwasanaeth fyddai’n elwa fwyaf o’r cynllun hwn fel bod y symudiad yn mynd yn esmwyth unwaith y bydd y fflatiau yn barod yn yr haf.

Nid nod Kickstart yw gwneud pethau ar ran pobl. Mae’n ymwneud â helpu pobl i ddeall y gall pethau fod yn wahanol. Mae’n ymwneud â chefnogi pobl i ganfod eu ffordd, deall y gallant gael nodau ac y gellir eu cyflawni. Bydd Kickstart yn helpu pobl i sylweddoli fod ganddynt ddyfodol, y gall pethau fod yn wahanol i heddiw, a bydd yn eu galluogi i ddod o hyd i’w ffordd eu hunain tra’n eu hebrwng ar eu taith. Bydd y gwasanaeth yno ar eu cyfer pan fydd angen iddynt siarad a bydd staff yn gwrando ar yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud gan ganolbwyntio’n benodol ar eu helpu i adeiladu neu ailadeiladu eu bywydau i gyflawni’r hyn y maent ei eisiau. Yn bennaf oll mae’n ymwneud â pheidio â rhoi i fyny ar bobl neu ganiatáu iddynt roi’r gorau ar eu hunain.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Prosiect Pobl Ddiamddiffyn

Cwmpawd Adfer

Mae Mudiadau Gwirfoddol, sydd hefyd yn cael eu galw’n ‘Drydydd Sector’, bob amser wedi cael perthynas agos gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol ac rydym yn contractio gyda grwpiau penodol i gyflwyno rhai agweddau ar gymorth i’n defnyddwyr gwasanaethau. Yn aml, mae’n well gan bobl ymgysylltu â grwpiau gwirfoddol i gael cefnogaeth barhaus yn hytrach nag aros mewn gwasanaethau yn y sector cyhoeddus ac roeddem yn awyddus i ddarparu gwasanaeth i’r dyfodol a fydd yn gwella ac ategu gwaith ein Timau Iechyd Meddwl Cymunedol.

Yn 2014 dechreuom adolygu ein contractau ar gyfer pobl â phroblemau iechyd meddwl a chymorth i ofalwyr am oedolion â phroblemau iechyd meddwl, gan eu bod i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2016. Mae’n bwysig ein bod yn sicrhau bod ein holl wasanaethau yn addas i’w diben ac yn cynnig y cymorth mwyaf effeithiol a gwerthfawr i’n defnyddwyr gwasanaeth. Mae ymchwil yn dweud wrthym mai’r ffordd orau i helpu pobl i reoli eu problemau iechyd meddwl yn well ac ennill rheolaeth dros eu bywydau yw dull a elwir yn ‘adfer’. Nid yw hyn yn golygu adferiad yn yr un ffordd ag y mae rhywun yn llwyr adfer o salwch corfforol ond mae’n cynnig gobaith ac ‘y gred ei bod yn bosibl i rywun adennill bywyd ystyrlon, er gwaethaf salwch meddwl difrifol.’ [1]

Gyda hyn mewn golwg, dechreuom ddylunio gwasanaeth newydd a fyddai’n cael eu darparu gan y trydydd sector ar gyfer cymorth parhaus i’r bobl hynny sydd â phroblemau iechyd meddwl. Er mwyn ein helpu gyda’n syniadau, gwnaethom gynnwys ein Tîm Cyfranogiad a siaradodd â phobl sydd ar hyn o bryd yn derbyn gwasanaethau i gael gwybod beth sydd wedi bod yn fwyaf buddiol ac wedi gwneud y gwahaniaeth mwyaf i’w bywydau. Y canlyniad yw gwasanaeth newydd o’r enw’r ‘Cwmpawd Adfer’, a fydd yn cael ei gyflwyno gan Mind Aberconwy o fis Ebrill 2016. Bydd pawb sy’n mynd ar y ‘Cwmpawd Adfer’ yn derbyn ‘Cynllun Gweithredu Adfer Lles’ neu WRAP, sef cynllun yr unigolyn wedi’i deilwra yn gyfan gwbl ar gyfer eu hanghenion a’u huchelgeisiau ar gyfer y dyfodol. Yr wyth pwynt allweddol ar y cwmpawd yw: Cyfranogi, Cefnogaeth Cyfoedion, Cyflogadwyedd, Hyfforddi, Rhyngweithio Cymdeithasol, Therapïau Cymdeithasol, Dysgu a Chyflawni, Gwybodaeth a Chyngor.

