Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Cyd-destun: Cyflwyno’r Cefndir

Arweinyddiaeth

Mae gan Gonwy drefniadau llywodraethu cryfion, yn cynnwys swyddogaeth trosolwg a chraffu a arweinir gan yr Aelodau, sydd ag ethos cadarnhaol ac adeiladol o gydnabod arferion da ac argymell gwelliannau lle bo angen.  Wrth graffu ceisir ymgysylltu â’r gymuned ym mha le bynnag bosibl er mwyn gwella ansawdd bywyd a lles pobl sy’n byw, yn gweithio neu’n ymweld â’r ardal.  Caiff hyn ei gyflawni drwy graffu ar bolisïau, y gwasanaethau a ddarperir gan y Cyngor a gwaith partneriaeth gyda sefydliadau allanol.

Yr ydym yn cyflwyno amrywiol adroddiadau i’r Pwyllgor Craffu i’w hadolygu a’u herio ac mae gennym broses fewnol gadarn ar gyfer herio perfformiad a chael trosolwg ohono. Cynhaliwn gyfarfodydd gyda’n harolygiaeth drwy gydol y flwyddyn ac yr ydym yn mynd ati i adolygu ein harferion ein hunain yn rheolaidd fel mater o drefn er mwyn sicrhau gwelliannau parhaus yn ein gwasanaethau.

Ar lefel reoli, mae Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg yn adrodd yn uniongyrchol i Brif Weithredwr y Cyngor, ac fe’u cefnogir gan ein tîm rheoli adrannol. Yn eu tro, cefnogir Penaethiaid Gwasanaeth Plant, Teuluoedd a Diogelu, a Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig gan Reolwyr Gwasanaeth sy’n ymdrin â deng maes darpariaeth.

Mae’r trefniadau llywodraethu sydd mewn grym yn ategu rheolaeth effeithiol ar Ofal Cymdeithasol. Mae’r Cyngor yn hwyluso Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd, ac mae wedi penodi dau Ddeiliad Portffolio i gynrychioli dau faes gwasanaeth Gofal Cymdeithasol. Y Cynghorydd Penny Andow yw deiliad portffolio Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig, ac ym mis Tachwedd 2024, daeth y Cynghorydd Cathy Augustine yn ddeiliad portffolio Plant, Teuluoedd a Diogelu. Wrth dderbyn y rôl, dywedodd y Cynghorydd Augustine:

“Mae hi wir yn anrhydedd ymgymryd â’r rôl hon ac rydw i’n cydnabod ei bod hi’n gyfrifoldeb enfawr helpu CBSC i gyflawni ein dyletswydd tuag at rai o’n plant ac oedolion ifanc mwyaf diamddiffyn. Ond rydw i’n gwybod y bydda’ i’n gweithio gyda chydweithwyr gwych – aelodau etholedig a swyddogion – yn rhan o dîm ymroddedig a phrofiadol.

“Ar lefel bersonol, dros y pum mlynedd ddiwethaf, rwyf wedi bod yn rhan o nifer o brosesau sy’n gysylltiedig â phlant sy’n derbyn gofal. Dyna pam rydw i wir yn edrych ymlaen at weithio ar y cyd â chydweithwyr ar draws timau gofal cymdeithasol, tai ac addysg, sydd yn rhannu ffocws o sicrhau bod llais y plant yn ganolog i’n hamcanion a gwaith ar y cyd. Rydw i’n gwbl ymwybodol o’r heriau – ac wrth gwrs y cyd-destun ariannol presennol. Rydw i’n cydnabod bod y Cabinet yn gweithio ar y cyd, yn darparu ar draws pob maes gwasanaeth ac i’n holl breswylwyr, ac rydw i’n edrych ymlaen at fod yn aelod o’r tîm ehangach hwnnw hefyd.”

Bydd y Cynghorwyr Augustine ac Andow yn gweithio’n agos gyda deiliaid portffolio Addysg, a Thai, Digartrefedd a Newid Gwasanaeth i sicrhau yr ymdrinnir â’n hamcanion cyffredin ar y cyd:

“Fel Aelodau Cabinet Tai, Gofal Cymdeithasol ac Addysg, rydym wedi ymrwymo i gydweithio ar draws ein hadrannau i gyflawni blaenoriaethau corfforaethol y Cyngor. Rydym yn cydnabod y rôl hanfodol sydd gan bob un o’r meysydd hyn wrth siapio lles ein cymunedau, ac rydym wedi ymrwymo i ddefnyddio dull gweithredu cydgysylltiedig i gyflawni canlyniadau cadarnhaol i’n holl breswylwyr.

Drwy gryfhau integreiddiad gwasanaethau gofal cymdeithasol, tai, ac addysg, ein nod yw creu system gefnogaeth gydlynol sy’n mynd i’r afael ag anghenion amrywio unigolion a theuluoedd yng Nghonwy. Byddwn yn cydweithio i wella mynediad at dai diogel a fforddiadwy, sicrhau cyfleoedd addysgol o ansawdd uchel, a darparu gofal cymdeithasol cynhwysfawr sy’n cefnogi pobl ym mhob cam o’u bywyd.

