Beth mae ein Harolwg Dinasyddion wedi’i ddweud wrthym
Pobl yn dweud eu bod yn byw yn y cartref cywir iddyn nhw
Mae 87% o ofalwyr, 86% o blant a 86% o oedolion yn cytuno eu bod yn byw yn y cartref cywir iddyn nhw. I lawer, mae’n bwysig y gallant aros yn eu cartref eu hunain am cyn hired â phosibl, ac i ofalwyr, mae’n rhaid bod yr amgylchedd cartref yn gallu hwyluso eu swyddogaeth, e.e. ar gyfer gweithgareddau symud a lleoli, lle bydd angen addasiadau yn aml. Mae aros gartref yn cyd-fynd â chadw rhwydwaith o deulu, ffrindiau, cymdogion a’r gymuned ehangach ac felly mae’n ffactor pwysig wrth fesur llesiant.
Plant a phobl ifanc yn dweud eu bod yn hapus gyda’r bobl y maent yn byw â nhw
Rhoddodd 78% o blant a phobl ifanc wybod eu bod yn hapus gyda’r bobl y maent yn byw gyda nhw, mewn nifer o leoliadau.
Mae pawb yn fy nhŷ yn fy ngharu ac rwyf i’n eu caru nhw
Pobl yn rhoi gwybod eu bod wedi cael gofal a chefnogaeth yn eu hiaith ddewisol
Cytunodd 97% o ofalwyr, 97% o blant a 96% o oedolion y gallant gyfathrebu gyda Gofal Cymdeithasol yn eu hiaith eu hunain.
Rydym yn siarad Cymraeg a Saesneg. Mae’n bwysig iawn i ni ein bod yn cael cyfle i siarad Cymraeg weithiau gyda phobl yn y Gwasanaethau Cymdeithasol
Oedolion ifanc yn dweud eu bod wedi derbyn cyngor, cymorth a chefnogaeth i’w paratoi i fod yn oedolyn
Roedd 68% o blant 16 neu 17 oed a 73% o oedolion 18-24 oed yn cytuno gyda’r datganiad hwn, gyda’r sylwadau ychwanegol yn awgrymu bod pobl ifanc yn gwerthfawrogi cefnogaeth eu rhieni/gofalwyr i’w harwain a gallant deimlo ar goll a heb gyfeiriad os nad yw hyn yn cael ei ddarparu neu ei gymryd.
Pobl yn dweud eu bod yn dewis byw mewn cartref gofal preswyl
Roedd 78% o oedolion yn cytuno mai eu dewis nhw oedd byw mewn cartref preswyl, gyda sylwadau yn awgrymu bod y penderfyniad hwn yn cael ei wneud yn dilyn ymgynghoriad gyda’r teulu a chyngor gan weithwyr proffesiynol wedi i gyflyrau meddygol neu ddirywiad corfforol ddod yn anodd ymdopi â nhw.
Pa mor dda ydym ni’n gwneud?
Mae 43% o’r holl adawyr gofal mewn addysg, hyfforddiant neu waith 12 mis ar ôl gadael gofal (PMC34a), a 26% 24 mis ar ôl gadael gofal (PMC34b). Nid yw hyn gystal â’r llynedd, a hoffem wneud yn well. Nid yw bob unigolyn sy’n gadael gofal yn cadw mewn cysylltiad – mae hyn yn seiliedig ar y rhai sydd dal mewn cysylltiad â ni.
Mae 5% o unigolion sy’n gadael gofal wedi profi digartrefedd yn ystod y flwyddyn (PMC35). Mae hyn yn well na’r llynedd, ac yn llai na hanner y cyfartaledd ar gyfer Cymru (data 2016/17).
Llwybr Cefnogaeth a Llety Cadarnhaol Pobl Ifanc
Rydym yn gweithio yn galed iawn i wella canlyniadau i bobl ifanc. Datblygwyd cynllun i greu agwedd newydd i helpu pobl ifanc i aros yn eu rhwydweithiau teuluol lle bynnag y bo’n bosibl, neu i gael mynediad i dai addas a’u cynnal. Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar anghenion pobl ifanc 16-34 oed ac unigolion sy’n gadael gofal hyd at eu pen-blwydd yn 25 oed.