I rai defnyddwyr gwasanaeth eu profiad o’r ‘cwmpawd adfer’ fydd cael rhywfaint o wybodaeth a chyngor am eu cyflwr a’r ffyrdd gorau i’w reoli neu eu cyfeirio at grwpiau eraill sy’n fwy addas iddynt. I eraill, ymuno mewn gweithgareddau gydag eraill fydd yn helpu eu lles corfforol a meddyliol neu fod yn rhan o grŵp cyfoedion sy’n rhoi cefnogaeth i bobl eraill mewn sefyllfa debyg. Bydd rhai unigolion yn defnyddio’r holl wasanaethau fel rhan o’r cwmpawd, a fydd yn cynnig cyfleoedd i ddysgu sgiliau newydd a all arwain at brofiad gwaith a chyflogaeth. Pa bynnag agweddau ar y Cwmpawd Adfer sy’n bwysig i’r defnyddiwr gwasanaeth, y prif nod yw mynd y tu hwnt i reoli symptomau, ond caniatáu i bobl gynyddu neu gynnal eu lles eu hunain, gan eu cynnwys yn eu cymunedau a rhoi cyfleoedd i gyfrannu a chymryd rhan mewn cymdeithas.

[1]  https://www.mentalhealth.org.uk

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Prosiect Pobl Ddiamddiffyn

Datblygiad y Tîm Pobl Ddiamddiffyn

Fel gwasanaeth sydd newydd gael ei sefydlu o fewn Gofal Cymdeithasol, cafodd y tîm Pobl Ddiamddiffyn ei gynllunio i helpu’r rhai mwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas i adennill neu gynnal eu hannibyniaeth a’u lles a gwneud yn siŵr bod mwy o bobl gydag anghenion yn cael eu cefnogi mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae’r bobl hynny sydd â bywydau cymhleth, heriol a di-drefn yn aml yn fwy diamddiffyn na’r rhai sy’n ffitio i mewn i’r gwasanaethau traddodiadol ac o ganlyniad i gefnogaeth gyfyngedig maent yn aml yn cysylltu yn amhriodol gyda’r gwasanaethau brys, fel yr Heddlu neu’r Gwasanaeth Tân neu’r Gwasanaeth Ambiwlans am eu cymorth. Mae gan y tîm ei hun leiafswm mynediad i gyllideb gofal ac felly mae aelodau’r tîm yn dibynnu ar eu hunain fel adnodd gwaith cymdeithasol a Therapi Galwedigaethol i fynd i’r afael ag anghenion y cleientiaid. Maent yn arbennig o greadigol ac yn gwneud cysylltiadau cryf â sefydliadau trydydd sector er mwyn galluogi eu cleientiaid i gael mynediad at y gwasanaethau cyffredinol sydd ar gael yn y gymuned.

Er bod hwn yn wasanaeth newydd sy’n datblygu, cofnodwyd nifer o astudiaethau achos yn dangos y bendithion a’r effeithiau cadarnhaol y mae’r tîm yn eu cael:

  • Cyfeiriwyd dyn ifanc at y gwasanaeth gan ei deulu gan ei fod yn defnyddio canabis ac yn mynd i drafferth gyda’r heddlu, roedd yna lawer o broblemau yn y cartref gydag ymddygiad ymosodol iawn tuag at ei deulu. Gwnaeth y gweithiwr rywfaint o gyfweld ysgogol a gweithio gydag ef i ddatblygu asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a chynllun gofal. O ganlyniad i’r gwaith hwn ysgrifennodd mam y dyn ifanc lythyr diolch i’r tîm gan ddweud bod yr ymagwedd wedi cael 100% o effaith gadarnhaol ar ei mab ac mae hi wedi bod yn ddiolchgar iawn am yr ymyrraeth sydd wedi golygu y gall ei mab aros gartref gyda’i deulu.
  • Roedd dyn ifanc arall mewn trafferth gyda’r heddlu ac yn wynebu’r posibilrwydd o gyfnod yn y carchar. Dechreuodd y tîm weithio gydag ef ac yn ei achos llys dywedodd y bargyfreithiwr bod yr ymyriadau a roddwyd ar waith gan y tîm Pobl Ddiamddiffyn wedi golygu’n uniongyrchol bod y dyn ifanc wedi osgoi dedfryd o garchar.

