Safonau ansawdd
- Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a chyflawni’n llawn ganlyniadau cynaliadwy, cwbl integredig, o ansawdd uchel, i bobl
- Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at gynllun a darpariaeth eu gofal a chymorth fel partneriaid cyfartal
Gwasanaethau Plant
Datblygu a darparu llety o ansawdd uchel i blant a phobl ifanc drwy drawsnewid lleoliadau preswyl a mewnol lleol.
Mae’r Rhaglen ar gyfer Trawsnewid Gwasanaethau Preswyl Plant bellach ar waith ac yn ymateb i strategaeth leoliadau Conwy 2022-2027, y pwysau sylweddol ar gyllideb Lleoliadau Annibynnol, a rhaglen Dileu Elw Llywodraeth Cymru sy’n anelu at ddileu elw o wasanaethau plant sy’n derbyn gofal erbyn 2027. Cymeradwywyd y rhaglen gan ein Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a’r Cabinet yn 2022.
Mae cartrefi gofal a lleoliadau ar gyfer plant a phobl ifanc yn sicrhau bod eu hanghenion yn cael eu bodloni pan nad ydynt yn gallu byw gyda’u teulu eu hunain. Maent yn lle i blant a phobl ifanc dderbyn cefnogaeth i ddatblygu a thyfu.
Ein nod yw cynyddu nifer y lleoliadau lleol i alluogi plant a phobl ifanc sydd tu allan i’r sir ar hyn o bryd i ddychwelyd i’r ardal, neu’n nes at adref, a’u galluogi i gadw eu gwreiddiau’n lleol, eu hysgolion, eu diwylliant, eu ffrindiau a’u rhwydweithiau cefnogi.
Mae grŵp gweithredol y Rhaglen Drawsnewid a’r Gwasanaeth Preswyl i Blant wedi dysgu llawer dros y deuddeng mis diwethaf ac wedi penderfynu canolbwyntio ar y tri chartref sydd wrthi’n cael eu datblygu, yn hytrach na dechrau unrhyw rai newydd.
Bwthyn y Ddôl
Cwblhawyd gwaith adeiladu canolfan asesu breswyl Bwthyn y Ddôl – sy’n gydweithrediad rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy (CBSC) Cyngor Sir Ddinbych a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) – a’i drosglwyddo’n ffurfiol i CBSC ar 4 Tachwedd 2024.
Cynhaliwyd arolygiad Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ym mis Tachwedd 2024, a chyflawnwyd cofrestriad AGC ar gyfer y ganolfan asesu, sy’n cynnwys pedair ystafell wely, y mis canlynol. Disgwyliwn i’r ddarpariaeth frys dwy ystafell wely fod wedi ei chofrestru yn chwarter olaf 2024-2025.
Prif nod y ganolfan asesu yw ailuno plant â’u teuluoedd, ac, os nad yw hynny’n bosibl, darparu lleoliad tymor hwy iddynt mewn gofal maeth neu ofal preswyl. Mae’r holl staff preswyl a staff gweinyddol yn eu swyddi ac yn hollol weithredol, ac wedi symud gyda’r plant o Ingleside (Cam 1) i’r adeilad newydd (Cam 2) ym mis Rhagfyr 2024.

Hafarn y Wern
I bobl ifanc y mae angen gofal preswyl arnynt, yr ydym yn datblygu ac yn ailenwi Glan yr Afon ym Mochdre i Hafan y Wern. Mae’r argraff arlunydd isod yn dangos sut y disgwyliwn iddo edrych ar ôl ei gwblhau.

Bydd Hafan y Wern yn darparu llety hirdymor i bedwar plentyn sy’n derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol. Mae’r llun isod yn dangos y cynnydd hyd yma! Cymeradwyodd y Cabinet y strwythur staffio o ddeuddeg cydweithiwr llawn amser ym mis Awst 2024, a bydd plant yn mynd i fyw yno erbyn mis Mehefin 2025.

Sylva Gardens
Datblygiad preswyl a fydd yn darparu tri rhandy dwy ystafell wely i dri phlentyn ag anableddau dysgu yw Sylva Gardens. Maent yn derbyn gofal gan yr Awdurdod Lleol, ac mae dau unigolyn ifanc yn preswylio mewn lleoliadau annibynnol y tu allan i’r sir ar hyn o bryd, ymhell oddi wrth eu rhieni, eu ffrindiau a’u cymunedau.
Sicrhawyd cyllid grant o’r Gronfa Tai â Gofal gan Lywodraeth Cymru a’n partner, y Landlord Cymdeithasol Cofrestredig Cymdeithas Dai Dewis Cyntaf sydd wedi ariannu’r datblygiad yn rhannol. Bryn Build oedd y contractwr a benodwyd, a chwblhawyd y datblygiad erbyn diwedd mis Ionawr 2025, chwe mis yn hwyrach na’r hyn a ddywedwyd y llynedd, o ganlyniad i nifer o broblemau isadeiledd a gododd yn ystod y gwaith adeiladu.
Cymeradwyodd y Cabinet y strwythur staffio o 32 aelod o staff llawn amser ym mis Mawrth 2024. Yr ydym wedi penodi Rheolwr Cofrestredig ac wyth Gweithiwr Gofal Plant Preswyl, a byddwn yn recriwtio ar gyfer mwy o swyddi i baratoi ar gyfer y dyddiad agor.
Gwella ein Cynnig Gofal Maeth
Ar ddechrau 2024 yr oeddem ddigon lwcus o allu creu pedair swydd ychwanegol o gyllid gant Dileu Elw fel a ganlyn:
Swyddog ar Ddyletswydd
Fe’i bwriadwyd i ddargyfeirio tasgau oddi wrth y Gweithiwr Cymdeithasol Goruchwyliol a chynyddu capasiti, ond mae newidiadau staffio yn fewnol wedi ei hatal rhag cymryd mantais lawn o’r penodiad hwn.
