Safonau ansawdd
- Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed.
- Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau eu hunain fel eu bod yn gallu cyflawni eu potensial llawn a byw’n annibynnol gyhyd â phosibl.
Gwasanaethau Plant
Gweithgarwch diogelu
Amddiffyn Plant yn Effeithiol
Yr ydym wedi cyflwyno model newydd ar gyfer Amddiffyn Plant yn Effeithiol, sy’n canolbwyntio ar:
- Ymdrechu i gael asesiad cyson, o ansawdd uchel, o niwed sylweddol
- Gwella’r cydweithio â theuluoedd ym maes amddiffyn plant i gynyddu eu cyfranogiad a lleihau gwrthwynebiad
- Nodi’r newidiadau mewn blaenoriaethau sydd eu hangen i fynd i’r afael â niwed sylweddol, a chanolbwyntio’n gadarn ar y rhain drwy’r amser
- Mesur cynnydd teulu tuag at gyflawni’r newidiadau hynny
Cynhaliwyd adolygiad sicrhau ansawdd gennym ar oddeutu deg achos, gan ganolbwyntio ar y siwrnai amddiffyn plant lawn. Yr ydym wedi diweddaru dogfennau sy’n gysylltiedig ag ymholiadau Adran 47 (ymchwiliadau amddiffyn plant) a Chynadleddau Achos Cychwynnol, i gynnwys y modelau risg er mwyn cael cysondeb gan ymarferwyr wrth asesu risg sylweddol.
Yn ogystal â hyn, darparwyd trosolwg o Amddiffyn Plant yn Effeithiol i asiantaethau partner i roi gwybod iddynt am y newidiadau, sy’n canolbwyntio ar alluogi asiantaethau partner i gyfrannu at fesur niwed sylweddol yn eu hadroddiadau eu hunain ac mewn cynadleddau.
Data allweddol
Yr oedd 248 o adolygiadau amddiffyn plant a oedd i fod i gael adolygiad yn ystod y flwyddyn; cwblhawyd y rhain i gyd a chwblhawyd 246 (99.2%) ohonynt o fewn amserlenni statudol. Yr oedd hyn uwchlaw cyfartaledd Cymru, sef 91.8%.*
*Data o Ddatganiad Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol, ar gyfer data 2023/2024, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025.

Pan fo Awdurdod Lleol yn ymchwilio i sefyllfa lle amheuir bod plentyn yn dioddef niwed sylweddol, neu’n debygol o fod yn dioddef niwed sylweddol, gelwir y rhain yn ymholiadau Adran 47. Drwy ddadansoddi ein perfformiad yn y gorffennol gallwn weld bod nifer y cyfarfodydd strategaeth a arweiniodd at ymholiadau Adran 47 wedi gostwng yn 2023/2024 i 505, o gymharu â 552 yn 2022/2023.*

| 2020-21 | 2021-22 | 2022-23 | 2023-24 | |
|---|---|---|---|---|
| Nifer ymholiadau A47 | 458 | 343 | 552 | 505 |
Canran y cysylltiadau a arweiniodd at gyfarfod strategaeth oedd 8.8%, sy’n is na chyfartaledd Cymru, sef 11.4%. Canran y cyfarfodydd strategaeth a arweiniodd at ymholiadau A47 oedd 54.2%, sy’n is na chyfartaledd Cymru, sef 63.2%. Canran yr ymholiadau A47 a arweiniodd at Gynhadledd Achos oedd 22.4%, sydd ychydig yn uwch na chyfartaledd Cymru, sef 22.2%.*

*Fel y cyhoeddwyd yn Natganiad Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol, ym mis Mawrth 2025, ar gyfer data 2023/2024.
Camfanteisio
Mae’r Fforwm Camfanteisio Cyd-destunol wedi parhau i fod â charfan gyson o weithwyr proffesiynol yn bresennol. Mae data’n awgrymu bod gostyngiad yn nifer y plant sydd wedi eu hamlygu i gamfanteisio; fodd bynnag, mae yna bryder ynglŷn ag argaeledd cetamin a phobl ifanc yn ei ddefnyddio. Cyn gwyliau haf yr ysgol, cynhaliwyd cyfarfodydd amlasiantaeth i gynorthwyo gyda chodi ymwybyddiaeth ymysg plant a’u rhieni / gofalwyr.
Mae gwaith monitro’r defnydd o getamin yn parhau drwy’r amser, a chydlynwyd strategaethau ymyrraeth gynnar gan Ganolfannau Teuluoedd, ysgolion, gwasanaethau iechyd a gwasanaethau ieuenctid. Yn ogystal, amlygodd yr Uned Ddiogelu beryglon cetamin ar ddiwrnod hyfforddiant diogelu Addysg.
Wythnos Genedlaethol Diogelu 11-15 Tachwedd 2024
Un o uchafbwyntiau Wythnos Genedlaethol Diogelu eleni ym mis Tachwedd oedd sgwrs a roddwyd gan unigolyn ifanc a oedd yn gwella ar ôl bod yn gaeth i getamin. Rhannodd ei brofiad a’i ymdrechion i gael y gefnogaeth angenrheidiol i leihau’r ddibyniaeth ar y cyffur. Yr oedd llawer o bobl yn bresennol yn y digwyddiad hwn a oedd yn llawn gwybodaeth. Yn dilyn hyn, cysylltwyd â’r unigolyn ifanc er mwyn cael mwy o gyngor ac arweiniad wrth siapio gwasanaethau i leihau camddefnydd o getamin ymysg pobl ifanc.
Lleisiau Uchel
Mae grŵp Lleisiau Uchel yn ddigwyddiad hwyliog a gynigir i bob plentyn sy’n derbyn gofal. Mae’n gyfle i bobl ifanc drafod eu profiadau o dderbyn gofal, a’u safbwyntiau ynglŷn â’r hyn sy’n bwysig iddynt, er mwyn bod o gymorth gyda siapio’r gwasanaeth a ddarperir.