Bydd ein hymdrechion ar y cyd yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar, cefnogi unigolion diamddiffyn, a meithrin amgylchedd sy’n galluogi pawb yng Nghonwy i fyw bywydau boddhaus ac iach. Drwy gydweithio’n agos, rydym yn ymroddedig i ddarparu gwasanaethau sy’n fwy ymatebol, effeithlon ac effeithiol, gan sicrhau bod Conwy’n parhau i ffynnu fel rhywle lle gall pobl fyw’n dda, dysgu, a datblygu.

Gyda’n gilydd byddwn yn ymdrechu i gyflawni’r amcanion hyn a gwneud gwahaniaeth ystyrlon i’n cymunedau.”


Deddfwriaeth a chynlluniau

Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ym mis Ebrill 2016. Mae’r Ddeddf yn darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella lles pobl sydd ag anghenion gofal a chymorth, a gofalwyr y mae angen cefnogaeth arnynt, ac ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Egwyddorion sylfaenol y Ddeddf yw:

  • Llais a rheolaeth
  • Atal ac ymyrraeth gynnar
  • Lles
  • Cydgynhyrchu

Mae’r Cod Ymarfer cysylltiedig yn nodi fframwaith ar gyfer mesur y cynnydd y mae awdurdodau lleol yn ei wneud o ran eu dyletswyddau dan y Ddeddf yn ei chyfanrwydd. Mae’r broses hon hefyd yn ein galluogi i wella ein gwasanaethau’n barhaus.  Fel y nodir yn y Cod Ymarfer, sefydlwyd trefniadau ar gyfer casglu ac adrodd ar ddata am fesuryddion perfformiad statudol i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn.  Caiff perfformiad ei fesur yn unol â phob un o’r safonau ansawdd, sy’n canolbwyntio ar bobl, atal, partneriaethau ac integreiddio, a lles.

Mae Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn gosod ansawdd gwasanaethau a gwelliant wrth wraidd rheoleiddio, ac mae’n darparu’r fframwaith statudol ar gyfer rheoleiddio ac arolygu gofal cymdeithasol yng Nghymru.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru yn amlinellu cyfres o ganlyniadau cenedlaethol ac mae’n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd eu penderfyniadau. Mae’r Ddeddf hon yn sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn ganolog i’r penderfyniadau a wneir.

Yng Nghonwy yr ydym wedi cynnwys yr amcanion hyn yn ein Cynllun Corfforaethol ar gyfer 2022-2027. Mae’n disgrifio’r nodau hirdymor sy’n bwysig yn ôl ein cymunedau ac yn gosod ein cyfeiriad strategol fel sefydliad dros gyfnod o bum mlynedd. Fel gwasanaeth, yr ydym yn myfyrio ar y modd yr ydym yn cyfrannu at y blaenoriaethau hyn drwy ein proses o gynnal Adolygiadau Perfformiad Gwasanaeth.


Datblygu cymuned a gweithle cynhwysol

Mae un o’r egwyddorion allweddol ar gyfer cyflawni’r Cynllun Corfforaethol yn ymwneud â chynhwysiant:

Hoffem i’r dyfodol newid er gwell, gan greu cymdeithas fwy cynhwysol sy’n mynd ati i hyrwyddo tegwch ac amrywiaeth ac yn mynd i’r afael â gwahaniaethu.

Nod Cynllun Conwy Gynhwysol 2024-2028 yw canolbwyntio ar bobl a’u profiadau mewn bywyd, yn hytrach na’n rhwymedigaeth i gydymffurfio â deddfwriaeth. ‘Conwy Gynhwysol’ yw’r nod, sy’n golygu y gellwch fyw, gweithio ac ymweld â sir lle’r ydych yn cael eich croesawu ac yn teimlo eich bod yn cael eich derbyn ac yn perthyn – ni waeth beth fo’ch cefndir.

Mae’r cynllun hefyd yn nodi’r prif flaenoriaethau y bydd yr awdurdod lleol yn canolbwyntio arnynt am y pedair blynedd nesaf, ac mae’n cynnwys camau gweithredu o Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a Chynllun Gweithredu LHDTC+ Llywodraeth Cymru.

Fel awdurdod lleol, yr ydym wedi gwneud llawer iawn o waith yn y maes hwn. Dyma rai o’r uchafbwyntiau:

  • Datblygu Cynllun Conwy Gynhwysol ar gyfer 2024-28, sydd wedi ein hysgogi i fyfyrio ar ein dull gweithredu parthed Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a mabwysiadu dull sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Ehangu ein cynnig hyfforddiant i staff, gyda sesiynau rhagarweiniol am ymwybyddiaeth o hil, hyfforddiant Cyflwyniad i Gonwy Gynhwysol wyneb yn wyneb a modiwl e-ddysgu newydd
  • Dod yn aelodau o Inclusive Employers, sy’n rhoi mynediad i ni at ystod eang o adnoddau, gweminarau ac arferion da i ategu diwylliant cynhwysol yn ein gweithle
  • Bod y sir gyntaf yng Nghymru lle mae pob ysgol uwchradd yn cymryd rhan yn rhaglen gwrthfwlio KiVa
  • Cynnal ymgyrch gwrando parhaus dan arweiniad Gofal Cymdeithasol yn Llanfairfechan i wella gofal dementia ac annog datblygiad cymunedau sy’n deall dementia ledled Cymru
  • Datblygu a chydlynu cynlluniau gweithredu Cod Ymarfer Cyflyrau ar y Sbectrwm Awtistig, gan gynnwys gwella’r wybodaeth sydd ar gael i’r cyhoedd ynglŷn â niwroamrywiaeth, a datblygu prosiectau a gweithgareddau yn benodol ar niwroamrywiaeth yn yr ardal leol.