Cydlynydd Unigolion Cysylltiedig
Mae rôl Cydlynydd Unigolion Cysylltiedig yn gwella’r gefnogaeth i’r Gwarcheidwad Arbennig, i annog gofalwyr maeth i geisio Gwarcheidiaeth Arbennig, ac i atal methiant lleoliadau trefniadau presennol.
Gan fod un aelod o staff eisoes yn cyflawni’r rôl hon, rhoddodd y swydd ychwanegol hon gynnydd o 100% i ni, ac yr oedd hyn yn bendant yn llwyddiant. Yr oedd y ddau aelod o staff yn gallu cefnogi’r Gwarcheidwaid Arbennig, a galluogodd y capasiti ychwanegol hwy i gynnig rôl fwy uniongyrchol a chefnogol.
Un enghraifft o’r llwyddiant hwn oedd bod unigolyn ifanc a oedd yn gwrthod mynd i’r ysgol wedi dychwelyd i’r ysgol yn llawn amser yn dilyn cefnogaeth benodol, a sefydlogwyd ei fywyd gartref.
Swyddog Recriwtio
Recriwtiwyd Swyddog Recriwtio ychwanegol gennym ym mis Mawrth 2024.
Yr oedd cael dau Swyddog Recriwtio’n beth cadarnhaol, ac yr oedd gan y ddau set sgiliau wahanol, a’r gallu i ganolbwyntio ar Farchnata a Recriwtio ar wahân. Cawsom fudd o ddeunydd marchnata ychwanegol, digwyddiadau recriwtio a diwrnod gwerthfawrogi ar gyfer gofalwyr maeth o ganlyniad i’r cyllid ychwanegol.
Yr oedd y Swyddog Recriwtio’n gallu cynyddu presenoldeb mewn digwyddiadau, mynd i sesiynau ‘Paned a Sgwrs’ mewn llyfrgelloedd lleol, a chreu mwy o ymwneud a chysylltiad yn y gymuned drwy godi ymwybyddiaeth, arddangos posteri mewn ffenestri siopau, a baneri yn y mwyafrif o ysgolion cynradd y sir.
Gweithiwr Cymdeithasol Seibiant Byr
Mae ein Gweithiwr Cymdeithasol Seibiant Byr wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r Swyddogion Recriwtio i greu cynnwys am Seibiannau Byrion ar y cyfryngau cymdeithasol a bod yn bresennol mewn digwyddiadau er mwyn hyrwyddo’r gwasanaeth hwn.
Yn dilyn misoedd o waith paratoi, cyflwyno a thrafodaeth, daeth cymelliadau ar gyfer gofalwyr maeth i rym. Daeth rhyddhad Treth y Cyngor, trwyddedau parcio a pholisi Cyflogwr sy’n Cefnogi Maethu i rym erbyn mis Awst 2024.
Gweithgarwch arall yn y gwasanaeth maethu
- Cawsom arolygiad maethu gan Arolygiaeth Gofal Cymru ym mis Tachwedd 2024; yr oedd yr adborth llafar, a’r adroddiad arolygu drafft, yn gadarnhaol iawn.
- Yr ydym wedi gweld cynnydd bach yn nifer y gofalwyr maeth, ynghyd â chyfradd gadw uwch eleni.
- Os bydd cyllid grant Dileu Elw’n cael ei ymestyn i 2025/26, byddwn yn recriwtio Swyddog ar Ddyletswydd a Chydlynwyr Unigolion Cysylltiedig, oherwydd nodwyd bod eu hangen.
- Bydd y Swyddog Recriwtio a’r Swyddog Marchnata yn parhau i ganolbwyntio ar feysydd o angen, fel canolbwyntio ar seibiannau byrion, cadw brodyr a chwiorydd gyda’i gilydd a phobl ifanc yn eu harddegau.
- Gyda diffyg twf ym maes Anabledd o ran Seibiannau Byrion, mae’n rhaid i ni ddeall y sector hwn yn llawn ac archwilio sut mae awdurdodau lleol eraill yn diwallu’r angen hwn y tu allan i’w hadnoddau maethu traddodiadol.
Ap Mind of My Own
Yr ydym wedi crybwyll ap Mind of My Own (MOMO) mewn adroddiadau blaenorol gan ei fod yn darparu ffordd gyfleus ac atyniadol i blant a phobl ifanc rannu eu safbwyntiau gyda ni drwy borth ar-lein. Er bod hyn bellach yn nodwedd reolaidd o’n gwaith gyda Phlant sy’n Derbyn Gofal, parhawn i hyrwyddo’r ap er mwyn cynnwys mwy o weithwyr proffesiynol a chynnal brwdfrydedd dros ei ddefnyddio.
Yr ydym wedi darparu cefnogaeth i Ofalwyr Maeth i gynyddu eu cynefindra a’u hyder gyda’r ap, gan ddefnyddio eu cyfarfodydd bore coffi rheolaidd a chynnal sesiynau hyfforddi ar Teams. Ers mis Ebrill 2024 yr ydym wedi cynnig sesiynau ar-lein bob chwe mis i Ofalwyr Maeth a Gofalwyr sy’n Berthynas, ac mae cynrychiolydd sy’n Ofalwr Maeth yn bresennol yn ein cyfarfodydd gweithredol misol.
Yr ydym wedi darparu hyfforddiant i asiantaethau maethu annibynnol, ac mae cynlluniau i drefnu mwy. Ers mis Tachwedd 2024, mae MOMO wedi cynnig sesiynau cefnogaeth newydd bob yn ail wythnos, gyda sesiynau ar wahân ar gyfer staff, a rhieni a gofalwyr.
Er gwaethaf llwyddiant MOMO, yr ydym yn ymwybodol bod dulliau ymgynghori ar waddol yn parhau i gael eu defnyddio. Teimla ein Swyddogion Diogelu ac Adolygu Annibynnol fod y ffurflenni gwaddol yn casglu mwy o ddyfnder o ran gwybodaeth i fwydo i brosesau cynllunio ac adolygu gofal. Mae mwy o drafodaethau wedi ein harwain i deimlo mai ymgysylltiad ystyrlon yw’r flaenoriaeth, ni waeth beth fo’r dulliau a ddefnyddiwyd; felly, er y byddwn yn hyrwyddo’r ap, byddwn yn gadael ffurflenni / llyfrynnau ar-lein amgen fel dewis ar gyfer y rheiny y mae’n well ganddynt eu defnyddio.