Fforwm Diogelu Amlasiantaethol
Mae’r cyfarfodydd hyn dan arweiniad amlasiantaeth wedi parhau, gyda thrafodaethau hyd yma yn canolbwyntio ar sut y gallwn ni, fel partneriaid amlasiantaethol, achosi newid cadarnhaol mewn arferion gweithio drwy ein dylanwad, yn ogystal ag wrth adolygu tueddiadau a themâu diogelu. Hyd yma, cafwyd trafodaethau ynglŷn â:
- Salwch Ffug
- Arweiniad statudol ar gyfer addysg yn y cartref
- Amddiffyn Plant yn Effeithiol
- Cetamine
- Brathiadau cŵn
- Adroddiadau diogelu effeithiol
- Canolfannau Atgyfeirio Ymosodiadau Rhywiol
- Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol
- Fforwm cyn geni
- Archwiliadau Meddygol Amddiffyn Plant
Ymateb yn effeithiol i’r hyn a ddysgir o Adolygiadau Ymarfer Plant ac Adolygiad Ymarfer Oedolion
Yn dilyn cyhoeddi dau adolygiad ymarfer plant Conwy, darparwyd trosolwg o’r argymhellion i aelodau diogelu penodedig, o fewn y fforymau Diogelu Ymarferwyr a Fforymau Diogelu Rheolwyr. Rhoddwyd tasg i bob maes i adolygu’r argymhellion er mwyn cynorthwyo â siapio arferion y dyfodol mewn ymgais i leihau risgiau i blant yn y dyfodol.
Cadw pobl ifanc yn ddiogel pan fônt hwnt ac yma
Y llynedd siaradwyd ynglŷn â chyflwyno cynllun Gofyn am Angela, a fyddai’n caniatáu i bobl ifanc ofyn am gymorth yn gyfrinachgar pe baent mewn sefyllfa anodd neu anghyfforddus. Mae ymchwil wedi canfod bod llawer o bobl ifanc yn cael eu gorfodi i wneud pethau nad ydynt eisiau eu gwneud, fel cyflawni fandaliaeth, gweithredoedd o drais, bygwth pobl a dwyn. Byddai 88% o’r bobl ifanc wedi hoffi cael ffordd o ofyn am gymorth, heb iddo fod yn amlwg i’r bobl o’u cwmpas.
Aethom â chanlyniadau’r arolwg ger bron y Cyngor Ieuenctid a siarad â grwpiau o bobl ifanc o wahanol gymunedau. Yr oedd y mwyafrif llethol eisiau cyflwyno gwasanaeth Gofyn am Angela, ac nid oeddent yn teimlo bod angen meddwl am enw arall ar ei gyfer.
Cytunwyd mai canolfannau hamdden fyddai’r lleoliadau mwyaf priodol i ofyn am gymorth gan eu bod wedi eu lleoli o fewn cymunedau, maent yn agored am oriau hwy ac ar y penwythnosau. Ni fyddai’n ymddangos yn beth anarferol i unigolyn ifanc fynd i ganolfan hamdden a siarad ag aelod o’r staff, hyd yn oed os oedd gyda grŵp o ffrindiau. Mae staff canolfannau hamdden wedi derbyn gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a gallent yn hawdd gael hyfforddiant ar gyfer y cynllun.
Treialwyd gwasanaeth Gofyn am Angela dros haf 2024. Rhannwyd gohebiaeth cyn gwyliau’r haf drwy’r ysgolion, Heddlu Gogledd Cymru, y Gwasanaeth Ieuenctid, Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid, Canolfannau Teuluoedd, nyrsys ysgol, ymarferwyr Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a nifer o wasanaethau eraill sy’n gweithio gyda phobl ifanc a’u rhieni.
Buom yn dylunio ac arddangos posteri yn ystafelloedd newid a thoiledau pob canolfan hamdden, gan hysbysebu’r cynllun yn gynnil. Er hynny, yr ydym wedi ehangu’r cynllun i gynnwys yr holl Ganolfannau Teuluoedd. Yr ydym bellach yn gweithio gyda llyfrgelloedd i weld faint y gallwn eu cynnwys hwy yn y cynllun a chysylltu â’r gwasanaeth ‘lle diogel’ sydd ar waith ynddynt eisoes ar gyfer oedolion sy’n profi camdriniaeth ddomestig. Bydd ein camau nesaf yn cynnwys:
- Dod â’r cynllun i sylw siroedd eraill yng ngogledd Cymru
- Gwella’r deunyddiau marchnata sydd gennym ar gyfer y cynllun
- Cysylltu â’r cynllun lle diogel presennol

Gwasanaethau Oedolion
Gweithgarwch diogelu
Masnachwyr Twyllodrus
Yr ydym wedi nodi mwy o weithgarwch gan fasnachwyr twyllodrus ym maes diogelu, a nifer cynyddol o achosion wedi eu hadrodd fel Oedolyn mewn Perygl. Yr ydym wedi datblygu cytundeb clir ynglŷn â sut ydym yn cefnogi’r achosion hyn, yn unol â Gweithdrefnau Diogelu Cymru.
Yr ydym wedi cytuno bod pob achos yn cael ei adrodd a’i drin fel achos o Oedolyn mewn Perygl hyd nes bod gennym wybodaeth a thystiolaeth sy’n nodi fel arall, ac mae tîm ein Canolfan Ddiogelu Amlasiantaethol yn cynnal yr holl sgrinio ac ymholiadau perthnasol.
Ym mhob achos sy’n symud yn ei flaen fel achos o Oedolyn mewn Perygl, gwneir mwy o ymholiadau ac ymgysylltiad â’r oedolyn, ac mae’r achos yn mynd drwy broses diogelu oedolion. Os tybir yn y camau cychwynnol nad yw’r oedolyn mewn perygl, cesglir yr holl wybodaeth a’i rannu â Heddlu Gogledd Cymru a Safonau Masnach Conwy.