Mae’r tîm hefyd yn datblygu prosesau a mecanweithiau i wella’r gwasanaeth:

  1. Mae’r tîm Pobl Ddiamddiffyn wedi treialu’r broses asesu integredig newydd wrth [1] baratoi ar gyfer gweithrediad y Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Lles. Rhoddodd hyn gyfle i ymarferwyr ymgorffori egwyddorion asesu sy’n canolbwyntio ar unigolion a chanlyniadau a gofal am bobl ifanc ddiamddiffyn.
  2.  Mae’r rheolwr tîm hefyd wedi cyflwyno asesiad risg cadarn newydd i sicrhau bod staff yn ystyried eu hiechyd a’u diogelwch eu hunain wrth weithio gyda chleientiaid sy’n peri risg i’w hunain ac i eraill.
  3. Gan fod y tîm wedi datblygu a gwrando ar anghenion defnyddwyr gwasanaeth roeddynt hefyd yn teimlo y byddai cyflwyno cynllun gweithredu adfer iechyd da (WRAP) yn fuddiol. Trwy weithio mewn partneriaeth â’r tîm PARIS [2] rydym wedi ei gwneud yn haws i staff greu cyfnod pontio llyfn i’r rhai sy’n Gadael Gofal, i weithiwr cymdeithasol i Oedolion, gyda’u cynllun unigol ar waith.

vp-diagram-cym

[1] Fel y soniwyd ar dudalen 8.

[2] Mae’r system PARIS yn cael ei defnyddio i storio cofnodion a gwybodaeth am y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau a ddarparwyd gan adran gwasanaethau cymdeithasol Conwy.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Prosiect Pobl Ddiamddiffyn

TRAC

Drwy ein partneriaeth gyda Bwrdd Uchelgais Gogledd Cymru a’r pum awdurdod lleol arall yn ein Rhanbarth, datblygwyd rhaglen newydd wedi’i hanelu at bobl ifanc o’r enw TRAC.

Dan arweiniad Cyngor Sir Ddinbych ac mewn partneriaeth â holl awdurdodau lleol eraill Gogledd Cymru a’r Colegau, y nod fydd cefnogi pobl ifanc 11-24 oed sy’n ymddieithrio oddi wrth addysg, ac mewn perygl o fod yn NEET – nad ydynt mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant. Bydd y prosiect TRAC yn rhedeg am dair i bum mlynedd ac mae wedi sicrhau arian o Gronfeydd Strwythurol Ewropeaidd (ESF).

Bydd TRAC yn gwella cyrhaeddiad a bydd yn cefnogi datblygiad gweithlu medrus, hyblyg a gwydn priodol. Mae’r prosiect yn cyd-fynd â chwe agwedd y Fframwaith Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid. Bydd y prosiect yn estyn allan i bobl ifanc gyda’r nod o godi cyrhaeddiad unigol a gwella ansawdd y gweithlu yn y dyfodol.

Bydd y prosiect yn cynnwys yr ystod canlynol o ymyriadau yn 11-24 oed:

  • Darparu Cwricwlwm Amgen Manwl – Darparu cyrsiau galwedigaethol wedi’u targedu a lleoliadau gwaith estynedig ar gyfer pobl ifanc y nodwyd eu bod mewn perygl o fod yn NEET
  • Gwell Pecyn Cymorth – cymorth Iechyd a Lles Ehangach ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn NEET
  • Cefnogi Pontio – canolbwyntio’n benodol ar gyfnodau pontio allweddol. 11 oed [pontio cynradd/ uwchradd], 14 oed [pontio o gyfnod allweddol 3 i 4], 16 oed [pontio i’r 6ed dosbarth, addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant], 18/19 oed [pontio i addysg uwch, addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant]
  • Cyflenwi – Fframwaith wedi ei chaffael yn rhanbarthol o ddarparwyr dwyieithog o ansawdd, yn seiliedig ar anghenion a nodwyd ar gyfer y Person Ifanc.
  • Nodi’r rhai sydd mewn perygl o ymddieithrio o Flwyddyn 7 yn fuan er mwyn rheoli eu cyfnod pontio i addysg uwchradd. Datblygu data rhanbarthol i sicrhau monitro a thracio cyfranogwyr yn gywir, i arfarnu effaith y cymorth sy’n cael ei ddarparu i bobl ifanc.