Y llynedd trafodwyd cynnal arolwg i ddarparu mwy o fewnwelediad a chynorthwyo gyda gwneud y mwyaf o fanteision MOMO. Dywedodd cyfranogwyr wrthym:
Rydw i’n teimlo bod cael hwn fel ap yn ddefnyddiol iawn, oherwydd mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yn ymgysylltu’n well gyda dyfeisiau electronig.
Mae’n darparu rhyddid iddyn nhw fynegi eu safbwyntiau pan fo’r amser yn gyfleus iddyn nhw.
Mae Gweithwyr Cymdeithasol wedi eu gorlwytho ar hyn o bryd a dydyn nhw ddim yn teimlo bod ganddyn nhw amser i ddefnyddio hwn gyda’u plant neu mae’r plant yn gwrthod.
Yn dilyn yr arolwg yr ydym wedi darparu neu drefnu sesiynau hyfforddi ychwanegol ar gyfer gwasanaethau fel Kickstart a’r ganolfan asesu plant newydd, Bwthyn y Ddôl. Mae enghreifftiau o arferion da wedi dod i’r amlwg, fel defnyddio’r apiau fel ffordd o asesu llythrennedd digidol, a byddwn yn rhannu’r rhain fel enghreifftiau i ysbrydoli aelodau eraill o’r gweithlu.
Ymgysylltu â phobl sy’n gadael gofal
Yr ydym wedi parhau i gyflwyno model ymarfer newydd ar gyfer ymgysylltu â phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, drwy weithio mewn partneriaeth â hwy a’u hannog i gymryd rhan mewn ymchwil gyda Phrifysgol Bangor. Yr ydym wedi gallu canolbwyntio ar yr hyn sy’n bwysig i bobl ifanc a sicrhau bod y pecyn gwaith a ddyfeisiwyd yn diwallu’r anghenion hynny.
Cynhaliwyd symposiwm ym mis Medi 2024, lle rhannwyd canlyniad yr ymchwil a’r pecyn gwaith yn eang. Gobeithiwn y bydd hyn yn arwain at ddull gweithredu cyson ar gyfer pob unigolyn ifanc sydd â phrofiad o’r system ofal.
Eleni yr ydym wedi ymroi amser a oedd ei angen yn fawr i gasglu adborth gan bobl ifanc sy’n defnyddio ein gwasanaeth. Gwnaed darn o waith gyda rhai Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches yn ymwneud â disgwyliadau a rolau staff. Lluniodd myfyrwyr o fewn y tîm daflenni ar gyfer y bobl ifanc yn ymwneud â’r hyn y gallant ei ddisgwyl gan wasanaethau a phwy fydd yn ymwneud yn eu gofal. Lluniwyd taflen ar gyfer staff hefyd, yn rhoi gwybodaeth iddynt am eu rolau a’u cyfrifoldebau wrth weithio gyda Phlant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches.
Datgelodd ymgynghoriad â Rhai sy’n Gadael Gofal ynglŷn â gwefan Camau Bach Dyfodol Disglair nad oeddent eisiau rheoli’r wefan eu hunain, felly ni fydd hwn yn adnodd cynaliadwy mwyach. Byddwn, yn lle hynny, yn ceisio trosglwyddo rhywfaint o’r wybodaeth fwyaf perthnasol i wefan yr Awdurdod Lleol.
Dywedodd Rhai sy’n Gadael Gofal wrthym nad oedd Wythnos y Rhai sy’n Gadael Gofal yn rhywbeth yr oeddent yn dymuno cymryd rhan ynddo mwyach, gan eu bod yn teimlo bod y digwyddiad yn eu harwahanu ac nad oedd yn gynhwysol. Yn hytrach nag Wythnos y Rhai sy’n Gadael Gofal byddwn yn canolbwyntio ar bob person ifanc fel unigolyn. Er enghraifft, byddwn yn dathlu pob digwyddiad arwyddocaol a gwyliau crefyddol drwy anfon arwydd o gydnabyddiaeth o’r digwyddiad, e.e. y Nadolig, Eid a phenblwyddi.
I sicrhau ein bod yn parhau i drafod gyda phobl ifanc sy’n defnyddio ein gwasanaeth yr ydym wedi ychwanegu sesiynau adborth i’n cynllun archwilio blynyddol.
Gwasanaethau Oedolion
Datblygu llwybr lles meddyliol gyda’r Bwrdd Iechyd
Y llynedd trafodwyd gweithio’n agosach â’r Bwrdd Iechyd Lleol a chydweithwyr mewnol i sicrhau bod llwybrau cefnogaeth iechyd meddwl yn llyfnach rhwng sefydliadau ac ar gyfer unigolion sy’n dod yn oedolion.
Mae Rheolwyr y Bwrdd Iechyd a’r Awdurdod Lleol yn cyfarfod yn rheolaidd i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn derbyn y gofal cywir ar yr amser cywir, ac yr ydym yn lliniaru unrhyw broblemau a nodir. Yr ydym hefyd yn cael cyfarfod ar y cyd i ddarparu dull amlbroffesiwn ar gyfer y rheiny sydd â phroblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau.
Yr oedd cyfres o sesiynau galw heibio hanner diwrnod bob mis gyda staff Mind Conwy yn ddefnydd cynhyrchiol o amser; sicrhaodd fod ymarferwyr yn deall beth allai Mind ei gynnig a rhoddodd le i drafod achosion ac atgyfeiriadau mewn manylder. Datblygodd hyn wedyn yn gyfarfod wythnosol i sicrhau ein bod yn defnyddio’r gefnogaeth sydd gan Mind i’w chynnig, a bod yna, pan fo’r angen, ddull gweithredu ar y cyd ar gyfer achosion, sy’n rhan werthfawr a rheolaidd o’n harferion.
