Plant a Phobl Ifanc
Cadw pobl ifanc yn egnïol
Yn y flwyddyn aeth heibio fe lansiom lawer o fentrau a chynlluniau i geisio rhoi hwb i weithgarwch corfforol ymysg ein plant a’n pobl ifanc. Buom hefyd yn canolbwyntio ar geisio lleihau gordewdra a gwella lles emosiynol. Dyma rai enghreifftiau:
- Mae ‘llythrennedd corfforol’ yn cynnwys trefnu sesiynau stori egnïol gan roi mwy o bwyslais ar y blynyddoedd cynnar o 0-5 mlwydd oed. Mae’r cynllun hwn yn seiliedig ar y syniad y bydd pobl yn cymryd rhan mewn mwy o weithgarwch corfforol os ydynt yn dechrau dysgu llythrennedd corfforol o’u geni.
- Cynhaliwyd cynllun Diwrnod Chwarae/Allan i Chwarae yn haf 2018 ar gaeau chwarae Rydal Penrhos. Cawsom gymorth gan 25 o wahanol sefydliadau a gwasanaethau ar y diwrnod. Fe gawsom ymateb aruthrol, gyda mwy na 1,000 o blant a 600 o oedolion wedi cofrestru ar gyfer y digwyddiad, a oedd yn cynnwys 32 o wahanol weithgareddau chwarae.
Hon yw ail flwyddyn y cynllun Cinio dros y Gwyliau a weithredir ar y cyd â Phrosiect Cyfoethogi Gwyliau Ysgol Llywodraeth Cymru. Bu pedair ysgol yn y sir yn cymryd rhan yn y Prosiect Cyfoethogi dros wyliau’r haf, ac oddeutu 80 o blant.
Cyfiawnder Ieuenctid Conwy
Grŵp Pêl-droed
Ers 2017 mae grŵp pêl-droed y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn galluogi pobl ifanc yn ardal Bae Colwyn sy’n anodd eu cyrraedd ac wedi ymddieithrio i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol llesol. Mae’r prosiect wedi targedu grwpiau o bobl ifanc yn yr ardal sydd wedi achosi trafferthion gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu sydd â photensial i droseddu. Ar y dechrau nid oedd llawer o bobl ifanc yn y grŵp. Wrth i’r grŵp ennill ei blwyf yn y flwyddyn aeth heibio, bu’r cyfranogwyr rheolaidd yn gwahodd eu ffrindiau i ddod am gêm, ac atgyfeiriwyd mwy o bobl ifanc newydd drwy’r gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid. Bellach mae tua ugain o bobl ifanc rhwng 12 a 18 mlwydd oed yn dod i bob sesiwn. Mae asiantaethau eraill wedi dechrau atgyfeirio pobl ifanc i’r grŵp, ac mae ambell i riant a gofalwr wedi cymryd rhan hefyd!
Mae’r rhai sy’n dod i’r sesiynau pêl-droed yn rheolaidd wedi cael cerdyn Ffit Conwy sy’n eu galluogi i fynd i’r gampfa a’r pwll nofio a chymryd rhan mewn dosbarthiadau ffitrwydd. Rhannwyd ugain o gardiau hyd yn hyn ac mae’n amlwg fod hyn wedi rhoi hwb i iechyd y bobl ifanc, eu ffitrwydd a’u hyder. Gostyngodd ymddygiad gwrthgymdeithasol 30% ymhen chwe mis wedi dechrau’r prosiect, a chredir fod y sesiynau pêl-droed wedi cyfrannu at hynny.
Beth nesaf?
Rydym wrthi’n dechrau prosiect tebyg yn ardal Llandudno gyda TRAC, Addysg a Gofal Cymdeithasol yn gweithio mewn partneriaeth yn Ysgol John Bright, lle mae’r rhan fwyaf o’r bobl ifanc dan sylw’n mynd. Prosiect pedair wythnos fydd hwn i gychwyn, lle byddwn yn meithrin cyswllt â phobl ifanc a darparu sesiynau wyneb yn wyneb er mwyn mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a lleihau’r potensial o droseddu. Byddwn hefyd yn cynnal sesiynau pêl-droed i ennyn eu diddordeb mewn chwaraeon a’u tywys ymaith o droseddu.
