Yr wyf unwaith eto’n falch o gael cyflwyno adroddiad llawn arall yn dangos ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau o ansawdd, ac eleni hoffwn nodi a chanolbwyntio ar y prif gyflawniadau.
Mae datblygu Cynllun Conwy Gynhwysol ar gyfer 2024-28 wedi bod yn ateg i’r gwasanaeth. Mae hyn yn canolbwyntio ar hybu tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant yn y gymuned a’r gweithle, ac yr ydym wedi ymrwymo’n llwyr fel gwasanaeth i uchelgais y cynllun. Yr ydym wedi adeiladu sylfaen gref o gynhwysiant ym maes Gofal Cymdeithasol ar egwyddorion diwylliant o garedigrwydd a thosturi. Mae rhai enghreifftiau yn cynnwys ehangu hyfforddiant yn y maes hwn ar gyfer staff, gan gynnwys sesiynau ymwybyddiaeth o hil, hyfforddiant ‘Cyflwyniad i Gonwy Gynhwysol’, a modiwl e-ddysgu newydd. Mae ein rhaglen integreiddio yn datblygu wrth i ni ategu ein Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg a, gan gysylltu â thema cynhwysiant, daeth Conwy y sir gyntaf yng Nghymru lle mae pob ysgol uwchradd yn cymryd rhan yn rhaglen gwrthfwlio KiVa.
Mae Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol yn allweddol i ni eleni ac yr ydym wrthi’n cyflawni camau gweithredu ac argymhellion a nodir yn y cynllun, gan gynnwys fersiynau pellach o hyfforddiant ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chefnogaeth i staff o gefndiroedd ethnig lleiafrifol gyda recriwtio, cadw swyddi a phrofiadau o hiliaeth yn y gweithle.
Parhawn i ddatblygu ein huchelgais ddiamod i fod y gwasanaeth gofal cymdeithasol gorau i weithio ynddo. Mae ffyniant wedi bod yn ein menter sefydledig i ddatblygu ein gweithwyr ein hunain ac mae ymrwymiad i gael mwy o staff sy’n siarad Cymraeg – recriwtiwyd aseswyr Trefniadau Diogelu Rhag Colli Rhyddid sy’n siarad Cymraeg eleni. Yn ogystal, mae cyflwyno ein swyddi Hyfforddeion Graddedig Gwaith Cymdeithasol cyntaf wedi bod yn ddatblygiad cyffrous.
Mae ein darpariaeth gofal ar gyfer plant sy’n derbyn gofal wedi dwyn ffrwyth, a chyda hynny daeth ystod o gyfleoedd gwaith sy’n cynnwys cefnogaeth i weithwyr preswyl dan hyfforddiant i ddysgu a datblygu i ddod yn fwy profiadol yn y maes ymarfer gwerth chweil hwn. Ynghyd â hyn cyflwynwyd y Gwasanaeth Cefnogaeth Uwch yng Ngwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal, i ddarparu arbenigedd iechyd meddwl i gynyddu sefydlogrwydd lleoliadau, a Hyfforddiant Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol, ac yr ydym hefyd wedi sicrhau cyllid ar gyfer datblygu Ymarferwyr Cymorth Ymddygiad Cadarnhaol.
Er mai’r hyn sy’n gefndir i arloesedd yw hinsawdd ariannol anodd, mae ymroddiad ac ymrwymiad y timau i ansawdd yn amlwg. Mae angen ystyried cyfleoedd darparu rhanbarthol er mwyn lliniaru cyfyngiadau ariannol yn ogystal â phwysigrwydd ymyrraeth gynnar ac atal i reoli a lleihau’r cynnydd mewn anghenion.
Mae gweithio’n effeithiol mewn partneriaeth yn hanfodol, ac mae’r adroddiad yn pwysleisio’r angen i gydweithio â sefydliadau Iechyd a’r Trydydd Sector i gyflawni canlyniadau integredig o ansawdd uchel. Gall cynnal cefnogaeth gyson ledled sefydliadau partner fod yn heriol, felly mae arweinyddiaeth effeithiol a phartneriaethau cryfion yn hanfodol.
Yn olaf, mae ffocws yn yr adroddiad ar Ddiogelu ac Amddiffyn plant ac oedolion diamddiffyn, ac mae’r adroddiad yn nodi’r angen am weithgareddau diogelu effeithiol a phwysigrwydd goruchaf amddiffyn unigolion rhag camdriniaeth ac esgeulustod.
Hoffwn ddiweddu drwy ddiolch i’r bobl y darparwn wasanaethau iddynt, eu teuluoedd a’u gofalwyr, ac, wrth gwrs, i’n staff ardderchog sy’n gwneud Gofal Cymdeithasol Conwy mor arbennig. Gobeithio y byddwch yn mwynhau darllen yr adroddiad.

Jenny Williams
Cyfarwyddwr Strategol Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol ac Addysg
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy