Beth a ddysgom ni o’r Arolwg Dinasyddion?
Dywedodd 75% o’r oedolion a gwblhaodd y fersiwn safonol o’r holiadur eu bod yn teimlo’n ddiogel. Fel yn y blynyddoedd o’r blaen, y pwnc llosg i’r grŵp hwn o bobl oedd bod ag ofn syrthio, ynghyd â’r diffyg hyder a ddaw yn sgil hynny wrth fynd o le i le yn annibynnol.
Rwy’n gwybod sut mae fy nghorff yn fregus.
Yn ddiogel rhag eraill, ond bydd yno wastad berygl o syrthio.
Rydym yn gweithio’n agos â Thîm Atal Codymau Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth ddarparu cymorth o bobl sydd mewn perygl o syrthio. Gallai hynny gynnwys:
- Darparu deunydd darllen priodol
- Dosbarthiadau ymarfer corff
- Ffisiotherapi personol yn y gymuned
- Gweithgareddau yn y gymuned
- Asesu diogelwch yn y cartref
- Adolygu meddyginiaeth gyda Meddyg Teulu neu Fferyllydd
- Atgyfeirio at wasanaethau podiatreg neu optometreg.
Cefnogir Cynllun Atal Codymau Gogledd Cymru gan bartneriaid yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, Cyngor Conwy a’r trydydd sector gydol y sir.
Dywedodd 88% o’r oedolion a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen o’r holiadur eu bod yn teimlo’n ddiogel. Roedd y gweddill yn fwy tueddol o deimlo nad oeddent yn ddiogel yn y nos neu mewn torfeydd o bobl.
Roedd 83% o Ofalwyr yn teimlo’n ddiogel. Yn ôl y sylwadau ychwanegol mae amrywiaeth o resymau dros beidio â theimlo’n ddiogel, gan gynnwys cyfyngiadau corfforol, bod ag ofn syrthio, gofalu am rywun â dementia sy’n medru bod yn ymosodol neu ymddwyn fel bwli, neu bryderu am ddyfodol y sawl sy’n derbyn gofal os cânt eu gadael ar eu pennau’u hunain.
Rwy’n sâl fy hun, mewn dim cyflwr i ofalu am neb arall.
Rwy’n poeni weithiau pe byddwn i’n cael damwain… beth fyddai’n digwydd i fy ngŵr?
Roedd 85% o blant yn teimlo’n ddiogel, a 10% arall yn teimlo’n ddiogel weithiau.
Rwy’n teimlo’n ddiogel gartref ond rwy’n pryderu am bobl y tu allan.
Maen nhw bob tro’n gwneud yn siŵr fy mod i’n ddiogel, ble bynnag rwy’n mynd.
Mae Diogelu’n Fusnes Pawb
Rydym yn gwneud ein gorau glas i sicrhau fod pob aelod o staff yng Nghonwy’n cael hyfforddiant ynglŷn â diogelu. Yn 2017-18 fe gyflwynom gyrsiau hyfforddiant ar-lein ynghylch Trais yn erbyn Menywod, Camdriniaeth Domestig a Rhywiol a Diogelu Oedolion a Phlant mewn Perygl.
Mae’r cyrsiau hyn yn rhai gorfodol i bob aelod o staff a’r Aelodau Etholedig. Darparwyd hyfforddiant diogelu hefyd i weithwyr yn y trydydd sector a’r gweithwyr gofal uniongyrchol sy’n ein helpu i gynnal ein gwasanaethau.
Yn ystod Wythnos Diogelu (12-17 Tachwedd 2018) buom yn hyrwyddo cyfres o Sesiynau Briffio Saith Munud ar gael ar wefan Bwrdd Diogelu Gogledd Cymru. Roedd y rhain yn rhoi blas i staff ar amrywiaeth o themâu diogelu, yn codi eu hymwybyddiaeth ac yn eu cyfeirio at fwy o wybodaeth.
Mae gennym Reolwyr Diogelu Dynodedig sy’n gyfrifol am faterion diogelu ymhob maes gwasanaeth yn y Cyngor. Er mwyn sicrhau dull cyson gydol y Cyngor o ran diogelu, trefnwyd diwrnodau datblygu ar gyfer deiliaid y swyddi hynny. Hyd yn hyn mae’r sesiynau wedi canolbwyntio ar gam-drin domestig a cham-drin rhywiol, a gwahoddwyd arbenigwyr yn y meysydd hynny i roi cyflwyniadau. Rydym yn dal i ddatblygu ein gwe-dudalennau ynglŷn â diogelu sy’n galluogi pobl i adrodd ynghylch mater diogelu os ydynt yn poeni am rywun. Mae ein Polisi Diogelu Corfforaethol yn datgan cyfrifoldebau’r Cyngor o ran diogelu ac yn nodi’r broses ar gyfer codi pryderon.
