Gweithio mewn partneriaeth, arweinyddiaeth wleidyddol a chorfforaethol, llywodraethu ac atebolrwydd
Daeth Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i rym ym mis Ebrill 2016. Mae’n darparu’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer gwella lles pobl y mae angen gofal a chymorth arnynt, a gofalwyr sydd angen cymorth, ac ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Egwyddorion sylfaenol y Ddeddf yw:
Mae Cod Ymarfer yn nodi fframwaith ar gyfer mesur y cynnydd y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yn erbyn eu dyletswyddau dan y Ddeddf fel cyfanwaith. Mae’r broses hon hefyd yn ein galluogi i wella ein gwasanaethau’n barhaus. Fel y nodir yn y Cod Ymarfer, mae gennym drefniadau mewn grym ar gyfer casglu ac adrodd ar ddata am fesuryddion perfformiad statudol i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Caiff perfformiad ei fesur yn unol â phob un o’r safonau ansawdd sy’n canolbwyntio ar bobl, atal, partneriaethau ac integreiddio a lles.
Mae gan Gonwy drefniadau llywodraethu mewn grym i gefnogi dulliau rheoli effeithiol ar gyfer Gofal Cymdeithasol. Mae gan y Cyngor Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Gofal Cymdeithasol ac Iechyd a phenododd ddau Ddeilydd Portffolio i gynrychioli Plant, Teuluoedd a Diogelu, a Gwasanaethau Oedolion a Chymunedol Integredig. Rydym yn cyflwyno amrywiol adroddiadau i’r Pwyllgor Craffu i’w hadolygu a’u herio ac mae gennym broses fewnol gadarn ar gyfer herio perfformiad a chael trosolwg ohono. Cynhelir cyfarfodydd gyda’n harolygiaeth drwy gydol y flwyddyn ac rydym yn mynd ati i adolygu ein harferion ein hunain yn rheolaidd fel mater o drefn er mwyn sicrhau gwelliant parhaus yn ein gwasanaeth.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 Llywodraeth Cymru yn amlinellu cyfres o ganlyniadau cenedlaethol ac mae’n gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i roi datblygu cynaliadwy wrth wraidd eu penderfyniadau. Mae’r Ddeddf hon yn sicrhau bod ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd yn ganolog i’r penderfyniadau a wneir.
Yng Nghonwy, rydym yn ymgorffori’r amcanion hyn yn ein Cynllun Corfforaethol newydd a fydd yn bodoli rhwng 2022 a 2027. Mae ein cynllun yn nodi ein dyheadau i wneud gwahaniaeth i Bobl Conwy dros y pum mlynedd nesaf, er mwyn bodloni ein canlyniadau hirdymor ar gyfer ein dinasyddion.
Fel gwasanaeth, rydym yn myfyrio ar y modd yr ydym yn cyfrannu at y blaenoriaethau hyn drwy ein proses Adolygu Perfformiad y Gwasanaeth bob chwe mis.
Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 and Codau Ymarfer yn nodi fframwaith ar gyfer mesur y cynnydd y mae awdurdodau lleol yn ei wneud yn erbyn eu dyletswyddau dan y Ddeddf fel cyfanwaith. Mae’r broses hon hefyd yn galluogi awdurdodau lleol i wella’u gwasanaethau’n barhaus. Fel y nodir yn y Cod Ymarfer, mae gennym drefniadau cadarn mewn grym ar gyfer casglu ac adrodd ar ddata am fesuryddion perfformiad statudol i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn. Caiff perfformiad ei fesur yn unol â phob un o’r safonau ansawdd sy’n canolbwyntio ar bobl, partneriaethau ac integreiddio ac atal.
Mae gan Gonwy drefniadau llywodraethu cadarn i gefnogi dulliau rheoli effeithiol ar gyfer Gofal Cymdeithasol. Mae’r Cyngor wedi sefydlu Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae’r Cyngor wedi penodi dau Ddeiliad Portffolio sy’n cynrychioli Gofal Cymdeithasol Plant a Theuluoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion a Hamdden. Rydym hefyd yn cyflwyno amrywiol adroddiadau i’r Pwyllgor Craffu i’w hadolygu a’u herio. Yn ogystal, mae gennym broses fewnol gadarn i oruchwylio a herio perfformiad. Cynhelir cyfarfodydd gyda’n harolygiaeth drwy gydol y flwyddyn ac rydym yn mynd ati i adolygu ein harferion ein hunain yn rheolaidd fel mater o drefn er mwyn sicrhau gwelliant parhaus yn ein gwasanaeth.
