Mae pob un o Gadeiryddion Grwpiau Canlyniadau Conwy yn aelodau o’r Grŵp Cydlynu, swyddogaeth y grŵp hwn yw canolbwyntio ar gyfathrebu, monitro, sicrhau ansawdd ac ymgysylltu yn ogystal â’u meysydd blaenoriaeth; Y Gymraeg, Gwybodaeth, Cydraddoldeb a Chludiant.
Cytunwyd a chymeradwywyd Cynllun Cyfathrebu sy’n amlinellu dulliau cyfathrebu ac adrodd rhwng amrywiaeth o grwpiau fel y Bwrdd PPI, grwpiau COG a grwpiau tasg a gorffen. Mae trefniadau hefyd yn eu lle i sicrhau bod perthnasau gwaith da yn cael eu sefydlu gyda grwpiau eraill fel y Clystyrau Meddygon Teulu i sicrhau bod gwybodaeth yn cael ei rhannu ar draws pob sector yn Sir Conwy.
Cytunwyd ar y Cylch Gorchwyl ar gyfer y grŵp ac mae’n cynnwys cynrychiolaeth dinasyddion er mwyn sicrhau didwylledd, tryloywder ac atebolrwydd. Anfonwyd datganiadau o ddiddordeb i fod yn gynrychiolwyr dinasyddion ac maent bellach wedi cael eu dewis a’u croesawu mewn cyfarfod Grŵp Cydlynu diweddar.