Mae’n ofyniad statudol bod gan bob awdurdod yng Nghymru Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. Sefydlwyd gwasanaeth penodol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn 2001, ac mae’n darparu gwybodaeth berthnasol i deuluoedd, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio gyda theuluoedd gyda chymorth ein cronfa ddata: www.conwyfamilyinformation.co.uk neu http://www.conwyfamilyinformation.co.uk/
Yn 2014 lansiwyd ein cronfa ddata a’n gwefan newydd gan fod yr un blaenorol a ddefnyddiwyd er 2001 braidd yn anodd i’r cyhoedd ac i ni ei defnyddio. Roeddem eisiau rhywbeth symlach i bawb. Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’r Tîm o Amgylch y Teulu (TAF) newydd a lansiwyd a oedd angen mynediad hawdd i bob math o wybodaeth i deuluoedd. Roedd Llywodraeth Cymru hefyd yn gofyn i ni ddarparu gwybodaeth ychwanegol felly roedd eisiau system hyblyg i’n caniatáu ni i ychwanegu’r wybodaeth hon.
Beth sydd wedi newid?
Lansiwyd ein cronfa ddata newydd ym mis Mehefin 2014. Rydym yn gweithio’n agos gyda darparwr ein cronfa ddata newydd sydd eisoes wedi cael profiad o weithio gyda’r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd a gweithiom yn agos gyda Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Sir Ddinbych a Sir y Fflint sydd â’r un darparwr cronfa ddata. Gwrandawom ar yr hyn roedd teuluoedd yn ei ddweud am ein cronfa ddata a gwneud yn siŵr ein bod yn cynnwys y wybodaeth roeddent yn gofyn amdani. Ni wnaethom ni gynnwys gwybodaeth ormodol na gwybodaeth amherthnasol. Ychwanegwyd adran Ddigwyddiadau fel y gallai teuluoedd wybod beth oedd yn digwydd yn yr ardal. Ychwanegwyd adran i sefydliadau gyflwyno a diweddaru eu gwybodaeth eu hunain. Yn ogystal â gwybodaeth y gronfa ddata mae gennym hefyd lawer o wybodaeth ddefnyddiol ar destunau a fyddai’n ddefnyddiol ar gyfer teuluoedd neu ddarparwyr gofal plant e.e. mathau o ofal plant a sut i ddod yn ddarparwr Gofal Plant.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Mae pobl yn ei chael yn haws i ddefnyddio’r gronfa ddata newydd. Gall pobl ei defnyddio i chwilio am bob math o bethau fel y dangosir gan Fam a gysylltodd â ni yn ddiweddar. Ynghyd â’i theulu, mae hi’n gobeithio symud o Loegr i Gonwy. Gofynnodd i ni os gallem ei helpu gyda gwybodaeth am Ofal Plant, addysg ‘a gwybodaeth a fyddai’n ddefnyddiol i drigolion newydd’. Drwy esbonio sut i ddefnyddio’r gronfa ddata ac anfon gwybodaeth, gallem roi cymorth gyda Gwarchodwyr Plant, Meithrinfeydd Dydd, Grwpiau Rhieni a Phlant Bach / Cylchoedd Ti a Fi, Grwpiau Chwarae / Cylchoedd Meithrin, Addysg Feithrin rhan amser a Ariannwyd ar gyfer Plant Tair Oed, Gweithgareddau Hamdden , Cyflogaeth, a dosbarthiadau Cymraeg. Yr ymateb a gawsom ganddi oedd ‘Mae’r holl wybodaeth wedi bod yn ddefnyddiol iawn. Diolch i chi unwaith eto am eich help a’ch caredigrwydd. Byddaf yn anfon e-bost atoch chi yn y misoedd nesaf yn nodi unrhyw ddatblygiadau. ‘ Edrychwn ymlaen at ei chroesawu hi a’i theulu i Gonwy!