Nodwyd meysydd blaenoriaeth ar gyfer gwella gan AGGCC yn dilyn ein hadroddiad yn 2013/14.
Monitrwyd cynnydd o ran y rhain drwy’r cyfarfodydd ymgysylltu a drefnwyd yn ystod y flwyddyn a rhoddir trosolwg cryno o’r cynnydd a wnaed, isod.
- Cynlluniau strategol ar gyfer datblygu gwasanaethau Cymunedol ar gyfer pobl â dementia.
- Adolygiadau mwy prydlon a/neu gynhwysfawr o’r trefniadau gofal ar gyfer oedolion mewn gofal preswyl.
- Proffilio anghenion plant sy’n derbyn gofal am lety a galluogi dealltwriaeth gyffredin o’r materion.
- Prydlondeb cynadleddau diogelu plant cychwynnol.
- Dadansoddi gweithgarwch comisiynu a datblygu strategaeth gomisiynu.
- Cynnydd parhaus wrth ddatblygu perthnasau gyda BIPBC.
- Adolygu perfformiad cwynion.