Yr ydym hefyd yn gofyn i dîm Un Pwynt Mynediad Conwy gysylltu â’r dioddefwr a chynnal sgwrs ‘beth sy’n bwysig’. Yr ydym yn sicrhau bod ymgysylltiad parhaus â Heddlu Gogledd Cymru a Safonau Masnach Conwy drwy gydol y broses.
Cymerwch olwg ar rai enghreifftiau o weithgarwch masnachwyr twyllodrus a drafodwyd ac a ystyriwyd drwy’r broses ddiogelu yn ystod y flwyddyn:
Aeth masnachwr at unigolyn â pheth amhariad ar ei olwg, a chynnig gwneud rhywfaint o waith cyffredinol ar yr eiddo. Ar ôl cwblhau’r gwaith, prisiwyd y gwaith i £100, ac oherwydd amhariad perchennog yr eiddo, gofynnodd i’r masnachwr lenwi’r siec ar ei ran. Canfuwyd ar ôl i’r siec gael ei gyflwyno bod swm o £1,000 wedi ei gymryd.
Dywedodd masnachwr wrth unigolyn fod ei do’n gollwng a chytunodd y gallai’r masnachwr wneud y gwaith. O fewn munudau ymddangosodd fan wen arall a gwnaed y gwaith. Cysylltodd cymydog â’r heddlu, a phan holwyd y dioddefwr, dywedodd y byddai’r masnachwyr yn dychwelyd i wneud mwy o waith. Yr oedd yr unigolyn yn gyndyn o dderbyn cyngor, a hyd yma mae wedi talu tua £35,000, er nad ystyrir bod gwerth y gwaith a wnaed gymaint â hynny.
Camdriniaeth Ariannol
Mae adroddiadau o gam-drin ariannol ar gynnydd, gydag oedolion mewn perygl o gael eu hecsbloetio. Mae achosion sy’n ymwneud â chamdriniaeth ariannol hefyd wedi amlygu’r angen i ymarferwyr gyflwyno adroddiadau yn gynt yn y cyfnod cam-drin, a pheidio ag oedi wrth aros am faterion Swyddfa Gwarcheidwad Cyhoeddus a’r Llys Gwarchod.
Yr ydym wedi datblygu cynllun gweithredu i:
- Adolygu’r llythyr cytundeb ariannol / datganiad / dogfennau asesiad ariannol a anfonir at unigolion a’u teuluoedd am dalu ffioedd gofal
- Cynnwys nodyn atgoffa yn newyddlen y darparwyr i sicrhau eu bod yn adrodd yn gyson am beidio â thalu ffioedd
- Datblygu proses ynglŷn â’r camau gweithredu i’w cymryd pan ddynodir cam-drin ariannol ac adrodd amdano
- Hwyluso sesiynau hyfforddi ar godi ymwybyddiaeth o gam-drin ariannol
- Parhau ag archwilio samplau a sicrhau bod archwiliad cynhwysfawr yn cael ei gynnal gan Reolwyr Adain yng Ngwasanaeth Pobl Hŷn
- Uwchgyfeirio pryderon am ymateb Heddlu Gogledd Cymru i gam-drin ariannol
Camdriniaeth Plentyn tuag at Riant
Mae teulu o Gonwy a gefnogir gan wasanaethau plant wedi tynnu sylw at broblem sy’n dod i’r amlwg, sef plentyn yn cam-drin rhiant a’r diffyg cefnogaeth a mesurau diogelu priodol sydd ar gael i’r rhiant ac i’r teulu ehangach mewn achosion o’r fath. O ganlyniad i’r pryderon parhaus, sy’n gwaethygu, a godwyd yn yr achos, mae Cyngor Conwy wedi comisiynu adolygiad annibynnol o’r achos. Dyma rai o’r canfyddiadau a nodwyd yn yr adolygiad:
- Diffyg adrodd am y rhiant drwy broses adrodd Oedolyn mewn Perygl gan bob gwasanaeth.
- Dim trefniadau tîm amlddisgyblaethol ar waith i drafod y pryderon yn y teulu a chytuno ar ymateb cyson.
- Cynnwys y plentyn mewn trafodaethau gyda’r rhiant pan fo’r rhiant yn siarad am y gamdriniaeth.
Tra mae cynllun gweithredu ehangach ar yr argymhellion yn cael ei ddatblygu, mae proses adrodd glir bellach ar waith ar gyfer rhieni sy’n cael eu cam-drin gan blentyn, lle adroddir am bob achos rhiant drwy drefniadau Diogelu Oedolion y Ganolfan Ddiogelu Amlasiantaethol fel Oedolyn mewn Perygl.
Os cadarnheir wedyn eu bod yn bodloni meini prawf Oedolyn mewn Perygl, byddant yn cael eu hystyried drwy broses strategaeth diogelu oedolion. Os nad ydynt, byddant yn cael eu hatgyfeirio at Wasanaeth Pobl Ddiamddiffyn Conwy i sicrhau bod cefnogaeth briodol yn cael ei chynnig a’u bod yn cael eu cyfeirio at gefnogaeth arall.
Data allweddol

Cynyddodd nifer yr oedolion yr adroddwyd yn ystod y flwyddyn bod amheuaeth eu bod mewn perygl o gamdriniaeth neu esgeulustod i 807, o gymharu â 793 yn 2022-23.*
*Fel y cyhoeddwyd yn Natganiad Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol, ym mis Mawrth 2025, ar gyfer data 2023/2024.
Ymgysylltiad Gwasanaethau Oedolion. Fforwm Diogelu Oedolion a Fforwm Staff
Er bod Fforymau Diogelu Oedolion wedi bod yn cael eu cynnal bob chwarter ers sawl blwyddyn, mae yna achlysuron lle nad yw rhai o’r manylion a rannwyd ac a drafodwyd yn y fforymau wedi eu rhannu â phob aelod o’r tîm.
