Mae COG 1 yn parhau i weithio ar eu hardaloedd, mae eu haelodaeth wedi cael ei adolygu a pherthnasau gwaith newydd wedi eu sefydlu. Y camau nesaf ym mis Medi 2016 yw adolygu’r cynllun a’r blaenoriaethau gwasanaeth presennol, a chynnal gweithdy gydag aelodau o COG 1 ac is-grwpiau i ystyried a chytuno ar ffrydiau gwaith newydd.
Comisiynwyd y Grŵp Tasg a Gorffen Prydau Ysgol am Ddim wedi i fwlch gael ei nodi yn nifer y prydau ysgol am ddim a fanteisiwyd arnynt o’i gymharu â hawl yn ysgolion Conwy. Cyflwynwyd dull ysgol gyfan ‘Ein Cinio Ysgol’ er mwyn bod yn holl gynhwysol, osgoi stigma a sicrhau bod ysgolion yn ymateb i’r Mesur Ysgolion Iach (Cymru) 2009.
Ymgynghorwyd gyda Phenaethiaid, Cyngor Ieuenctid Conwy, a gweithiwyd gyda’r Grŵp Gweithredu Maeth Ysgolion / Bwyd o Bwys (SNAG / BOBS) sy’n fentoriaid sy’n rhannu gwybodaeth a sgiliau ynghylch bwyta’n iach mewn ysgolion.
Mae gwaith y Grŵp wedi dangos bod y dull cynhwysol sy’n cynnwys yr holl fudd-ddeiliaid yn cynhyrchu canlyniadau cadarnhaol, yn sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael gwell dealltwriaeth ynghylch bwyd, maeth a lles i gynyddu eu datblygiad eu hunain ar gyfer y dyfodol.
Mae hefyd yn cyfrannu at leihau gordewdra a chynyddu cyrhaeddiad.
Wedi hynny, enwebwyd Adran Arlwyo Conwy fel un o’r 7 Gwasanaeth Arlwyo sydd wedi gwella fwyaf ar lefel cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2015, trwy’r Gymdeithas Rhagoriaeth mewn Gwasanaeth Cyhoeddus. Roedd hyn o ganlyniad i % uwch (1.8%) o ddisgyblion cynradd yn manteisio ar bryd ysgol am ddim yn 2014/15 (82.3%), o’i gymharu â 2012/13 (80.5%). Rhannwyd gwybodaeth gyda Bwrdd Partneriaeth Pobl Conwy a COG 1 a byddwn yn parhau i fonitro’r nifer sy’n manteisio ar brydau ysgol am ddim.
I gael gwybod mwy am waith SNAG / BOBS yn un o’u Sesiynau Coginio yn Ysgol y Creuddyn gyda David Preston, Cogydd dan Reolaeth, Ysgol Y Creuddyn;
https://www.youtube.com/watch?v=Ho4fofhM8us