Ym maes Gofal Cymdeithasol, yr ydym yn gweithio gyda chydweithwyr corfforaethol i ddatblygu canlyniadau mesuradwy i gyflawni’r camau gweithredu a’r argymhellion a nodir yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol: Dileu hiliaeth yn y gweithle, dan arweiniad ADSS Cymru ac a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cynllun hwn yn gosod her i Gyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol i fynd i’r afael â hiliaeth yng ngweithlu Gofal Cymdeithasol a meithrin gweithle cynhwysol a theg i’r holl weithwyr Gofal Cymdeithasol a’r cymunedau y maent yn eu cefnogi. Gwnaed yr argymhellion canlynol:

  • Sicrhau bod pob aelod o staff yn deall hiliaeth a’r effaith y gall ei gael
  • Datgan ein hymrwymiad i beidio â bod yn oddefgar o gwbl mewn perthynas â hiliaeth, gan godi llais yn ei erbyn pan fo’n digwydd
  • Adolygu ein polisïau a gweithdrefnau ar gyfer rhoi gwybod, ymchwilio a monitro adroddiadau o hiliaeth i sicrhau eu bod yn effeithiol ac yn sicrhau canlyniad clir a boddhaol bob tro
  • Treialu fframwaith gwerthuso ar gyfer ymdrin ag achosion o hiliaeth
  • Sicrhau bod digon o gefnogaeth ar gael i unrhyw un sy’n profi hiliaeth
  • Gweithio gyda phartneriaid cenedlaethol i ddatblygu a gweithredu rhaglen ddysgu i rannu profiad ac arferion da ledled Cymru
  • Adrodd ar gynnydd yn flynyddol

Mae’n rhaid i Gyfarwyddwr Gofal Cymdeithasol weithredu ar ganfyddiadau’r astudiaeth drwy wneud y canlynol:

  • Rhannu canfyddiadau’r astudiaeth gyda’r Prif Swyddog Gweithredol a’i gydgyfarwyddwyr er mwyn nodi beth yn fwy y gellir ei wneud i gael gwared â hiliaeth ymysg gwasanaethau’r Awdurdod Lleol.
  • Sicrhau bod pob aelod o baneli recriwtio a dethol wedi derbyn hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol cyn rhoi ymgeiswyr ar restr fer a’u cyf-weld.
  • Gweithio gyda chydweithwyr Adnoddau Dynol i fynd i’r afael ag unrhyw fylchau yn y data sydd eu hangen i fonitro a chymharu ystadegau recriwtio a dyrchafu ymgeiswyr o gefndiroedd ethnig gydag ystadegau aelodau eraill o staff.
  • Trefnu i holl staff Gofal Cymdeithasol dderbyn hyfforddiant ar ymwybyddiaeth ddiwylliannol a materion eraill sy’n berthnasol i fynd i’r afael â hiliaeth.
  • Adolygu a chynyddu’r gefnogaeth a ddarperir i staff newydd a phresennol o gefndiroedd ethnig lleiafrifol yn ystod y broses recriwtio ac yn y gwaith.
  • Rhannu ei brofiadau o recriwtio a chefnogi staff o gefndiroedd ethnig lleiafrifol gydag awdurdodau lleol eraill a’i fwriadau ar gyfer gwneud mwy o welliannau yn y maes hwn.
  • Defnyddio’r adroddiad blynyddol i ddangos cynnydd yn ôl canfyddiadau’r astudiaeth.

Ym mis Medi 2024 comisiynwyd yr Athro Prospera Tedam gennym i gyflwyno tri gweithdy, gyda 111 o aelodau o staff yn bresennol. Amcanion y gweithdai oedd:

  • Deall diffiniad gormes a gwrthormes yn llwyr
  • Archwilio pryd a sut y gallai ein harferion fod yn ormesol tuag at eraill
  • Darparu adnoddau a gwybodaeth i ni er mwyn mynd i’r afael â phob math o ormes
  • Gwella dealltwriaeth o bŵer a diffyg pŵer.

Dywedodd yr Athro Prospera Tedam:

“Mwynheais gyflwyno’r gweithdai hyn dros y tri diwrnod gyda’ch ymarferwyr yn fawr. Yr oedd hyn wedi ei drefnu a’i gydlynu’n dda iawn. Teimlwn fod y cyfranogwyr wedi ymwneud yn dda â’r rhannau a oedd weithiau’n anghyfforddus. Gobeithio y byddant yn parhau i fyfyrio ar y cynnwys.”

