Yn ystod 2014-15 rydym wedi gweithredu ein Rhaglen Drawsnewid i ail-alinio gwasanaethau i wasanaethu pobl Conwy yn well, o fewn ethos y Ddeddf newydd.
Amlinellir rhai o’r datblygiadau mwyaf arwyddocaol isod.
- Un Pwynt Mynediad (Tîm Mynediad Conwy)
- Sgwrs yr Hyn sy’n Bwysig
- Datblygu’r gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn, ac asesiadau arbenigol sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.
- Sefydlu adran Lles Cymunedol
- Teuluoedd Gwledig yn Gyntaf
- Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid
- Cynllun hyfforddi rhanbarthol ar gyfer hyfforddiant Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles.
- Cod Ymarfer ar gyfer Gweithwyr Gofal Cymdeithasol
- Defnyddio Cynllunio sy’n Canolbwyntio ar y Person mewn ymchwiliadau POVA
- Mwy na geiriau (diweddariad)
Mae’r tudalennau canlynol yn adrodd hanes byr pob un o’r datblygiadau newydd hyn.