Mae gofyn i’r bobl rydym yn eu helpu am yr hyn sy’n bwysig iddynt hwy yn rhan allweddol o ddatblygu ein gwasanaethau, ac mae’r adborth y byddwn yn ei gael yn ein galluogi i weld lle mae angen gwneud gwelliannau i’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.
Drwy gydol yr adroddiad hwn, fe welwch chi ystadegau ac adborth a gafwyd drwy ein hymarferion ymgynghori, yn enwedig yr arolwg dinasyddion blynyddol a gynhaliwyd yn ystod hydref 2019. Bydd adborth o’r arolwg hwn a gwerthusiadau eraill yn cael ei gynnwys drwy gydol yr adroddiad dan y safon ansawdd berthnasol, er mwyn dangos pa mor effeithiol ydym ni wrth ddarparu gofal a chymorth yng Nghonwy, o safbwynt yr unigolion sy’n eu derbyn. Fel bob amser, byddwn yn mynd ati i wella pethau pan dderbynnir ymateb negyddol, neu pan mae pobl yn awgrymu newidiadau.
Pwy sy’n cymryd rhan yn yr arolwg dinasyddion?
Yn 2019 fe anfonom gyfanswm o 2,000 o holiaduron at yr holl Ofalwyr, plant a phobl ifanc a detholiad o oedolion oedd yn derbyn gofal a chymorth gennym. Anfonwyd copïau o’r holiadur mewn arddull hawdd ei ddarllen at rai pobl oedd eu hangen, ac felly rydym yn ymdrin yn wahanol â’r ymatebion i’r rheiny.
Faint o bobl a ymatebodd i’r arolwg?
Ein cyfradd ymateb gyffredinol oedd 34%, wedi’i ddadansoddi fel a ganlyn:
Pwy gafodd holiadur? | Anfonwyd | Dychwelyd | % ymateb |
Oedolion | 1427 | 515 | 36% |
Gofalwyr | 206 | 104 | 50% |
Plant a Phobl Ifanc (dan 25 oed) | 367 | 53 | 14% |
Gwybodaeth ystadegol arall
O dan y Cod Ymarfer ar gyfer Mesur Perfformiad Gofal Cymdeithasol, mae’n rhaid i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gasglu data ar ffurf Dangosyddion Perfformiad. Byddwn yn cynnwys y rhain yn yr adroddiad er mwyn dangos yn ystadegol pa mor llwyddiannus ydym ni wrth ddarparu gofal a chymorth yng Nghonwy. Mae Llywodraeth Cymru’n monitro’r dangosyddion perfformiad hyn yn flynyddol.
Gwaith ymgynghori, ymgysylltu a chymryd rhan
Canolfannau Teuluoedd Conwy
Yn 2019, cynhaliwyd ymarfer ymgynghori i ganfod barn teuluoedd am waith Canolfannau Teuluoedd Conwy. Anfonwyd arolwg i 1,300 o deuluoedd oedd yn derbyn gwasanaethau gan y Tîm o Amgylch y Teulu a Dechrau’n Deg. Roedd ar gael ar lein i alluogi teuluoedd i ymateb yn ddigidol.
Roedd yr argymhellion a gafwyd o’r arolwg yn cynnwys:
- Gwneud yn siŵr bod teuluoedd yn cael enw a manylion cyswllt eu gweithiwr allweddol
- Cynnal gweithgareddau’r Canolfannau Teuluoedd dros y gwyliau ysgol
- Cyflwyno pecyn croeso
- Parhau ac ymestyn y cyrsiau sydd ar gael
- Gwell gwasanaethau ar gyfer lleoliadau gwledig
- Mwy o gymorth i dadau
Oherwydd y cafwyd cyfoeth o wybodaeth gan Ganolfan Deuluoedd Llanrwst, awgrymwyd ein bod yn dychwelyd at y gwaith ymgynghori ar ôl sefydlu’r canolfannau newydd yng ngogledd y sir.
