Fel gwasanaeth sydd newydd gael ei sefydlu o fewn Gofal Cymdeithasol, cafodd y tîm Pobl Ddiamddiffyn ei gynllunio i helpu’r rhai mwyaf diamddiffyn yn ein cymdeithas i adennill neu gynnal eu hannibyniaeth a’u lles a gwneud yn siŵr bod mwy o bobl gydag anghenion yn cael eu cefnogi mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae’r bobl hynny sydd â bywydau cymhleth, heriol a di-drefn yn aml yn fwy diamddiffyn na’r rhai sy’n ffitio i mewn i’r gwasanaethau traddodiadol ac o ganlyniad i gefnogaeth gyfyngedig maent yn aml yn cysylltu yn amhriodol gyda’r gwasanaethau brys, fel yr Heddlu neu’r Gwasanaeth Tân neu’r Gwasanaeth Ambiwlans am eu cymorth. Mae gan y tîm ei hun leiafswm mynediad i gyllideb gofal ac felly mae aelodau’r tîm yn dibynnu ar eu hunain fel adnodd gwaith cymdeithasol a Therapi Galwedigaethol i fynd i’r afael ag anghenion y cleientiaid. Maent yn arbennig o greadigol ac yn gwneud cysylltiadau cryf â sefydliadau trydydd sector er mwyn galluogi eu cleientiaid i gael mynediad at y gwasanaethau cyffredinol sydd ar gael yn y gymuned.
Er bod hwn yn wasanaeth newydd sy’n datblygu, cofnodwyd nifer o astudiaethau achos yn dangos y bendithion a’r effeithiau cadarnhaol y mae’r tîm yn eu cael:
- Cyfeiriwyd dyn ifanc at y gwasanaeth gan ei deulu gan ei fod yn defnyddio canabis ac yn mynd i drafferth gyda’r heddlu, roedd yna lawer o broblemau yn y cartref gydag ymddygiad ymosodol iawn tuag at ei deulu. Gwnaeth y gweithiwr rywfaint o gyfweld ysgogol a gweithio gydag ef i ddatblygu asesiad sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau a chynllun gofal. O ganlyniad i’r gwaith hwn ysgrifennodd mam y dyn ifanc lythyr diolch i’r tîm gan ddweud bod yr ymagwedd wedi cael 100% o effaith gadarnhaol ar ei mab ac mae hi wedi bod yn ddiolchgar iawn am yr ymyrraeth sydd wedi golygu y gall ei mab aros gartref gyda’i deulu.
- Roedd dyn ifanc arall mewn trafferth gyda’r heddlu ac yn wynebu’r posibilrwydd o gyfnod yn y carchar. Dechreuodd y tîm weithio gydag ef ac yn ei achos llys dywedodd y bargyfreithiwr bod yr ymyriadau a roddwyd ar waith gan y tîm Pobl Ddiamddiffyn wedi golygu’n uniongyrchol bod y dyn ifanc wedi osgoi dedfryd o garchar.
Mae’r tîm hefyd yn datblygu prosesau a mecanweithiau i wella’r gwasanaeth:
- Mae’r tîm Pobl Ddiamddiffyn wedi treialu’r broses asesu integredig newydd wrth [1] baratoi ar gyfer gweithrediad y Ddeddf Gofal Cymdeithasol a Lles. Rhoddodd hyn gyfle i ymarferwyr ymgorffori egwyddorion asesu sy’n canolbwyntio ar unigolion a chanlyniadau a gofal am bobl ifanc ddiamddiffyn.
- Mae’r rheolwr tîm hefyd wedi cyflwyno asesiad risg cadarn newydd i sicrhau bod staff yn ystyried eu hiechyd a’u diogelwch eu hunain wrth weithio gyda chleientiaid sy’n peri risg i’w hunain ac i eraill.
- Gan fod y tîm wedi datblygu a gwrando ar anghenion defnyddwyr gwasanaeth roeddynt hefyd yn teimlo y byddai cyflwyno cynllun gweithredu adfer iechyd da (WRAP) yn fuddiol. Trwy weithio mewn partneriaeth â’r tîm PARIS [2] rydym wedi ei gwneud yn haws i staff greu cyfnod pontio llyfn i’r rhai sy’n Gadael Gofal, i weithiwr cymdeithasol i Oedolion, gyda’u cynllun unigol ar waith.
[1] Fel y soniwyd ar dudalen 8.
[2] Mae’r system PARIS yn cael ei defnyddio i storio cofnodion a gwybodaeth am y bobl sy’n defnyddio’r gwasanaethau a ddarparwyd gan adran gwasanaethau cymdeithasol Conwy.