Yr oedd adborth gan gyfranogwyr yn gadarnhaol:

“Byddaf yn dechrau cael sgyrsiau gyda staff yn rheolaidd ynglŷn â sut mae ein hymddygiad yn effeithio ar eraill, ac yn parhau i herio pan fo angen.”

“Cofiwch y gall bwriad fod yn amherthnasol – efallai nad ydw i’n bwriadu tramgwyddo unrhyw un, ond os ydw i’n gwneud hynny, mae’n rhaid i mi gymryd cyfrifoldeb dros hynny.”

“Mae’n rhaid sicrhau bod hyn bob amser ar ein hagenda, ac nid yn rhywbeth er mwyn sioe’n unig. Rhaid sicrhau ei fod bob amser yn llinyn drwy bopeth a wnawn.”

Edrych ymlaen

Yr ydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn parhau i ganolbwyntio ar bobl a’u profiadau bywyd, yn hytrach nag ar ein rhwymedigaeth yn unig i gydymffurfio â deddfwriaeth. Fel Awdurdod Lleol gwyddom fod gennym lawer o waith i’w wneud i sicrhau bod ein gweithleoedd a’n gwasanaethau yn deg a chynhwysol i bawb. Dyma rai o’r meysydd a nodwyd gennym:

  • Ymwreiddio diwylliant o ymwybyddiaeth a chyfrifoldeb unigol ymysg staff fel bod pawb yn deall ‘nad oes rhaid iddo ddigwydd i chi, i fod o bwys i chi’
  • Cynyddu ein gallu i gyflawni’r uchod (mae mwy am hyn isod)
  • Gwrando ar brofiadau bywyd pobl a gweithredu ar yr hyn a ddysgwn er mwyn cyflawni newidiadau ystyrlon
  • Dathlu amrywiaeth ledled y rhanbarth yn ein gohebiaeth a digwyddiadau
  • Parhau i ddatblygu ein cynnig hyfforddiant, gan gynnwys cyfleoedd dysgu hunangyfeiriedig
  • Parhau i ddarparu gwasanaethau pwysig a chynhwysol i breswylwyr, er gwaethaf pwysau cyllidebol sylweddol

Bydd ein datblygiad sefydliadol yn dylanwadu ac yn cryfhau ein hymgysylltiad a rhyngweithiad ar draws sectorau ac yn ein cymuned, gan adlewyrchu a chyfathrebu ein gwerthoedd craidd a’n hymrwymiad i gynhwysiant.

Mae sefydlu ein gweithgor gwrth-hiliaeth newydd yn un fenter a fydd yn hwyluso gwaith ffocws i herio’r gwahaniaethau a brofir gan aelodau o staff ac unigolion Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol sy’n darparu ac yn derbyn ein gwasanaethau, ac i ddenu gweithlu’r dyfodol.

Penodiad newydd i sbarduno newid

Yr ydym yn falch iawn o fod wedi creu swydd llawn amser newydd i gryfhau ein hymrwymiad i fod yn awdurdod mwy cynhwysol a theg, ac i ddatblygu gwytnwch sefydliadol ar gyfer ein dyfodol. Ym mis Ionawr 2025 croesawom Reolwr newydd Conwy Gynhwysol yn rhan o Wasanaeth Pobl a Pherfformiad. Bydd y rôl ddatblygiadol newydd hon yn arwain ein gweledigaeth i gael mwy o gynwysoldeb, ac fe fydd, gyda chefnogaeth grŵp llywio Conwy Gynhwysol, yn ysgogi ac yn cyflawni newid ystyrlon a chadarnhaol.

Bydd Rheolwr Conwy Gynhwysol yn amcanu i wella’r broses wrando a dysgu sefydliadol, gan ganolbwyntio ar brofiad personol grwpiau sydd ar y cyrion. Bydd deiliad y swydd yn cynllunio ac yn gweithredu polisïau cynhwysiant effeithiol a deallus wedi eu seilio ar egwyddorion clir, a bydd yn arwain mentrau i feithrin amgylchedd o barch.

Mae Strategaeth Conwy Gynhwysol yn amlinellu ein hymrwymiad i greu gweithle mwy diogel a theg sy’n adlewyrchu a deall y gymuned ehangach ac yn dathlu’r holl fuddion y mae ein gwahaniaethau yn eu rhoi. Ein gweledigaeth yw bod yn sefydliad o gyfle, dealltwriaeth ac ymddiriedaeth, ac, ynghyd ag ymrwymiad a buddsoddiad uwch reolwyr, bydd Rheolwr Conwy Gynhwysol yn hanfodol wrth ategu’r newid strategol hwn. Yr ydym ar siwrnai o drawsnewid diwylliannol i sicrhau ein bod yn sefydliad lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn, yn cael eu gwerthfawrogi, ac yn deall y rhan sydd ganddynt wrth gyflawni hyn.


Y Gweithlu

Yma byddwn yn dweud mwy wrthych am ein gweithlu Gofal Cymdeithasol, y cyfleoedd yr ydym yn eu creu i bobl ddatblygu eu gyrfaoedd gyda ni, a’r heriau anochel a wynebwn ar y ffordd.