Prosiect Cyfrifoldebau Unigolyn Cyfrifol (UC) Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (RISCA)
Mae’r Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) yn rhoi ansawdd gwasanaethau a gwelliant wrth wraidd rheoleiddio. Mae’n gwella trefniadau diogelu ar gyfer y rhai sydd ei angen, ac yn sefydlu system reoliadol sy’n unol â’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant 2014 ac yn creu system reoliadol sy’n canolbwyntio ar y bobl sydd angen gofal a chefnogaeth, a’r gweithlu gofal cymdeithasol.
Mae’r prosiect cysylltiedig yn cynnal gwerthusiad dewis i argymell newidiadau / trefniadau sefydliadol parhaol i weithredu dyletswyddau “Unigolyn Cyfrifol” RISCA. Mae hyn ar gyfer darpariaeth gwasanaeth mewnol cyfredol ac ar y gweill mewn perthynas â gofal gartref, maethu a lleoliadau preswyl ar draws Gofal Cymdeithasol i gyd. Mae dyletswyddau’r Unigolyn Cyfrifol yn cael eu nodi yn Arweiniad RISCA statudol Arolygiaeth Gofal Cymru mewn perthynas â bodloni rheoliadau safonol gwasanaeth. Yn syml, mae cyflwyniad y rôl “Unigolyn Cyfrifol” uwch yn ddatblygiad pwysig iawn o ran hyrwyddo, monitro a gwella ansawdd gwasanaeth.
Beth oedd yr heriau?
Drwy ein hamrywiol brosiectau a’r datblygiadau gwasanaeth i ddarparu ‘gofal yn nes at adref’, sy’n cynnwys cynyddu ein darpariaeth mewnol lleol o ran byw â chymorth, tai gofal ychwanegol, seibiant a darpariaeth preswyl plant, rydym angen cynyddu ein gallu i gyflawni dyletswyddau swyddogaethau uwch yr Unigolyn Cyfrifol hefyd. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn parhau i hyrwyddo cynnydd a monitro parhaus a gwella ansawdd y gwasanaeth ar gyfer bob datblygiad cyfredol, sydd ar y gweill ac a fydd yn digwydd yn y dyfodol ar draws Gwasanaethau Plant, Anableddau a Phobl Hŷn.
Y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol
Mae’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn gronfa pum mlynedd i gyflawni rhaglen o newid o fis Ebrill 2022 tan fis Mawrth 2027. Mae’n adeiladu ar y ddysg a’r cynnydd a wnaed o dan y Gronfa Trawsnewid a’r Gronfa Gofal Integredig flaenorol ac yn ceisio gwneud newid cynaliadwy i’r system drwy integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Y nod erbyn 2027 yw ein bod wedi sefydlu a phrif-ffrydio o leiaf chwe model cenedlaethol newydd o ofal integredig er mwyn i bobl yng Nghonwy, a ledled Cymru, allu bod yn sicr o wasanaeth effeithiol a di-dor, mewn perthynas â:
- Gofal yn y gymuned
- Iechyd a lles emosiynol
- Cefnogi teuluoedd i aros gyda’i gilydd yn ddiogel, a chymorth therapiwtig i blant â phrofiad o ofal
- Gwasanaeth gartref o’r ysbyty
- Atebion yn seiliedig ar lety
Bydd defnyddio’r Gronfa Integreiddio Ranbarthol yn alinio’n agos gyda deddfwriaeth a rhaglenni, gan gynnwys Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a Cymru Iachach.
