Diben yr adroddiad blynyddol hwn yw nodi taith yr awdurdod lleol tuag at welliant wrth ddarparu gwasanaethau i drigolion Conwy. Mae’r adroddiad yn ceisio dangos sut rydym wedi hyrwyddo lles ac wedi ystyried darparu safonau lles. Mae’n rhoi gwybod am feysydd datblygiad newydd ac yn ailedrych ar yr hyn y dywedom y byddem yn ei wneud yn ystod 2020-21, yn hytrach na phob agwedd o’n gwaith, ac yn gwerthuso ein perfformiad mewn perthynas â chyflawni dyletswyddau gofal cymdeithasol. Rhaid i bob awdurdod lleol yng Nghymru gyhoeddi adroddiad blynyddol.
Y tro hwn mae ein blaenoriaethau gwasanaeth wedi’u halinio i wyth safon ansawdd cenedlaethol y canlyniadau lles sydd â phedwar maes allweddol:
Pobl
- Mae pawb yn bartneriaid cyfartal sydd â llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni beth sydd o bwys iddyn nhw.
- Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu medrus, cymwys ac sy’n derbyn cefnogaeth yn gweithio tuag at weledigaeth a rennir.
Atal
- Mae’r angen am ofal a chefnogaeth wedi’i leihau ac atal y cynnydd o ran angen, tra’n sicrhau bod y canlyniadau gorau posibl yn cael eu cyflawni i bobl.
- Mae cadernid o fewn ein cymunedau yn cael ei hybu ac mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial drwy annog a chefnogi pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, gan gynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas.
Partneriaethau ac Integreiddio
- Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu canlyniadau cwbl integredig, o ansawdd uchel, cynaliadwy i bobl.
- Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at ddyluniad a darpariaeth eu gofal a chefnogaeth fel partneriaid cyfartal.
Lles
- Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed.
- Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau hysbys eu hunain fel eu bod yn gallu cyflawni eu potensial llawn a byw’n annibynnol am gymaint â phosibl.
Mae’r adroddiad hwn yn dangos sut rydym wedi cyflawni yn erbyn yr wyth maes hyn, trwy gyflwyno’r diweddaraf am ddatblygiadau, astudiaethau achos, adborth gan unigolion sy’n defnyddio ein gwasanaethau, a mesuryddion perfformiad. Lluniwyd yr adroddiad ar gyfer y cyhoedd, ond bydd hefyd yn rhoi cipolwg ar ein taith yn 2020-21 i amrywiaeth helaeth o fudd-ddeiliaid, gan gynnwys cynghorwyr, ein partneriaid, y cyrff sy’n ein rheoleiddio a Llywodraeth Cymru. Rydym yn gobeithio y byddwch yn mwynhau ei ddarllen.