Ydi hyrwyddo Diogelu’n gweithio?
- Drwy godi proffil diogelu oedolion a gwella’r ffordd y mae asiantaethau’n gweithio gyda’i gilydd, mae nifer y cynlluniau diogelu ar gyfer oedolion wedi codi o 76 yn 2017-18 i 114 yn 2017-18.
- Mae’r risg y bydd oedolion diamddiffyn yn dioddef neu’n destun camdriniaeth neu esgeulustod yn cael ei leihau ac mae’r cyhoedd yn deall yn iawn fod angen diogelu pobl, ac yn gwybod beth i’w wneud os oes rhywbeth yn codi o ran diogelu.
- Daw diogelu yn rhan annatod o’n harferion gwaith a diwylliant y Cyngor.
Cyfranogi a Chydweithio
Cynrychiolir pob rhan o’r gwasanaeth mewn grwpiau diogelu lleol a rhanbarthol sy’n ymdrin â phlant ac oedolion. Mae’r rhain yn cynnwys Bwrdd Diogelu Rhanbarthol Gogledd Cymru (oedolion a phlant), Grŵp Cyflawni Ymarfer Conwy a Sir Ddinbych, grwpiau gweithlu a grwpiau hyfforddiant ymysg eraill. Rydym hefyd yn cadw golwg ar ein prosesau gweithredol drwy baratoi adroddiadau perfformiad rheolaidd, trafod pethau yn y Fforwm Diogelu a cheisio cyngor cyfreithiol ar yr adeg iawn os oes ei angen.
Mae’n dal yn anodd sicrhau ymgysylltu a chyfranogiad ystyrlon. Eleni, fodd bynnag, cynhaliodd Cyngor Conwy gynllun peilot i arbrofi â’r dull sgiliau cydweithredol o ymdrin â gwaith achos yn y Tîm Asesu a Chefnogi. Cafwyd ymateb cadarnhaol gan rieni, gofalwyr a phobl ifanc am y gwasanaeth a dderbyniwyd, a bydd hynny’n cyfrannu at ddatblygu’r gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Blant.
Un o’r heriau cyson yw’r angen i wella cyfranogiad tadau mewn prosesau Cynadleddau Amddiffyn Plant a Grwpiau Craidd, gan fod lefelau cyfranogiad yn gostwng fesul dipyn.
Mae’r Cadeirydd bob amser yn cynnig cwrdd â thadau absennol i drafod y prosesau, ac yn gofyn iddynt am sylwadau ysgrifenedig os nad oes modd iddynt ddod i gynadleddau.
Diogelu Plant
Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant
Mae Conwy wedi buddsoddi llawer iawn o amser ac ymdrech yn y deuddeg mis diwethaf wrth godi ymwybyddiaeth a sicrhau trefniadau cyfathrebu da rhwng gwahanol asiantaethau. Cynhelir y Fforwm Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant bob chwe wythnos lle mae Gofal Cymdeithasol yn cymryd yr awenau ac amrywiaeth o asiantaethau’n cyfrannu, yn ogystal ag adrannau eraill o’r Cyngor. Wedi pob fforwm mae Gweithwyr Cymdeithasol a’u Rheolwyr Tîm yn cyhoeddi bwletin i reolwyr yn y Gwasanaeth Plant a Theuluoedd i sôn am bobl ifanc (dioddefwyr honedig), oedolion (troseddwyr honedig), lleoliadau, tueddiadau a themâu. Yn ddiweddar bu Gweithiwr Cymdeithasol yn y Gwasanaeth Plant yn cynnal cynllun peilot gan hwyluso set ddysgu ar gyfer achos o Gamfanteisio’n Rhywiol ar Blant, a oedd yn cynnwys cyfraniadau nid yn unig gan y Gweithiwr Cymdeithasol dan sylw, ond hefyd y gweithwyr proffesiynol eraill yn fewnol ac yn allanol a fu’n ymwneud â’r achos. Cafwyd ymateb da, ac mae trafodaethau’n mynd rhagddynt i weld a ellid cynnig hyn i’n cydweithwyr eto yn y dyfodol.
Mae yno ddiwylliant iach yng Nghonwy o weithio’n dda drwy bartneriaeth rhwng Gweithwyr Cymdeithasol a Heddlu Gogledd Cymru, yn enwedig felly Cwnstabliaid a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu, gan mai’r rhain yw’r gweithwyr proffesiynol sy’n ymdrin â Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant o ddydd i ddydd.
Ail-lansiwyd y Fforwm ym mis Ionawr 2019, a bellach fe’i gelwir yn ‘Fforwm Camfanteisio’ er mwyn cynnwys mathau eraill o gamfanteisio, gan gynnwys Camfanteisio’n Rhywiol ar Blant Cynradd a Chamfanteisio’n Droseddol ar Blant.