I atal hyn rhag digwydd, yr ydym wedi cyflwyno fforwm staff diogelu oedolion newydd, i gael ei gynnal yn syth ar ôl y Fforwm Diogelu Oedolion. Mae hwn yn gyfle i rannu unrhyw ddogfennau a chanllawiau perthnasol a chaniatáu staff i godi unrhyw gwestiynau neu bryderon gydag Arweinydd Diogelu Oedolion, ac aelodau eraill o staff, i hybu arferion da. Yn ogystal, cytunwyd y byddai Arweinydd Diogelu Oedolion yn mynd i holl gyfarfodydd tîm y gwasanaethau oedolion, bob chwe mis, i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf a thrafod materion diogelu.

Cynhadledd Amddiffyn Oedolion
Mae Cynhadledd Amddiffyn Oedolion yn gyfarfod amlasiantaeth sy’n cynnwys yr oedolyn sydd mewn perygl, a / neu bobl eraill berthnasol sy’n ei gynrychioli, i rannu a thrafod canlyniad yr ymchwiliad diogelu a chytuno ar gynllun amddiffyn gofal a chymorth ac unrhyw gamau pellach yn yr achos.
Mae presenoldeb rheolaidd wedi bod yn ystod y flwyddyn yn holl gyfarfodydd tîm gwasanaethau oedolion i hybu a datblygu proses Cynadleddau Amddiffyn Oedolion ledled yr awdurdod. Nod hyn, ynghyd â datblygu dogfen gynghori fer a thempled adrodd ar gyfer Cynadleddau Amddiffyn Oedolion, a rannwyd â’r holl staff, yw sicrhau y gofynnir yn gyson i Oedolion mewn Perygl a / neu eu cynrychiolwyr a ydynt yn dymuno symud ymlaen i Gynhadledd Amddiffyn Oedolion, neu gael manylion pellach am broses a chamau gweithredu diogelu yn eu hachos.
Mae trafodaeth gyda Thîm Datblygu’r Gweithlu wedi sicrhau bod gennym raglen glir o hyfforddiant diogelu ledled gwasanaethau oedolion a phlant, gyda digwyddiadau hyfforddi allweddol yn agored hefyd i’r sector darparwyr. Mae hyfforddiant ar broses Adran 5 (Swyddi o Ymddiriedaeth) bellach wedi ehangu i sicrhau y gall yr holl staff mewnol ddod i’r hyfforddiant, yn ogystal â’i gyflwyno i’r sector darparwyr. Bydd ymestyn y rhaglen hyfforddiant i’r sector darparwyr yn sicrhau bod hyfforddiant yn dychwelyd i drefniadau cyn Covid-19 ac yn symud oddi wrth ddysgu drwy e-fodiwl, yr ystyriwyd nad oedd ddigon cynhwysfawr a safonol ledled y sector darparwyr.
Hyfforddiant Diogelu Oedolion
Mae hyfforddiant a ddarparwyd gan Arweinydd Diogelu Oedolion wedi cael effaith gadarnhaol ar nifer yr achosion o gamdriniaeth ariannol a adroddwyd wrth y tîm. Rhywbeth arall sy’n arwyddocaol yw’r niferoedd cynyddol o ymholiadau a sgyrsiau anffurfiol a geisir gan staff a phartneriaid pan fônt yn ansicr ynglŷn ag a ddylid adrodd am fater ai peidio. Mae ymholiadau hefyd wedi dechrau gyda thimau i nodi achosion sydd gan Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar hyn o bryd er mwyn ceisio nodi achosion pellach yn gynt a rhoi cyngor yn briodol.
Newyddlen Darparwyr
Mae newyddlen diogelu oedolion yn parhau i gael ei dosbarthu bob chwe mis, ac mae pum rhifyn bellach wedi ei greu. Pwrpas y newyddlen yw rhannu newyddion, gwybodaeth, cyngor ac arweiniad am faterion gyda’r holl ddarparwyr, a fydd yn eu cefnogi a’u harwain yn y broses ddiogelu.
Datblygu ein Hadran Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
Un Pwynt Mynediad a Hawliau Lles
Y llynedd trafodwyd rhai newidiadau i’n strwythur staffio i recriwtio un rheolwr tîm trosfwaol ar gyfer timau Hawliau Lles ac Un Pwynt Mynediad ac Arweinwyr Tîm i oruchwylio’r gwaith yn y ddau faes.
Yr ydym wedi cynnal adolygiad o brosesau a dulliau casglu a choladu data i sicrhau eu bod mor effeithlon ag y gallant fod, a byddwn yn parhau i ddatblygu – gan ganolbwyntio ar draffig galwadau ffôn ac e-byst – safonau cofnodi system wybodaeth cleientiaid a themâu o adborth cwsmeriaid. Yn rhan o’n gwaith o ddatblygu prosesau adborth arferol i sicrhau bod dinasyddion, darparwyr a budd-ddeiliaid eraill yn gallu llywio gwelliant parhaus, yr ydym wedi creu arolwg boddhad cwsmeriaid i gael adborth am brofiadau galwyr o ymdrin â thîm Un Pwynt Mynediad.
Beth yw’r effaith gadarnhaol ar ddinasyddion?
Mae’r maes hwn bellach yn canolbwyntio mwy ar wasanaeth i gwsmeriaid, ac yn sicrhau bod staff ar gael yn rhwyddach ar gyfer dinasyddion ac atgyfeirwyr, yn fewnol ac yn allanol. Mae cynnydd wedi bod mewn presenoldeb yn y swyddfa, i ddarparu mwy o gysylltiad wyneb yn wyneb.
Mae ymatebion ein harolwg boddhad cwsmeriaid eisoes yn rhoi mewnwelediad gwerthfawr i ni ynglŷn â sut mae’r swyddogaeth blaen tŷ ar gyfer oedolion yng Nghonwy yn cael ei gweld gan y bobl sy’n ei defnyddio:
Mae staff Un Pwynt Mynediad wedi bod yn barod iawn eu cymorth. Proffesiynol, cwrtais a meddylgar.
