Mae 50% o’r bobl a ymatebodd i’r Arolwg Dinasyddion yn cytuno eu bod yn gallu gwneud yr hyn sy’n bwysig iddynt hwy.
Gall hyn fod oherwydd amryw o ffactorau sy’n cyfyngu, gan gynnwys iechyd corfforol a meddyliol gwael, problemau symud neu oherwydd dyletswyddau gofalu a’r holl gyfrifoldebau a ddaw yn sgil hynny.
Mae’r ffaith na allaf i gerdded yn fy rhwystro rhag gwneud nifer o bethau rydw i’n dyheu am gael eu gwneud
Mae yna lawer o bethau na allaf i eu gwneud oherwydd fy rôl fel gofalwr
Hwb yr Hen Ysgol – Flwyddyn yn ddiweddarach
Ym mis Mehefin 2019, bu i’r Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AC, agor Hwb yr Hen Ysgol, sef y cyfleuster iechyd a lles newydd yn Llanrwst. Mae’r safle’n cynnig ystafelloedd ffitrwydd, gweithgareddau a chyfarfod sydd wedi cael eu defnyddio gan bobl leol ers agor ei ddrysau ym mis Ionawr 2019. Felly beth sydd wedi bod yn digwydd yn yr Hwb dros y deuddeng mis diwethaf?
Bu’r cyfleuster yn llwyddiant o’r cychwyn cyntaf, gyda dros 80 o wahanol fathau o sesiynau cyflwyno wedi’u cynnal yn yr ystafell ffitrwydd yn y pythefnos cyntaf. Erbyn Ionawr 2020, roedd yna 154 o aelodau Ffit newydd, gydag aelodau’n cael cymryd rhan ym mhob un o’r gweithgareddau ar y safle. Mae dros 15,000 o bobl wedi mynychu’r hwb, a dros 5,000 wedi mynychu un o’r deuddeg dosbarth ffitrwydd dan arweiniad hyfforddwr a’r tri dosbarth ffitrwydd rhyngweithiol a gynhelir bob wythnos.
Mae 68 o wahanol unigolion sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun wedi mynychu tri dosbarth wythnosol prysur yn sgil atgyfeiriad gan Feddyg Teulu, yn ogystal â phedwar ymgynghoriad Meddyg Teulu yr wythnos, sesiynau adfer y galon a’r ysgyfaint wythnosol yn y gampfa a dosbarth atal codymau, gyda lle i fwy!
O safbwynt lles, mae clybiau, sefydliadau a grwpiau cymunedol yn cyfarfod yn yr hwb yn rheolaidd i ddawnsio, cymdeithasu a thrafod materion lleol. Mae cymuned Llanrwst a’r cyffiniau yn elwa’n fawr o gael yr hwb yn eu hardal leol.
Gweithio ar y Cyd – Mwy o Gymorth i Unigolion ag ASD
Rydym wedi gwneud cynnydd cadarnhaol o ran helpu ein dinasyddion sydd ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig (ASD). Mae gwaith yn mynd rhagddo ar draws amrywiaeth o wasanaethau Gofal Cymdeithasol, gan gynnwys Anableddau a’r Canolfannau Teuluoedd, i ddatblygu llwybrau i’r plant hynny sydd heb anabledd na salwch meddwl difrifol. Hefyd, mae’r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig Rhanbarthol bellach wedi’i sefydlu ac yn cael ei ariannu’n barhaol gan CLlLC. Bydd y gwasanaeth yn darparu asesiadau diagnostig i oedolion awtistig (ar y cyd â gwasanaethau eraill weithiau), a chymorth a chyngor i oedolion awtistig a rhieni sy’n ofalwyr. Mae yna gysylltiadau gwych gyda’r Canolfannau Teuluoedd yng Nghonwy, ac mae nifer dda o bobl yn mynychu’r grwpiau rhieni.
Beth nesaf?