Cyfleusterau chwarae yn Sir Conwy
Bu i’n Tîm Cyfranogi gydweithio â’r Tîm Grant Cyllido Hyblyg a’r Gwasanaeth Comisiynu i ganfod barn rhieni a phlant am y cyfleusterau chwarae presennol. Bu i ni ymgysylltu â gwasanaethau ieuenctid lleol a dwy o’n Canolfannau Teuluoedd (dwyrain a gorllewin). Gofynnwyd hefyd i lyfrgelloedd ac ysgolion lleol gymryd rhan drwy ddefnyddio ffurflen ar-lein.
Dywedodd rhieni wrthym:
- Yr hoffent i ddyddiau chwarae gael eu trefnu yn eu hardaloedd lleol
- Y dylid hysbysebu gweithgareddau chwarae yn ehangach
- Y dylai rhai gweithgareddau gael eu cynnal yn ystod yr wythnos
Dywedodd pobl ifanc wrthym:
- Yr hoffent weld mwy o weithgareddau’n cael eu trefnu drwy glybiau ieuenctid
- Yr hoffent fwy o wersylloedd pêl-droed, beicio, ioga, gymnasteg a bocsio
Ymgynghori gyda phobl mewn lleoliadau gofal preswyl
Yn 2019, treuliodd y Gweithiwr Cyfranogiad Oedolion amser yn ymweld â dau gartref gofal yng Nghonwy, yn sgwrsio â’r trigolion am yr hyn roeddent yn ei hoffi fwyaf am eu cartref, a pha newidiadau yr hoffent eu gweld. Cododd y trigolion faterion fel y diffyg cysgod rhag yr haul i gael eistedd allan yn yr ardd, lliw y platiau a ddefnyddir i weini eu bwyd a’r angen am fwydlenni mwy gweledol i helpu pobl sy’n byw gyda dementia.
Rhoddwyd yr adborth i reolwyr y cartrefi a’i drafod â’n Gwasanaeth Monitro er gwybodaeth at y dyfodol.
Arolygiadau Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
Gofal Cartref
Yn 2019, bu i’r Arolygiaeth Safonau Gofal adolygu dau faes gwasanaeth: Gwasanaethau Cartref i Oedolion a Gwasanaethau i Blant ag Anableddau Conwy. Adroddodd yr Arolygiad Gofal Cartref bod yr AGC wedi cael adborth cadarnhaol gan bobl a’u perthnasau, oedd yn fodlon ar y cyfan gyda’r gwasanaeth a’r cymorth a ddarparwyd. Dywedodd yr adroddiad hefyd bod ein staff yn cydweithio’n dda ac wedi ymrwymo i ddarparu cymorth o ansawdd da. Wrth symud ymlaen, ein nod yw gwella ein systemau cadw cofnodion ymhellach er mwyn nodi cynnydd unigolion, a gweithio i ddarparu gofal a chymorth ar amseroedd o’u dewis hwy pan fydd hynny’n bosib.
Plant ag Anableddau
Roedd yr arolygiad hwn yn rhan o Adolygiad Cenedlaethol o Wasanaethau i Blant ag Anableddau yng Nghymru yn 2019-20. Dywed yr adroddiad wrthym fod gan yr awdurdod lleol weledigaeth ac uchelgais glir ar gyfer plant anabl. Mae teuluoedd wedi dweud y gallant feithrin perthnasoedd ystyrlon gydag ymarferwyr y Gwasanaeth Anableddau, ac ymddiried ynddynt, a bod y plant yn cael ymateb prydlon i geisiadau am gyfarpar ac addasiadau.
Wrth symud ymlaen, mae cael digon o adnoddau’n parhau’n her ac mae pobl wedi dweud wrthym eu bod angen mwy o wasanaethau fel gofal seibiant. Mae angen i ni hefyd barhau i sicrhau ein bod yn cynnwys llais plant anabl a’r canlyniadau yr hoffent eu gweld o fewn ein prosesau asesu.
