Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu
You are here: Home / 2014-15 / Prydlondeb cynadleddau diogelu plant cychwynnol

Prydlondeb cynadleddau diogelu plant cychwynnol

Roedd canran y cynadleddau achos cychwynnol a gynhaliwyd o fewn 15 diwrnod o’r drafodaeth strategaeth/atgyfeiriad wedi dirywio yn ystod 2013 / 2014. Mae’r targed penodol hwn yn ddangosydd pwysig o allu Conwy i fynd i’r afael â phryderon diogelu yn gyflym, a risg a allai fod yn uwch i les y plenty.

Bu gostyngiad ers 2012/13 (96.1% i 78.3%), a’n cymhellodd i chwilio am esboniad ar unwaith a chymryd camau positif a buan.

Roedd y gostyngiad yn y ffigwr cyfartalog yn bennaf oherwydd y 3ydd chwarter, lle’r oedd dim ond 18 o’r 28 plentyn wedi cael eu cynadleddau o fewn y terfynau amser. Roedd y 10 plentyn a gafodd gynadleddau hwyr o ddau grŵp mawr o frodyr a chwiorydd (grŵp o 6, a grŵp o 4). Roedd y 2 gynhadledd hon yn hwyr: gan fod yn rhaid ail-drefnwyd un ohonynt oherwydd nad oedd rhieni yn gallu dod ar y dyddiad cyntaf, trefnwyd y llall ychydig y tu allan i’r terfyn amser mewn camgymeriad, a chafodd ei gynnal yr wythnos ganlynol.

Mewn gwirionedd dim ond 8 cynhadledd oedd tu allan i’r terfynau amser yn ystod y flwyddyn, a chynhaliwyd pob un ohonynt yn yr wythnos waith ganlynol – a 19 diwrnod gwaith oedd yr amser hiraf a gofnodwyd. Roedd yr 8 cynhadledd hyn mewn perthynas â 26 o blant, sydd wedi gwneud i’r perfformiad ymddangos yn sylweddol is.

Y canlyniad terfynol oedd 78.3% (barnwyd fod 94 o gyfanswm o 120 o blant wedi cael eu cynhadledd gyntaf yn ystod y terfyn amser o 15 diwrnod gwaith).Fel y soniwyd eisoes roedd hyn yn ymwneud â 26 o blant ond dim ond 8 cynhadledd amddiffyn oedd y tu allan i’r terfyn amser hwn mewn gwirionedd.(Pe bai’r DP yn cyfrif cynadleddau 86.7% fyddai’r canlyniad – 52 cynhadledd gychwynnol o gyfanswm o 60 yn y flwyddyn).

Beth sydd wedi newid?

Crëwyd cynllun gweithredu gan reolwyr i sicrhau gwelliant mewn prydlondeb:

  • Peidio â gohirio cynadleddau pan fydd rhieni’n dweud na allant ddod.
  • Archebu cynadleddau yn ôl nodiadau Trafodaeth Strategaeth swyddogol.

 

  • Dyddiad i fod yn 15 diwrnod gwaith o’r drafodaeth strategaeth gychwynnol.
  • Cydlynydd Amddiffyn Plant i fynd i bob cyfarfod gwaith cymdeithasol i atgyfnerthu’r broses a chynnwys gwybodaeth yn y rhaglen hyfforddiant flynyddol.
  • Archwilio datblygu system TG PARIS i “nodi” dyddiadau dyladwy yn awtomatig.

Pa wahaniaeth mae hyn wedi’i wneud?

Adroddwyd y mater hwn yn ffurfiol i Bwyllgor Craffu Cwsmeriaid Conwy ar 25/9/14, ar ôl ymgynghori ag Aelod Cabinet y portffolio Diogelu Plant a Theuluoedd, a oedd yn cefnogi’r camau sy’n cael eu cymryd.

Dangosodd chwarter olaf y flwyddyn bod y cynllun gweithredu wedi cael effaith, gyda gwelliant o 11% ar berfformiad diwedd y flwyddyn flaenorol. Er bod hyn yn dal yn is na’n ffigwr targed ac ychydig islaw’r lefel goddefiant o 90%, mae gwaith yn parhau i sicrhau’r sefyllfa.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Dilyniant ers 2013-14

Chwilio

Adroddiad 2014-15

Cyflwyniad

Cyflwyniad

Dilyniant ers 2013-14

Dilyniant ers 2013-14

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

LAC Sefydlogrwydd

LAC Sefydlogrwydd

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb
Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@conwy.gov.uk

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English