Roedden nhw’n gwrando ar yr hyn roeddwn i’n ei ddweud; roedden nhw’n siarad mewn modd clir, pendant a chyfeillgar.
Cefais siarad â rhywun yn syth bin, heb fynd rownd mewn cylchoedd ar wasanaeth awtomatig.
Yr ydym yn datblygu rhaglen dreigl ar gyfer adolygiadau prosesau yn y ddau faes, lle mae gwelliant parhaus yn cael ei groesawu gan bawb. Mae gan y ddau dîm gyfle, dan reolaeth newydd, i ddatblygu eu diwylliant lle ystyrir newid er mwyn gwneud gwelliannau mewn modd cadarnhaol.
Byddwn yn parhau i ganolbwyntio ar wella’r ffordd y cesglir data mewn ymgais i nodi ceisiadau wrth iddynt godi neu ddatblygu ar gyfer y cyfnod adrodd nesaf. Bydd datblygiadau yn y dyfodol yn canolbwyntio ar farchnata’r timau, i gynyddu cyrhaeddiad a chodi ymwybyddiaeth.
Tîm Derbyn Therapi Galwedigaethol a Theleofal
Mae ein Cynorthwywyr Therapi Galwedigaethol yn parhau i ddatblygu eu gwybodaeth a’u profiad ym maes ymyriadau Therapi Galwedigaethol a Theleofal. Maent yn hyderus wrth adolygu, asesu a chyfeirio unigolion ar gyfer cael offer Teleofal, gan gynnwys offer arbenigol, fel dyfeisiau GPS a Buddi. Mae ein staff Gweinyddol Teleofal newydd wedi treulio amser yn ymweld a gosod offer yng nghartrefi pobl, a rhoi gwybodaeth ymarferol iddynt o’r gwaith maent yn ei gefnogi.
Oedwyd darpariaeth synwyryddion epilepsi newydd tra ymgynghorir ag awdurdodau lleol ledled gogledd Cymru. Yr ydym yn parhau i gynnig y gwasanaeth hwn i gleientiaid presennol ac yn cyfeirio cleientiaid newydd at sefydliadau priodol, fel Epilepsi Cymru ac elusen The Daisy Garland, yn ogystal â nyrs epilepsi ac ymgynghorydd.
Mae’r gwaith ar fflat asesu anabledd yng Nghanolfan Marl yng Nghyffordd Llandudno bellach wedi ei gwblhau. Edrychwn ymlaen at ddefnyddio’r lle hwn ar gyfer hyfforddiant, a gynhelir gan Dîm Ymyrraeth Gynnar ac Atal. Canolbwyntir ar asesu offer Teleofal arbenigol a darparu cyngor ac arweiniad mewn perthynas â dyfeisiau digidol yn y cartref, gan gynnwys gweithio gyda chydweithwyr yn y Gwasanaeth Anableddau, yn y fflat asesu.
Mae’r gwaith o gyflwyno dyfeisiau Teleofal digidol yn parhau, ac mae cyfarfodydd rheolaidd gyda Rhwydwaith Gwybodaeth Dysgu am Deleofal yn sicrhau ein bod yn gwybod am y datblygiadau diweddaraf ar lefel genedlaethol.
Mae cael adborth rheolaidd gan ein cwsmeriaid drwy ein harolwg ‘Sut wnaethom ni’ yn sicrhau ein bod yn archwilio ac yn adolygu ein perfformiad yn barhaus.
Dyma flas o’r adborth gan bobl sydd wedi derbyn cefnogaeth gan Dîm Derbyn Therapi Galwedigaethol:
Roedd y Cynorthwyydd Therapi Galwedigaethol yn hyfryd, parod iawn ei chymorth.
Hyfryd, gofalgar a meddylgar; fe wrandawodd hi, ac roedd hi’n llawn gwybodaeth ac yn barod ei chymwynas.
Dywedodd ei merch na allai hi na’i mam ddiolch digon i chi. Roeddech chi’n dda iawn, ac maen nhw’n ddiolchgar am yr hyn rydych chi’n ei wneud ar ei chyfer.
Gwasanaeth rhagorol – diolch.
Ac adborth gan bobl sydd wedi derbyn cefnogaeth gan dîm Teleofal:
Mae Teleofal wedi ei galluogi hi i aros yn ei chartref ei hun, gyhyd ag oedd yn bosib.
Fe fyddwn i’n hoffi diolch i’r tîm i gyd – fe wnaethant osod ac egluro’r system yn drylwyr iawn, a sgwrsio gyda fy nhad hefyd, a oedd yn betrusgar a phryderus ynglŷn â chael yr offer o gwbl. Allai o ddim fod wedi bod yn hapusach. Dywedwch wrth bawb a oedd a wnelo â hyn ein bod yn ddiolchgar iawn.
Cynorthwywyr Therapi Galwedigaethol
Mae Tîm Derbyn Cynorthwywyr Therapi Galwedigaethol yn parhau i gymryd yr atgyfeiriadau Therapi Galwedigaethol sy’n symlach ac ar lefel is. Maent yn gweithio gan ganolbwyntio ar atal a chadw pobl yn ddiogel ac annibynnol gartref, gan roi cyngor a chyflenwi offer a mân addasiadau. Maent yn gweithio’n agos â’r unigolyn i fynd i’r afael â’i anghenion cyfredol a rhoi cyngor ar sut y gellid ei gefnogi yn y dyfodol. Gallai hyn fod drwy gefnogaeth teulu a ffrindiau, gan sefydliadau lleol, neu drwy ddychwelyd at Ofal Cymdeithasol am becyn mwy ffurfiol o gefnogaeth neu gyfranogiad hirdymor, fel y bo’n briodol.