Nod y cynllun yw gweithio yn effeithiol ledled y Cyngor, a gyda phartneriaid i ddarparu agwedd integredig sy’n canolbwyntio ar:
- Sicrhau bod pobl ifanc, eu teuluoedd a’r rhai sy’n gweithio gyda nhw yn cael gwybodaeth ac arweiniad i ddeall dewisiadau tai.
- Atal argyfwng tai yn rhagweithiol.
- Gwneud yn siŵr bod ein prosesau, gan gynnwys asesu a dyrannu tai, yn glir i bobl ifanc.
- Ystod addas o ddewisiadau llety a chefnogi sy’n rhoi gwerth am arian i ddiwallu anghenion amrywiol pobl ifanc.
- Helpu pobl ifanc i gael mynediad i lety sefydlog a’i gynnal.
Bydd y prosiect yn targedu digartrefedd ieuenctid trwy ganolbwyntio ar atal ac ymyrryd yn fuan trwy agwedd amlddisgyblaeth ac asiantaeth.
Hyd yma, mae datblygiadau wedi arwain at sicrhau fflat gadael gofal fel adnodd symud ymlaen, gan ganolbwyntio ar gefnogi unigolion sy’n gadael gofal i baratoi ar gyfer annibyniaeth, rheoli cyllid yn llwyddiannus a chynnal tai sefydlog.
Nesaf
Rydym yn bwriadu ceisio datblygu darpariaeth anghenion llety ar gyfer pobl ifanc trwy weithredu ‘siop un alwad’ ar gyfer pobl ifanc sydd mewn perygl o ddioddef digartrefedd a fflatiau un ystafell wely a fflatiau stiwdio fforddiadwy.
Tŷ Gofal Ychwanegol
Mae ein Cynlluniau Tai Gofal Ychwanegol yn rhoi cyfle i breswylwyr fyw mewn amgylchedd modern, addas i oedran, sy’n rhoi cyfle iddynt fyw yn annibynnol ac ymwneud yn gymdeithasol yn rheolaidd. Mae’r adborth a ganlyn yn dangos cyfleustod a hyblygrwydd bywyd un dynes wedi iddi symud i Llys y Coed yn Llanfairfechan.
Astudiaeth achos
Mae fy nain wedi bod yn Llys y Coed ddwywaith ar gyfer gofal seibiant ac roedd wrth ei bodd. Bellach mae ganddi ei fflat ei hun yma ac mae’n symud i mewn heddiw, ac mae hi wedi gwirioni. Ar ôl byw yn ei thŷ am 60 mlynedd, nid oeddem yn meddwl y byddai eisiau gadael ei chartref, ond mae cael ‘blas’ o Llys y Coed wedi ei chyffroi. Mae hi’n ddynes gymdeithasol iawn, ond mae hi angen gofal a chefnogaeth, felly mae Llys y Coed yn berffaith; mae hi’n cael cinio gyda’r preswylwyr eraill, yn chwarae bingo a gweithgareddau eraill, ond pan mae hi eisiau bod ar ei phen ei hun gall hi fynd i’w fflat lle bydd gofalwr hefyd yn coginio bwyd iddi.
Mae’r staff yn Llys y Coed yn wych ac yn mynd o’u ffordd i nain. Maen nhw wedi rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i ni drwy gydol y broses hefyd. Mae’r fflatiau yn hyfryd, mae gweithiwr trin gwallt ar y safle, lolfeydd a llyfrgell. Does dim byd y gallwn ei feirniadu am y lle
Cynnydd ar Mwy na Geiriau
Nod hwn yw cryfhau darpariaeth gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gan sicrhau bod siaradwyr Cymraeg yn cael gwasanaethau yn eu hiaith gyntaf, gan ddefnyddio sgiliau ac adnoddau cyfredol.