Mae’r siart isod yn dangos nifer swyddi a swyddi gweigion Gofal Cymdeithasol, yn ogystal â’n defnydd o weithwyr asiantaeth yn y ddau faes gwasanaeth:

Ymysg ein gweithlu plant:

  • 22% yw cyfradd y swyddi gweigion ar draws y meysydd gwasanaeth
  • 16% yw cyfradd y swyddi gweigion ym maes gwaith cymdeithasol
  • Contractiwyd un gweithiwr cymdeithasol asiantaeth ar ddeg i lenwi bylchau staffio

Ymysg ein gweithlu oedolion:

  • 7% yw cyfradd y swyddi gweigion ar draws y meysydd gwasanaeth
  • 7% yw cyfradd y swyddi gweigion ym maes gwaith cymdeithasol
  • Contractiwyd pedwar gweithiwr cymdeithasol asiantaeth i lenwi bylchau staffio

Mae cyfraddau swyddi gweigion yn amrywio ar wahanol gyfnodau yn ôl pwysau gwaith, achosion sy’n cael sylw cenedlaethol a ffactorau eraill fel pobl yn ymddeol, newid swyddi neu’n gadael yr ardal. Mae’n arferol bod yna fwy o swyddi gweigion yn y Gwasanaethau Plant ac er bod yno wasgfeydd ymhob grŵp cleientiaid, mae angen gwneud mwy o ymdrech wrth farchnata a denu ymgeiswyr i wneud cais am swyddi yng Ngwasanaeth Plant, Teuluoedd a Diogelu.

Recriwtio Gwaith Cymdeithasol

Un o’n prif amcanion yw cael gweithlu gwaith cymdeithasol cynaliadwy. Er mwyn cyflawni hyn, cydnabyddwn yr angen i agor llwybrau amrywiol i waith cymdeithasol a sicrhau bod ein gweithlu’n wydn. Mae gennym fodel cymysg ar gyfer cyflenwi gweithlu gwaith cymdeithasol; yn ogystal â recriwtio’n uniongyrchol i swyddi gwaith cymdeithasol, mae gennym lwybr llwyddiannus ar gyfer datblygu ein gweithlu ein hunain ar gyfer gweithwyr presennol. Dros y tair blynedd nesaf bydd y llwybr hwn yn cyflenwi chwe gweithiwr a fydd yn cymhwyso yn 2025, pedwar yn 2026, a phedwar arall yn 2027.

Ym mis Medi 2024 cyflwynwyd ein swyddi Hyfforddeion Graddedig Gwaith Cymdeithasol. Mae yna ddwy swydd llawn amser ar gontractau cyfnod penodol o ddwy flynedd, a bydd y ddau unigolyn a benodir i’r swyddi yn cwblhau Gradd Meistr yn y Celfyddydau (MA) mewn Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor. Drwy gydol y ddwy flynedd bydd Gwasanaeth y Gweithlu’n cefnogi’r unigolion hynny sydd i’w lleoli o fewn timau gwaith cymdeithasol ac fe’u goruchwylir gan Reolwr Tîm gwaith cymdeithasol. Wedi iddynt gymhwyso, cynigir swydd gwaith cymdeithasol barhaol iddynt yn yr Awdurdod Lleol.

Mae parchu gwaith cymdeithasol fel galwedigaeth yn allweddol i gadw’r Gweithwyr Cymdeithasol yr ydym yn eu cyflogi. Bob blwyddyn byddwn yn nodi Diwrnod Gwaith Cymdeithasol y Byd, ac yn cynnwys ymarferwyr, rheolwyr, myfyrwyr, hyfforddeion, ac unigolion sy’n cychwyn ar eu taith tuag at yrfa mewn gwaith cymdeithasol, yn ogystal â’r rheiny sy’n cefnogi ac yn hwyluso’r siwrnai honno. Ym mis Mawrth 2025 cynhaliwyd digwyddiad gennym yn swyddfeydd Coed Pella i archwilio thema’r flwyddyn: cryfhau undod rhwng cenedlaethau ar gyfer lles parhaus. Yr oedd hyn yn gyfle delfrydol i Weithwyr Cymdeithasol yng ngwasanaethau oedolion a phlant i ddod at ei gilydd o gwmpas pwnc sy’n adeiladu pontydd dros y grwpiau oedran.

Recriwtio ym maes Therapi Galwedigaethol

Yr ydym wedi bod yn gweithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC), Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC) a Phrifysgol Wrecsam i fynd i’r afael â recriwtio Therapyddion Galwedigaethol ers tro i Ofal Cymdeithasol. O ganlyniad, mae AaGIC wedi cydnabod yr angen i gynyddu cyllid ar gyfer lleoedd gradd ym Mhrifysgol Wrecsam ac i unrhyw leoedd ychwanegol gael eu neilltuo ar gyfer hyfforddeiaethau awdurdodau lleol. Ar hyn o bryd yr ydym yn recriwtio ar gyfer ein swydd Hyfforddeiaeth Therapi Galwedigaethol Conwy.