Yng Nghonwy, rydym wedi cael £3.2 miliwn o arian nawdd a byddwn yn ei ddefnyddio i gefnogi 21 gwahanol prosiect ledled ein meysydd gwasanaeth mewn partneriaeth â Chyngor Sir Ddinbych, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Trydydd Sector. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Canolfan Asesu Breswyl Plant Bwythyn y Ddôl
- Tîm Cryfhau Teuluoedd
- Tîm Teuluoedd Integredig Lleol (LIFT)
- Tîm Un Pwynt Mynediad Conwy
- Tîm Lles Cymunedol
- Gweithwyr Cefnogi Anableddau
- Timau Cefnogi Dementia
- Tîm Adnoddau Cymunedol
- Gweithio, Byw, Gwneud: cefnogi pobl gydag anableddau cymhleth
- Camu i fyny / camu i lawr – gwelyau i gefnogi pobl hŷn
- Uwch fodel gofal maeth camu i fyny / camu i lawr
- Grantiau Trydydd Sector drwy CGGC
- Prosiectau Trydydd Sector sy’n cefnogi plant gydag anableddau
Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC)
Cartref Preswyl Llys Elian:
Ym mis Awst 2022, cynhaliodd AGC archwiliad o gartref preswyl Llys Elian, sef cartref preswyl ar gyfer henoed â salwch meddwl, ym Mae Colwyn. Fe wnaeth yr adroddiad amlygu bod y staff yn hapus yn eu gwaith, yn mwynhau eu swyddi ac yn falch o weithio yn y cartref. Fe wnaethant nodi nad yw’r gofal yn cael ei ruthro, ei fod yn ddigynnwrf ac yn barchus. Mae’r gweithgareddau yn amrywiol ac yn cael eu trefnu bob dydd. Mae staff gofal yn cael digon o hyfforddiant ym maes gofal dementia ac maent yn cael eu cefnogi gan dîm rheoli sy’n rhagweithiol wrth ddod o hyd i ffyrdd i wella’r gwasanaeth. Roeddem ni’n falch iawn o glywed nad oedd unrhyw argymhellion ar gyfer gwella yn dilyn arolwg Llys Elian. Roedd canfyddiadau arolwg AGC yn gadarnhaol iawn, ac roedd yn adlewyrchu’r ymatebion a gawsom i arolwg staff Llys Elian a gynhaliom ym mis Mawrth 2023. Roedd y sgoriau a’r sylwadau’n cadarnhau bod y staff yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi ac wedi’u hyfforddi’n briodol i wneud eu swyddogaethau, ac fel tîm eu bod yn cefnogi preswylwyr i fyw bywydau cyflawn mewn amgylchedd diogel a pharchus. Fe wnaeth yr ymatebwyr i gyd roi sgôr uchel i Lys Elian o ran perfformiad a rhoddodd nifer ohonynt enghreifftiau o sut mae hyn yn cael ei gyflawni.
Mae Llys Elian yn llwyddo mewn sawl ffordd. Mae cryfder y rheolwyr yn sicrhau bod bob mater sy’n codi yn cael ei ddatrys yn gyflym. Mae’r ffordd y maen nhw’n gofalu am unigolion a’u staff wedi arwain ataf [i’n] rhoi sgôr pum seren iddynt. Mae’r ffaith bod y preswylwyr yn mynd i’r swyddfa am sgwrs gyda nhw yn dweud y cyfan.
Rydw i’n meddwl bod Llys Elian yn gwneud gwaith anhygoel wrth gefnogi preswylwyr i wneud eu dewisiadau eu hunain.
Cafodd arolwg tebyg ei anfon at gydweithwyr yn y Cyngor a’r Bwrdd Iechyd er mwyn cael eu barn am weithio gyda thîm Llys Elian. Roedden nhw hefyd yn cytuno bod y cartref preswyl yn darparu lefel wych o wasanaeth i’w preswylwyr, gan fynd “y filltir ychwanegol i ddarparu ar gyfer anghenion unigol y preswylwyr i gyd”. Roedden nhw i gyd yn cytuno bod preifatrwydd ac urddas y preswylwyr yn cael eu parchu, maent yn cael eu hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod ac mae’r tîm rheoli yn darparu gwybodaeth gywir ac amserol i fudd-ddeiliaid.
Nid wyf wedi gweld cartref yr un fath erioed, mae o’n anhygoel ym mhob ffordd. Mae’r amgylchedd yn gartref oddi cartref ac yn gyfforddus.
