Mae’r Rhaglen Trawsnewid Gofal Cymdeithasol yn tynnu at ei therfyn bellach. Mae’r trefniadau llywodraethu sydd wedi bod ar waith ar lefel y Prosiect a’r Rhaglen wedi bod yn hanfodol i’w llwyddiant.
Mae cwmpas a graddfa’r Rhaglen Trawsnewid wedi bod yn ddigynsail, ac mae’n ganmoladwy bod prosesau darparu gwasanaeth a busnes corfforaethol wedi cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwn.
Mae’r rhaglen drawsnewid wedi cael ei halinio â’r canlyniadau gwasanaeth / preswylydd a 4 ffactorau sy’n sbarduno newid, sef:
- Darparu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
- Cyfnod ymchwil y rhaglen (a oedd yn cynnwys staff o’r gwasanaeth yn datblygu argymhellion)
- Cydweithredu rhanbarthol a;
Yr heriau ariannol y mae’r Gwasanaeth a’r Cyngor yn parhau i’w hwynebu
Mae’r Rhaglen yn cynnwys 14 o brosiectau (a oedd â dros 60 o becynnau gwaith rhyngddynt) sy’n ffurfio’r rhaglen ac yn wahanol o ran eu cymhlethdod a’u natur. Mae pob un o’r prosiectau wedi cyflwyno newidiadau neu ddulliau newydd o weithio, i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau a gwell canlyniadau i drigolion Conwy.
Mae canlyniadau’r prosiectau’n amrywiol, ac yn cynnwys y canlynol:
- Sefydlu prosesau ac offer atgyfeirio newydd, fel asesiad syml fframwaith “Yr hyn sy’n bwysig”, i dynnu gwybodaeth gan y cleient
- Gwella Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad Conwy, sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ar draws sectorau
- Creu Fframwaith Asesu i Oedolion, sy’n canolbwyntio ar ba ganlyniadau y mae pobl am eu cyflawni
- Buddsoddiad cyfalaf i ddatblygu canolbwyntiau lles newydd yn Llandudno a Llanrwst a datblygu rhaglenni gweithgarwch lles
- Creu adroddiadau newydd i reoli perfformiad y gwasanaeth
- Prynu a chyflwyno’r system “Call Confirm Live” newydd, a ddefnyddir yn bennaf gan weithwyr gofal cymdogaeth drwy ddefnyddio dyfeisiau symudol.
- Ail-alinio adnoddau a chyflwyno ailstrwythuro, sy’n cynnwys datblygu Gwasanaeth Lles, Pobl Werthfawr ac Anabledd Hyd Oes, sy’n canolbwyntio ar atal
- Cynhyrchu ac adolygu arferion diogelu
- Moderneiddio’r broses model talu Gofalwyr Maeth, i’w gwneud yn fwy agored, syml, teg a hawdd i’w deall
- Cwblhau ymarferiad adolygu ar ddeddfwriaeth, polisïau ac arferion y Gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal, gydag argymhelliad wedi’i nodi a’i ddatblyguy. i gefnogi’r gwasanaeth penodwyd Gweithiwr ar Ddyletswydd, Swyddog Lleoliadau a Chomisiynu a chrëwyd swydd Recriwtio Gofalwyr Maeth newydd
- Datblygu Strategaeth Gyfranogi ac Ymgysylltu, er mwyn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu cynnwys wrth lunio’r modd y cyflwynir gwasanaethau
- Cynhyrchwyd Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu Staff Gofal Cymdeithasol, gyda’r nod o sicrhau bod yr holl weithwyr yn cael eu hysbysu, yn cael eu cynnwys, yn cael llais ac yn gallu cyfrannu at wella gwasanaethau.
- Datblygu Gwasanaeth Preswyl Cyfunol “Llys Gogarth”, gan gynnig darpariaeth breswyl well gyda 10 gwely am 52 wythnos, 7 diwrnod yr wythnos a;
- offer eraill, fframweithiau arfer a buddsoddiad TGCh i helpu staff i ymgymryd â’u swyddi a chefnogi cyflwyno gwasanaethau o ansawdd
Mae’r Rhaglen drawsnewid a’r prosiectau trawsnewid i gyd yn dod i ben yn ffurfiol ym mis Mehefin 2016, gyda chanlyniadau’r prosiect yn dod yn rhan o “waith arferol” y gwasanaethau. Mae unrhyw waith sydd heb ei wneud yn cael ei drosglwyddo i gael ei reoli a’i fonitro’n ymarferol fel y bydd yn yr adolygiad parhaus o ganlyniadau’r gwasanaeth / preswylydd dros y blynyddoedd sydd i ddod.
Tystlythyr cleient yn ymwneud â datblygu canolbwyntiau iechyd a lles a’r rhaglenni gweithgaredd:
Roedd gŵr lleol yn ei saithdegau yn teimlo bod ei fywyd wedi mynd yn wag iawn ar ôl colli ei wraig. Ar ôl cyfnod cychwynnol o alaru derbyniodd gefnogaeth gan y Groes Goch Gofal a arweiniodd at ymweliad â Chanolfan Gymunedol Tŷ Llywelyn. Dywedodd:
“Bu gwagle enfawr yn fy mywyd ar ôl i mi golli fy ngwraig. Roeddwn yn poeni sut y byddwn yn ei lenwi, beth fyddwn i’n gwneud â mi fy hun. Pan ddes i Tŷ Llywelyn a chael fy nangos o gwmpas y lle a fy nghyflwyno i’r rhaglen o’u gweithgareddau lles, roeddwn i’n meddwl bod llawer o bethau y gallwn i fod yn rhan ohonynt. Rhoddodd hyn yn obaith i mi.”
Ers yr ymweliad cyntaf hwnnw, mae wedi rhoi cynnig ar nifer o weithgareddau.
“Mae cymryd rhan yn y gwahanol weithgareddau yn Nhŷ Llywelyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fy mywyd. Mae wedi llenwi’r gwagle roeddwn yn profi ar ôl colli fy ngwraig. Rwyf wedi gwneud cysylltiadau ystyrlon gyda phobl rwyf wedi cwrdd â nhw ac wedi meithrin cyfeillgarwch. Drwy gymryd rhan yn un o’r grwpiau cefais hefyd y cyfle i gyfrannu fy sgiliau ac arbenigedd i wasanaethu’r grŵp. Cafodd hyn i gyd effaith aruthrol ar fy lles ac ansawdd fy mywyd.”