Cyfrannodd staff Conwy at y ddrama ‘Mirror Mirror’ (Prosiect Gwella) a fu ar daith ledled gogledd Cymru. Bu gweithwyr Gofal Cymdeithasol yn meithrin cyswllt â chydweithwyr yn y gwasanaeth Addysg er mwyn sicrhau fod pob ysgol uwchradd yng Nghonwy’n cymryd rhan. Anelwyd y prosiect at blant ym mlynyddoedd 7 ac 8 mewn ysgolion uwchradd ledled gogledd Cymru.
Enillodd Conwy Wobr Gofal Cymdeithasol fis Medi 2018 am arwain cynllun amlasiantaethol i atal camfanteisio’n rhywiol ar blant. Buom yn gweithio gyda’n partneriaid o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, Addysg, Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaethau Ieuenctid Conwy, ynghyd â busnesau preifat yng Nghonwy. Dywedodd y beirniaid mai dyma’r esiampl orau o gydweithio yr oeddent wedi ei gweld yng Nghymru.
Beth nesaf?
Rydym yn cynnal cynlluniau peilot ar gyfer ‘Llysgenhadon Lles’ mewn dwy ysgol uwchradd yng Nghonwy. Mae’r gwaith yn seiliedig ar gydweithredu da rhwng gwahanol asiantaethau, gweithwyr proffesiynol a’r sector gwirfoddol. Bydd dwy elfen wahanol i’r swyddogaeth hon i ddisgyblion, ond rydym yn bwriadu ymdrin â themâu sydd a wnelont â Chamfanteisio’n Rhywiol ar Blant a Chamfanteisio’n Droseddol ar Blant, yn ogystal â phynciau llosg fel iechyd meddwl, hunan-niweidio, trais domestig a chamddefnyddio sylweddau. Rydym hefyd yn ystyried cynnal cynllun peilot amlasiantaethol arall ar thema lles, gyda rhieni yn y Canolfannau Teuluoedd newydd yng Nghonwy.
Cawsom wahoddiad hefyd i gyflwyno ein gwaith yn y maes hwn i fyfyrwyr Gwaith Cymdeithasol ym Mhrifysgol Bangor, yn sgil ein llwyddiant yn y Gwobrau Gofal Cymdeithasol.
Ymdrin ag achosion cymhleth
Ffurfiwyd Panel Trothwy Gofal er mwyn sicrhau fod rheolwyr gydol y gwasanaeth yn cael gorolwg dros achosion mwy cymhleth gyda phobl ifanc a allai fod mewn perygl o ddod yn blant sy’n derbyn gofal ac yn cyflawni swyddogaeth sicrhau ansawdd, gan sicrhau fod trefniadau diogelu ar waith i amddiffyn y plant. Fe gynhaliom archwiliad a dod i’r casgliad fod y Panel Trothwy Gofal yn cefnogi gweithwyr cymdeithasol llai profiadol ac yn rhoi cyfleoedd i ymchwilio i fathau eraill o gymorth gyda chyfraniad gan bartneriaid. Daethpwyd i’r casgliad fod oddeutu 80% o blant a drafodwyd mewn panel wedi cael cefnogaeth i aros gyda’u teuluoedd. Mae’r panel yn dal i ddatblygu a bydd yn ymateb i’r newidiadau arfaethedig yn y Gwasanaeth Trothwy Gofal.
Rydym wedi nodi rhai ffactorau allweddol sy’n cyfrannu at ymyrraeth lwyddiannus:
- Darparu oedolyn caredig y gall yr unigolyn ifanc ymddiried ynddo/ynddi
- Rhannu gwybodaeth
- Meithrin perthynas rhwng pawb sy’n rhan o’r broses
- Cynlluniau trefnus ac eglur a gaiff eu hadolygu’n gyson
- Swyddogaethau a disgwyliadau pendant
- Canolbwyntio ar ysgogi newid o ran y rhieni hefyd
- Dull rhagweithiol sy’n canolbwyntio ar faterion penodol
- Dyfalbarhad a chysondeb
- Presenoldeb a chyfraniad amlasiantaethol.