Ar hyn o bryd, rydym yn paratoi ar gyfer arolwg thematig gan AGC am gynllunio gofal a chefnogaeth yn ein Gwasanaeth Plant, Teuluoedd a Diogelu. Bydd yr arolwg yn mesur cynnydd ac ansawdd arferion mewn perthynas â chynllunio gofal a chefnogaeth ar gyfer plant a phobl ifanc yn amodol ar gyn-drafodion yn unol ag Amlinelliad Cyfraith Gyhoeddus.
Llety Llys Gogarth i blant a phobl ifanc ag anableddau
Ym mis Mehefin 2022, cynhaliodd AGC archwiliad o Lys Gogarth yn Llandudno, sy’n darparu llety, gofal a chefnogaeth i blant a phobl ifanc. Roedd yr adroddiad am yr archwiliad yn gadarnhaol iawn ac yn cynnwys y sylwadau a ganlyn:
- Mae’r cyfleuster yn cefnogi pobl ifanc i gyflawni canlyniadau cadarnhaol ac i wneud cynnydd.
- Caiff pobl ifanc eu hannog i wneud dewisiadau, i fod yn weithgar ac iach ac i fod yn annibynnol pan fo’n bosibl.
- Mae staff gofal yn frwdfrydig ac yn brofiadol ac yn glir am sut i ofalu am y bobl ifanc maen nhw’n eu cefnogi.
- Mae’r berthynas weithio agos gyda’r ysgol ar y safle yn golygu bod anghenion pobl ifanc yn cael eu hasesu’n drylwyr cyn iddynt gael eu derbyn.
- Mae’n lleoliad croesawgar ac mae yna ddigon o ofod y tu mewn a thu allan i fodloni anghenion pobl ifanc.
- Mae arweinwyr a rheolwyr yn darparu safon uchel o lywodraethu a chyfeiriad i’r gwasanaeth, ac o ganlyniad, mae’r canlyniadau i bobl ifanc yn gadarnhaol ac mae staff cymorth yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi.
Mae’r adroddiad llawn yn manylu ar feysydd o arfer da, megis gwaith amlasiantaeth, gweithdrefnau diogelu effeithiol, staff a rheolwyr wedi’u hyfforddi’n dda, a diwylliant cadarnhaol o sicrhau fod pobl ifanc yn ganolog i bopeth a wnawn o fewn y gwasanaeth. Ni nodwyd unrhyw feysydd o ddiffyg cydymffurfio yn ystod yr arolygiad hwn.
Adborth gan staff a budd-ddeiliaid
Ym mis Chwefror, gofynnom i staff sy’n gweithio yn Llys Gogarth a staff o dimau CBSC eraill ac Iechyd am eu hadborth am y cyfleuster, ac ansawdd y gwasanaethau a gyflwynir.
Gan adlewyrchu ar yr adborth gan AGC, roedd yr ymatebion cyffredinol yn gadarnhaol iawn. Mae staff yn teimlo eu bod yn cael digon o hyfforddiant i wneud eu swyddi, ac maent yn cael cyfarfodydd goruchwylio rheolaidd gyda rheolwyr atebol i drafod eu lles, eu hiechyd a’u llwyth achosion. Roedd bob aelod o staff wnaeth lenwi’r arolwg yn cytuno eu bod, fel tîm:
- yn gwrando ar blant a phobl ifanc, a’u teuluoedd, gan sicrhau bod ganddynt hawliau a dewisiadau
- yn cefnogi plant a phobl ifanc i ddatblygu a chefnogi eu lles a’u hiechyd
- yn cefnogi plant a phobl ifanc i gadw’n ddiogel a’u hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod
Fe wnaeth yr ymatebwyr i gyd nodi bod y gwasanaeth yn Llys Gogarth yn bedwar neu bump allan o bump, ac roedd y sylwadau cefnogol yn dangos faint o feddwl oedd gan staff o’u cydweithwyr a’r amgylchedd. Mae yna deimlad bod Llys Gogarth ar y trywydd iawn i adfer, ar ôl Covid, a bod cyfle newydd i wella a datblygu’r gwasanaeth ymhellach fel tîm.
Rydym i gyd yn frwdfrydig am ein swyddi ac mae gennym angerdd gwirioneddol am y plant sydd yn ein gofal. Rydym yn ceisio rhoi 100% iddyn nhw bob amser.
[Mae’r plant a phobl ifanc] yn cael prydau bwyd iach…… maen nhw’n mynd am dro hyfryd ac yn cyfrannu mewn gweithgareddau ar ôl ysgol.