Yr ydym wedi dechrau datblygu llwybr i bontio Tîm Lles Meddyliol, Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau, sy’n datblygu ac yn meithrin perthnasoedd i wella’r dull amlddisgyblaethol a chyfoethogi’r profiad ar gyfer pobl a gefnogir gennym. Drwy’r meithrin perthnasoedd yma yr ydym hefyd wedi gallu creu clinig seicoleg misol, sy’n rhoi’r cyfle i weithwyr cymdeithasol drafod achosion a derbyn cyngor o safbwynt seicolegol i wella’r ffordd yr ydym yn gweithio gyda phobl sydd ag anghenion cymhleth.
Mae angen gwelliant parhaus o ran cyflymdra’r gwaith o ddatblygu a sefydlu’r llwybr ar gyfer continwwm gofal gyda’r Bwrdd Iechyd Lleol a’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol, yn benodol. Fodd bynnag, mae’r cyfarfod misol rhwng rheolwyr y Tîm Lles Meddyliol a’r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn hwyluso gwell cyfathrebu a dull gweithredu ar y cyd, lle bo’r angen.
Yr ydym yn adolygu darpariaeth y Gwasanaeth Lles Meddyliol gan ganolbwyntio ar gynaliadwyedd wrth symud ymlaen, yn arbennig o ystyried y cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau ac effaith ddeng mlynedd ddisgwyliedig y pandemig. Bydd y gwaith a wneir o fewn rhaglen Adferiad Creadigol Hadau Newid yn allweddol wrth hwyluso’r newid hwn o ran darparu agwedd ataliol ar ein darpariaeth gwasanaeth. Bydd astudiaethau achos yn rhan bwerus a phwysig o’r ffordd yr ydym yn mesur hyn wrth symud ymlaen.
Mae’r Tîm wedi nodi ein huchelgais a’n cynllun gweithredu, dan y teitl Y Nod Driphlyg. Fodd bynnag, ein nod ar gyfer y flwyddyn nesaf yw ailadrodd ein harolygon boddhad gwreiddiol ar gyfer defnyddwyr gwasanaeth a staff, a byddwn yn eu cyfuno â’n data perfformiad, ac yn eu defnyddio i ddylanwadu ar newid.
Ymgyrch Gwrando ar Ddementia
Yn dilyn ymgyrch y llynedd cynhaliwyd digwyddiad cymunedol gennym yn Llanfairfechan i gyflwyno’r adroddiad terfynol; daeth amryfal aelodau o’r gymuned a sefydliadau eraill yno sydd â diddordeb mewn dementia yn y gymuned ac sy’n darparu gwasanaethau yng Nghonwy.
Gan ddefnyddio’r gwaith a wnaed yn Llanfairfechan a siroedd eraill yng ngogledd Cymru, nodwyd wyth blaenoriaeth allweddol, a bydd y rhain yn llywio gwaith y Gydweithredfa Dementia Ranbarthol ar gyfer y dyfodol:
- Mynediad at ofal a chefnogaeth
- Gofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Cefnogaeth i ofalwyr di-dâl
- Mynediad hawdd at wasanaethau
- Grwpiau a gweithgareddau
- Cymunedau sy’n deall dementia
- Gwell mynediad at gludiant
- Darparu gwasanaethau dementia yn y Gymraeg
Drwy ganolbwyntio ar yr amcanion allweddol hyn a’r argymhellion ynddynt, gobeithir y gall yr holl bartneriaid sefydlu fframwaith mwy cefnogol ac effeithiol ar gyfer gofal dementia yn eu cymunedau. Bydd hyn yn gwella ansawdd gofal, yn sicrhau bod unigolion sy’n byw â dementia, a’u teuluoedd, yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt. Bydd y dull hwn o weithredu yn gwella ansawdd bywyd y bobl hynny sy’n byw â dementia, a’u gofalwyr, gan hybu diwylliant o ddealltwriaeth a chynwysoldeb. Bydd cydweithio ymysg darparwyr gofal iechyd, sefydliadau cymunedol, y Bwrdd Iechyd a llywodraeth leol yn hanfodol i gyflawni’r nodau hyn a chreu cymdeithas sy’n deall dementia.
Mae Adroddiad Ymgyrch Gwrando ar Ddementia yn cynnwys mwy o wybodaeth am yr ymgyrch yn Llanfairfechan a’r newidiadau y dywedodd pobl wrthym eu bod eisiau eu gweld. Gellwch weld yr adroddiad ar wefan Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru.
Cyfranogiad ac Ymgysylltiad ar gyfer Gwasanaethau Oedolion
Mae ein Swyddog Cyfranogiad Oedolion wedi cyflawni sawl darn o waith ymgysylltu dros y flwyddyn adrodd hon, gan gynnwys:
- Siarad â phreswylwyr ac aelodau o’r teulu mewn dau leoliad Byw â Chymorth ar bymtheg ynglŷn ag ansawdd y gofal y maent yn ei dderbyn
- Ymgynghori ag unigolion sy’n derbyn gofal sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau gan asiantaethau gofal cartref
- Ymgynghori â phreswylwyr Cynllun Tai Gofal Ychwanegol sy’n derbyn gofal a chymorth gan wasanaethau mewnol a gwasanaethau a gomisiynir yn allanol
- Ymgynghori ag unigolion sy’n defnyddio menter gymdeithasol PSS
- Ymgysylltu’n flynyddol ag unigolion sy’n defnyddio gwasanaethau Cefnogaeth Gymunedol Anabledd
- Ymgynghoriad yn ymwneud â gwasanaeth dydd anabledd
Cynllunnir gwaith cyfranogiad ac ymgysylltiad yn y dyfodol o fewn lleoliadau cartref gofal.
Mae un Gweithiwr Cyfranogiad Oedolion llawn amser yn ymgysylltu â gwahanol gyrff cymunedol yng Nghonwy, fel y Rhwydwaith Cyfranogi, Age Connects a fforymau eraill ar gyfer oedolion, gan roi gwybodaeth iddynt ynglŷn â gweithgareddau’r awdurdod lleol a chyfeirio at yr adrannau o fewn y Cyngor y mae pobl yn ymholi yn eu cylch.
