| Term/Acronym | Disgrifiad |
| Ailalluogi / Adsefydlu / Gofal Interim | Gelwir y gofal byrdymor hwn weithiau yn ofal canolraddol, neu ôl-ofal. Mae ailalluogi yn fath o ofal sy’n helpu pobl i ailddysgu sut i wneud gweithgareddau pob dydd, fel coginio prydau bwyd ac ymolchi. Caiff ei ddarparu gan awdurdodau lleol gyda’r nod o liniaru’r angen am ofal a chymorth hirdymor. |
| Gofal Cartref / Gwasanaeth Cymorth Cartref | Mae gofal cartref, a elwir hefyd yn “ofal yn y cartref”, yn cyfeirio at ystod eang o wasanaethau a ddarperir yng nghartref unigolyn ei hun. Gall gynnwys cymorth gyda byw o ddydd i ddydd a rhai materion gofal iechyd ar gyfer yr henoed. |
| Cartref Gofal Preswyl / Cartrefi Nyrsio | Mae cartref gofal preswyl yn darparu llety a gofal a chymorth personol 24 awr y dydd i bobl hŷn ac eraill a all ei gweld yn anodd ymdopi â bywyd o ddydd i ddydd gartref. Mae cartref gofal preswyl a chartref nyrsio yn darparu gofal a chymorth 24 awr y dydd, fodd bynnag, y prif wahaniaeth yw bod cartref nyrsio yn gallu darparu lefel uwch o ofal. Mae gan gartrefi nyrsio nyrsys cymwysedig ar y safle trwy’r amser i ddarparu gofal meddygol yn ôl yr angen, tra mae cartrefi preswyl yn helpu pobl gyda gofal personol ac yn eu cefnogi i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol. |
| Plant sy’n Derbyn Gofal a Phlant sydd â Phrofiad o fod Mewn Gofal | Plant a phobl ifanc sydd: Yn derbyn gofal gartref trwy Orchymyn Gofal Yn derbyn gofal o’r cartref mewn cartref preswyl i blant, mewn lleoliad maeth neu mewn lleoliad gofal gan berthynas (Yn Derbyn Gofal neu Ddim yn Derbyn Gofal) Wedi derbyn gofal yn y gorffennol; pan fônt, ar ryw adeg yn eu bywydau, wedi cael unrhyw un o’r profiadau uchod. Efallai nad yw’r plentyn / unigolyn ifanc erioed wedi derbyn gofal yn ffurfiol. |
| Unigolyn sy’n gadael gofal | Yng Nghymru, mae’r rhai sy’n gadael gofal yn unigolion sydd wedi bod yng ngofal yr awdurdod lleol am 13 wythnos, o leiaf, ers iddynt fod yn 14 mlwydd oed ac sydd wedi gadael gofal ar eu pen-blwydd yn 16 neu wedi hynny. Bwriedir y gefnogaeth a ddarperir i rai sy’n gadael gofal i fod cyfwerth â’r hyn y byddai plentyn nad yw wedi derbyn gofal yn gallu ei ddisgwyl yn rhesymol gan ei rieni. |
| Diogelu | Mae diogelu yn golygu amddiffyn plant ac oedolion rhag camdriniaeth neu esgeulustod, ac addysgu’r rheiny o’u cwmpas i adnabod yr arwyddion a’r peryglon. |
| Gweithdrefnau Diogelu Cymru | Maent yn manylu ar rolau a chyfrifoldebau hanfodol ymarferwyr i sicrhau eu bod yn diogelu plant ac oedolion sydd mewn perygl o gamdriniaeth ac esgeulustod. Darperir geirfa ddefnyddiol yn cynnwys termau diogelu: Diogelu Cymru. |
| Mesur gweithgarwch a pherfformiad gwasanaethau cymdeithasol: fframwaith perfformiad a gwella 2024 i 2025 | Mae hwn yn nodi fframwaith o fetrigau yn ymdrin ag oedolion, plant, a gofalwyr, y mae’n rhaid eu casglu a’u cyflwyno i Lywodraeth Cymru ynghyd â data personol dienw a data cyfanredol ar agweddau penodol ar ofal cymdeithasol. Mae’n datgan y dylai awdurdodau lleol gasglu eu data eu hunain hefyd i ddeall yn well sut mae’r ddarpariaeth gofal cymdeithasol leol yn gweithio yn unol â blaenoriaethau lleol. |
| Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) | AGC yw rheoleiddiwr darparwyr gofal cymdeithasol. Bydd yn cofrestru, arolygu ac yn cymryd camau i wella ansawdd a diogelwch gwasanaethau er lles pobl Cymru. |
| Gofal Cymdeithasol Cymru (GCC) | GCC yw’r rheoleiddiwr gweithlu. Yn rhan o hyn mae’n cofrestru ac yn pennu safonau ar gyfer y gweithlu gofal a chymorth ac yn datblygu’r gweithlu. Mae gan GCC hefyd gylch gwaith gwella, lle bydd yn rhannu arferion da, pennu blaenoriaethau ar gyfer ymchwil ac yn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd a sefydliadau eraill. |
| Preswylydd / Dinesydd | Unigolyn sy’n byw fel arfer o fewn ffin yr awdurdod lleol. |
| Defnyddiwr Gwasanaeth | Unigolyn sy’n defnyddio gwasanaethau cymdeithasol. |
| Cynllun Lleoliad Oedolion / Rhannu Bywydau | Mae Cynlluniau Rhannu Bywydau – a elwir hefyd yn lleoliadau oedolion – yn ffordd deuluol o gefnogi anghenion tai unigolyn diamddiffyn. Gall y math hwn o lety â chymorth fod yn gam delfrydol tuag at fyw’n annibynnol. Cyfeirir at y trefniant rhannu hwn yn aml fel ‘rhannu bywydau’. |
| Taliadau Uniongyrchol | Rhoddir taliadau uniongyrchol i unigolion er mwyn caniatáu iddynt dalu am eu gofal eu hunain. Maent yn ffordd y gall awdurdodau lleol gynorthwyo i ddiwallu angen cymwys yr unigolyn am ofal a chymorth, neu angen gofalwr am gefnogaeth. Maent yn ffordd i bobl drefnu eu gofal a chymorth eu hunain. |
| Byw â Chymorth / Llety | Mae llety byw â chymorth yn fath o dai sy’n darparu gofal personol, cymorth neu oruchwyliaeth i helpu pobl i fyw yn annibynnol. Mae’r gofal a’r cymorth ar wahân i’r contract tai. Gellir rhannu’r llety neu gall fod yn llety sengl, yn dibynnu ar anghenion a hoffterau’r preswylwyr. |
| Gofalwr Di-dâl | Mae gofalwr di-dâl yn rhywun sy’n darparu gofal a chymorth i aelodau o’r teulu, ffrindiau neu gymdogion sydd wedi’u heffeithio gan anabledd, iechyd corfforol gwael neu salwch meddwl, bregusrwydd neu gamddefnyddio sylweddau. Nid oes angen i’r gofalwr fod yn byw â’r unigolyn y mae’n gofalu amdano. |
| Gofalwr Ifanc | Mae gofalwr ifanc yn ofalwr di-dâl hyd at 18 oed. Gall fod yn darparu gofal a chymorth i rieni, brodyr a chwiorydd neu aelodau eraill o’r teulu. |
| Cynllun Gofal a Chymorth | Dogfen yw cynllun gofal a chymorth, sy’n nodi’r hyn a drafodwyd yn ystod asesiad o anghenion gofal cymdeithasol a’r hyn sy’n mynd i ddigwydd o ganlyniad. Mae’n gynllun y mae’n ofynnol i awdurdod lleol ei baratoi a’i gynnal dan Adran 54 (1) Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. |
| Cynllun Cymorth y Gofalwr | Os oes gan ofalwyr di-dâl anghenion sy’n gymwys am gefnogaeth, mae dyletswydd statudol ar yr awdurdod lleol i gynllunio ar gyfer yr anghenion hynny a’u diwallu drwy ddarparu ‘Cynllun Cymorth y Gofalwr’. Os nodir bod gan y gofalwr di-dâl anghenion cymwys, mae’n rhaid i’r awdurdod lleol sicrhau bod yr anghenion hynny’n cael eu diwallu. |