Buom yn y Sioe Therapi Galwedigaethol yng Nghanolfan Arddangosfa Genedlaethol Birmingham yn 2024 i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i bobl am yr offer a’r addasiadau sydd ar gael. Maer holl Gynorthwywyr Therapi Galwedigaethol wedi cwblhau hyfforddiant codi a symud, yn ogystal â chwblhau’r cyfleoedd hyfforddiant perthnasol a gynigiwyd iddynt, fel hyfforddiant gofal cymdeithasol, a sgiliau arweinyddiaeth a rheoli.
Cyflwyno dyfeisiau digidol
Mae cydweithio â thîm y Gwasanaeth Cyfarpar Cymunedol wedi galluogi pobl sydd â llinell ffôn ddigidol i gael mynediad at yr unedau digidol, sy’n gweithio drwy SIM trawsrwydweithio; mae hyn yn ddefnyddiol i bobl nad oes ganddynt linell ffôn. Mae cysylltiad rheolaidd rhwng cydweithwyr yn y gwahanol adrannau yn sicrhau trafodaeth ynglŷn ag unrhyw ddatblygiadau, mae gennym bresenoldeb rheolaidd yn y Rhwydwaith Gwybodaeth Dysgu am Deleofal, a chysylltiad rheolaidd gydag arweinwyr Teleofal yng ngogledd Cymru.
Yr ydym hefyd yn adolygu offer craidd Teleofal i sicrhau bod y cynnig yn iawn i fodloni anghenion yr unigolyn a chyfyngiadau ein cyllideb.
Rheoli’r galw ar Gyllideb Mân Addasiadau
Mae cyllid fel arfer yn talu am y galw am naw mis. Drwy gydol y flwyddyn, anogir cleientiaid sy’n byw mewn llety dan berchnogaeth breifat neu lety a rentir i dalu am eu mân addasiadau eu hunain. Fodd bynnag, mae’r galw’n fwy na’r hyn y mae’r adnoddau’n ei ganiatáu. Yr ydym yn archwilio sut i ddarparu’r gwasanaeth i’r rheiny nad ydynt yn gallu talu am fân addasiadau fel canllawiau a grisiau, o fewn y gyllideb gyfyngedig sydd ar gael.
Datblygu ein cynnig Taliadau Uniongyrchol
Y llynedd dywedasom y byddem – yn unol â dymuniadau, disgwyliadau a deddfwriaeth sy’n newid – yn parhau i ddatblygu Taliadau Uniongyrchol er mwyn sicrhau ei bod yn ddarpariaeth gwasanaeth ddichonadwy ar gyfer cynifer o unigolion â phosibl. Yn ystod blwyddyn brysur, yr ydym wedi cyflwyno mwy o ddewisiadau ar gyfer pobl sy’n dymuno derbyn eu cefnogaeth drwy Daliadau Uniongyrchol, yn cynnwys:
Dewisiadau amgen i wasanaethau preswyl
Yr ydym wedi bod yn llwyddiannus wrth gyflwyno dewis amgen i leoliadau preswyl o fewn Gwasanaethau Pobl Hŷn, sy’n galluogi unigolion i dderbyn cyllid sydd gyfwerth â’r hyn fyddai wedi ei ddyrannu ar gyfer lleoliad preswyl. O ganlyniad, gall unigolion aros gartref os mai dyna yw eu dymuniad.
Y bwriad gwreiddiol oedd gweithredu hyn fel cynllun peilot am ddeuddeng mis, ond yr oedd cymaint o awydd am y cynllun felly daethpwyd â’r cynllun peilot i ben ar ôl chwe mis a gwnaed cynnig agored ar ôl hynny. O fewn naw mis cyntaf blwyddyn adrodd 2024/2025, ymunodd 27 o deuluoedd â’r cynllun drwy’r dewis hwn, ac mae pum teulu arall yn mynd drwy’r broses. Dewisodd un unigolyn ymadael â’i leoliad preswyl i ddychwelyd i’w gymuned leol dan y cynllun, ac, yn dilyn adborth cadarnhaol gan y teuluoedd cysylltiedig, y bwriad yn y blynyddoedd i ddod yw cyflwyno’r dewis hwn i’r Gwasanaethau Anableddau.
Taliadau Anuniongyrchol
Mae’r dewis hwn yn galluogi unigolion i drefnu eu cefnogaeth gan y sector preifat, e.e. gan ficro-asiantaethau a gofalwyr, gyda chyllid cysylltiedig wedi ei reoli gan Gonwy ar eu rhan. Ar hyn o bryd mae 38 o bobl wedi dewis hyn ac mae wyth arall yn mynd drwy’r broses.
Taliadau Gohiriedig
Dyma’r dewis mwyaf newydd a gyflwynwyd i’r cynllun yn y deuddeng mis diwethaf. Cynigiwyd Taliadau Gohiriedig yn hanesyddol i unigolion sy’n berchen ar eu cartrefi eu hunain, ac, oherwydd eu bod yn mynd i symud i leoliad preswyl, yr oeddent yn gallu defnyddio gwerth eu heiddo i dalu’r ffioedd drwy Gytundeb Taliadau Gohiriedig gyda Chonwy. Mae hyn yn galluogi’r unigolyn i gadw ei gartref am fwy o amser os nad yw eisiau ei werthu ar unwaith, neu os yw hynny’n anodd.
Mae’r bobl hynny a gefnogir drwy’r Dewis Amgen i Wasanaethau Preswyl a ddisgrifir uchod bellach yn gallu cael mynediad at Daliadau Gohiriedig fel y bo’n briodol yn y gymuned.