Yn ogystal, mae’r swyddog yn cynnal sesiynau Ffrindiau Dementia yn rheolaidd ar gyfer gweithwyr Cyngor Conwy, ysgolion Conwy a sefydliadau’r Trydydd Sector.
Eleni, gyda chymorth Swyddog Cefnogi Prosiect, mae’r Swyddog Cyfranogiad ac Ymgysylltiad wedi sefydlu Rhwydwaith Cefnogi Gofalwyr, digwyddiad ar gyfer sefydliadau gofalwyr yng Nghonwy i ddod at ei gilydd, gan ddod â’u syniadau a gwybodaeth gyda hwy a rhwydweithio gyda sefydliadau eraill na fyddent o reidrwydd yn dod i gysylltiad â hwy. Cynhelir y grŵp rhwydweithio hwn bob chwe mis; cynhaliwyd y cyntaf ym mis Hydref 2024 ac yr oedd yn llwyddiannus iawn. Mae’r holl sefydliadau a oedd yn bresennol wedi cofrestru ar gyfer sesiynau yn y dyfodol.
Yr ydym wedi ymweld ac ymgysylltu â phreswylwyr ac aelodau o deuluoedd pobl sy’n byw mewn lleoliadau gofal yng Nghonwy. Hyd yma, cafwyd dau ymweliad i gartrefi gofal, 17 o ymweliadau i eiddo Byw â Chymorth ac ymweliadau i’r pedwar cyfleuster Tai Gofal Ychwanegol ledled y sir.
Yr ydym wedi gofyn am adborth ar ein gwasanaethau comisiynu ac anabledd, gan gynnwys ymgynghori ag unigolion sy’n defnyddio gwasanaeth PSS, ein gwasanaeth gofal dydd a’r rheiny sy’n derbyn gwasanaethau gofal cartref gan asiantaethau, gan ddefnyddio gofal sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau.
Sut ydym yn defnyddio’r adborth a dderbyniwn
Sicrhawn fod unrhyw adborth a dderbyniwn yn cael ei ddefnyddio i fonitro a gwella’r gwasanaethau’r ydym yn eu darparu ein hunain ac yn eu comisiynu’n allanol. Gall hyn fod ar ffurf adroddiadau mewnol, trafodaethau a chynlluniau gweithredu, a bydd unrhyw argymhellion ar gyfer gwella yn derbyn sylw gan y Swyddog Cyfranogiad ac Ymgysylltiad ac / neu Unigolyn Cyfrifol gyda’r gwasanaethau eu hunain.
Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru
Datblygwyd Strategaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru yn 2017 a 2018, gyda chefnogaeth Uned Cydweithio Rhanbarthol Gogledd Cymru. Cafodd ei chymeradwyo gan chwe awdurdod lleol y gogledd a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr fis Mawrth 2019.
Mae’r strategaeth yn nodi pum pecyn gwaith sydd ei angen i fwrw ymlaen â’r gwaith yma a sefydlwyd “Gogledd Cymru gyda’n Gilydd” – tîm Trawsnewid Anableddau Dysgu Gogledd Cymru – i ddatblygu agweddau ar y strategaeth a allai gael budd o gael eu darparu’n rhanbarthol. Cafodd y rhaglen ei hariannu’n wreiddiol am 18 mis gan Lywodraeth Cymru, ac mae’n cyd-fynd â menter ‘Cymru Iachach’.
Yr oedd y prif feysydd a amlygwyd yn y strategaeth wreiddiol yn canolbwyntio ar y canlynol:
Llety / gweithlu / cam i fyny, cam i lawr
- Cefnogaeth i nodi’r angen am dai
- Gweithio gyda phartneriaid (yn ôl yr angen) i ddatblygu achosion busnes Cronfa Tai â Gofal
- Rhaglen barhaus o hyfforddiant Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol
- Datblygu cyfleusterau cam i fyny / cam i lawr, sy’n cyd-fynd â gwaith ailgomisiynu gwasanaethau i leihau derbyniadau a hyd arosiadau mewn lleoliadau ysbyty arbenigol ar gyfer anableddau dysgu.
Technoleg
- Hyfforddiant technolegol ar gyfer unigolion, teuluoedd a’r gweithlu
- Cyfeirio / darparu cyfarpar
- 1 i 1, cefnogaeth canolbwynt a grŵp i ddatblygu sgiliau
- Datblygu a hyrwyddo apiau (e.e. Paincheck a PBAS)
Cyflogaeth
- Datblygu strategaeth cyflogaeth â chymorth
- Ymchwilio i gyfleoedd gwaith a dydd
- Model cyflogaeth â chymorth
Newid Cymunedol a Diwylliannol
- Comisiynu gweithgareddau trydydd sector. Dan arweiniad aelodau ac wedi’u cydgynhyrchu
- Hyrwyddo ymarfer sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Hyrwyddo taliadau uniongyrchol
Iechyd
- Sefydlu a chael arian cyfatebol ar gyfer Cefnogwyr Gwiriadau Iechyd. Canolbwyntio ar wella iechyd corfforol oedolion gydag anableddau dysgu yng ngogledd Cymru
- Datblygu llwybrau arferion da ar gyfer pontio, llety ac anawsterau dysgu dwys a lluosog
- Cefnogi’r Gyllideb Gyfun gydag Ynys Môn
- Sicrhau llwybrau cymunedol cadarn ar gyfer anableddau dysgu gydag asiantaethau partner
Plant a Phobl Ifanc
A hithau’r set fwyaf newydd o flaenoriaethau yn y rhaglen, bydd ffrwd waith Plant a Phobl Ifanc yn parhau i ddatblygu’r meysydd gwaith a amlygwyd.