Adolygiadau Sicrhau Ansawdd
Mae adolygiadau sicrhau ansawdd yn ffordd o amlygu tystiolaeth o arferion da. Gallant hefyd fod o fudd er mwyn canfod angen nas diwallwyd neu amrywiad annerbyniol mewn gofal, ac ysgogi gwelliant yn ôl yr angen.
Yn 2019, roedd y meysydd i’w hadolygu yn cynnwys:
- Atgyfeiriadau Diogelu Oedolion
- Prosesau’r Asesiadau Integredig ar gyfer Oedolion
- Cynlluniau Gofal a Chymorth
Roedd yr adolygiadau a gynhaliwyd o’r Gwasanaeth Oedolion yn dangos bod tystiolaeth dda o gyd-gynhyrchu a chysylltiad â’r unigolyn o fewn y broses asesu. Mewn dros ddau draean o’r achosion, roedd cyswllt gan asiantaethau eraill ac/neu wasanaethau ataliol. Mae defnyddio gwasanaethau eirioli yn faes yr hoffem weld gwelliant ynddo. Er fod ein hadolygiadau’n dangos tystiolaeth bod unigolion yn elwa ar gymorth drwy eiriolaeth anffurfiol, hoffem weld mwy o bobl yn derbyn y cynnig i gael eu hatgyfeirio at y Gwasanaethau Eirioli, a bydd hyn yn cael ei hyrwyddo wrth symud ymlaen yn 2020.
Roedd yr adolygiadau sicrhau ansawdd o fewn y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd a gynhaliwyd yn 2019 yn cynnwys:
- Y Broses Asesu Gychwynnol
- Asesiadau Cymhleth/Cynhwysfawr
- Gwasanaethau Maethu
- Gwasanaethau Cyfiawnder Ieuenctid
Adolygiadau Sicrhau Ansawdd ar gyfer Gwasanaethau Plant a Theuluoedd 2019
Cynhaliwyd adolygiad sicrhau ansawdd ar gyfer cynlluniau gofal Plant sy’n Derbyn Gofal er mwyn adolygu’r Asesiad Cymhleth, adolygu’r drefn gynllunio canlyniadau personol a chynnwys llais y plentyn o fewn y prosesau. Dangosodd yr adolygiad brosesau gweithio amlasiantaeth da er mwyn diogelu plant, a bod mwyafrif yr asesiadau’n cynnwys gwybodaeth fanwl. Argymhellodd yr adolygiad y dylid canolbwyntio ymhellach ar gynnwys llais y plentyn a chanlyniadau’r rhiant wrth gynllunio gofal yn y dyfodol.
Cynhaliwyd adolygiad sicrhau ansawdd pellach o broses yr Asesiadau Cymhleth/Cynhwysfawr ar draws timau gwaith maes allweddol yn nes ymlaen yn 2019, gan gynnwys y Tîm Anableddau dan 25 oed, y Tîm Asesu a Chymorth, y Tîm Diogelu a Chyfreithiol a’r Tîm Sefydlogrwydd a Llwybrau. Argymhellodd yr adolygiad hwn y dylid hyrwyddo ymhellach y dull Sgyrsiau Cydweithredol, a chynnwys llais y plentyn wrth ddarparu tystiolaeth o ganlyniadau lles plant a’u teuluoedd. Mae rhagor o adolygiadau sicrhau ansawdd ar y gweill ar gyfer 2020.
Cwynion a chanmoliaeth am ein gwasanaethau
Credwn yn gryf bod delio’n effeithiol â chwynion yn rhan hollbwysig o’n cyfrifoldebau o fewn yr Adran Gofal Cymdeithasol, ac yn elfen hanfodol o sicrhau bod ein dinasyddion yn derbyn y gwasanaethau y mae ganddynt hawl iddynt. Mae ein gweithdrefn gwyno yn seiliedig ar ddwy egwyddor:
- Mae hawl gan bawb sy’n gwneud cwyn am y Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru i gael eu clywed. Rhaid gwrando ar eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau; a dylai eu pryderon gael eu datrys yn gyflym ac yn effeithiol.