Grŵp Chwaraeon a Gweithgareddau i Ferched
Rydym ar hyn o bryd yn darparu grŵp wythnosol i ferched sy’n cynnig chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol. Yn aml nid yw’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y grŵp yn fodlon gweithio gyda gwasanaethau a darpariaethau prif ffrwd, fel clybiau ieuenctid a chwaraeon, ac mae eu hymddygiad yn medru eu rhwystro rhag cael mynediad at gyfleoedd addysg a hyfforddiant. Ein nod yw meithrin cyswllt â’r bobl ifanc hyn drwy gyfrwng chwaraeon, a bydd hynny yn ei dro yn datblygu ymddiriedaeth a phrofiadau cadarnhaol yn y grŵp. I ddechrau bu’n heriol ar adegau i ennyn diddordeb y bobl ifanc hyn, a hwythau wedi ymddieithrio ers tro byd. Drwy weithio gyda chriw bach o ferched rydym wedi medru newid meddyliau, ac mae’r niferoedd yn mynd o nerth i nerth. Mae staff y gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn medru rhoi cychwyn ar fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a lleihau’r potensial o droseddu. Gall pobl ifanc gryfhau eu sgiliau, gwella eu sgiliau cyfathrebu a dysgu sut i ddatrys problemau a chadw rheolaeth arnynt eu hunain. Hyrwyddir iechyd a lles corfforol drwy ymarfer corff a gweithgarwch egnïol.
Cefnogi Pobl Ifanc ag Anableddau
Astudiaeth Achos
Mae ‘K’ yn unigolyn ifanc ag anawsterau dysgu sydd wedi cael cymorth gan ein Tîm Cefnogaeth Gymunedol ar gyfer Anableddau, ac wedyn ein Tîm Cyfranogi. Ar hyn o bryd mae hi’n astudio yn yr adran sgiliau byw’n annibynnol yng Ngholeg Llandrillo. Mae’r adran hon yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ag anableddau dysgu ysgafn neu ddifrifol, ac sydd hefyd yn cael trafferthion cymdeithasol ac emosiynol. Etholwyd ‘K’ i Senedd Ieuenctid Cymru i gynrychioli pobl ag anableddau, ac mae hynny’n rhywbeth arbennig i’w gyflawni. Safodd yr etholiad ar sail maniffesto eang a oedd yn hyrwyddo pethau sy’n bwysig iddi hi fel unigolyn ac i bobl ifanc eraill ag anableddau yng Nghymru, fel mwy o weithgareddau i bobl ifanc ag anableddau a gwella mynediad i gadeiriau olwyn. Yn ddiweddar bu ‘K’ yn destun erthygl papur newydd yn sôn am ei hethol i’r Senedd Ieuenctid.
Cefnogi Pobl ag Afiechyd Meddwl
Dysgu er Adferiad a Lles
Yn 2017-18 sefydlom y rhaglen Dysgu er Adferiad a Lles, i weithio gyda chyfranogwyr dros ddeunaw ag afiechyd meddwl fel eu bod yn medru:
- Magu gobaith a’r gallu i gyflawni targedau a dyheadau personol;
- Ailafael â rheolaeth dros eu symptomau a’u bywydau;
- Datblygu rolau a pherthnasau gwerth chweil;
- Dod o hyd i ystyr a phwrpas;
- Cael cyfle i wneud y pethau pwysig er mwyn creu bywyd y tu hwnt i’r salwch.
Lluniwyd taflen wybodaeth i hyrwyddo’r cyrsiau a ddarperir drwy’r rhaglen, a diwygiwyd honno bob tri mis ar sail cyfraniadau o’r trydydd sector ac asiantaethau perthnasol eraill. Cafwyd ambell i dro trwstan ar hyd y ffordd wrth ddod o hyd i weithgareddau a chynlluniau ac arian ar gyfer y daflen wybodaeth, ond goresgynwyd y rheiny drwy gydweithio.