Roedd budd-ddeiliaid o’r Tîm Anabledd Dan 25 oed a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cytuno’n unfrydol bod Llys Gogarth:
- yn gwrando ar y bobl ifanc mae’n nhw’n eu cefnogi, ac yn eu galluogi i wneud dewisiadau am y gofal a’r gefnogaeth y maen nhw’n ei gael a’r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw
- yn ymateb mewn modd amserol pan fo budd-ddeiliaid yn cysylltu â nhw gydag ymholiad
- yn ymateb ar unwaith pan fo pryderon yn cael eu codi am y bobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth
- yn cefnogi pobl ifanc i gadw’n hapus ac yn iach
- yn cefnogi pobl ifanc i gadw’n ddiogel a’u hamddiffyn rhag camdriniaeth ac esgeulustod
- yn hyblyg ac yn gallu addasu i fodloni anghenion y bobl ifanc y maen nhw’n eu cefnogi
- yn cynnig amgylchedd diogel ac addas i’r plant a’r bobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth
- yn trin y plant a phobl ifanc gydag urddas a pharch
- yn cyflogi staff sy’n broffesiynol ac sy’n hawdd mynd atynt gyda phryderon neu ymholiadau
Roedd 44% yn nodi bod Llys Gogarth yn dda iawn am fodloni deilliannau i bobl ifanc ac fe wnaeth 56% ei nodi fel da.
Rydw i’n teimlo’n gryf bod Llys Gogarth yn gwrando ar y bobl ifanc yn eu gofal a’u galluogi i ddweud eu dweud am y ffordd y gofalir amdanynt. Maent hefyd yn rhoi cyfle i bobl ifanc lesio barn am y math o weithgareddau y byddent yn hoffi eu gwneud.
Mwy na Geiriau: Darparu’r ‘Cynnig Gweithredol’
Daeth Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011 a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2011 yn gyfraith a rhoddodd hyn statws swyddogol i’r Gymraeg ac mae’n tanategu Fframwaith Mwy na Geiriau.
Mae’r Fframwaith Mwy Na Geiriau yn gynllun pum mlynedd rhwng 2022 a 2027. Mae’r fframwaith yn pwysleisio bod y Gymraeg yn perthyn i ni gyd, a’n bod yn cydnabod cysyniad o anghenion ieithyddol. Dylai bod derbyn gwasanaethau yn Gymraeg, yn enwedig pan rydym yn ddiamddiffyn, fod yn gydran annatod o ofal sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae safonau proffesiynol gyda gwasanaethau iechyd a gofal yn nodi bod cyfathrebu effeithiol yn allweddol, gan amlygu’r angen i gynnal parch ac urddas. Felly, dylai mabwysiadu a chyflawni Mwy Na Geiriau helpu i wella ansawdd y gofal ar gyfer unigolion sy’n byw mewn gwlad ddwyieithog.
Gweledigaeth gyffredinol y fframwaith yw: “Mae Mwy Na Geiriau yn anelu at gael y Gymraeg yn perthyn ac wedi’i ymgorffori mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd ledled Cymru fel bod unigolion yn derbyn y gofal sy’n bodloni eu hanghenion ieithyddol, gan arwain at well canlyniadau, heb orfod gofyn amdano. Bydd y rhai sy’n gweithio mewn gwasanaethau gofal cymdeithasol ac iechyd yn gwerthfawrogi bod ganddynt ran weithgar i’w chwarae wrth wireddu’r weledigaeth hon.”
Mae’r fframwaith yn nodi sut y byddwn yn gwireddu cynnydd o dan themâu penodol, sef cynllunio’r Gymraeg, cefnogi a datblygu sgiliau Cymraeg gyda’r gweithlu cyfredol a’r dyfodol a rhannu arfer gorau a dull gweithredu sy’n galluogi.
Mae grŵp llywio wedi cael ei sefydlu ar gyfer paratoi ar gyfer lansio’r fframwaith a bydd yn asesu sefyllfa’r gofal cymdeithasol yn erbyn 7 amcan allweddol, mae rhai ohonynt yn cynnwys hyrwyddo a Chymraeg yn y gweithle.
Beth oedd yr heriau?