Bydd Darpariaeth Addysg Bellach 16-24 yn cynnwys:

  • Cymorth Adnabod a Broceriaeth
  • Gweithio ar y cyd ag EPCs, yn gweithredu cymorth broceriaeth priodol ar gyfer y cyfranogwyr hynny; bydd hyn yn cynnwys cefnogi cyfranogwyr i ddatblygu cynllun datblygu personol i wella sgiliau ar gyfer gyrfa, gan gefnogi cyfranogwyr i’w
  • Cyfle gwaith cyntaf, gan helpu cyfranogwyr i fanteisio ar yr hyfforddiant priodol.

Unwaith y bydd yn weithredol, bydd y prosiect hwn yn dod o fewn ein Adain Atal sy’n rhan annatod o’n Gwasanaeth Lles Cymunedol a’n hadrannau Gwasanaethau Cymdeithasol ac Addysg ehangach.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Gwasanaeth Cymunedol a Lles

Gwell llywodraethu a chydymffurfio o fewn rhaglenni a ariennir gan grantiau

Mae’r Gwasanaeth Cymunedol a Lles yn gweithredu fel darparwr gwasanaethau i brosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac Ewrop gyda’r nod o Fynd i’r Afael â Thlodi.

Mae nodau Llywodraeth Cymru ar fynd i’r afael â thlodi yn cynnwys:

Lleihau tlodi, yn enwedig tlodi parhaus ymysg rhai o’n pobl a’n cymunedau tlotaf, a lleihau’r tebygolrwydd y bydd pobl yn mynd yn dlawd

Mae Cyngor Conwy, ynghyd â holl awdurdodau lleol eraill Cymru yn gweithredu fel darparwr gwasanaethau lleol i gyflawni nifer o brosiectau a ariennir gan grant gyda’r nod o fynd i’r afael â thlodi. Fel gydag unrhyw brosiect, mae angen i ni gyflawni nifer sylweddol o ddangosyddion perfformiad, sy’n cynnwys:

  • Mynd i’r afael â thlodi ac amddifadedd gwirioneddol
  • Mynd i’r afael â diweithdra a chodi incwm aelwydydd
  • Gwella sgiliau pobl ifanc a theuluoedd
  • Gwella deilliannau iechyd ac addysgol plant, pobl ifanc a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi

Dyma rai o’r prosiectau a ariennir drwy grant rydym yn eu cyflawni ar hyn o bryd yng Nghonwy:

  • Dechrau’n Deg
  • Tîm o Amgylch y Teulu
  • Gwaith Amdani
  • Teuluoedd Gwledig yn Gyntaf Llanrwst

Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi gwthio ansawdd ein darpariaeth yn ei flaen trwy well hyfforddiant a datblygiad ar gyfer ein staff, gwella’n cynlluniau marchnata i sicrhau ein bod yn estyn allan at gymaint o unigolion sydd angen cymorth ag y bo modd, a hefyd bod y mecanwaith cefnogaeth ar gyfer ymyrraeth gynnar ac atal ochr yn ochr â mwy o ymgysylltu â dinasyddion Conwy er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r union beth sydd angen. Ein nod yw parhau gyda’r math hwn o ymagwedd er mwyn sicrhau bod ein darpariaeth yn canolbwyntio gymaint ag y bo modd ar ganlyniadau.

Mae Llywodraethu’n gwella’n barhaus drwy fwy o gyfranogiad a chydweithio gyda’n timau archwilio mewnol, sy’n sicrhau fod darpariaeth a chanlyniadau’n mynd law yn llaw.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Gwasanaeth Cymunedol a Lles

Gweithgareddau Cymunedol a Lles ar gyfer rhai dros 55 oed

Nod y gweithgareddau Cymunedol a Lles yw lleihau nifer yr atgyfeiriadau i wasanaethau statudol gan y bydd Lles Dinasyddion Conwy yn parhau i wella trwy nifer o wahanol ddulliau fel integreiddio cymunedol, addysg ar weithgareddau Lles ac ennyn hyder.