Defnyddio micro-ddarparwyr a gofalwyr
Nid yw Taliadau Uniongyrchol yn cyfyngu unigolion i dderbyn eu cefnogaeth gan ddarparwyr gofal cartref neu staff a gyflogir yn uniongyrchol; gallant ddewis defnyddio micro-asiantaethau neu ofalwyr (hunangyflogedig), ac mae hynny’n ehangu’r farchnad sydd ar gael iddynt. Nid yw’r darparwyr hyn yn cael eu rheoleiddio, felly mae tîm Taliadau Uniongyrchol yn cynnal gwiriadau diogelu ychwanegol arnynt i amddiffyn y bobl hynny sy’n derbyn Taliadau Uniongyrchol. Mae hon yn farchnad newydd sy’n tyfu, a chafwyd adborth cadarnhaol gan y rheiny sydd wedi dewis cael eu cefnogaeth yn y ffordd hon. Mae tîm Taliadau Uniongyrchol yn cymryd rhan weithredol yng ngweithgor Llywodraeth Cymru i ystyried datblygu a rheoli’r maes hwn.
Codi proffil
Mae tîm Taliadau Uniongyrchol wedi parhau gyda gweithgarwch ymgysylltu â’r cyhoedd er mwyn codi proffil y cynllun ar gyfer derbynyddion posibl ac i hyrwyddo cyfleoedd am gyflogaeth. Yn ogystal â hyn, yr ydym wedi gwneud cyflwyniadau i Aelodau Etholedig, yn arwain at wahoddiadau i ni ddarparu sgyrsiau o fewn eu hetholaethau.
Cynyddu ymweliadau â’r cartref
Yr ydym wedi cynyddu nifer y cyfarfodydd wyneb yn wyneb gyda rhai sy’n derbyn Taliadau Uniongyrchol – ymweliadau â’r cartref a lleoliadau eraill, drwy gytundeb. Peidiodd yr ymweliadau yn ystod pandemig Covid-19, ac mae adborth gan deuluoedd yn dweud wrthym eu bod eisiau i’r cysylltiad wyneb yn wyneb â thîm Taliadau Uniongyrchol ddychwelyd, yn arbennig pan fônt yn delio â materion mwy cymhleth neu gynhennus. Mae nifer yr ymweliadau wedi cynyddu 19% yn y deuddeng mis diwethaf, ac maent yn parhau i gynyddu.
Defnyddio Ymddiriedolaethau Defnyddiwr Annibynnol a Thaliadau Uniongyrchol gan y Bwrdd Iechyd Lleol
Mae tîm Taliadau Uniongyrchol wedi parhau i weithio’n agos â’r Bwrdd Iechyd Lleol pan fo unigolion sy’n derbyn Taliadau Uniongyrchol yn trosglwyddo i wasanaethau iechyd ac yn dymuno parhau gyda’r un model. Mae hyn yn unol ag Adran 5 Fframwaith Gofal Iechyd Parhaus Llywodraeth Cymru.
Mae’r model hwn yn cefnogi pob parti i gael cyfnod pontio mwy didrafferth i bobl sydd efallai’n wrthwynebol i gael asesiad gan y Bwrdd Iechyd Lleol o ganlyniad i gael gwared â dewis a rheolaeth ynglŷn â sut a chan bwy y mae eu gofal yn cael ei ddarparu. Mae’n werth cofio bod yr unigolion hyn, mewn llawer o achosion, wedi bod yn gyflogwyr yn eu rhinwedd eu hunain. Mae saith unigolyn wedi mynd drwy’r broses hon, gyda chefnogaeth ac arweiniad yn parhau i gael eu darparu gan Gonwy, a chyllid ar gyfer cymorth ac argostau wedi eu diwallu gan y Bwrdd Iechyd Lleol.
Sut y byddwn yn gwella’r gwasanaeth
- Hoffem gynyddu rhwyddineb mynediad at Daliadau Uniongyrchol drwy gyflwyno dewis hunanatgyfeiriad electronig i bobl sydd eisoes yn hysbys i’r adran, sy’n derbyn cefnogaeth gymwys, ac sy’n dymuno derbyn Taliadau Uniongyrchol.
- Mae’n rhaid i ni weithio’n agosach â’r Bwrdd Iechyd Lleol ynglŷn â’r defnydd o Ymddiriedolaethau Defnyddiwr Annibynnol a Thaliadau Uniongyrchol i sicrhau cysondeb yn y wybodaeth a ddarperir i unigolion a staff yr adran gan gydweithwyr Iechyd.
- Byddai creu a chyhoeddi cofrestr o feicro-asiantaethau a gofalwyr yn ategu’r broses diwydrwydd dyladwy, ond mae adroddiad canfyddiadau cychwynnol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn parhau’n ochelgar ynglŷn ag unrhyw argymhellion.
- Byddwn yn parhau i gymryd rhan yng ngweithgor cenedlaethol Llywodraeth Cymru i sicrhau’r canlyniadau gorau i unigolion. Mae’n rhaid i ni gynyddu’r ymgysylltiad â’r gymuned yn y maes hwn i greu cofrestr o ddarparwyr (a’u capasiti) y mae eu gwiriadau diogelu wedi eu cwblhau.
Data allweddol
Ar 31 Mawrth 2024, yr oedd nifer yr oedolion â chynllun gofal a chymorth lle diwallwyd anghenion drwy daliad uniongyrchol yn dal yn debyg i’r ddwy flynedd flaenorol, gyda 215 yn 2023-24, o gymharu â 212 yn 2022-23.*

*Data o Ddatganiad Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol, ar gyfer data 2023/2024, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025.
Tîm Ailalluogi Conwy
Mae ein Tîm Ailalluogi’n hwyluso ac yn cefnogi unigolion i gael eu rhyddhau o’r ysbyty mewn modd amserol, a gweithio i osgoi derbyniadau i’r ysbyty drwy ddarparu cefnogaeth i bobl yn eu cartrefi eu hunain i adennill sgiliau yn dilyn salwch, cwymp, neu ddirywiad yn eu lles.
Mae’r swyddogaeth ailalluogi’n gweithredu fel rhan o’r timau amlddisgyblaethol mewn pum Tîm Adnoddau Cymunedol ledled y sir. Maent yn gweithio ochr yn ochr â Therapyddion Galwedigaethol, Ffisiotherapyddion, Fferyllwyr, Gweithwyr Cymdeithasol, Nyrsys Ardal, Meddygon Teulu, Nyrsys Seiciatrig ac eraill, gan gynnig dull di-dor a chyfannol o weithredu wrth ddarparu cefnogaeth yn y gymuned.