Beth nesaf?
- Byddwn yn ystyried ffyrdd o ymgorffori’r rhaglen mewn gwaith arferol fel bod mwy o bobl yn dod i wybod amdani a’i bod yn cyrraedd rhannau o’r sir sy’n anos eu cyrraedd.
- Bwriadwn gydgynhyrchu’r rhaglen gyda defnyddwyr y gwasanaeth fel ei fod yn bodloni anghenion pobl a’i fod yn cael ei arfarnu’n effeithiol.
- Byddwn yn ystyried dulliau mwy cynaliadwy o ariannu gwasanaethau, ac yn dylanwadu ar gynlluniau comisiynu fel bod y rhaglen ar gael yn helaeth a’i bod yn rhan allweddol o ofal drwy ymyrraeth gynnar yn y dyfodol.
- Gobeithiwn ddefnyddio’r daflen yn sail ar gyfer datblygu rhywbeth tebyg ar gyfer pobl ifanc, gan addasu’r cynnwys i adlewyrchu’r hyn sy’n wynebu pobl ifanc dan ddeunaw oed. Y nod yw meithrin cyswllt â phobl ifanc yn eu cymunedau eu hunain a’u cefnogi i ehangu eu rhwydweithiau cymdeithasol a datblygu eu cadernid emosiynol.
Cydweithio ag asiantaethau sy’n bartneriaid
Buom yn gweithio gyda phartneriaid fel Heddlu Gogledd Cymru ac Iechyd wrth greu protocol Adran 135/136. Mae a wnelo’r protocol hwn â gofalu am bobl mewn argyfwng o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl, a’i nod yw sicrhau yr ymatebir yn chwim ac yn briodol pan fydd rhywun mewn trallod meddyliol.
Fe wnaeth y protocol hwn wahaniaeth mewn amrywiaeth o ffyrdd:
- Ymatebir yn chwim i bobl a roddwyd dan gadwad o dan Adran 136, ac mae hynny wedi gostwng yr amserau aros;
- Mae’r broses a llwybr yr unigolyn drwyddi yn fwy tryloyw bellach;
- Ceir gwell cyfathrebu rhwng yr asiantaethau sy’n bartneriaid ac rydym wedi meithrin dealltwriaeth o swyddogaethau pob asiantaeth;
- Mae pawb sy’n rhan o’r broses wedi ennill gwell dealltwriaeth o’r gyfraith a hawliau dynol;
- Mae wedi amlygu patrymau o ran rhoi pobl dan gadwad, a meysydd lle gellir gwella.
Cafwyd ychydig o heriau o ran deall y gyfraith a’r gwahaniaethau rhwng gweithdrefnau’r amryw bartneriaid. Mae’n braf gweld fod y gwaith amlasiantaethol yn gwneud gwahaniaeth er gwell.
Cyd-brosiect Cyfranogi sy’n Pontio’r Cenedlaethau
Codi Ymwybyddiaeth ynglŷn â Chyffuriau ac Alcohol
Bob blwyddyn mae Penaethiaid Gwasanaeth, Aelodau Etholedig a Phartneriaeth Pobl Conwy’n cwrdd â Chyngor Ieuenctid y Sir a’r Rhwydwaith Cyfranogi Oedolion er mwyn clywed barn y naill grŵp a’r llall ynglŷn â’r gwaith y maent wedi’i gyflawni. Blaenoriaeth y ddau ohonynt yn 2018 oedd codi ymwybyddiaeth ynglŷn â chyffuriau ac alcohol.
Drwy gydweithio fe luniodd y ddau grŵp gyfres o bosteri i godi ymwybyddiaeth, a gyflwynwyd yng Nghyfarfod Blynyddol Partneriaeth Pobl Conwy fis Medi 2018. Hyderwn y bydd y posteri hynny’n ennyn diddordeb pobl, yn rhoi cyngor gwerth chweil ac yn lleihau’r niwed a’r trafferthion a ddaw yn sgil camddefnyddio sylweddau.
