Er mwyn i unrhyw wasanaeth fod yn effeithiol, mae’n rhaid iddo ddeall beth mae pobl eu hangen. Y tu hwnt i hynny, mae’n hanfodol deall beth allwn ni ei wneud i wneud y gwahaniaeth mwyaf i bobl. Beth mae pobl yn ei ystyried yn ychwanegu gwerth i’w profiad, a beth nad ydynt yn ei ystyried yn bwysig? Os allwn ni ddeall y pethau hyn, gallwn siapio gwasanaethau i sicrhau bod pob gwelliant a wnawn yn un a fydd yn cael ei werthfawrogi. Er mwyn cael y safbwyntiau yma, rydym angen ffyrdd gwych o wrando ar ein defnyddwyr gwasanaeth.
Strategaeth Cyfranogiad Defnyddiwr Gwasanaeth
Mae Gwasanaethau Anableddau Dysgu Conwy bob amser wedi ceisio canfod barn defnyddwyr gwasanaeth i ddylanwadu ar ein prosesau comisiynu. Rydym wedi defnyddio dulliau gwahanol i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth gan gynnwys holiaduron, aelodaeth defnyddwyr gwasanaeth a gofalwyr o grŵp Rheoli a Pholisi Anableddau Dysgu, cysylltiadau â grŵp defnyddwyr gwasanaeth Conwy ‘Fforwm Connect’ (mae cynrychiolwyr yn eistedd ar grŵp Rheoli a Pholisi Anableddau Dysgu) ac rydym wedi comisiynu sefydliadau eiriolaeth a Conwy Connect ar gyfer Anableddau Dysgu er mwyn hyrwyddo sesiynau rheolaidd gyda defnyddwyr gwasanaeth.
Yn 2012 fe wnaethom gwblhau prosiect ymgynghori helaeth i gasglu barn pobl sydd ag anableddau dysgu er mwyn dylanwadu ar ein penderfyniadau comisiynu. Teitl yr adroddiad oedd – Siapio’r Dyfodol. Daeth yr ymgynghoriad hwn o hyd i feysydd i’w gwella. Sylwyd bod yr adborth a dderbyniwyd yn aml yn cael ei ddarparu gan yr un defnyddwyr gwasanaeth ac roedd yna grwpiau o bobl roedd hi’n parhau i fod yn anodd ymgysylltu â nhw, er enghraifft pobl sydd ag anableddau dysgu dwys. Felly roeddem eisiau llunio strategaeth cyfranogiad a fyddai’n sicrhau bod barn y mwyafrif yn cael eu cynrychioli yn ein proses gynllunio a chomisiynu. Dewiswyd teitl y strategaeth gan ddefnyddwyr gwasanaeth – ‘Gwneud Pethau’n Well’.
Mae gan Conwy Connect hanes ardderchog o hwyluso ymgynghoriadau ar ran Conwy. Roedd eu hymagwedd ag unigolion yn ganolog yn effeithiol wrth wneud y mwyaf o’r cyfleoedd i’r rheini sy’n anodd eu cyrraedd. Mae cydweithio â Sir y Fflint wedi dylanwadu ar rywfaint o’n meddylfryd ynglŷn â’r prosesau sydd eu hangen i ymgysylltu â mwy o bobl. Mae’r model a gynhyrchwyd yn ‘Gwneud Pethau’n Well’ yn amodol bod pob darparwr gwasanaeth yn sefydlu grwpiau defnyddwyr gwasanaeth ag Unigolion yn Ganolog er mwyn trafod â nhw beth sy’n gweithio’n dda a beth sydd ddim yn gweithio cystal o fewn eu gwasanaethau a’r gymuned ehangach, ee, gwasanaethau cynhwysol. Mae cynrychiolwyr o’r grwpiau hynny yn adrodd nôl i Fforwm Connect, caiff themâu eu llunio y gellir eu hanfon ymlaen i’r Grŵp Blaenoriaeth Anableddau Dysgu i’w gweithredu (yn disodli grŵp Rheoli a Pholisi Anableddau Dysgu).
