Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Cyflwyniad

Ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol mae’n ofynnol i Gyfarwyddwr Strategol y Gwasanaethau Cymdeithasol gyhoeddi adroddiad yn amlinellu taith yr Awdurdod Lleol tuag at welliant wrth ddarparu gwasanaethau i drigolion Conwy, i bobl sy’n ceisio gwybodaeth, cyngor a chymorth ac i’r unigolion a’r gofalwyr hynny sy’n derbyn gofal a chymorth. Mae’r adroddiad yn defnyddio gwybodaeth o amrywiaeth o wahanol ffynonellau i ddangos a thystio sut ydym yn hybu lles ac yn sicrhau ein bod bodloni safonau ansawdd. Mae’r adroddiad yn rhan o Fframwaith Perfformiad a Gwella Llywodraeth Cymru ac mae’n rhan annatod o’n gwaith o gynllunio gwasanaethau cymdeithasol, craffu ar yr hyn yr ydym yn ei wneud a’r camau yr ydym yn eu cymryd i wella perfformiad. Mae’r adroddiad hefyd yn galluogi Llywodraeth Cymru i goladu a deall data a thystiolaeth ar ddarpariaeth gofal a chymorth ledled Cymru.

Erbyn hyn mae mwy o bwyslais ar hunanasesu perfformiad, sy’n cynnwys yr hyn y gwnaethom ei gyflawni ac a wnaethom yn dda, a pha welliannau sy’n angenrheidiol, gyda hynny’n seiliedig ar yr adborth a gafwyd gan ddefnyddwyr gwasanaeth, y cyhoedd a phartneriaid. Byddwn yn dweud wrthych am y camau gweithredu sydd wedi’u cynllunio ac sydd eisoes wedi’u cyflawni i sicrhau gwelliannau, a’r cynnydd a wnaed yn ôl y blaenoriaethau gwella a ddynodwyd y flwyddyn flaenorol.

Sylfeini’r Fframwaith Perfformiad a Gwella newydd yw’r wyth safon ansawdd sy’n cynrychioli lles pobl o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Gellir eu rhannu dan bedwar pennawd, a welir wedi eu nodi yn yr adroddiad hwn:

  • Pobl
  • Atal
  • Partneriaethau ac integreiddio
  • Lles

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@conwy.gov.uk

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2026 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English