“Mae’r gwasanaeth Un Pwynt Mynediad yn darparu Gwybodaeth, Cyngor a Chefnogaeth i unigolion ynghylch iechyd a lles i gynorthwyo gydag anghenion lles unigol”.
Cysylltwch â thîm Un Pwynt Mynediad
Prif amcanion prosiect Un Pwynt Mynediad Conwy yw
- datblygu a chyflwyno gwasanaeth gwybodaeth ac ymholiadau i’r cyhoedd
- ymateb i bob ymholiad a
- rhoi mynediad i wasanaethau ymyrraeth / ataliaeth fuan neu gymorth a reolir (o gyfeirio i atgyfeirio a chydlynu gofal).
Yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles [2014], mae’n canolbwyntio ar ddatblygu Gwasanaethau Lefel 1 Cyffredinol a rhoi mynediad i Wasanaethau Lles Cymunedol / Ymyrraeth Fuan Lefel 2.Mae SPOA yn rhoi ystod lawn o wasanaethau h.y. cyfeirio, gwybodaeth, cyngor, asesu, atgyfeirio a chydlynu gofal, gan adeiladu ar drefniadau, datblygiadau a darpariaeth bresennol.
Y Weledigaeth ar gyfer SPOA Conwy yw:
“darparu gwasanaeth dibynadwy a hygyrch ar sail sgyrsiau gwybodus, parchus ar adegau allweddol pan fydd pobl angen cyngor, gwybodaeth a chymorth; er mwyn helpu pobl i fod yn fwy gwybodus, yn fwy annibynnol a gofalu am eu hunain a’u cefnogi pan fyddant yn ddiamddiffyn a’u cynorthwyo i gynnal eu hannibyniaeth ac aros yn ddiogel yn eu cartrefi lle bynnag y bo modd drwy gydlynu gofal yn effeithiol “.
Beth ydym ni eisiau ei gyflawni?
- Dinasyddion mwy gwybodus, mwy annibynnol, sy’n gofalu am eu hunain.
- Gwell integreiddiad, cydlyniad gofal, lleihau dyblygu a lleihau biwrocratiaeth.
- Proffilio risg yn well ar systemau gofal cymdeithasol ac iechyd er mwyn gallu cynnig lefelau priodol o gymorth yn gynt a lleihau’r perygl o achosion lle nad oes gofal wedi’i drefnu.
- Gwasanaeth mwy cynaliadwy, sy’n gallu ymateb yn well i alw cynyddol.
- Safbwynt y dinesydd fydd y sail ar gyfer y model newydd. Bydd ymgysylltu drwy gydol y rhaglen yn allweddol i hyn.
Pa wahaniaeth y gwnaeth hyn?
Isod mae llythyr yn seiliedig ar adborth cleient, sy’n dangos y math o wahaniaeth y mae’r gwasanaeth yn ei wneud i bobl.
Annwyl Tamara
Rwyf newydd gyrraedd yn ôl o egwyl hyfryd a oedd yn fwy melys gan fod yn gwybod bod rhywun yn cadw llygad ar mam a dad ac nad oedd angen i mi boeni. Roedd y ddynes y siaradais i efo hi yn Nhîm Mynediad Conwy yn gyfeillgar iawn ac yn ymddangos ei bod yn gwybod pa gwestiynau i’w gofyn.
Cyn i mi adael roedd hi wedi trefnu bod cymhorthion cerdded ac offer yn cael eu darparu er ein bod wedi dweud wrthyn nhw ei bod yn bosibl mai dros dro oedd hyn, dwedont wrthym y gallem ei gadw cyhyd ag y bydd angen. Roedd Mam wedi cael ychydig o sioc i ddechrau pan ddaeth 3 o ferched ond roedd yn deall ar ôl iddynt egluro bod gan bob un ohonynt swyddi ychydig yn wahanol ac ar ôl iddynt esbonio’r hyn roeddent yn ei wneud. Roeddent yn siarad yn glir gyda mam ac yn esbonio popeth iddi, heb ruthro o gwbl. Roedd hyd yn oed ganddynt offer i’w adael gyda ni’r diwrnod hwnnw.
Roeddent yn gwybod y cyfan am ei phoen ysgwydd, ac roeddynt yn gallu egluro pethau i dad hefyd. Mae dad yn tueddu i boeni ac yn gadael i mi siarad ar ei ran ond mae yno y rhan fwyaf o’r amser ac mae angen dangos iddo sut i helpu mam. Mi wnaethant egluro pwysigrwydd peidio â chodi mam ein hunain a’r risgiau sy’n gysylltiedig.
Dywedont eu bod eisiau dod yn ôl i wneud ychydig o waith dilynol a gwaith ailalluogi gyda mam i fagu ei hyder i gerdded unwaith eto. Dim ond dwy o ferched ddaeth yr ail waith ac nid oedd unrhyw frys arnynt, er nad oedd mam wedi gwneud llawer o gynnydd mi wnaethant siarad efo hi am ei phryderon a gyda’u hanogaeth mam cododd mam o’r gwely a defnyddio’r offer oedd gyda nhw.
Roedd mam yn ymddangos yn gyfforddus iawn gyda nhw ac roedd yn braf gwybod y byddent yn parhau i alw i mewn dros yr ychydig wythnosau nesaf. Roeddwn yn ystyried oedi cyn mynd am egwyl, er nad oeddem wedi bod i ffwrdd ers bron i 2 flynedd gan ein bod yn gofalu am mam a dad.
Tua’r un pryd cefais alwad ffôn gan ddynes arall i weld sut roeddwn i’n teimlo eu bod yn gwneud a dywedodd ei bod yn yno i fy nghefnogi yn y swyddogaeth fy gofalwr. Dywedodd y gallwn gwrdd â hi a siarad am rai o’r pethau roeddwn yn eu gwneud a rhai o’r pryderon a oedd gennyf ynglŷn â gofalu am fy rhieni.
Eglurodd fod gan Cynnal Gofalwyr weithdrefn, os oes unrhyw beth yn digwydd i’r gofalwr, bod gwybodaeth ar gael i alluogi rhywun arall i helpu. Byddai hyn yn golygu, pe bai unrhyw beth yn digwydd i dad tra’n bod i ffwrdd y byddent yn gwybod beth oedd anghenion a phryderon mam ac yn gallu trefnu neu siarad â’r bobl iawn a allai ei helpu.
Mae’n teimlo fel bod pwysau wedi ei godi, doeddwn i heb sylweddoli faint roeddwn i’n ei wneud dros fy rhieni a pha mor ddibynnol oeddynt arnaf. Mae hyder dad wedi codi ac mae mam yn dal i fynd o nerth i nerth. Mae seibiant hirach neu hyd yn oed wyliau tramor yn edrych yn bosibl bellach.
Diolch am eich cefnogaeth a’ch cymorth, roedd yn dda gwybod nad oedd rhaid i mi ffonio o gwmpas llawer o leoedd a dweud wrth bob un ohonynt beth oedd yn digwydd – dywedais unwaith ac yna roedd yn ymddangos fod pawb yn gwybod.
Cofion am y tro.
Joan