Comisiynwyd Conwy Connect i weithredu Strategaeth Gyfranogiad Anableddau Dysgu – Gwneud Pethau’n Well. Fe lansiwyd y strategaeth gyda darparwyr gwasanaethau mewn partneriaeth â Chonwy. Fe’i derbyniwyd â llawer o frwdfrydedd ac ymrwymiad. Bydd ein contractau â darparwyr yn nodi bod glynu wrth y strategaeth yn ofyniad o’r gwasanaeth.
Rydym wedi canfod darparwyr sydd eisoes yn ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth yn rheolaidd er mwyn dysgu o’u harfer da. Mae Conwy Connect wedi ymweld â grwpiau ac wedi llunio pecyn gwaith a rhaglen hyfforddi i gefnogi darparwyr eraill nad oedd mor brofiadol wrth ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth mewn modd â’r unigolyn yn ganolog. Mae Conwy Connect wedi mapio grwpiau defnyddwyr gwasanaeth presennol ac wedi cychwyn trafodaethau â darparwyr ynglŷn â gweithredu’r strategaeth yn eu gwasanaeth.
Rydym wedi ymgynghori â defnyddwyr gwasanaeth presennol drwy gydol y broses ac maent wedi dangos gwir frwdfrydedd am yr hyn y mae’r gwasanaeth yn ceisio ei wneud. Mae gennym aelodaeth reolaidd yn Fforwm Connect ond rydym yn ceisio gweithio ar ddatblygu cysylltiadau â grwpiau defnyddwyr gwasanaeth llai.
Nid oes modd mesur effaith lawn gweithredu’r Strategaeth hon eto, gan ei fod dal yn ei ddyddiau cynnar. Serch hynny, mae llwyddiant y gwaith wedi dylanwadu ar yr adran ac ymagwedd gorfforaethol at Gyfranogiad Defnyddwyr Gwasanaeth ac i ddylanwadu ar waith ar sail ranbarthol.
Datblygu Llety Gofal Ychwanegol mewn partneriaeth â Pennaf
Cefndir
O fewn tîm anableddau dysgu mae yna angen parhaol i gefnogi pobl i fyw bywydau annibynnol yn eu cartrefi eu hunain, enw hyn yw Byw â Chymorth. Mae yna nifer o ffyrdd y caiff hyn ei gyflawni yng Nghonwy, drwy Ofal Preswyl, Lleoliadau i Oedolion, cynlluniau Landlordiaid Cymeradwyedig etc, ond mae’r adroddiad hwn yn ymdrin â Byw â Chymorth.
Mae yna 45 o gynlluniau Byw â Chymorth yng Nghonwy ar hyn o bryd sydd yn rhoi cartref i 101 o oedolion sydd ag anableddau dysgu. Mae’r tai yma wedi’u lleoli ar draws Conwy mewn amryw o ardaloedd preswyl. Yn nodweddiadol, mae pob tŷ yn gartref i 3 person ar gyfartaledd, ac mae gan bob un ei ystafell wely ei hun, ardaloedd cymunedol ac mae pob un yn denantiaid.
Mae hyn wedi bod yn llwyddiannus ers sawl blwyddyn ond mae yna angen i adolygu’r hyn sy’n cael ei wneud yn gyson a sut mae’n cael ei wneud a gwneud newidiadau sy’n adlewyrchu anghenion newidiol oedolion sydd ag anableddau dysgu. Y cynllun gofal ychwanegol anableddau dysgu fydd y cynllun Byw â Chymorth nesaf i Gonwy. Mae’n cael ei adeiladu ar hyn o bryd a bydd yna 7 o lefydd Byw â Chymorth drwy greu 7 fflat hunangynhwysol a fydd wedi’u lleoli ym Mae Colwyn.
Daw’r angen amdano yn sgil adolygiad parhaus o opsiynau llety sy’n bodoli yng Nghonwy i bobl sydd ag anableddau dysgu.
Mae angen cydnabod bod anableddau dysgu yn newid, er enghraifft:
- Yn ystadegol – Mewn astudiaeth yn 2008 a gwblhawyd gan CeDR (Canolfan Ymchwil Anabledd) ac a gomisiynwyd gan Mencap, fe amcangyfrifir y bydd yna gynnydd o 14% yn nifer o bobl sydd ag anabledd yn y ddwy ddegawd o 2001 i 2021.