| Eiriolaeth | Mae eiriolwyr mewn gofal cymdeithasol yn annibynnol o’r awdurdod lleol (Cyngor lleol) a’r GIG. Maent wedi eu hyfforddi i gynorthwyo pobl i ddeall eu hawliau, mynegi eu safbwyntiau a’u dymuniadau, a bod o gymorth i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed. |
| Atal ac Ymyrraeth Gynnar | Mae atal ac ymyrraeth gynnar yn ddulliau o gymorth gyda’r nod o wella canlyniadau i bobl neu atal anghenion neu risgiau rhag gwaethygu. Cyfeirir atynt weithiau fel cymorth cynnar neu wasanaethau ataliol. |
| Rheoliadau Gweithdrefn Gwynion y Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 | Y Rheoliadau a gyflwynodd proses newydd, dau gam, i ymdrin â chwynion a sylwadau ynglŷn â gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol. Mae’n cysoni’r broses ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol â Pholisi Pryderon a Chwynion Enghreifftiol a Chanllawiau, a Gweithdrefn Gwynion y GIG, Gweithio i Wella. |
| Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid | Mae Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn weithdrefn gyfreithiol yn y DU, a fwriadwyd i amddiffyn pobl ddiamddiffyn mewn lleoliadau gofal. Mae’n berthnasol i oedolion nad oes ganddynt y galluedd meddyliol i gydsynio â’u trefniadau gofal ac y mae angen eu hamddifadu o’u rhyddid. Mae Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid yn sicrhau bod y rheiny na allant gydsynio â’u gofal yn cael eu hamddiffyn pan fo’u trefniadau yn eu hamddifadu hwy o’u rhyddid. Byddant yn cael eu disodli gan Ddiogeliadau Amddiffyn Rhyddid yn y dyfodol. |
| Mwy Na Geiriau | Mae Mwy Na Geiriau yn strategaeth a chynllun cyflawni sydd â’r nod o wella ansawdd y gofal ar gyfer unigolion sy’n byw mewn gwlad ddwyieithog. |
| Gofal Ychwanegol | Darpariaeth pecyn gofal cartref i unigolyn sy’n byw mewn lleoliad byw â chymorth / llety. |
| Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol | Cynllun Llywodraeth Cymru i fynd i’r afael â hiliaeth a gwneud ‘newidiadau ystyrlon a mesuradwy’ i fywydau pobl o gefndir Du, Asiaidd ac ethnig leiafrifol yng Nghymru. Nod y cynllun yw gwneud Cymru’n wlad wrth-hiliol erbyn 2030. |
| Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth | Cyfeirio at gysylltiadau ac atgyfeiriadau – cydsyniad a lefel y wybodaeth a gofnodwyd – cysylltiad ag asesiad cymesuredd. |
| Ddim mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) | Mae NEET yn golygu “Ddim mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant”. Cyfeiria at bobl ifanc nad ydynt mewn addysg nac yn ymgymryd â hyfforddiant galwedigaethol nac mewn cyflogaeth. Gall unigolion NEET fod dan anfantais gymdeithasol ac economaidd. |
| Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 | Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn gyfraith sydd â’r nod o wella lles pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a gofalwyr y mae angen cefnogaeth arnynt, a thrawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. |