Ym mis Tachwedd 2015, buom yn llwyddiannus wrth recriwtio unigolion o safon uchel a rhai sy’n canolbwyntio ar y gymuned drwy Gyllid Gofal Canolradd, sydd yn ei dro’n cryfhau ein Tîm Lles Cymunedol, a arweinir gan Jayne Neal.

Canolbwyntiwyd ar ddatblygu rhaglen haf, hydref, gwanwyn a gaeaf o weithgareddau lles yn y Ganolfan Lles ar ei newydd wedd yn Nhŷ Llywelyn, Llandudno. Mae gweithgareddau hefyd yn estyn allan i rannau eraill o’r Fwrdeistref gan gynnwys Abergele, Llanfairfechan, Bae Colwyn a Llanrwst.

Rydym yn ymgysylltu ag unigolion a sefydliadau i gyflwyno’r sesiynau hyn ar draws y fwrdeistref, gan gadw’r gwariant lleol i Gonwy – rydym yn galw’r rhain yn ein darparwyr. Ein nod yw parhau i weithio mewn cydweithrediad cryf gyda’r darparwyr hyn i gynnal y rhaglen o weithgareddau Lles ar ôl mis Mawrth 2017, sef pryd y daw’r cyllid i ben.

Mae’r prosiect hwn wedi ennill momentwm cryf ac wedi bod yn llwyddiant wrth estyn allan at unigolion gydag a heb anghenion wrth wella eu hiechyd personol a lles ar draws Conwy. Ein nod yw ymgysylltu â llawer mwy o bobl yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf.

paintingMae’r gweithgareddau’n cynnwys:

  • Lliwio therapiwtig
  • Siarad a panad (grŵp iaith Gymraeg ar gyfer dysgwyr a siaradwyr Cymraeg iaith gyntaf mewn cymunedau gwledig)
  • Tyliniad Pen Indiaidd
  • Tai Chi
  • Sesiynau gwnïo

 

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Gwasanaeth Cymunedol a Lles

Gwasanaeth Cymunedol a Lles

Fel rhan o’r rhaglen Trawsnewid Gofal Cymdeithasol, sefydlwyd Strwythur Rheoli Gwasanaethau newydd i gymell a gweithredu’r amcanion a nodwyd ar gyfer y prosiectau, i greu’r newidiadau angenrheidiol.

Canolbwyntiodd y prosiect trawsnewid ar ddatblygu Gwasanaeth Lles newydd gyda’r nod o ddatblygu’r strategaethau i gefnogi pobl i fod yn rhan o’u cymunedau. Y nod yw datblygu gwasanaethau cymunedol a fydd yn cefnogi’r bobl fwyaf diamddiffyn. Mae hyn wedi golygu fod angen gweithio’n agos gyda’r Trydydd sector a’r sector annibynnol, ac o ganlyniad mae’r gwasanaeth yn gyfrifol am oruchwylio grantiau sy’n cael eu defnyddio i ymateb i’r strategaeth gomisiynu a’r asesiad anghenion. Mae’r Gwasanaeth hefyd yn gyfrifol am y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer gwasanaethau oedolion Un Pwynt Mynediad ac mae goruchwyliaeth ymarferol dros ystod o wasanaethau atal.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Gwasanaeth Cymunedol a Lles

Arolwg Staff

Bu gwelliant mawr o ran cyfathrebu rhwng CBSC a’i weithwyr yn 2015.  Mae dealltwriaeth glir o weledigaeth ac arweinyddiaeth ac mae staff yn cydnabod eu rhan yn y weledigaeth honno.