- Gall cwynion dynnu sylw at y newidiadau sydd eu hangen yn y gwasanaethau. Mae’n bwysig bod yr awdurdodau lleol yn dysgu o gwynion, er mwyn canfod sut y dylid newid a gwella’r gwasanaethau.
Mae cwynion yn ein galluogi i gydnabod camgymeriadau, eu cywiro ac ymddiheuro pan fo hynny’n briodol. Gallwn hefyd ddysgu gwersi ohonynt a mynd ati i wneud gwelliannau i’r gwasanaethau rydym yn eu darparu.
O ganlyniad i’r modd y byddwn yn rhoi gwybod am gwynion, mae’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn ymwneud â’r flwyddyn 2018-19. Yn ystod y flwyddyn, cafwyd a deliwyd â 25 o gwynion ffurfiol, sydd bedwar yn llai na’r flwyddyn adrodd flaenorol ac yn sylweddol is na thair blynedd yn unig yn ôl. Gellir gweld y duedd dros amser yn y graff isod.
O’r 24 o gwynion a gafwyd ar lefel Cam 1, un yn unig oedd angen ei uwchgyfeirio i Gam 2 (lle mae angen defnyddio ymchwilydd annibynnol). Datryswyd y gweddill ar lefel leol (Cam 1), sy’n dangos yr ymdrech a roddwyd i’r ymatebion. Mae yna hefyd fantais ariannol i beidio a bod angen cyflogi ymchwilwyr annibynnol; gostyngodd y gwariant o £17,966 yn 2017-18 i ddim ond £3,540 yn 2018-19 oherwydd y gostyngiad mewn cwynion Cam 2. Yn 2018-19 bu i ni sicrhau bod 96% o’r unigolion oedd yn cwyno yn cael cydnabyddiaeth o fewn dau ddiwrnod gwaith, a bod dros hanner y cwynion Cam 1 yn cael eu datrys o fewn 15 diwrnod gwaith.
Ystyrir canmoliaeth yn wybodaeth bwysig y gellir ei defnyddio i ganfod meysydd lle mae gennym arferion da. Caiff unrhyw ganmoliaeth ei chofnodi a rhoddir gwybod i’r rheolwyr amdani er mwyn iddynt gael rhannu adborth cadarnhaol gyda’u timau. Yn ystod 2018-19, cafodd yr Adran Gofal Cymdeithasol 216 o ganmoliaethau, sef cynnydd o 36 dros y flwyddyn flaenorol, sy’n dangos fod nifer y canmoliaethau’n fwy o lawer na nifer y cwynion a gafwyd. Y Gwasanaeth Gwaith Cymdeithasol Ysbytai a Phobl Hŷn sy’n cael y gyfran fwyaf o ganmoliaethau (53% o’r cyfanswm).
Yn yr amser byr rydw i wedi dy ‘nabod di, fe ddois di i mewn i fy mywyd i fel llygedyn o heulwen i oleuo fy niwrnod.
Pecyn Cymorth Hawliau Plant Conwy
Bu i ni gyflwyno’r Pecyn Cymorth Hawliau Plant am y tro cyntaf yn 2014 a chafodd ei hyrwyddo ar ein gwefan, gan egluro perthnasedd hawliau plant a phwysigrwydd meithrin cyswllt â phlant a phobl ifanc ym mhob agwedd ar ein gwaith.
Yn 2019, bu i ni benderfynu adolygu’r pecyn cymorth i’w wneud yn haws cael gafael arno a’i ddefnyddio ac, mewn ymateb i’r hyn a ddywedodd plant a phobl ifanc wrthym, ei gynnig ar lein am y tro cyntaf.
Beth oedd yr heriau?