Er mwyn meithrin dealltwriaeth o’r pwnc fe drefnwyd sesiwn hyfforddiant ar y cyd wedi’i ddarparu gan CAIS, elusen gofrestredig sy’n darparu gwasanaethau yng ngogledd Cymru. Yn y sesiwn fe drafodwyd gwahanol fathau o gamddefnyddio sylweddau a’r niwed a’r trafferthion a ddaw yn eu sgil. Wedi hynny cafwyd sesiwn ymgynghori gyda Heddlu Gogledd Cymru, lle bu trafodaeth ynglŷn â’r ffordd y gall camddefnyddio sylweddau effeithio ar lefelau troseddu, a sut mae’r Heddlu’n gwario arian i fynd i’r afael â’r peth.
Wrth edrych i’r dyfodol dymunwn godi mwy o ymwybyddiaeth drwy rannu ein posteri ar gyfryngau cymdeithasol ac mewn ysgolion, llyfrgelloedd, swyddfeydd cyrff yn y trydydd sector a chanolfannau cymunedol.
Dyma rai o’r posteri dan sylw:
Ei gwneud yn haws i ddefnyddio ein gwasanaethau lles
Rydym wedi newid rhai o’n dulliau gweithredu fel ei bod yn haws i bobl Conwy ddod o hyd i wybodaeth, cyngor a chymorth o ran gweithgareddau lles yn lleol. Nawr mae Swyddogion Lles yn gweithio ochr yn ochr â thîm ein Un Pwynt Mynediad yn feunyddiol gan dderbyn galwadau wrth iddynt ddod i mewn. Mae hynny’n sicrhau nad oes unrhyw oedi wrth ymateb i ymholiadau.
Crëwyd rhif ffôn a chyfeiriad i bobl gysylltu â’r Tîm Lles Cymunedol yn syth, yn hytrach na mynd drwy’r Un Pwynt Mynediad, a ffurfiwyd tîm sy’n gyfrifol am rannu newyddion am y digwyddiadau a’r gwasanaethau sy’n digwydd yn lleol.
Beth nesaf?
Rydym yn bwriadu hyrwyddo ein gwasanaeth cyngor a gwybodaeth yn ehangach eto, yn enwedig gyda thimau Gofal Cymdeithasol mewnol a meddygon teulu sy’n ystyried trefnu gweithgareddau cymdeithasol ar bresgripsiwn i’w cleifion. Byddwn hefyd yn ceisio atgyfeirio mwy o bobl fel bod cynifer â phosib yn medru manteisio ar y gweithgareddau a ddarperir yng Nghonwy.
Cefnogi pobl â dementia.
Mae mwy o bobl yn marw o ddementia yn y Deyrnas Gyfunol nac unrhyw gyflwr arall, ac felly mae’n bwysig ein bod yn dal ati drwy’r amser i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â’r clefyd, a chanolbwyntio ar sut beth yw byw â dementia i’r unigolion dan sylw, yn ogystal â’r bobl sy’n gofalu amdanynt. Aeth Tîm Lles Cymunedol Conwy ar daith o amgylch y Sir gyda’r Bws Rhithwir Dementia fis Mawrth 2019, gan roi cyfle i ofalwyr di-dâl, anwyliaid a ffrindiau pobl â dementia gael cipolwg ar sut beth yw byw gyda’r cyflwr. Mae’r profiad i rywun ag ymennydd iach y nesaf peth at fod â dementia, gyda’r holl deimladau diamddiffyn a dryslyd y mae’r clefyd yn eu hachosi. Y gobaith oedd y byddai’r rhai a oedd yn cymryd rhan yn ennill gwell dealltwriaeth o’r cyflwr a’r gwahanol ffyrdd y mae’n effeithio ar ymddygiad, a’u bod yn teimlo fel y gallant gynnig gwell cymorth a chydymdeimlad i’r bobl sy’n derbyn gofal ganddynt.