Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

Fframwaith Rheoli Perfformiad

Gweithredwyd Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2020, sy’n cynnwys set newydd o dargedau a mesurau perfformiad. Mae’r mesurau hyn yn tanategu pob agwedd o’r gwaith rydym yn ei wneud, drwy hysbysu ein timau rheoli o gynnydd, arferion da a thueddiadau newydd. Nid yn unig yw’r mesurau a’r targedau hyn, ar lefel leol a chenedlaethol, yn monitro perfformiad, maent hefyd yn caniatáu i ni gynllunio darpariaeth ein gwasanaethau yn y dyfodol. O ganlyniad, gallwn reoli unrhyw faterion posibl yn rhagweithiol, lliniaru yn erbyn risgiau a defnyddio’r wybodaeth i gymell ein gwasanaethau yn y dyfodol.

Safon Ansawdd 1 – Mae pawb yn bartneriaid cyfartal sydd â llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni’r hyn sydd o bwys iddyn nhw.

Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad2020-20212021-2022
Cyfanswm nifer y pecynnau ail-alluogi a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn (AD/010)770749
Nifer y cysylltiadau newydd i oedolion a dderbyniwyd gan wasanaethau cymdeithasol statudol yn ystod y flwyddyn (AD/001)5,6395,571

Safon Ansawdd 2 – Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu hynod fedrus a chymwys a gefnogir yn dda yn rhannu’r un weledigaeth yn eu gwaith.

Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad2020-20212021-2022
Nifer y swyddi gwag a hysbysebwyd yn ystod y flwyddyn113 o geisiadau swyddi gwag258
Nifer y swyddi gwag a gafodd eu llenwi’n llwyddiannusNi benodwyd ar gyfer 6 swydd wag. Cafodd 4 eu llenwi gan weithwyr asiantaeth. Mae gwaith yn mynd rhagddo i recriwtio ar gyfer 40 o swyddi gwag ar hyn o bryd183

Safon Ansawdd 3 – Mae’r angen am ofal a chefnogaeth yn cael ei leihau a’r cynnydd o ran anghenion yn cael ei atal, tra’n sicrhau bod y canlyniadau gorau posibl yn cael eu sicrhau i bobl.

Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad2020-20212021-2022
Cyfanswm nifer y plant sy’n derbyn gofal a ddychwelodd adref yn ystod y flwyddyn (CH/045)1014
Nifer y plant a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi bod mewn tri lleoliad neu ragor yn ystod y flwyddyn (CH/043)1413
Cyfanswm y Cynlluniau Llwybr cychwynnol sydd i’w cwblhau yn ystod y flwyddyn (CH/049)Nid yw’r ffigyrau ar gael12

Safon Ansawdd 4 – Mae cadernid o fewn ein cymunedau yn cael ei hybu ac mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial drwy annog a chefnogi pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, gan gynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas.

Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad2020-20212021-2022
Cyfanswm nifer y plant a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi newid ysgol unwaith neu fwy yn ystod y flwyddyn (ac eithrio trefniadau pontio, symud sy’n gysylltiedig â mabwysiadu neu symud tŷ) (CH/044)Nid yw’r ffigyrau ar gael9

Safon Ansawdd 5 – Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu canlyniadau cynaliadwy, cwbl integredig, o ansawdd uchel i bobl.

Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad2020-20212021-2022
Cyfanswm nifer y plant gyda chynllun gofal a chymorth ar 31 Mawrth (CH/015)1,014712
Cyfanswm nifer y plant gyda chynllun gofal a chymorth ble fo anghenion yn cael eu diwallu drwy Daliad Uniongyrchol ar 31 Mawrth (CH/016)10660
Nifer yr oedolion gyda chynllun gofal a chymorth ar 31 Mawrth (AD/012)3,0264,336
Cyfanswm nifer yr oedolion gyda chynllun gofal a chymorth ble fo anghenion yn cael eu diwallu drwy Daliad Uniongyrchol ar 31 Mawrth (AD/013)186141

Safon Ansawdd 6 – Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at ddyluniad a darpariaeth eu gofal a’u cefnogaeth fel partneriaid cyfartal.

Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad2020-20212021-2022
Cyfanswm nifer y bobl sy’n gadael gofal yng nghategorïau 2, 3 a 4 sydd wedi bod mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant am o leiaf 3 mis yn olynol yn y 12 mis ers gadael gofal (CH/054a)178
Cyfanswm nifer y bobl sy’n gadael gofal yng nghategorïau 2, 3 a 4 sydd wedi bod mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant am 3 mis yn olynol yn y 13 – 24 mis ers gadael gofal (CH/054b)2626
Cyfanswm nifer y bobl sy’n gadael gofal sy’n cael profiad o ddigartrefedd yn ystod y flwyddyn (fel y’i diffinnir yn Neddf Tai (Cymru) 2014) o fewn 12 mis o adael gofal (CH/052)1625

Safon Ansawdd 7 – Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed.

Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad2020-20212021-2022
Cyfanswm nifer yr ymholiadau a gwblhawyd o fewn 7 niwrnod o gael gwybod am yr honiad o gamdriniaeth (AD/024)79114
O’r plant hynny a roddwyd ar y gofrestr amddiffyn plant yn ystod y flwyddyn, y nifer sydd wedi bod ar y gofrestr o’r blaen o dan unrhyw gategori, ar unrhyw adeg yn ystod y 12 mis diwethaf (CH/024)90
Cyfnod cyfartalog o amser yr holl blant a oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn ystod y flwyddyn (PMC28)247.58 diwrnod225.45 days

Safon Ansawdd 8 – Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau deallus eu hunain fel eu bod yn gallu cyflawni eu llawn botensial a byw’n annibynnol am gyn hired â phosibl.

Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad2020-20212021-2022
Nifer y bobl ifanc sy’n gadael gofal sy’n symud i leoliad ‘Pan fydda i’n Barod’ (CH/055)52
Cyfanswm nifer y bobl ifanc y cafodd ymgynghorydd personol ei neilltuo ar eu cyfer yn ystod y flwyddyn – o fewn 3 mis os oedden nhw yng nghategori 1 neu 4, gweler y canllawiau (CH/051)2810

Chwilio

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2020-21

Adroddiad 2019-20

Adroddiad 2018-19

Family

Adroddiad 2017-18

2016-17 Report

2015-16 Report

2014-15 Report

Ymateb i Anghenion

Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@conwy.gov.uk

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2026 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English