Yr her oedd sicrhau bod y gweithlu cyfan, yn cynnwys gwasanaethau a gomisiynir, yn cael y cyfle i siapio ein cynllun gweithredu.
Beth sydd nesaf?
Byddwn yn parhau i weithredu cynllun pum mlynedd Mwy Na Geiriau. Ein nod yw sicrhau bod ein cynllun gweithredu yn parhau i ddatblygu a bod y gwasanaethau a’r gweithlu yn ei weithredu.
Asesiad o Boblogaeth Gogledd Cymru
Mae adroddiad Asesiad o Boblogaeth Gogledd Cymru yn asesiad o anghenion gofal a chymorth y boblogaeth yng Ngogledd Cymru, yn cynnwys anghenion cymorth gofalwyr. Y bwriad oedd cael gwell dealltwriaeth o’n poblogaeth a sut y gallai newid dros y blynyddoedd nesaf er mwyn ein cynorthwyo i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus gwell yn yr ardal. Wedi’u creu gan Gydweithredfa Gwella Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol a Llesiant Gogledd Cymru, maen nhw’n adolygu ystadegau, siarad gyda chymunedau a defnyddio ystod eang o wybodaeth a gesglir gan gynghorau lleol, gwasanaethau iechyd, elusennau a sefydliadau eraill sy’n darparu gwasanaethau.
Mae’r adroddiad yn cynnwys plant a phobl ifanc, pobl hŷn, anabledd iechyd a chorfforol, anabledd dysgu, awtistiaeth, iechyd meddwl, gofalwyr di-dâl a grwpiau eraill, gan ddarparu negeseuon allweddol ac argymhellion mewn perthynas â bob testun yn seiliedig ar y dystiolaeth a gasglwyd.
Gallwch ddarllen yr adroddiadau diweddaraf a’r rhai blaenorol, yma.
Adroddiad ar sefydlogrwydd y farchnad yng Ngogledd Cymru
Mae Adroddiad ar Sefydlogrwydd y Farchnad Gogledd Cymru (2022) yn cynnwys gwybodaeth am argaeledd gofal a chefnogaeth ar draws y rhanbarth ac yn argymell ffyrdd o wneud yn siŵr bod digon o gefnogaeth ar gael yn y dyfodol. Mae hyn yn cynnwys cartrefi gofal, gofal cartref, cartrefi plant, maethu, mabwysiadu, eirioli a chymorth i ofalwyr di-dâl.
Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru
Yn Rhan 9 o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 mae gan Awdurdodau Lleol ddyletswydd i wneud trefniadau i hyrwyddo cydweithrediad partneriaid ac eraill, mewn perthynas ag oedolion sydd ag anghenion gofal a chefnogaeth, gofalwyr a phlant. Ei ddiben yw gwella canlyniadau a lles pobl yn ogystal â gwella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ddarparu gwasanaethau. Felly, gellir disgrifio amcanion allweddol cydweithredu, partneriaeth ac integreiddio fel a ganlyn:
- Gwella gofal a chymorth, gan sicrhau bod gan bobl fwy o lais a rheolaeth;
- Gwella canlyniadau ac iechyd a lles
- Darparu gofal a chymorth cydlynol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
- Defnyddio adnoddau sgiliau ac arbenigedd yn fwy effeithiol
Mae’n rhaid i Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol sefydlu Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol i reoli a datblygu gwasanaethau i sicrhau cynllunio strategol a gweithio mewn partneriaeth rhwng Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol ac i sicrhau bod gwasanaethau, gofal a chefnogaeth effeithiol ar waith i ddiwallu anghenion y boblogaeth. Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gogledd Cymru (BPRhGC) yn anelu i ‘weithio gyda’n gilydd i wella lles pobl a chymunedau’ yn yr ardal, ac mae’n cynnwys cydweithwyr o’r awdurdodau lleol, y gwasanaethau brys, y Bwrdd Iechyd a sefydliadau’r Trydydd Sector. Cewch fwy o wybodaeth am waith BPRhGC yma.
