Rydym wedi parhau i ofyn am adborth gan bobl sy’n derbyn gofal a chefnogaeth gennym ni er mwyn i ni allu monitro ein perfformiad a gwella gwasanaethau lle bo angen. Eleni, oherwydd i ni ganolbwyntio ar ymateb i bandemig Covid-19, ni wnaethom gynnal yr arolwg dinasyddion blynyddol, fodd bynnag, fe welwch enghreifftiau o arolygon ac ymgynghoriadau eraill drwy gydol yr adroddiad hwn.
Mae ymgynghori ac ymgysylltu wedi gorfod ildio i’n hymateb i bandemig Covid-19 eleni, ond byddwn yn ailafael yn hyn pan fydd y gallu gennym i wneud unwaith eto.
Cwynion a chanmoliaeth am ein gwasanaethau
Mae’r rhain yn rhoi adborth uniongyrchol i ni gan bobl sy’n derbyn ein gwasanaethau, a’u teuluoedd. Maent yn tynnu sylw at feysydd lle rydym yn gwneud yn dda, a hefyd lle gallwn wella ein harferion. Mae cael cwynion yn golygu y gallwn:
- Eu cydnabod yn gyflym pan rydym yn gwneud camgymeriadau
- Eu hunioni ac ymddiheuro lle bo’n briodol
- Sicrhau ein bod yn dysgu gwersi o gwynion
Oherwydd y ffordd rydym yn adrodd ar gwynion a chanmoliaeth ym maes gofal cymdeithasol, rydym yn rhoi crynodeb o’n perfformiad yn ystod 2019-20 i chi.
Cafodd yr adran 25 o gwynion ffurfiol yn ystod 2019-20, gyda 24 ar gam un a dim ond un ar gam dau’r broses. Mae hyn yn cyd-fynd â pherfformiad y llynedd ac yn cynrychioli 0.35% o’r unigolion sy’n derbyn cefnogaeth o fewn gwasanaethau oedolion ac 1.4% o’r unigolion o fewn gwasanaethau plant.
Mae nifer y cwynion a dderbynnir gan ein meysydd gwasanaeth unigol yn ddibynnol ar fath a natur y gwasanaeth sy’n cael ei ddarparu. Mae ein Gwasanaeth Cymorth i Deuluoedd ac Ymyrraeth, er enghraifft, yn faes emosiynol, gyda gweithwyr cymdeithasol a theuluoedd yn ymdrin â phryderon cynnar am les a diogelwch plant. Nid yw ein tîm cymorth i fusnesau a thimau swyddfa gefn eraill yn delio â’r cyhoedd yn gyffredinol, ac yn rhinwedd hyn, nid ydynt yn cael cymaint o gwynion.
Roedd 64% o’r cwynion a gafwyd yn ystod 2019-20 gan aelodau o’r teulu, a 36% gan yr unigolion eu hunain.
Roedd y pynciau’n amrywio, ond roedd 9 o’r 25 cwyn yn ymwneud â diffyg canfyddedig o ran cyfathrebu gennym ni, ac roedd 6 yn ymwneud ag agwedd neu ymddygiad aelod o staff. Bydd gwaith pellach yn cael ei wneud o ran categoreiddio themâu er mwyn dadansoddi unrhyw dueddiadau neu ddigwyddiadau sy’n codi dro ar ôl tro dros amser.
Mae’r amserlenni ar gyfer datrys cwynion ffurfiol wedi gwella’n sylweddol. Cafodd 87.5% o’r cwynion Cam 1 eu cwblhau o fewn 15 diwrnod gwaith, o’i gymharu â 54.2% yn 2018/19. Yn yr un modd, mae’r amserlenni o ran Ymchwiliadau Annibynnol Cam 2, o fewn 25 diwrnod gwaith, wedi codi o 0% yn 2018/19 i 100% yn 2019/20. Fodd bynnag, i roi hyn yn ei gyd-destun, dim ond un Ymchwiliad Cam 2 a gawsom ym mhob blwyddyn, gyda’r ymchwiliad yn 2019-20 yn cael ei gwblhau o fewn yr amserlen a bennwyd.
Rydym wedi gweld gostyngiad pellach mewn perthynas â gwariant ar gwynion Cam 2; £869.10 ar gyfer 2019/20, o’i gymharu â £3,540.80 ar gyfer 2018/19, a £17,966 ar gyfer 2017/18.
Bu ychydig o ostyngiad yn nifer y canmoliaethau a dderbyniwyd gan yr adran; cyfanswm o 190 ar gyfer 2019/20 i 216 ar gyfer 2018/19 (fe allai hyn fod yn gysylltiedig â dyfodiad y pandemig). Roedd 85% o’r rhain ar gyfer gwasanaethau oedolion, dyma rai enghreifftiau.
Diolch yn fawr iawn i chi am ofalu am ein Nain. Rydych chi’n gwneud gwaith rhagorol, diolch o waelod calon.
Fe aeth y gwasanaeth y tu hwnt i fy nisgwyliadau. Roedd y staff yn ddymunol, clên a chwrtais, ac roedd safon y gofal yn arbennig.
Roedd gweddill y canmoliaethau ar gyfer y gwasanaethau plant, megis y canlynol:
Dim ond eisiau diolch yn fawr i chi, nid yn unig am heddiw, ond am bopeth. Ni fuaswn wedi gallu gofyn am weithiwr cymdeithasol gwell.
Mae fy mhrofiad gyda phawb rwyf wedi gweithio gyda nhw wedi bod yn anhygoel ac maent wedi fy helpu gymaint gyda X. Diolch yn fawr iawn.
Dim ond gair bach i ddiolch yn fawr iawn i’r gweithiwr cymdeithasol tu allan i oriau (X), proffesiynol iawn, digynnwrf ac yn llawn cydymdeimlad.