- Ariannu’r Prosiect Pontio Teuluoedd Rhanbarthol
- Cydlunio adnodd Bywyd ar ôl Ysgol a chyflawni argymhellion yr adroddiad hwnnw
- Archwilio’r potensial ar gyfer datblygiadau gwyliau byrion i blant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth
- Llunio protocol Pontio Rhanbarthol
- Cyllid parhaus ar gyfer gweithgareddau i blant a phobl ifanc, yn cynnwys cydlunio meysydd lle ceir bylchau yn y ddarpariaeth
Mae Rhaglen Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd yn parhau i fod ar waith tan 2027. O ganlyniad, comisiynwyd gwaith i ganolbwyntio ar ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer gwasanaethau anableddau dysgu ledled gogledd Cymru. Y nod yw datblygu strategaeth pum mlynedd o fis Mai 2025 tan fis Ebrill 2030. Hwyluswyd sgyrsiau ledled y rhanbarth i ganolbwyntio ar archwilio’r pwyntiau allweddol canlynol:
- A yw’r meysydd yr ymdrinnir â hwy yn y strategaeth wreiddiol yn dal yn berthnasol?
- A oes meysydd eraill y dylid eu cynnwys yn y strategaeth newydd?
- Beth sy’n bwysig i bobl ’rŵan?
- Beth fydd yn bwysig i bobl yn y dyfodol?
Eiriolaeth Anableddau Dysgu
Cefnogir Ehedwyr Gogledd Cymru gan Wasanaeth Adfocatiaeth a Chynghori Gogledd Cymru, Cyswllt Conwy, a Phobl yn Gyntaf Cymru Gyfan am dair blynedd, o fis Mawrth 2025 ymlaen. Mae’r chwe awdurdod lleol a BIPBC yn parhau i fod yn gefnogol i’r grŵp, sy’n adrodd i Grŵp Partneriaeth Anableddau Dysgu Gogledd Cymru a Bwrdd Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd.
Mae’r cynrychiolwyr wedi bod yn gweithio yn eu grwpiau ardal lleol:
- Mae fforwm Conwy wedi ysgrifennu at yr AS mewn perthynas â meini prawf a thaliadau’r Taliad Annibyniaeth Bersonol, ac mae wedi cwblhau arolwg cludiant
- Mae Te am Dri Gwynedd wedi cwblhau arolwg Trafnidiaeth Cymru
- Mae Sir Ddinbych yn ymgynghori ar enw a logo ei grŵp
- Mae’r Cadeirydd wedi bod mewn nifer o gyfarfodydd, yn cynnwys cyfarfod Piws / Ymgysylltu â Rhanddeiliaid, Rhieni a Gofalwyr (SPACE) yn Wrecsam
Mae’r grŵp wedi bod yn gweithio ar fideo i rannu a hyrwyddo gwaith y grŵp gyda phartneriaid a phobl sydd ag anableddau dysgu ledled gogledd Cymru, ac mae wedi sefydlu tudalen Facebook: https://www.facebook.com/flyersnorthwales/.
Fel y crybwyllwyd yn gynharach, mae Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd wedi comisiynu Dr Ceryl Davies, ar ran y chwe awdurdod lleol a BIPBC, i adnewyddu’r Strategaeth Anableddau Dysgu bresennol. Mae Dr Ceryl wedi bod yn gweithio’n agos ag Ehedwyr Gogledd Cymru i ddarparu gwybodaeth ar gyfer y strategaeth.
Mae Strategaeth Cyflogaeth â Chymorth Gogledd Cymru wedi ei chwblhau; Rheolwr Gwasanaeth Anableddau Conwy oedd Cadeirydd y grŵp prosiect a oedd yn cefnogi datblygiad y strategaeth, y gellir ei gweld ar wefan Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd.
Llwybrau Cyflogaeth i Bobl ag Anableddau Dysgu
Mae rôl Cydlynydd Llwybr Cyflogaeth bellach wedi ei sefydlu o fewn ein gwasanaeth. Yr ydym wedi gwneud cynnydd da wrth gefnogi’r newid mewn diwylliant, i hybu dull ‘gwaith gyntaf’ ar gyfer cefnogi pobl ag anableddau dysgu a datblygu dyheadau. Hwylusir llwybrau cyflogaeth gan Grŵp Llywio Cyflogaeth â Chymorth canolog, lle mae Cynghorau Conwy a Sir Dinbych, CoOptions (y darparwr hyfforddiant swyddi), a Grŵp Llywio Rhanbarthol yn bresennol.
Mae partneriaid ymchwil ym Mhrifysgol Ystrad Clud wedi creu dangosfwrdd sy’n cyflwyno gwybodaeth am berfformiad, yn lleol ac yn rhanbarthol. Mae hyn yn ein galluogi i olrhain perfformiad yn lleol, ac i feincnodi yn erbyn awdurdodau lleol eraill yng ngogledd Cymru. Maent yn cynnal ymchwil i ddangos y canlyniadau a gyflawnir drwy’r prosiect Cronfa Ffyniant Gyffredin, ac i wneud argymhellion. Yr ydym wedi nodi bod angen strategaeth glir ledled gwasanaethau dydd a chyfleoedd gwaith – yn fewnol ac yn allanol – i sicrhau ein bod yn parhau i ddatblygu cyflogaeth â chymorth.
Erbyn diwedd 2024 yr oeddem wedi cynorthwyo naw o bobl i gael gwaith, tri i swyddi gwirfoddol, pedwar i leoliad gwaith, ac un i dreial gwaith â thâl.
Mae Arweinydd Gogledd Cymru Gyda’n Gilydd a Rheolwr y Gwasanaeth Anableddau wedi gweithio gyda Phenaethiaid Gwasanaeth Conwy i ystyried sut y gellir gwneud ein proses o ymgeisio am swydd yn fwy hygyrch. Cyflwynwyd cais IMPACT gennym a buom yn llwyddiannus. Mae’r cais yn canolbwyntio ar adolygu ein prosesau i sicrhau ein bod yn fwy hygyrch a chynhwysol i bobl ag anableddau dysgu.
Mae yna ymrwymiad corfforaethol i weithio gyda’n gwasanaethau i sicrhau bod pobl ag anableddau dysgu’n cael mynediad cyfartal i waith â thâl, drwy brosesau recriwtio teg a hygyrch. Yr ydym wedi cael dau dreial gwaith yn Venue Cymru, sy’n gam cadarnhaol. Hoffem weld bod Conwy yn arwain y ffordd fel cyflogwr pobl ag anableddau dysgu.