Gwelliannau allweddol

Arweinyddiaeth ar lefel gorfforaethol
C2b: Rwy’n credu fod gan y tîm hwn weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol + 12.7%
C2c: Mae gennyf hyder yng ngalluoedd y tîm arweinyddiaeth hwn + 9.7%

Arweinyddiaeth ar lefel gwasanaeth
C3a: Rwy’n credu fod gan fy ngwasanaeth weledigaeth glir ar gyfer y dyfodol + 11.2%

Gweledigaeth, gwerthoedd ac amcanion corfforaethol
C4d: Rwy’n deall sut mae fy ngwaith yn cyfrannu at y Cynllun +8.8%

Newid a moderneiddio’r ffordd rydym ni’n gweithio
C7d: Mae newidiadau yng Nghonwy yn cael eu cynllunio a’u cyflwyno’n dda + 10.8%
C7e: Caiff y rhesymau dros newid eu cyfathrebu’n effeithiol +14.5%

Sut rydym yn cyfathrebu
C10c: Rwy’n teimlo bod y wybodaeth yn y Brîff Tîm yn ddefnyddiol ac yn berthnasol +9.8%.
O’r rhai sydd â mynediad +11.2%
C10d: Rwy’n teimlo fy mod yn derbyn digon o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn fy nhîm +7.8%
C10e: Rwy’n teimlo fy mod yn derbyn digon o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yn fy ngwasanaeth +11.0%
C10f: Rwy’n teimlo fy mod yn derbyn digon o wybodaeth am yr hyn sy’n digwydd yng Nghonwy +8.1%

Lles
C11a. Rwy’n ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael gan Care First +8.9%

Fodd bynnag, pan edrychwn ar effaith unigol mae lle i wella canlyniadau personol y staff.  Er y deellir y broses PDR yn dda ar y cyfan, mae yna fwlch mewn disgwyliadau unigolion o’u swydd o ddydd i ddydd a gweld tystiolaeth bendant o ba mor dda y maent yn gwneud eu gwaith – heb wybod hyn, gall gweithwyr deimlo na allant gyflawni’r bodlonrwydd swydd sy’n ofynnol.

Meysydd Allweddol i’w Gwella

Newid a moderneiddio’r ffordd rydym ni’n gweithio
C7b: Rwy’n cael fy annog i ddod o hyd i ffyrdd newydd o wneud pethau -8.1%

Fy swydd a rheoli atebol
C8a: Rwy’n gwybod beth sydd i’w ddisgwyl gennyf -3.4%

Iechyd a Diogelwch
C9b: Mae gen i’r offer angenrheidiol i wneud fy swydd yn ddiogel -3.3%

Lles
C11e: Rwy’n gallu cymryd digon o seibiannau oddi wrth fy ngwaith

C11i: Nid wyf wedi teimlo dan straen oherwydd gwaith yn ystod y 2 flynedd ddiwethaf -5.7%

C11j: Rwy’n teimlo fy mod yn cael digon o gefnogaeth gan Gonwy i fy helpu i ymdopi â straen -4.9%

O’r rhai sydd wedi teimlo dan straen -2.5%

Datblygiad personol
C12e: Rwyf wedi cael PDR yn y 12 mis diwethaf -9.2%
C12b: Mae fy Adolygiad Datblygu Perfformiad (PDR) yn cynnwys asesiad o ba mor dda rwy’n gwneud yn fy swydd -3.9%

Cyffredinol
C13a: Rwy’n fodlon ar y cyfan gyda fy swydd -5.2%
Mae pob gwasanaeth wedi dadansoddi’r canlyniadau ar gyfer pob adran, wedi trafod gyda’u timau ac wedi nodi pwyntiau gweithredu i ymateb i’r adborth a gwella.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau, Arolwg Staff

Llwyddiant mewn Gwasanaethau

Yn yr adran flaenorol, aethom ati i ddisgrifio sut y cafwyd rhaglen drawsnewid sylweddol o fewn Gofal Cymdeithasol Conwy rhwng 2012 a 2015, er mwyn ail-lunio gwasanaethau i fodloni gofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014 yn well.

Mae “Adeiniau” newydd y gwasanaeth yn cael eu datblygu’n barhaus a hoffem dynnu sylw at rai o’u cyflawniadau mwyaf sylweddol yn ystod 2015-16 o fewn y rhan hon o’r adroddiad.

Dyma ddiffiniad o’n adeiniau gwasanaeth newydd:

conwy-social-services-main-org-chart-cym

Yn y tudalennau canlynol, mae pob adain o’r gwasanaeth yn cyflwyno amlinelliad byr o’u prif gyflawniadau, ond byddwn yn dechrau gyda chrynodeb o’r arolwg staff diweddar.

Ffeiliwyd dan: 2015-16, ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau

  • « Previous Page
  • 1
  • 2

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@conwy.gov.uk

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English