Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwasanaethu ystod eang o grwpiau client, felly yn amlwg mae gan grwpiau gwahanol anghenion gwahanol. Un o’n heriau yw sicrhau ein bod yn ymateb mewn modd sy’n briodol i bob achos a gyflwynir i ni. Bydd hyn yn golygu defnyddio ein gwasanaethau “mewnol” weithiau, a thro arall, gall fod yn fwy priodol i bobl gael mynediad at wasanaethau sy’n cael eu darparu gan asiantaeth breifat neu sefydliad gwirfoddol neu elusennol. Y naill ffordd neu’r llall, rydym yn ceisio sicrhau bod y gymysgedd gywir o wasanaethau ar gael drwy ein gweithgareddau comisiynu.
Un maes sydd wedi bod yn arbennig o effeithiol yw maes ailgartrefu.
Grŵp dychweliad/ ailgartrefu
Cefndir
Mae Gwasanaeth Anableddau Dysgu Conwy bob amser wedi ceisio sicrhau bod pobl sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r sir yn cael cyfle i fyw yn nes at adref. Serch hynny, fe amlygodd adolygiad Winterbourne View feysydd i’w gwella yn y gwasanaeth. Er bod Conwy yn fodlon ein bod mewn cysylltiad rheolaidd ac yn monitro lleoliadau’n ofalus, ni allem ddweud yn hyderus ein bod yn rhagweithiol wrth gynllunio at ddyfodol ein holl ddefnyddwyr gwasanaeth sydd yn y sir.
Beth sydd wedi newid?
Penderfynodd Conwy bod angen polisi Lleoliad y Tu Allan i’r Sir. Roedd hyn yn cynnwys yr angen am ymglymiad gweithgar Gweithiwr Cymdeithasol, gydag o leiaf ddau ymweliad y flwyddyn, a byddai un ohonynt yn adolygiad statudol blynyddol. Mae’r polisi’n dynodi bod rhaid i’r ymarferwyr roi amser i feithrin perthnasau proffesiynol â defnyddiwr gwasanaeth, eu teuluoedd, aelodau eraill o’r Tîm Aml Ddisgyblaeth a’r tîm lleoliad. Mae’n rhaid i’r asesiad a’r cynllun gofal ganolbwyntio ar ganlyniadau, gan ystyried cynlluniau at y dyfodol, gan gynnwys cynllun datblygu wedi’i lunio â’r defnyddiwr gwasanaeth.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Mae unigolion sydd wedi’u lleoli y tu allan i’r sir bellach yn flaenoriaeth i gael llety yng Nghonwy, a chaiff eu hanghenion eu hystyried yn rheolaidd yn y cyfarfod llety gweithredol misol.
Oherwydd hyn, rydym eisoes wedi galluogi defnyddiwr gwasanaeth sydd ag anableddau dysgu a chorfforol difrifol, sydd wedi bod mewn Cartref Nyrsio yn Sir Ddinbych am y 10 mlynedd diwethaf, i symud i denantiaeth byw â chymorth yng Nghonwy. Er ei bod wedi cael adolygiad blynyddol drwy gydol ei hamser yn y Cartref Nyrsio, proses arferol oedd hyn yn hytrach na phroses gynllunio weithgar. Roedd hi wedi setlo, roedd hi’n ymddangos yn hapus, roedd ei hanghenion yn cael eu diwallu, felly doedd hi ddim yn flaenoriaeth. Mae llwyddiant y symudiad a’r gwahaniaeth y mae wedi’i wneud i’w bywyd ac i’w theulu wedi dangos pa mor bwysig ydyw bod gan bob unigolyn gynllun at y dyfodol ar waith.
Mae yna grŵp bychan o unigolion o ogledd Cymru y byddai’n anodd i un awdurdod lunio opsiynau byw â chymorth priodol ar eu cyfer, yn annibynnol o’r awdurdodau eraill ac Iechyd. Yn 2013, gan ymateb unwaith eto i sgandal camdriniaeth Winterbourne View yn ne Swydd Gaerloyw, sefydlodd y 6 awdurdod yng ngogledd Cymru a BIPBC, Brosiect Dychweliad/ Ailgartrefu Rhanbarthol Gogledd Cymru. Mae’r grŵp wedi cwblhau ymarfer mapio i ganfod pwy a ble mae’r bobl, pam eu bod wedi’u lleoli a pha gynlluniau sydd eisoes ar waith i’w dychwelyd i’w hardal leol. Tuag at ddiwedd y llynedd, gofynnodd Llywodraeth Cymru am y wybodaeth hon yn rhan o’r gwaith sy’n cael ei gwblhau gan Is-grŵp Grŵp Cynghori Anableddau Dysgu, Trawsnewid Gofal yng Nghymru i bobl ag anableddau dysgu ac ymddygiad heriol.
Er mwyn symud ymlaen â gwaith Bwrdd Dychweliad ac Ailgartrefu Gogledd Cymru, mae Cydweithrediad Gwella Gwasanaethau Cymdeithasol Gogledd Cymru wedi canfod cyllid drwy Gronfa Cydweithio Rhanbarthol prosiect ‘Modelau Gwasanaeth Newydd’ i ddarparu amser i reoli prosiect ar gyfer Bwrdd Dychweliad ac Ailgartrefu Gogledd Cymru. Mae grŵp bychan o unigolion sydd ag amser i reoli prosiect wrthi’n paratoi briff prosiect a fydd yn cael ei gyflwyno i Bartneriaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru. Bydd y briff hwn yn darparu cynnig amlinellol i beilota prosiect byw â chymorth a gomisiynwyd yn rhanbarthol/ ar y cyd (6 Awdurdod Lleol a BIPBC) ar gyfer grŵp bychan o unigolion sydd ag anghenion dwys iawn.