Cam nesaf y gwaith hwn ar y cyd fydd mynd i’r afael â dysgu ar ôl cymhwyso, gyda’r nod o sefydlu rhaglen ddysgu ôl-gymhwyso ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar y cyd, wedi ei hariannu gan AaGIC.

Llwybr Preswyl Plant

Mae cynnal twf cyflym ein darpariaeth breswyl i blant yn gofyn am weithlu hyblyg sydd wedi ei hyfforddi’n addas. Yr ydym felly wedi datblygu llwybr cynnydd i gefnogi, datblygu ac annog pobl i ymuno â’n gweithlu. Gan gyd-fynd â Fframwaith Cymwysterau Cymru a gofynion cofrestru gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymru, mae’r llwybr yn cynnig ffordd glir tuag at gynnydd o fewn ein darpariaeth breswyl i blant a thu hwnt.

Ers mis Ionawr 2025, yr ydym yn recriwtio deg Gweithiwr Preswyl Plant Lefel 1 llawn amser. Gan gydnabod bod y swyddi hyn yn rhai lefel mynediad i’r gweithlu, byddant yn mynychu coleg am ddau ddiwrnod yr wythnos i ennill eu cymhwyster craidd City & Guilds ac yn derbyn cefnogaeth i weithio ledled ein sefydliadau preswyl. Ar ôl ennill y cymhwyster a chwblhau cofrestriad y gweithlu, byddant yn awtomatig yn dod yn Weithwyr Gofal Plant Preswyl Lefel 2 a byddwn yn eu cefnogi i gael rôl Lefel 3 yn un o’n lleoliadau preswyl.

Byddwn yn cynnal dwy sesiwn wybodaeth yng Ngholeg Llandrillo yn ystod 2025 i godi ymwybyddiaeth a hyrwyddo gwaith preswyl fel dewis gyrfaol. Byddwn hefyd yn datblygu cynllun recriwtio, cynefino a hyfforddi i sicrhau bod Rheolwyr Cofrestredig a gweithwyr cymorth yn cael eu recriwtio’n gyflym ac yn effeithiol ar gyfer pob datblygiad.


Mwy Na Geiriau

Cynllun Pum Mlynedd Mwy Na Geiriau (2022-2027) yw fframwaith strategol Llywodraeth Cymru i gryfhau darpariaeth y Gymraeg ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Ei nod yw cefnogi siaradwyr Cymraeg i dderbyn gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf, ac mae’r cynllun yn seiliedig ar y themâu canlynol:

  • Diwylliant ac arweinyddiaeth
  • Polisïau a chynlluniau ar gyfer y Gymraeg
  • Cefnogi a datblygu sgiliau Cymraeg y gweithlu
  • Rhannu arferion gorau a datblygu dull o alluogi

Parhawn i ddarparu sesiynau hyfforddi Mwy Na Geiriau yn fisol i’r sector Gofal Cymdeithasol i gyd. Cynnwys yr hyfforddiant:

  • Cyflwyniad i ‘Fwy na Geiriau’
  • Y fframwaith ar gyfer gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol
  • Polisi Cyhoeddus a Deddfwriaeth: Safonau’r Gymraeg a’r hyn y maent yn ei olygu i’n sefydliadau
  • Anghenion iaith, a’r cynnig rhagweithiol mewn perthynas â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru)
  • Profiadau defnyddwyr gwasanaeth
  • Arwain a gweithredu newid
  • Iaith ac iechyd meddwl
  • Iaith, diwylliant a dementia
  • Cyfnewid arferion da

Mae’r cynnwys wedi ei adolygu i gynnwys plant a’r blynyddoedd cynnar, ac mae’r hyfforddiant yn gwrs gorfodol yn llwybr dysgu ein gwasanaethau maethu.

Mae cyfanswm o 261 o weithwyr gofal cymdeithasol ledled y sector gofal wedi cwblhau’r cwrs, ac, o’r rheiny, cyflogir 190 gan Gonwy, sy’n 21% o’n gweithlu. Mae’r rhan fwyaf o’r rhai sy’n mynychu’r cyrsiau yn gweithio o fewn gwasanaethau pobl hŷn ac yn bennaf mewn lleoliadau preswyl. Ein bwriad, fodd bynnag, yw i holl weithwyr CBSC fod wedi cwblhau’r hyfforddiant erbyn 2027, sef hyd oes ein Cynllun Pum Mlynedd Mwy Na Geiriau.

Yn ogystal â chynnig hyfforddiant:

  • Yr ydym yn parhau i gefnogi a buddsoddi yn y rhaglen MA Gwaith Cymdeithasol ddwyieithog a ddarperir ym Mhrifysgol Bangor.
  • Yr ydym yn cryfhau Polisi Goruchwylio Gofal Cymdeithasol i gynnwys amcanion strategaeth Ein Llais Cymraeg Conwy (Strategaeth Hyrwyddo’r Gymraeg); golyga hyn y byddwn yn cefnogi ac annog staff i gydnabod a defnyddio eu gallu presennol parthed y Gymraeg.
  • Pan fyddwn yn trosglwyddo i’n system gwybodaeth cleientiaid newydd yn 2026, gobeithiwn ddarparu gwybodaeth ystadegol am ein Cynnig Rhagweithiol.