Darparwyr Gofal Allanol
Rydym wedi bod yn ystyried gallu ein Darparwyr Gofal Allanol a staff gofal cartref i gyfathrebu yn effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg. O ganlyniad, byddwn yn ymweld â chartrefi gyda lefelau isel o staff sy’n siarad Cymraeg i hyrwyddo Mwy na Geiriau.
Gweithlu Mewnol
Rydym hefyd wedi bod yn edrych ar faint o’r staff mewnol sy’n gallu cyfathrebu yn Gymraeg, ac mae nifer uchel o staff Conwy wedi mynegi ddiddordeb mewn gwersi Cymraeg trwy’r cynllun Cymraeg yn y Gwaith sy’n cael ei ddarparu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg; bydd y gwersi yn cychwyn ym mis Medi 2018. Bydd pob gweithiwr newydd rŵan yn cael gwybodaeth am weithio yn ddwyieithog trwy ein ffurflen sefydlu newydd. Cam gweithredu allweddol ar gyfer 2018 fydd monitro a rhoi gwybod am y nifer sy’n derbyn hyfforddiant Cymraeg Gwaith.
Cynnig Gweithredol
Rhoddir gwybod i’r Penaethiaid Gwasanaeth a Rheolwyr Gwasanaeth am ddata chwarterol ar y cynnig gweithredol, ac mae perfformiad yn dangos cynnydd da.
Rhaglen MA mewn Gwaith Cymdeithasol – Prifysgol Bangor
Adolygwyd y Cytundeb Partneriaeth Tri gyda Phrifysgol Bangor (Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy) yn 2017 fel rhan o broses ailddilysu’r Rhaglen MA. Sefydlwyd cytundeb partneriaeth newydd i fynd i’r afael â’r heriau y mae partneriaid yn eu profi wrth recriwtio gweithwyr cymdeithasol sy’n siarad Cymraeg. Bydd y garfan myfyrwyr 2018 sy’n ymgymryd â lleoliadau yn yr awdurdodau lleol yn ddwyieithog a rhagwelir, ar ôl iddynt gymhwyso, y byddant yn cael eu recriwtio gan bartneriaid i gynyddu nifer y gweithwyr cymdeithasol Cymraeg yn y gweithlu.
Gwirfoddoli yn y Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid
Astudiaeth achos
Mae ein Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid wrthi’n gweithio gyda pherson ifanc (P) sydd wedi’i wahardd o sawl ysgol prif ffrwd ac Unedau Atgyfeirio Disgyblion oherwydd ymddygiad heriol tuag at staff dysgu a disgyblion eraill. O ganlyniad, roedd ei gyfnodau mewn addysg yn achlysurol a threuliodd amser sylweddol heb fod mewn addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant (NEET). Tuag at ddiwedd 2017, cytunodd yr Awdurdod Lleol y gallai P fynychu hyfforddiant un i un ddau fore yr wythnos ar yr amod bod oedolyn priodol hefyd yn mynychu i leihau unrhyw risgiau. Nid oedd prif ofalwr P yn gallu rhoi cefnogaeth oherwydd ei broblemau iechyd ei hun, felly dechreuodd y Rheolwr Achos a’r Cydlynydd Gwirfoddolwyr broses gydweddu i ddod o hyd i wirfoddolwr gyda’r sgiliau a’r profiad perthnasol i gefnogi P.
Ar ôl dod o hyd i rywun addas, a chynnal cyfarfodydd cyflwyno, cytunodd P a’r gwirfoddolwr y byddant yn cyfarfod tiwtor mewn man canolog yn y gymuned ddwywaith yr wythnos. Dros y misoedd, dechreuodd P a’r gwirfoddolwr adeiladu perthynas a threulio amser cyn neu ar ôl y gwersi yn trafod agweddau eraill o fywyd P, gan gynnwys dyheadau a chymhelliant, teulu, perthnasau a throseddu. Darparodd y gwirfoddolwr y model rhag-gymdeithasol yr oedd P ei angen. Pum mis i mewn i’r hyfforddiant, adolygodd yr Awdurdod Lleol y trefniant. Cytunwyd bod y risgiau gan P yn flaenorol wedi’u lleihau ac roedd y tiwtor yn hapus i symud ymlaen heb oedolyn priodol yn bresennol. Er mwyn dod â’r berthynas broffesiynol i ben yn briodol ar gyfer P a’r gwirfoddolwr, cynhaliwyd sawl cyfarfod cau gan roi cyfle iddynt ddweud hwyl fawr.