Strategaeth Gomisiynu Lleoliadau ar gyfer Plant sy’n derbyn Gofal
Yn 2022, fe wnaethom greu strategaeth i nodi sut y byddwn yn darparu lleoliadau digonol ac o ansawdd uchel i ddiwallu anghenion amrywiol ac unigol y plant yn ein gofal. Dros y pum mlynedd nesaf rydym yn anelu i leihau ein dibyniaeth ar gomisiynu lleoliadau annibynnol, ac yn hytrach buddsoddi canran o’r arian yr ydym yn ei arbed er mwyn cynyddu nifer yr adnoddau lleol a mewnol. Bydd hyn o fudd i’r plant sy’n derbyn gofal drwy eu cadw yn yr ardal leol, eu lleoli nhw’n briodol, a’u cysylltu gyda gofalwyr sy’n gallu bodloni eu anghenion, yn enwedig yn ystod y cyfnod pontio i fod yn oedolyn.
Rydym yn anelu i ostwng nifer y plant yng Nghonwy sy’n derbyn gofal, ac yn unol â Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru 2022-2027, gael gwared ar elw o ofal plant sy’n derbyn gofal. Yng Nghonwy, rydym wedi cytuno y byddwn yn:
- Siapio ein gwasanaethau mewnol i wella buddion darpariaeth y sector cyhoeddus o ran ansawdd, gwerth am arian, a gweithredu a monitro cynllun gofal.
- Gweithio ar y cyd â phartneriaid sector cyhoeddus ledled y rhanbarth, pan fo hyn yn cynnig manteision penodol.
- Cynyddu’r nifer a’r dewis o leoliadau sydd ar gael i sicrhau bod opsiynau ar gael bob amser sy’n addas i anghenion y plant.
- Cynhyrchu gwasanaethau ar y cyd sy’n canolbwyntio ar ddeilliannau gan gydnabod bod amrywiaeth o wahanol ddulliau ar gyfer comisiynu strategol gyda nifer o bartneriaid sy’n gallu bod yn gwmnïau cydweithredol, elusennau neu bartneriaid masnachol.
Canlyniad trosfwaol dymunol y strategaeth hon yw cyflawni canlyniadau gwell i’r plant sy’n derbyn gofal gan Gonwy, a chyflawni arferion gorau ein swyddogaethau Rhianta Corfforaethol, gan ddarparu lleoliadau o ansawdd uchel i blant, sy’n cynnig gwerth am arian, ac sy’n diogelu ac yn hyrwyddo eu lles, yn hyrwyddo gwytnwch ac yn galluogi perthnasoedd cadarnhaol.
- Fe ddylai’r broses o wneud penderfyniadau gynnwys plant yn hytrach na’u drysu
- Fe ddylai cyfnodau mewn llety fod yn brofiad cadarnhaol i blant
- Ni ddylai plant fod dan anfantais yn sgil y gofal y maent yn ei dderbyn
- Fe ddylai plant adael gofal gyda’r un cyfleoedd â’r boblogaeth gyffredinol
Bwriad ac egwyddor y strategaeth yw datblygu digon o adnoddau lleoliad i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl i’r plentyn. Mae paru lleoliadau a chynnig dewis o leoliadau’n hanfodol ar gyfer cyflawni’r nod hwn.
Dim Drws Anghywir
Mae’r Comisiynydd Plant wedi creu’r dull Dim Drws Anghywir i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd wrth lywio’r hyn a ganfyddir fel system gymhleth wrth geisio cefnogaeth. Mae’r Comisiynydd yn credu y dylai gwasanaethau fod yn ofal estynedig i deuluoedd a chynnig cymorth yn gynnar i atal gwaethygu i wasanaethau. O fewn y Gwasanaethau Plant yng Nghonwy rydym wedi creu ein gweledigaeth ar egwyddorion y dull Dim Drws Anghywir. Bydd hwn yn ddull cydweithredol, gan weithio gyda phartneriaid i symud ymlaen â gweithredu strategaeth “Dim Drws Anghywir” Gogledd Cymru.
Beth nesaf?
Mae bob Is-Grŵp Ardal Plant Integredig yn paratoi “Cynllun Gwaith Arfaethedig”, a allai gynnwys ehangu prosiectau neu ganfod prosiectau newydd, i sicrhau bod trefniadau mynediad sengl effeithiol a chanolfannau canolbwynt yn gweithredu yn eu hardal leol, gan gefnogi siwrnai plentyn at wasanaethau.