Ein cynllun yw bod cytundeb tîm yn ymwneud â’r Gymraeg yn bodoli ar gyfer pob tîm mewnol, sy’n nodi sut fyddant yn cefnogi ac annog aelodau i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle. Mae hyn yn cael ei dreialu ar hyn o bryd yn ein Gwasanaeth Lles Cymunedol.

Parthed gwasanaethau a gomisiynir, mae gan ddarparwyr gofal gyfrifoldeb i sicrhau bod eu gwasanaeth yn creu’r amgylchedd iawn ar gyfer diwallu anghenion pobl. Mae ganddynt gyfrifoldeb fel gwasanaeth rheoledig gydag Arolygiaeth Gofal Cymru i hybu’r Gymraeg a diwylliant Cymru, felly mae Mwy Na Geiriau yn berthnasol iddynt hwythau hefyd. Mae gwybodaeth a gasglwyd yn ddiweddar yn dangos bod gan 78% o asiantaethau gofal cartref siaradwyr Cymraeg rhugl ymysg eu gweithwyr. Byddwn yn parhau i roi pwyslais ar ddarpariaeth Gymraeg drwy ymweliadau ein Tîm Monitro, ac annog gweithwyr i ymgymryd â’r hyfforddiant sydd ar gael.

Yn 2025 byddwn yn parhau â’r gwaith a amlinellir uchod ac yn gweithio gyda Gwasanaeth y Gymraeg a Chyfieithu i ddatblygu’r camau gweithredu hyn o fewn gweithlu Gofal Cymdeithasol:

  • Cefnogi staff i fod â Chymraeg ar lefel cwrteisi, yn cynnwys ynganu enwau lleoedd a chyfarchion sylfaenol
  • Cynyddu faint o Gymraeg a gaiff ei siarad yn y gweithle
  • Cynyddu’r defnydd o eiriau Cymraeg wrth i ni gyfathrebu yn Saesneg er mwyn helpu pobl i ddysgu Cymraeg
  • Cefnogi staff gyda’u hyder i ddefnyddio eu Cymraeg yn y gweithle
  • Hyrwyddo cyrsiau Dysgu Cymraeg a ffyrdd eraill o ddysgu Cymraeg
  • Cynnig mynediad i staff i adroddiadau Cymraeg a chyfieithu ar y pryd mewn cyfarfodydd
  • Defnyddio cortyn gwddf Cymraeg a Dysgu Cymraeg i annog staff i ddefnyddio’r Gymraeg yn y gweithle.

Data allweddol

Mae Datganiad Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025, yn ymwneud â data 2023/2024, yn ffordd dda o arwain perfformiad ac amlygu meysydd i’w gwella. Yr oedd angen gwella cofnod cynnig rhagweithiol y Gymraeg ar asesiadau newydd ym maes gwasanaethau plant. Dangosai’r data mai dim ond ar 2.6% o asesiadau newydd yr oedd cynnig rhagweithiol y Gymraeg wedi ei gofnodi. Y cyfartaledd yng Nghymru oedd 74%.*

Mae hyn yn gwrthgyferbynnu â’r asesiadau newydd a gynhaliwyd mewn iaith ddewisol, a oedd yn 90.1% – a oedd yn uwch na’r cyfartaledd o 81.4% yng Nghymru.*

*Data o Ddatganiad Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol, ar gyfer data 2023/2024, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025.

O’r 191 o asesiadau plant newydd a gwblhawyd, dim ond ar 5 (2.6%) y cofnodwyd cynnig rhagweithiol y Gymraeg. Dyma’r ganran isaf a gofnodwyd yng Nghymru, a’r agosaf oedd Rhondda Cynon Taf gyda 23.2%.* O’r 5 asesiad lle’r oedd cynnig rhagweithiol y Gymraeg, ni dderbyniwyd unrhyw un ohonynt.

*Data o Ddatganiad Cenedlaethol Gofal Cymdeithasol, ar gyfer data 2023/2024, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2025.

Mae canran isel Cynigion Rhagweithiol yn debygol o fod oherwydd problem gyda chofnodi yn ein system gwybodaeth cleientiaid. Mae’r graff isod yn cadarnhau ein bod yn cynnal dros 81% o asesiadau gan ddefnyddio iaith o ddewis yr unigolyn.*


Adnoddau ariannol

Ar 29 Chwefror 2024 cymeradwyodd y Cyngor gyllideb o £90.08 miliwn ar gyfer Gofal Cymdeithasol yn 2024/25. Yn ystod y flwyddyn cynyddodd y gyllideb i £91.84 miliwn, yn bennaf i gydnabod y costau ychwanegol yn deillio o’r dyfarniadau cyflog y cytunwyd arnynt yn genedlaethol ar gyfer staff.

