Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu
You are here: Home / 2014-15 / Canolfannau Lles y Gymuned

Canolfannau Lles y Gymuned

Mae dau Swyddog Datblygu Cymunedol wedi bod yn ymgysylltu â Thîm Lles Cymunedol Conwy ers 1 Rhagfyr, 2014 i gyfrannu at ddatblygiad y ganolfan Lles yng Nghanolfan Gymunedol Tŷ Llywelyn yn Llandudno. Yn gysylltiedig â’r rhaglen ICF, mae wedi canolbwyntio ar:

  • Osgoi derbyniadau diangen i’r ysbyty neu oedi wrth ryddhau pobl hŷn.
  • Hwyluso rhaglen o weithgareddau lles i redeg o fis Mawrth – Gorffennaf 2015
  • Cefnogi Cymdeithas Gymunedol Tre Cwm / Canolfan Gymunedol Tŷ Llywelyn i gynyddu gallu o ran ei adnoddau a’i strwythur rheoli.

Er mwyn sicrhau bod y gymuned yn cael eu cynnwys yn llawn yn y broses o ddatblygu’r ganolfan les a bod yr holl weithgareddau oedd yn berthnasol i anghenion y gymuned, mi wnaeth y Swyddogion:

  • Drefnu digwyddiadau ymgynghori cymunedol ar gyfer pob oed yng Nghanolfan Gymunedol Tŷ Llywelyn, cyfleuster tai gofal ychwanegol Tan Y Fron ac ar draws wardiau Tudno 1 a 2 i asesu anghenion a dymuniadau’r gymuned mewn perthynas â gwasanaethau, gweithgareddau a datblygu cyfleoedd
  • Ymgysylltu â sefydliadau partner a grwpiau i sefydlu gallu i gyflwyno’r gweithgareddau dan sylw, osgoi dyblygu a gwneud y defnydd gorau o adnoddau
  • Nodi cyfle ar gyfer arloesi a chreadigrwydd wrth ddarparu gweithgareddau i’w gwneud yn fwy deniadol i aelodau o’r gymuned

 

Canlyniad y gwaith cychwynnol hwn oedd sefydlu rhaglen 3 mis o weithgareddau lles a fyddai’n cael eu darparu yn Nhŷ Llywelyn; rhwng mis Mawrth a diwedd mis Mehefin 2015, sesiynau blasu am dros 20 o weithgareddau, gan gynnwys: bydd cerdded, pysgota, tylino, boccia, Zumba, cadair-obeg a phrosiect sied y Dynion yn cael eu cynnal er mwyn asesu hyfywedd hirdymor y gweithgareddau.

Mae’r gweithgareddau hyn wedi rhoi cyfleoedd i lawer o bobl leol sy’n awyddus i wella eu lles trwy ragor o ddysgu, ymarfer corff a gweithgarwch cymdeithasol.

Dywedodd John, aelod o Sied y Dynion – “Rwy’n cymryd rhan yn y prosiect hwn gan fy mod yn unig ac yn mwynhau’r cyfle i gymdeithasu gyda dynion eraill o oedran ac amgylchiadau tebyg. O ganlyniad i fynd i sied y Dynion rwyf wedi cwrdd â phobl sydd â diddordebau tebyg a byddaf rŵan yn mynd i gerdded a nofio gyda rhai o’m ffrindiau newydd. Mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr i mi mewn cyfnod byr”.

Er mwyn gwella cynaladwyedd tymor hir y gweithgareddau lles a chyfleusterau’r ganolfan, cefnogwyd Canolfan Gymunedol Tŷ Llywelyn gan y Swyddogion Datblygu Cymunedol i gynyddu ei adnoddau a’i strwythur rheoli. Mae hyn wedi cynnwys datblygu Cynllun Busnes 3 blynedd newydd, datblygu strategaeth gyllido / buddsoddi i symud tuag at gynaliadwyedd ariannol, gan gryfhau’r pwyllgor llywodraethu o ran aelodau a gallu a sgiliau ac, yn olaf, datblygu rhaglen gref o gyfranogiad a chymorth gwirfoddolwyr.

Y gobaith yw y bydd cyllid yn cael ei sicrhau cyn bo hir ar gyfer Rheolwr Canolfan llawn amser i gael ei gyflogi yn Nhŷ Llywelyn; swydd y Rheolwr fydd parhau i ddatblygu canolfan lles a gweithgareddau a datblygu model menter gymdeithasol gynaliadwy gan wireddu potensial y ganolfan, ei chyfleusterau a’r caffi cymunedol. Dyluniwyd model y fenter i gynyddu cyfleoedd am wirfoddoli, hyfforddiant a chyflogaeth mewn ardal o amddifadedd mawr.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Chwilio

Adroddiad 2014-15

Cyflwyniad

Cyflwyniad

Dilyniant ers 2013-14

Dilyniant ers 2013-14

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

LAC Sefydlogrwydd

LAC Sefydlogrwydd

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb
Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@conwy.gov.uk

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2026 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English