Y targed ar gyfer canran y bobl ifanc a arferai dderbyn gofal y mae’r awdurdod mewn cysylltiad â nhw, ac y gwyddom eu bod mewn addysg, hyfforddiant neu waith yn 19 oed yw 55%.
Caiff hyn ei fesur gan SCC/033(f) “Canran y bobl ifanc a arferai dderbyn gofal y mae’r awdurdod mewn cysylltiad â nhw, ac y gwyddom eu bod mewn addysg, hyfforddiant neu waith yn 19 oed.”
Yn 2014/15 y targed oedd 55%. Cyflawnom ni 64% (9 allan o 14 sy’n Gadael Gofal)
Y ffigwr ar gyfer 2015/16 oedd 54.17% (13 allan o 24 sy’n Gadael Gofal), sy’n is na’r targed ond o fewn lefel goddefiant.
Dylid nodi, gan fod y niferoedd mor fach, gall dim ond un neu ddau o achosion effeithio’n sylweddol ar y ganran.
Tynnodd AGGCC sylw at y perfformiad yn y maes hwn, a lluniodd Conwy gynllun gweithredu cynhwysfawr er mwyn mynd i’r afael â’r anawsterau.
Roedd hyn yn cynnwys cydweithio gyda:
- Gyrfa Cymru (Gofynnwyd iddynt neilltuo swyddog TRAC i Rai sy’n Gadael Gofal)
- Coleg Llandrillo (Cyfarfodydd monitro misol)
- {0>the ‘Let’s Get Working’ programme, and<}70{>y rhaglen ‘Gwaith Amdani’, ac0}
- {0>Conwy’s Education Department<}80{>Adran Addysg Conwy<0}
- AD yn darparu cyfleoedd gwaith a phrentisiaethau
- Paneli NEET rheolaidd i sicrhau ein bod yn cadw i fyny gyda’r datblygiadau.
Mae carfannau a fydd yn Gadael Gofal yn y dyfodol yn cael eu monitro’n ofalus ac mae’r paneli misol yn helpu gwella perfformiad yn y maes pwysig hwn