Gobeithiwn, yn 2025, y bydd pobl sydd ag anableddau dysgu, a atgyfeirir drwy’r gwasanaeth hwn, yn gallu ymgymryd â threial gwaith, yn lle cyfweliad ffurfiol. Nod hyn fyddai dangos eu bod yn gallu gwneud y gwaith, hyd yn oed os nad ydynt wedi gallu cyfleu hynny, gan ddefnyddio’r dull recriwtio presennol o ffurflen gais neu gyfweliad.
Penodwyd Home Farm Trust fel darparwyr caffi ym Mhlanhigfa Bryn Euryn. Mae Home Farm Trust yn gweithio’n agos â Chydlynydd Llwybr Cyflogaeth a CoOptions. Mae’r caffi’n darparu cyfleoedd i unigolion symud ymlaen i gyflogaeth, drwy gefnogaeth CoOptions. Sicrhaodd Conwy gyllid o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer 2023/2024 a 2024/2025, ac mae wedi ei ddefnyddio i gynnal y newid mewn diwylliant ledled ein gwasanaethau.
Partneriaeth anabledd: gweithio gyda Chydlynydd Partneriaeth Bwyd Cynaliadwy, adran Ddeieteg BIPBC, a Chanolfannau Teuluoedd
Mae gan bobl ag anableddau dysgu ganlyniadau iechyd salach, sy’n aml yn gysylltiedig â deiet gwael a diffyg ymarfer corff, a byddent yn cael budd o ddysgu sut i goginio prydau iach, fforddiadwy. Yr oeddem yn teimlo ei bod yn bwysig cynnwys teuluoedd a gweithwyr cefnogi sy’n aml yn dewis opsiwn pryd parod hawdd oherwydd pwysau amser a chred ei fod yn rhatach.
Dechreuasom gynnal sesiynau coginio i oedolion yn yr hydref, gan weithio ag adran Ddeieteg BIPBC a defnyddio cegin y Ganolfan Deuluoedd fel lleoliad. Mae’r sesiynau coginio i oedolion wedi gweithio’n dda iawn, ac yr ydym ’rŵan yn bwriadu eu cynnal eto yn 2025. Mae’r sesiynau wedi ennyn angerdd gwirioneddol mewn un unigolyn, sydd wedi dechrau coginio gyda chynhwysion ffres gyda’i fam, ac mae eisiau mynychu cwrs coginio yn y coleg.
Dywedodd unigolyn a gollodd ei gŵr dair blynedd yn ôl wrthym fod y sesiynau yn ei chynorthwyo i ganfod ei hangerdd am goginio eto ar ôl teimlo ei bod ar goll pan ddaeth yn weddw. Mae unigolyn arall, a oedd yn betrusgar am ddod i unrhyw grŵp o’r blaen, bellach yn edrych ymlaen at ddod bob wythnos, ac mae wedi ei gwneud yn fwy ymwybodol o’i deiet yn gyffredinol. Mae rhywun arall yn hapus o fod yn gwneud rhywbeth cynhyrchiol gyda’i amser, ac mae’n rhoi ymdeimlad o gyflawniad iddo.
Mae dyn arall wedi gallu lleihau’r gefnogaeth yr oedd yn ei chael gan ei fod yn dysgu sgiliau y byddai staff cefnogi wedi ei gynorthwyo gyda hwy cynt: coginio, gwirio labeli bwyd a mynd i siopa, yn annibynnol.
Yr ydym wedi nodi’r angen am well ymgynghori ymlaen llaw gyda’r deietegwyr ynglŷn â ryseitiau a chynhwysion, fel y gallwn gael ein cynhwysion gan gyflenwyr lleol. Gallwn annog hyn, drwy addysg yn yr ysgolion ar oedran iau, a thrwy ddenu ein defnyddwyr gwasanaeth i goginio a bwyta’n iach, pan fônt yn defnyddio ein gwasanaethau seibiant. Yr ydym eisiau cymryd pob cyfle i hybu ffyrdd iach o fyw mewn ffordd gadarnhaol.

Gweithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Tai
Gweithgor Gofal Cymdeithasol a Thai
Mae gofynion tai a llety o fewn Gofal Cymdeithasol yn amrywio ac yn pontio sawl gwasanaeth o fewn yr adran. Gall y rhain gynnwys y canlynol (ond nid ydynt wedi eu cyfyngu i’r rhain):
- Llety i bobl hŷn fel Tai Gofal Ychwanegol
- Lleoliadau unigol a grŵp ar gyfer plant a phobl ifanc
- Pobl sydd wedi gadael gofal
- Pobl ddiamddiffyn
- Llety ar gyfer pobl ag anableddau, gan gynnwys anableddau dysgu, anableddau corfforol, amhariad ar y synhwyrau, anafiadau i’r ymennydd ac awtistiaeth.
- Sefydlwyd Gweithgor Gofal Cymdeithasol a Thai tua diwedd 2023 i sicrhau bod yna gysylltiadau clir rhwng gofynion tai a llety Gofal Cymdeithasol a datblygiad y Prosbectws Tai a’r Asesiad o’r Farchnad Dai Leol a arweinir gan y Gwasanaethau Tai.
Mae’r gweithgor yn cyfarfod bob yn ail fis, ac mae wedi gallu rhannu cyfleoedd posibl i’r gwasanaethau gymryd mantais ohonynt. Mae hyn yn cynnwys darparu cydweithwyr Tai gyda manylion eiddo o fewn portffolio Gofal Cymdeithasol a allai ddod yn wag, ac a allai o bosibl gael eu haddasu ar gyfer anghenion tai cyffredinol, ac fel arall.
Un llwyddiant allweddol o ran y gwaith a wnaed gan y Gweithgor hyd yma yw cynnwys gofynion llety Gofal Cymdeithasol yn y Prosbectws Tai eleni, sef dogfen gyhoeddus a gyhoeddir yn flynyddol sy’n nodi anghenion tai Cyngor Conwy, ac a rennir yn uniongyrchol â Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig.