Byddwch yn rhannu eich profiadau o sut mae plant a phobl ifanc yn cymryd rhan ac yn rhyngweithio gyda gwasanaethau a’r sefydliadau sy’n cefnogi plant a phobl ifanc.
Rheoli’r gyllideb a chynllunio ar gyfer y dyfodol
Mae’r Cynllun Ariannol Tymor Canolig (CATC) yn nodi dull strategol y Cyngor o reoli ei gyllid ac yn amlinellu rhai o’r problemau ariannol a fydd yn wynebu’r Cyngor dros y pedair blynedd nesaf. Mae cyflawni’r strategaeth yn ddibynnol ar yr adnoddau sydd ar gael drwy setliadau Llywodraeth Cymru ac ar lwyddiant y Cyngor wrth alinio adnoddau â’i nodau a blaenoriaethau.
Yn 2022-23, rhagamcanir y bydd y sefyllfa derfynol ar gyfer y Gwasanaethau Cymdeithasol yn dangos gorwariant o £3,097,831. Ar gyfer 2022-23, mae’r Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyflwyno cais llwyddiannus, drwy’r broses achosion busnes, am arian ychwanegol ar gyfer cynnydd mewn costau a ragwelwyd yn ymwneud â Ffioedd Gofal (£2,730k), Gofal Cartref (£2,070k), Taliadau Uniongyrchol (£285k), Byw â Chymorth (£620k) a Phlant Sy’n Derbyn Gofal (£2,990). Mae’r adran hefyd wedi gorfod dod o hyd i arbedion o £1,919k.
Llwybr Cyflogaeth Gofal Cymdeithasol
Mae Gofalwn.Cymru Conwy (gwasanaeth cefnogaeth cyflogaeth) yn parhau i hyrwyddo Gofal Cymdeithasol fel llwybr gyrfa y gellir ei ddewis. Maent yn cynnal ffeiriau swyddi ar-lein ac mae pob digwyddiad yn canolbwyntio ar y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen ar gyfer Gofal Cymdeithasol a’r rolau sydd ar gael o fewn y sector. Mae cyfranogwyr yn cwrdd â’n Mentor Cyflogaeth Gymunedol ac yn clywed am y gefnogaeth y gallant ei chynnig i unigolion sy’n gweithio ym maes Gofal Cymdeithasol.
Mae’r dull hwn wedi bod yn llwyddiannus o ran cefnogi unigolion drwy’r broses gyflogaeth. Mae cyfranogwyr wedi croesawu cefnogaeth un-i-un y mentor, sy’n teilwra’r gefnogaeth yn ôl anghenion y cyfranogwr. Rydym wedi cael adborth gadarnhaol gan ein cyfranogwyr.
Ar ôl cyfarfod gyda’m Mentor Cyflogaeth dros rai wythnosau, fe wnaeth hi fy helpu a’m harwain i wneud cais llwyddiannus gyda’r Tîm Anableddau, o lenwi’r ffurflen gais, i gynnal cyfweliadau a rhoi cefnogaeth barhaus a chyson. Ni allaf ddiolch iddi ddigon, mae hi bob amser ar ochr arall y ffôn gyda chefnogaeth ac arweiniad.
Roedd y broses gyfan o ymgeisio am swydd newydd yn llai poenus o lawer oherwydd y ffordd y cefais fy helpu a’m cefnogi. Ar ôl penderfynu ymgeisio, fe wnaeth fy Mentor Cyflogaeth fy helpu gyda fy nghais gydag awgrymiadau a’r wybodaeth orau i amlygu fy nghryfderau a’m galluoedd yn fy swyddogaeth ofal fy hun, wnaeth fy helpu i’n arw iawn. Fe wnaeth y pethau bychain helpu’n arw hefyd – pethau fel neges lwc dda ar gyfer fy nghyfweliad a’m llongyfarch ar ôl i mi gael cynnig y swydd.
Rydw i’n sylweddoli ar ôl siarad â chi nad yw fy ffurflen gais yn cynnwys hanner digon o fanylion a’i fod yn rhy anffurfiol. Mae’r cyngor rydych chi wedi’i roi i mi yn onest ac yn amhrisiadwy, rydw i’n meddwl y gallaf lwyddo gyda hyn, gyda’ch.