Roedd angen i ni greu pecyn cymorth oedd yn apelio at blant ac oedolion fel ei gilydd. Bu i ni ymgynghori â staff, aelodau Cyngor yr Ifanc Conwy a’n hasiantaethau partner er mwyn casglu eu barn yn ystod y broses adolygu. Cawsom gymorth gan gwmni dylunio gwefannau lleol i wneud yn siŵr bod y pecyn cymorth yn ddeniadol, yn hawdd ei ddefnyddio ac yn rhoi’r wybodaeth gywir i amrywiaeth o bobl.
Rydym yn falch iawn gyda’r canlyniad a byddwn yn lansio ein pecyn cymorth ar ei newydd wedd yn gynnar yn 2020, yn ogystal ag yn gwerthuso ei ddefnyddioldeb gyda gwasanaethau eraill y Cyngor.
Monitro ansawdd ein gwasanaethau ail-alluogi
Mae gwasanaeth ail-alluogi Conwy yn cynnig cymorth tymor byr dwys ac wedi’i dargedu i unigolion dros 65 oed sydd, oherwydd salwch neu gyfnod yn yr ysbyty, angen cymorth i adennill eu hannibyniaeth a’u hyder. Gallai hyn fod ar ffurf cymorth i baratoi prydau bwyd, darparu gofal personol neu gymorth i fynd i’r gwely neu godi ohono. Byddwn yn cysylltu â phob unigolyn yn dilyn eu cyfnod o gymorth i gael adborth am eu profiad, o adeg eu hatgyfeirio i gyflawni eu canlyniadau personol. Mae hyn yn ein galluogi i fonitro ein perfformiad yn barhaus a sicrhau bod pawb sy’n defnyddio’r gwasanaeth yn cael llais yn eu gofal a’u cymorth eu hunain a, drwy adborth, i wella taith ailalluogi unigolion eraill.
Mae’r ymatebion i’n holiadur drwy gydol 2019-20 yn dangos cyfradd fodlonrwydd uchel, gyda’r gwasanaeth yn rhagori ar y disgwyliadau mewn sawl achos. Bu i dros 300 o unigolion a dderbyniodd ein gwasanaeth ailalluogi yn ystod 2019-20 ymateb i’n ffurflen adborth. Dyma rai enghreifftiau o’r cyfraddau ymateb a gafwyd:
Nododd 96% o’r ymatebwyr eu bod wedi’u cynnwys yn llawn yn y broses o gynllunio a chytuno ar eu cymorth, ynghyd ag aelodau teulu, ffrindiau, staff cymorth a gweithwyr proffesiynol eraill. |
Teimlai 98% y bodlonwyd eu disgwyliadau o’r gwasanaeth ail-alluogi. |
Dywedodd 94% ein bod wedi cytuno ar eu canlyniadau personol gyda nhw ar gychwyn y gwasanaeth. |
Teimlai 91% eu bod wedi cyflawni’r canlyniadau a bennwyd erbyn diwedd y cyfnod cymorth. |
Teimlai 99% o’r bobl a gafodd gymorth ailalluogi ei fod wedi cael ei ddarparu’n hyblyg. |
Teimlai 94% o’r bobl fod y cymorth a gawsant yn gyson. |
Teimlai 98% fod y cymorth a gawsant wedi’u galluogi i wneud cymaint ag y gallant drostynt eu hunain. |
Roedd 100% yn cytuno fod ein staff yn ddymunol, yn garedig ac yn gwrtais. |
Ro’n i’n edrych ymlaen at weld yr holl ofalwyr – allen nhw ddim fod wedi gwneud mwy i fy helpu i wella yn fy nghartref fy hun.
Roedden ni’n cael digon o amser a chymorth
Fe wnaethoch chi fy helpu i pan o’n i angen cymorth fwyaf.
Byddwn yn parhau i fonitro perfformiad y tîm ailalluogi bob chwarter er mwyn sicrhau y cynhelir ein safonau uchel.