Y gwir wariant yn 2024/25 oedd £98.43 miliwn, sef £6.59 miliwn dros y gyllideb a hynny oherwydd pwysau costau:

  • Aeth costau’n gysylltiedig â Phlant sy’n Derbyn Gofal £4.38 miliwn dros y gyllideb oherwydd cynnydd yn nifer y lleoliadau, nifer y lleoliadau â chost uchel, a chynnydd yng nghost gyfartalog y lleoliadau.
  • Prif faes arall a gyfrannodd tuag at wario mwy na’r gyllideb oedd cyllideb Pobl Ddiamddiffyn, lle cafwyd costau ychwanegol o £2.47 miliwn o ganlyniad i leoliadau â chost uchel.
  • Bu cynnydd cyson yn y galw ar Wasanaethau Pobl Hŷn dros y flwyddyn, a gostiodd £1.65 miliwn yn ychwanegol.
  • Bu tanwario mewn gwasanaethau eraill, a bu hynny o gymorth i wrthbwyso’r pwysau allweddol hyn yn rhannol.

Wrth i’r pwysau cyllidebol gynyddu yn ystod y flwyddyn, cymerwyd camau pellach gennym i reoli’r pwysau. Parhaodd y Cyfarwyddwr Strategol a Phenaethiaid Gwasanaeth i ailadrodd wrth ddeiliaid cyllideb mai gwariant hanfodol yn unig y dylid ei wneud, a bod pob gwariant yn destun craffu manwl. Gwnaed ymdrech eang i sicrhau bod yr holl incwm a oedd yn ddyledus yn cael ei gasglu yn ystod y flwyddyn. Fodd bynnag, cafwyd oedi wrth gytuno’n llwyr ar gyfraniadau incwm ag awdurdodau partner, yn arbennig Iechyd. Gwnaed y mwyaf posibl o’r holl grantiau yn unol â’u telerau ac amodau unigol.

Cymerwyd yr ymagwedd gyfannol o fewn y gwasanaeth er mwyn lleihau gwariant lle bynnag bosibl, uchafu incwm a cheisio lleihau’r pwysau nad oedd modd eu hosgoi ar y gyllideb a brofodd y gwasanaeth. Wrth i’r pwysau ar y gyllideb gynyddu, rhoddwyd gwybod amdanynt drwy’r adroddiadau chwarterol corfforaethol ar y gyllideb er mwyn i’r Awdurdod allu rhoi sylw i’r risg a chynllunio ar ei chyfer.

2025/26

Yn ystod 2024/25 yr ydym wedi dadansoddi ein sefyllfa ariannol ac wedi bod yn llwyddiannus gyda’r achosion busnes a’r meysydd pwysau canlynol i fynd i’r afael â’r pwysau ar gyllideb 2025/26.

Achosion Busnes

GwasanaethSwm (£m)
Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid0.243
Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches (staff)0.101
Tîm Dyletswydd Argyfwng0.069
Adnodd Diogelu ac Adolygu Annibynnol0.040
Monitro Plant0.027
Cyfanswm0.480

Pwysau Busnes

GwasanaethSwm (£m)
Plant sy’n Derbyn Gofal2.879
Lleoliadau Pobl Ddiamddiffyn â chost uchel a phwysau Plant ar eu Pen eu Hunain yn Ceisio Lloches1.746
Cynnydd mewn ffioedd gofal a gofal cartref / byw â chymorth4.780
Cynnydd yn y galw ar Wasanaeth Pobl Hŷn1.995
Cyfanswm11.400

Yr ydym wedi ymrwymo i wneud arbedion mewn gwahanol wasanaethau sy’n gwneud cyfanswm o £0.680 miliwn.

Cymhariaeth rhwng y sefyllfa derfynol yn 2023/24 a 2024/25:

Gwasanaethau OedolionSefyllfa derfynol 2023/24 £’000Sefyllfa derfynol 2024/25 £’000Amrywiant 2024/25 £’000
Cymorth Busnes4,3834,276-107
Lles Cymunedol679286-393
Anabledd25,57727,0611,484
Pobl Hŷn29,13333,4164,283
Safonau Ansawdd a Chomisiynu9931,123130
Cyfanswm Gwasanaethau Oedolion60,76566,1615,396
Gwasanaethau PlantSefyllfa derfynol 2023/24 £’000Sefyllfa derfynol 2024/25 £’000Amrywiant 2024/25 £’000
Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth2,7283,135407
Plant sy’n Derbyn Gofal16,13418,6962,562
Diogelu26128323
Pobl Ddiamddiffyn7,2739,9672,694
Cyfiawnder Ieuenctid1811865
Cyfanswm Gwasanaethau Plant26,57732,2685,691
Cyfanswm87,34298,42911,087

Noder bod yr amrywiant yn gymhariaeth o’r gwir wariant yn 2023/24 a 2024/25 yn hytrach na chymhariaeth o wariant yn ôl y gyllideb yn ystod y ddwy flynedd. Diweddarwyd y gyllideb ar gyfer 2024/25 i adlewyrchu’r pwysau costau hysbys o ganlyniad i chwyddiant cyflogau a phrisiau, yn ogystal â’r galw ar wasanaethau. Mae’r amrywiannau’n adlewyrchu’r pwysau hynny.

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@conwy.gov.uk

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2026 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English