Tîm Ymyrraeth Gynnar ac Atal – Monitro ein Perfformiad
Mae ein Tîm Ymyrraeth Gynnar ac Atal yn y Gwasanaeth Anabledd yn cynnig ymateb cyntaf i unigolion sydd wedi eu cyfeirio atom ac sydd:
- Dan 65 oed ac ag anabledd corfforol
- Unrhyw oedran, gydag anabledd corfforol neu nam ar y synhwyrau
Mae’r tîm yn cynnig cefnogaeth gyda therapi galwedigaethol, cyfathrebu, ail sefydlu ac eirioli ac mae’n bwysig bod yr holl bartïon perthnasol yn cydweithio i ddarparu’r lefel orau o gefnogaeth i’r unigolyn. Mae archwiliad diweddar o weithgaredd atgyfeirio therapi galwedigaethol (OT) y tîm yn awgrymu bod hyn yn digwydd.
- O fewn cyfnod o ddeuddeg mis, cafwyd 482 o atgyfeiriadau therapi galwedigaethol.
- Roedd y rhan fwyaf o atgyfeiriadau yn gofyn am asesiad o lety byw, preifat a phreswyl, neu broblemau eraill yn ymwneud â thai ac addasiadau.
- Yn ystod y cyfnod deuddeg mis, caewyd 241 achos ac ar ôl adolygu, nid oedd 82% wedi’u hail atgyfeirio.
- Roedd yr 18% a gafodd eu hail atgyfeirio o fewn deuddeg mis rŵan wedi eu lleoli gyda gwahanol therapyddion yn y Gwasanaeth Anableddau Integredig, heb un therapydd unigol yn gyfrifol am nifer anghymesur o ailatgyfeiriadau.
Mae canlyniadau’r archwiliad yn awgrymu bod y Therapyddion Galwedigaethol yn diwallu canlyniadau personol y defnyddwyr gwasanaeth yn llwyddiannus am o leiaf deuddeg mis ar ôl dod i ben, ac ar gyfer tua 8 allan o bob 10 o bobl a aseswyd.
Cymorth gyda gwaith
Mae prosiect OPUS Conwy wedi dathlu ei flwyddyn gyntaf o gefnogi dinasyddion 25 oed a hŷn i ddod o hyd i waith. Mae’r tîm yn cynnwys mentoriaid, cyngor ar hawliau lles a therapi galwedigaethol, ac yn cefnogi pobl i oresgyn rhwystrau i ddod o hyd i waith, cyfleoedd gwirfoddoli neu gymwysterau gwaith. Hyd yma mae 100 o bobl wedi’u cefnogi ar eu taith i waith.
Mae’r prosiect ADTRAC yn cefnogi pobl ifanc 16 i 24 oed i symud i waith, hyfforddiant neu gyfleoedd gwirfoddoli a chyflawni eu nodau.
Astudiaeth achos
Daeth ‘A’ i OPUS heb gymwysterau ac roedd wedi bod yn ddiwaith ers dros flwyddyn. Roedd wedi bod yn gwneud cais am swyddi adeiladu ond nid oedd â’r tystysgrif Iechyd a Diogelwch angenrheidiol i weithio ar safle adeiladu bellach. Roedd ganddo flynyddoedd o brofiad ond nid oedd yn gallu fforddio’r hyfforddiant gan ei fod yn ddiwaith; roedd y teulu hefyd yn disgwyl eu babi cyntaf.
Gwnaethom lwyddo i gefnogi ‘A’ i ymgymryd â hyfforddiant a chwblhau arholiad ysgrifenedig i gael y dystysgrif Iechyd a Diogelwch angenrheidiol. Cafodd ‘A’ swydd yn fuan wedyn a dywedodd wrth y tîm:
Rwyf wrth fy modd ac yn gyffrous ynglŷn â dyfodol fy nheulu