Datblygiadau o ran Diogelu Oedolion
Gweithgor Hunan-esgeuluso
Sefydlwyd y Gweithgor Hunan-esgeuluso ym mis Chwefror 2017. Diben y grŵp yw gwella ymarfer, a chefnogi gweithwyr cymdeithasol sy’n ymdrin â phobl sy’n esgeuluso eu hunain. Y Gweithiwr Cymdeithasol yn aml oedd yr unig weithiwr proffesiynol ynghlwm wrth unrhyw achos fel hyn, ac yn aml iawn roedd yr unigolion dan sylw’n gyndyn o feithrin cyswllt, ac yn byw mewn sefyllfaoedd â risg uchel. Dros y flwyddyn aeth heibio mae’r Gweithgor wedi tyfu i gynnwys cynrychiolwyr o wasanaethau Iechyd Meddwl, Tai, Ambiwlans Cymru, Diogelwch Tân, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a’r Gwasanaethau Cyfreithiol, yn ogystal â Gofal Cymdeithasol. Pan fydd y gweithgor yn cwrdd bob mis bydd yno siaradwr gwadd yn rhannu gwybodaeth am hunan-esgeuluso. Er enghraifft, cafwyd sgyrsiau gan Therapydd Galwedigaethol sy’n arbenigo mewn celcio, a chyfreithiwr a fu’n rhoi cyngor ynglŷn â’r gyfraith ar hunan-esgeuluso a chelcio. Mae Gweithwyr Cymdeithasol hefyd yn dod i gyflwyno’u hachosion i’r Gweithgor, ac yn cael cynnig cyngor, arweiniad a chymorth asiantaethol.
Cyfranogiad
Caiff unrhyw un y credir sydd mewn cryn berygl oherwydd hunan-esgeuluso wahoddiad i gyfarfod amlasiantaethol ynghyd ag aelodau o’r teulu/gofalwr. Drwy wneud hyn gellir sicrhau fod yr unigolyn yn ganolog i’r broses drwy’r amser.
Beth Nesaf?
Byddwn yn gweithio gyda’n tîm Iechyd a Diogelwch i ddatblygu canllawiau cryno ar gyfer asesu risg. Bydd hynny’n sicrhau fod unrhyw un sy’n hunan-esgeuluso neu’n celcio yn cael asesiad risg trwyadl.
Fforwm Diogelu Oedolion
Ailsefydlwyd y Fforwm Diogelu Oedolion ac fe’i cynhelir bob deufis. Ceir cynrychiolaeth o bob gwasanaeth perthnasol ym maes Gofal Cymdeithasol, ac mae hynny’n cyfrannu at lwyddiant y Fforwm. Nod y Fforwm yw trafod unrhyw bolisiau a gweithdrefnau newydd a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Fwrdd Diogelu Oedolion Gogledd Cymru. Mae’r Fforwm hefyd yn darparu gwybodaeth am unrhyw hyfforddiant sydd ar y gweill neu sydd eisoes wedi digwydd. Caiff y timau oedolion gyfleoedd hefyd i godi unrhyw faterion a hyrwyddo arferion da ym maes Diogelu.
Yn ogystal â thrafod yr eitemau rheolaidd ar y rhaglen, mae’r Fforwm hefyd yn estyn gwahoddiadau i siaradwyr gwadd. Hyd yn hyn rydym wedi gwahodd Heddlu Gogledd Cymru i drafod Llinellau Sirol a meddiannu cartrefi pobl ddiamddiffyn i werthu cyffuriau. Mae trafodaethau am faterion eraill wedi’u trefnu, gan gynnwys caethwasiaeth fodern, Prevent ac eiriolaeth.
Sicrhau Ansawdd ein Prosesau Diogelu
Mae Conwy’n ymrwymo i sicrhau ansawdd y gwasanaeth cyfan, gan sicrhau dull cynhwysfawr o reoli ansawdd. Un o’r dulliau pennaf o sicrhau ansawdd yw cynnal adolygiadau ymarfer o fewn y gwasanaethau gan ddefnyddio dulliau archwilio sy’n gosod fframwaith trefnus ar gyfer y broses. Mae yno ddiwylliant wedi hen sefydlu lle mae gwaith achos yn cael ei adolygu’n rheolaidd a’i archwilio mewn ffordd systematig.
Nid yw hyn yn rhywbeth sy’n digwydd unwaith neu ar ei ben ei hun, ond yn hytrach mae’n gylch parhaus o gynllunio gwasanaethau, eu gweithredu a’u hadolygu er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i blant a theuluoedd drwy ddatblygu gwybodaeth ac ymarfer proffesiynol.
Yn ogystal â’r adolygiadau ffurfiol wedi’u targedu, mae pob rheolwr ac aelod o staff yn gyfrifol am adolygu cofnodion achosion yn rheolaidd, gan sicrhau eu bod yn mynd ati’n ddiymdroi i ganfod unrhyw wybodaeth sydd ar goll.
Mae goruchwylio’n arf allweddol wrth sicrhau atebolrwydd a chefnogaeth yn ogystal â dysgu a datblygu proffesiynol i bob aelod o staff Gofal Cymdeithasol. Un agwedd bwysig ar oruchwyliaeth fyfyriol yw galluogi staff i gwestiynu eu hymarfer, dadansoddi’n feirniadol ac arfarnu eu profiadau, a chael ôl-drafodaeth wedi bod mewn sefyllfaoedd heriol neu ddirdynnol.