Bodloni anghenion llety pobl ddiamddiffyn
Ein nod yw symud darpariaeth tai ar gyfer pobl ddiamddiffyn oddi wrth dai a rennir, a ddefnyddid yn draddodiadol; nid yw’r rhain yn ddewis a ffefrir nac yn ddewis priodol mwyach ar gyfer preswylwyr, a gallant fod yn ddrud i’r Cyngor os oes ystafelloedd yn wag am unrhyw gyfnod. Ar y cyd â chydweithwyr Tai, yr ydym wedi gallu trosglwyddo dau breswylydd o dŷ ein prosiect Pobl Ddiamddiffyn yn Abergele i leoliad llety mwy priodol, nad yw’n cael ei rannu, ac mae hyn felly yn rhoi amgylchedd tebycach i gartref iddynt.
Ers hynny, mae’r tŷ wedi ei addasu i fodloni anghenion unigolyn ifanc cymhleth iawn, y mae angen gofal 24 awr arno / arni. Mae hyn yn darparu amgylchedd sefydlog i reoli ymddygiad yr unigolyn, a gall y tîm amlbroffesiwn sy’n ymwneud â’i ofal ’rŵan gynllunio tuag at leihau anghenion a staffio; ac, yn y pen draw, bydd yn cyflawni ei ddyhead i fyw’n annibynnol.
Mae’r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn yn cymryd rhan yng Ngweithgor Gofal Cymdeithasol a Thai, i gael budd o’i allu i gyrraedd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig ac i sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth sy’n agored i ni yn cael eu hystyried mewn unrhyw gynlluniau tai sydd ar ddod. Dros y flwyddyn i ddod byddwn yn parhau i adolygu cyfleoedd tai ac anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth drwy banel Llety Pobl Ddiamddiffyn amlddisgyblaethol.
Yr ydym, felly, yn parhau i eiriol dros unigolion ac ymdrechu tuag at ein nod o ddarparu ar gyfer y rheiny y mae arnynt angen cartref diogel, sefydlog a fforddiadwy.
Strategaeth Llety ar gyfer Oedolion Anabl
Yn adroddiad y llynedd dywedwyd y byddem yn creu strategaeth llety sy’n canolbwyntio ar ddarparu llety priodol ar gyfer anghenion oedolion anabl sydd hefyd yn cynnal eu lles. Mae ein Swyddog Datblygu Gwasanaeth yn arwain y gwaith hwn, a bydd yn ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth i greu cynllun gweithredu ar gyfer y bum mlynedd nesaf. Gobeithiwn y bydd ar gael yn gynnar yng nghyfnod adrodd 2025/26.
Parhawn i ddarparu gwasanaethau Byw â Chymorth yng Nghonwy. Erbyn mis Ebrill 2025 yr ydym wedi agor pum lleoliad mewn deuddeng mis. Mae un o’r rhain yn disodli eiddo arall nad yw’n addas mwyach, ond mae’n darparu capasiti ychwanegol. Ar hyn o bryd mae cyllid wedi ei gymeradwyo ar gyfer un prosiect arall, a fydd yn darparu chwe fflat yn Llandudno ar gyfer pobl ddiamddiffyn ac anabl. Yr ydym wedi derbyn cyllid gan Ogledd Cymru Gyda’n Gilydd i adolygu ein gwasanaethau Byw â Chymorth dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae’r adolygiad yn canolbwyntio ar ystod o faterion, yn cynnwys:
- Ansawdd y gwasanaethau a ddarperir o ran y sail gwerthoedd ac ethos Byw â Chymorth
- Y canlyniadau a gyflawnir ar gyfer unigolion
- Sicrhau bod Cynlluniau Cefnogi Personol yn canolbwyntio ar yr unigolyn ac yn cael eu cydlunio â phobl
- Sicrhau bod pobl yn rhan o’r broses o adolygu eu Cynlluniau Cefnogi Personol
- Sicrhau bod darparwyr yn canolbwyntio ar gymryd risgiau cadarnhaol
- Bod darparwyr yn defnyddio dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn er mwyn cefnogi pobl
- Deall sut mae darparwyr yn cefnogi pobl i wneud dewisiadau ynglŷn â’r hyn y maent yn ei wneud i gyflawni eu canlyniadau
- Deall y ffordd y mae cefnogaeth yn cael ei darparu
- Sicrhau’r gwerth gorau
- Archwilio dewisiadau amgen posibl i gefnogi annibyniaeth unigolyn; er enghraifft, Teleofal, neu gefnogaeth a rennir gyda gwasanaethau eraill
- Gwneud argymhellion i’r grŵp prosiect gweithredol yn ymwneud ag unrhyw aildendro gwasanaethau y nodwyd eu bod yn angenrheidiol
- Cefnogi’r newid i gomisiynu gan ganolbwyntio ar ganlyniadau yn hytrach na dull amser a thasg wrth ddarparu gwasanaeth o’r maint cywir i fodloni canlyniadau’r holl denantiaid
- Datblygu proses i sicrhau bod unigolion yn profi adolygiad cyfannol o’u canlyniadau lles, fel creu rhestr wirio o gwestiynau i ategu dadansoddiad o’r dystiolaeth er mwyn cefnogi darpariaeth gwasanaeth a chanlyniadau
- Cyfrannu at y Strategaeth Llety mewn perthynas â gwasanaethau presennol ac angen yn y dyfodol
- Cefnogi’r newid i wasanaeth sy’n canolbwyntio fwy ar ddatblygiad, sy’n cefnogi pobl i fynd rhagddynt i fwy o annibyniaeth
Mae argaeledd gofal preswyl yng Nghonwy a ledled y rhanbarth a all gefnogi pobl sydd ag anghenion cymhleth iawn yn gyfyngedig; byddem yn cael budd o fwy o gapasiti o fewn gofal preswyl yn rhan o lwybr unigolion tuag at fwy o annibyniaeth drwy ddarpariaeth Byw â Chymorth.