Hwylusir rhyddhadau o’r ysbyty yn effeithlon, gyda’r Tîm Ailalluogi a Therapyddion Galwedigaethol yr Ysbyty’n cydweithio, heb gyfranogiad Gweithiwr Cymdeithasol. Cynhelir asesiadau yng nghartref yr unigolyn, gan roi’r cyfle gorau iddynt adennill eu hiechyd a’u sgiliau. Hyfforddir Swyddogion a Gweithwyr Cefnogi Ailalluogi i ddarparu cyngor a chefnogi unigolion i fyw’n annibynnol; gall hyn amrywio o drefnu offer a chymhorthion bychain i gynorthwyo gyda thasgau yn y cartref, i nodiadau atgoffa am feddyginiaeth ac apwyntiadau, a chyfeirio at asiantaethau eraill a all ddarparu cefnogaeth. Yn ogystal, gall Swyddogion Ailalluogi gynorthwyo unigolion i gynyddu eu hincwm i’r eithaf drwy gynnal gwiriad budd-daliadau a gwneud atgyfeiriad at ein tîm Hawliau Lles; gall hyn alluogi pobl sydd ag anghenion cefnogaeth isel i fod yn greadigol a chanfod eu cefnogaeth gofal eu hunain.
Pa mor effeithiol yw’r tîm?
O’r 289 o bobl a gwblhaodd gyfnod o ailalluogi gyda ni rhwng mis Ebrill a mis Medi 2024:
- Yr oedd angen mwy o gefnogaeth ar 18 o bobl ar ôl i’r cyfnod ailalluogi orffen
- Arhosodd anghenion 82 o bobl yr un fath
- Yr oedd angen cefnogaeth o hyd ar 33 o bobl, ond am lai o oriau
- Nid oedd angen unrhyw ofal wedi ei gomisiynu mwyach ar 156 o bobl
Felly, ar ôl cyfnod o ailalluogi, yr oedd angen llai o ofal wedi ei gomisiynu, neu ddim o gwbl, ar 65% o’r bobl yr oeddem yn eu cefnogi, gan eu bod yn gallu gwneud mwy drostynt eu hunain. Lle’r oedd anghenion pobl wedi cynyddu, gallai hyn fod oherwydd dirywiad yn eu symudedd, rhesymau diogelwch, neu oherwydd amgylchiadau personol.
Dros yr un cyfnod, yr oedd 117 o bobl na chwblhaodd gyfnod llawn o ailalluogi gyda ni. O’r rheiny, derbyniwyd 55 (47%) i ysbyty neu hosbis, aeth 33 (28%) i gartref preswyl neu gartref gofal, a bu farw’r gweddill neu fe benderfynasant nad oeddent eisiau parhau â’r gefnogaeth a gynigid.
Gyda mwy o bobl yn defnyddio’r gwasanaeth eleni, mae’r adborth wedi bod yn gadarnhaol:
Mae’r holl staff yn hynod o gefnogol a chyfeillgar
Ymagwedd tîm cydlynol
Heb gefnogaeth a charedigrwydd y tîm, fyddwn i ddim wedi gwella mor gyflym
Heb eich help, fyddwn i ddim mor dda ag ydw i rŵan
Ardderchog – ymgorfforiad o broffesiynoldeb a gofalgar
Meysydd lle mae angen gwella arnom
- Mae’n rhaid i unigolion deimlo eu bod yn cael eu clywed a’u sicrhau bod rhywun yn gwrando arnynt yn ystod y broses ailalluogi, felly mae’n rhaid i ni sicrhau eu bod wedi cynllunio a thrafod eu canlyniadau personol yn rhan o gynllun parhaus.
- Mae’n rhaid i ni sicrhau bod unigolion sy’n derbyn gwasanaethau yn gwybod manylion cyswllt ein gwasanaeth y tu allan i oriau.
- Mae angen mynediad at hyfforddiant ar ailalluogi a dementia ar staff.
- Mae’n rhaid i ni barhau i gryfhau perthnasoedd a chydweithio o fewn Tîm Adnoddau Cymunedol fel bod unigolion yn cael budd o’r gefnogaeth honno.
Ein cynllun gweithredu i gyflawni’r gwelliannau hyn
- Bydd ein Cydlynwyr yn cynllunio ymweliadau at unigolion i wneud cynlluniau personol a chytuno ar ganlyniadau personol cyn gynted ag sy’n bosibl yn rhesymol.
- Byddwn yn adolygu’r wybodaeth a roddir i unigolion sy’n derbyn gwasanaethau i sicrhau bod manylion cyswllt ar gyfer y gwasanaeth y tu allan i oriau, ac unrhyw gysylltiadau pwysig eraill, wrth law ganddynt.
- Byddwn yn gweithio gyda Thîm Dysgu a Datblygu’r Gweithlu i ddarparu hyfforddiant ar ailalluogi a dementia ar gyfer staff.
- Byddwn yn cryfhau ein perthnasoedd â chydweithwyr yn Nhîm Adnoddau Cymunedol a sicrhau bod ein dull integredig o weithio o fudd i’r unigolion a gefnogwn.
Data allweddol
O’r 748 o becynnau ailalluogi, cafwyd lleihad yn yr angen am gefnogaeth mewn 75 o achosion, parhaodd yr angen am yr un lefel o gefnogaeth mewn 164 o achosion, bu 311 o’r pecynnau ailalluogi yn gyfrifol am liniaru’r angen am gefnogaeth, ac ni wnaeth 198 ohonynt leihau, cynnal na lliniaru’r angen am gefnogaeth.*

*Data o Ddatganiad Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol, ar gyfer data 2023/2024, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025.