Mae nifer o achosion proffil uchel o gau cartrefi gofal preswyl yng Nghonwy dros y 12 mis diwethaf wedi tynnu sylw at yr angen i ailedrych ar ein proses adolygu mewn perthynas â lleoliadau mewn gofal preswyl a nyrsio. Mae nifer fawr o leoliadau y mae angen eu hadolygu bob amser wedi bod yn anodd rheoli oherwydd materion capasiti.
Yn ogystal, mae AGGCC wedi nodi’r angen am adolygiadau mwy prydlon yn eu hadroddiad blynyddol ar gyfer y sir. Mae hyn wedi arwain at yr angen am gynllun gweithredu penodol.
Beth sydd wedi newid?
Mae gweithgor wedi cynhyrchu Fframwaith Adolygu.
Mae ymarferwyr bellach yn fwy ymwybodol o’r angen i gynnal adolygiadau prydlon a sut mae hyn o fudd ac yn diogelu’r defnyddiwr gwasanaeth a’u gofalwr.
Ceir cyswllt cynhyrchiol gyda Swyddogion Monitro yn y broses adolygu.
Cyflwynwyd Hyfforddiant Gofal Iechyd Parhaus i bob ymarferydd ac mae hyn yn pwysleisio pwysigrwydd adolygiadau amserol i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu gosod/ ariannu yn briodol.
Wrth ysgrifennu’r adroddiad, mae 30 adolygiad yn weddill
yn Abergele , 29 ym Mae Colwyn , 57 yn Llandudno a 27 yn Llanfairfechan
Penodwyd Gweithiwr Cymdeithasol Locwm a bydd yn gyfrifol am gwblhau pob adolygiad “hwyr”.(Dyddiad dechrau 20/4/15).
Bydd adolygiadau wedyn yn cael eu dyrannu bob 3 mis gan alluogi ymarferwyr i gynnal yr adolygiad mewn modd amserol a gynlluniwyd yn dda.
Pa wahaniaeth y mae hyn wedi’i wneud? Mae’r gwaith hwn ar y gweill.
Bydd yn ymateb mwy cydlynol i adolygu defnyddwyr gwasanaeth mewn Gofal Preswyl / Nyrsio. Bydd nifer yr adolygiadau hwyr yn gostwng yn sylweddol.
O ran y Gweithgor – bydd Adolygiadau’n cael eu hystyried yn flaenoriaeth yn y Sir a bydd yn fframwaith cadarn gan gynnwys Polisi Adolygiad.