- Dymuniadau pobl sydd ag anableddau dysgu a’u teuluoedd – Erbyn heddiw, mae’n fwy tebygol bod oedolion sydd ag anableddau dysgu eisiau neu angen symud allan o gartref y teulu.
- Profiad yng Nghonwy – Tra bod y modelau presennol o rannu Byw â Chymorth wedi gweithio’n dda pan fo yna le gwag, fe allai fod yna broblemau cydweddoldeb wrth lenwi’r lle gwag. Bydd y cynllun gofal ychwanegol anableddau dysgu yn dileu hyn.
Mae angen creu ystod o opsiynau llety a fydd yn cefnogi unigolion i symud ymlaen tuag at ragor o annibyniaeth. Mae’r model hwn yn cefnogi’r datblygiad yma tra’n lleihau’r angen i bobl symud ymlaen o’r llety ei hun.
Mae yna nifer o gymhellion:
- Y gymuned anableddau dysgu a’u teuluoedd yn lleol. Rhestrodd yr ymgynghoriad Siapio’r Dyfodol a gynhaliwyd dros nifer o fisoedd yn 2012, y byddai’r math yma o fyw â chymorth yn ganlyniad.
- Strategaethau Anableddau Dysgu megis Cyflawni’r Addewidion a Gwerthfawrogi Pobl
- Adroddiad Alder, canolbwyntiodd y model datblygiad a gweithdy rhanbarthol ar lety ac opsiynau cefnogi.
- Strategaethau Corfforaethol Conwy:
- Y Cynllun Corfforaethol 2012 – 2017
- Un Conwy – gweithio tuag at ddyfodol gwell 2012 – 2025
Beth sydd wedi newid?
Cytunwyd ar safle ar gyfer y cynllun y llynedd.
Mae cynlluniau ar gyfer y fflatiau wedi’u paratoi.
Mae’r cynllun hwn wedi bod ar droed ers cyfnod hir; mae hyn wedi galluogi i’r tîm anableddau dysgu gynnal ymchwil mewn i arfer gorau drwy edrych ar ddatrysiadau tai mewn mannau eraill.
Mae ystyried dyfodol hir dymor a hyblygrwydd y cynllun hwn wedi bod yn nodwedd hefyd, er enghraifft, os na chaiff y gofod cymunedol ei ddefnyddio fel y rhagwelir, bydd yn bosibl i newid hyn ar gost fechan i ddarparu 8fed fflat.
Sicrhawyd y safle ar gyfer y cynllun drwy gydweithio gyda nifer o bartïon, yn bennaf Adran Ystadau Conwy, Adran Strategaeth Tai Conwy a Cymdeithas Tai Pennaf.
Gwnaed gwaith ymchwil drwy ymweld â chynlluniau tai gofal ychwanegol yng Nghonwy, Ynys Môn a chynlluniau byw â chymorth eraill mewn ardaloedd eraill.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Efallai ei bod yn fwy cywir i sôn am y gwahaniaethau y bydd yn ei wneud. Y prif newid fydd darparu llety diogel o safon uchel. Does dim amheuaeth ynglŷn â phwysigrwydd hyn i bobl sydd ag anableddau dysgu ac sydd yn aml dan anfantais yn y farchnad dai.
Mae hi’n amhosibl ar hyn o bryd bod yn fanwl iawn, ond fe fydd yna 7 astudiaeth achos gwahanol yn 2015 ar ôl i bawb symud i mewn. Bydd yr enghreifftiau canlynol yn rhoi blas i chi o’r gwahaniaethau a ragwelir:
Ar gyfer un person sydd ag anableddau corfforol dwys ac sy’n derbyn cefnogaeth 1:1 drwy’r amser, nid darparu cartref diogel yn unig y bydd yn ei olygu ond bydd yn eu galluogi i gael elfen o annibyniaeth wirioneddol. Â defnydd medrus technoleg gynorthwyol a TG, bydd modd iddynt reoli agweddau o’u hamgylchedd gartref. Bydd modd i’r unigolyn yma fwynhau rhywfaint o gyfnodau yn eu cartref eu hunain ar eu pen eu hunain am y tro cyntaf, rhywbeth y mae llawer o bobl sydd yn abl yn ei gymryd yn ganiataol.
I unigolyn arall, bydd yn eu galluogi i symud o sefyllfa ble maent yn rhannu eu cartref ac eisiau lle i’w hunain.
Mae’r stori ddynol yn rhywbeth a ragwelir hefyd. Y gobaith yw y bydd y saith o bobl a fydd yn byw yn y cynllun yn dysgu sgiliau newydd, yn cynyddu eu hannibyniaeth cyn belled ag y mae pob un ohonynt yn gallu. Y canlyniad rydym yn ei ddymuno ar gyfer pob un ohonynt yw eu bod yn mwynhau’r rhyddid o gael lle eu hunain ac yn sgil hynny eu bod yn blodeuo fel dinasyddion Conwy.
Gorwelion Gwyrdd
Caiff Gorwelion Gwyrdd eu hannog gan fentrau’r Llywodraeth er mwyn i Awdurdodau Lleol fod yn Wyrddach. Mae’r prosiect yn ffurfio rhan o ethos ehangach sef rhoi gwaith a sgiliau cymdeithasol i oedolion sydd ag anableddau dysgu yng Nghonwy. Yn y gorffennol roedd y prosiect (Gorwelion fel y’i galwyd bryd hynny) yn canolbwyntio ar weithio yn y gymuned drwy werthu nwyddau wedi’u defnyddio megis dillad a bric a brac yng Nghanolfan yr Orsedd. Tyfodd y prosiect ac ymunodd â’r Tîm Amgylcheddol ym Mochdre i ffurfio Gorwelion Gwyrdd, sydd yn canolbwyntio ar ailgylchu gwastraff Swyddfeydd y Cyngor gan gynnwys tin, gwydr, papur a gwastraff bwyd. Dros y 4 blynedd diwethaf mae wedi mynd o nerth i nerth ac mae’r ddwy adran yn cydweithio er mwyn magu llwyddiant. Cyrhaeddodd y prosiect y rownd derfynol yng ngwobrau Cymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus yn 2011 (ledled y DU) ac roedd yna 8 cystadleuydd yn y rownd derfynol. Er na wnaethant ennill y wobr, mae hyn yn dangos y gallwn weithio mewn partneriaeth i gyflawni targedau corfforaethol!
Mae’r prosiect yn gyfrifol am ailgylchu sawl tunnell o wastraff i’r awdurdod, ac roeddynt yn ffactor bwysig yn llwyddiant Conwy i ennill ardystiad Lefel 5 y Ddraig Werdd. Mae tîm y prosiect yn gweithio’n galed drwy gasglu gwastraff bob wythnos ac maent yn pwyso deunydd ailgylchu pob safle.
Nid cyflawni’r cyfan uchod yn unig y mae’r prosiect yn ei wneud, ond mae’n cefnogi oedolion sydd ag anableddau dysgu gyda’u golau personol eu hunain. Mae unigolion yn dysgu sgiliau mewn ailgylchu ac yn gweithio’n agos â phobl eraill i ffurfio tîm cryf. Mae’r prosiect yn dysgu gwerthoedd megis cyrraedd golau, gweithio mewn partneriaeth, bod yn rhan o’r gymuned a gwneud ffrindiau. Mae ganddynt fan ar gyfer y prosiect, swyddfa i weithio ohoni, eu gwisg eu hunain ac erbyn hyn maent yn dîm ardderchog yng Nghyngor Conwy.
Mae un defnyddiwr gwasanaeth wedi gwneud camau breision ers cychwyn gweithio gyda Gorwelion Gwyrdd; mae’n swil a thawel iawn, ond mae’r prosiect hwn wedi ei wneud yn fwy hyderus chymdeithasol. Mae’n mwynhau’r rhyngweithio â phobl eraill, ei gydweithwyr a’r staff o amgylch y cyngor a meithrin ei sgiliau bywyd a gwaith.