Rydym yn ailsefydlu Grŵp Budd-Ddeiliad ASD Conwy a Sir Ddinbych gyda Chylch Gorchwyl diwygiedig a Chadeirydd Annibynnol. Byddwn hefyd yn cyflogi Rheolwr Prosiect i ganolbwyntio ar ysgrifennu cynllun gweithredu lleol.
Rhaglen y Tîm Lles Cymunedol
Rhwng mis Ebrill a diwedd Rhagfyr 2019, mae’r rhaglen Lles Cymunedol wedi darparu 275 o sesiynau ar draws y sir, gyda 3,260 o bobl yn eu mynychu.
Nod y tîm yw codi ymwybyddiaeth o’r ymagwedd Pum Ffordd at Les drwy ei raglenni. Ers mis Ebrill 2019, darparwyd 30 o wahanol raglenni, ac o’r rhain bu i:
- 76.5% ymgorffori elfen ‘Bod yn fywiog’ y 5 ffordd tuag at les
- 100% ymgorffori’r elfen ‘Cysylltu’
- 86.1% ymgorffori’r elfen ‘Rhoi’
- 100% ymgorffori’r elfen ‘Dal ati i ddysgu’
- 100% ymgorffori’r elfen ‘Bod yn sylwgar’
O’r rhai hynny a lenwodd ffurflenni gwerthuso ar ôl mynychu un o’n rhaglenni, dywedodd:
- 100% eu bod wedi mwynhau’r gweithgaredd
- 100% y byddent yn argymell y gweithgaredd i eraill
- 100% eu bod wedi cyfarfod pobl newydd/wedi gwneud ffrindiau newydd
- 61% eu bod wedi gallu rheoli eu cyflwr iechyd eu hunain yn well/eu bod yn teimlo’n hapusach/iachach o ganlyniad i fynychu’r gweithgaredd
Rhan o waith y tîm yw canolbwyntio ar raglenni sy’n targedu cyflyrau penodol fel salwch meddwl, a chydweithio’n agos â Meddygon Teulu lleol i dargedu unigolion a fyddai’n elwa o fynychu’r rhaglenni hyn. Mae prosiectau diweddar sydd wedi’u datblygu fel hyn yn cynnwys Soffroleg a Chelf a’r Meddwl.
Fel rhan o’n rhaglen Soffroleg ddeg wythnos o hyd, gofynnwyd i’r cyfranogwyr gwblhau’r adnodd gwerthuso lles meddyliol Warwick-Edinburgh byr cyn ac ar ôl y rhaglen. Dangosodd y canlyniadau bod 100% o’r cyfranogwyr wedi gweld gwelliant yng nghyfanswm eu sgôr. Ar sail y canlyniadau hyn, fe lwyddom i gyfrifo ein henillion cymdeithasol ar fuddsoddiad. Amcangyfrifodd y canlyniadau mai gwerth ein henillion cymdeithasol oedd £8.68 am bob £1 a fuddsoddwyd yn y rhaglen.
Mae’r tîm wedi helpu cymunedau ledled Conwy i ddatblygu a darparu amrywiaeth o weithgareddau, yn dibynnu ar anghenion y bobl hŷn sy’n byw yn y cymunedau yng Nghonwy. Mae’r rhaglenni wedi cynnwys dosbarthiadau ballet Silver Swans i bobl dros 50 oed, pêl-droed cerdded, canu hwyliog a grwpiau cymdeithasol fel y grŵp Panad a Sgwrs yn Llangernyw.
Rydym hefyd wedi helpu cleifion o fewn ein hysbytai cymunedol lleol, gan roi hwb lles iddynt drwy brofiadau yn-y-foment. Mae sesiynau a gyflwynwyd fel rhan o’n prosiect ‘Lles Cleifion’ wedi cynnwys garddwriaeth, canu, sesiynau pontio’r cenedlaethau gydag ysgolion lleol, tylino’r dwylo, celf a chrefft a llawer mwy. Dyfarnwyd gwobr ‘Gwelliant Parhaus Cymru Gyfan’ i’r prosiect dan y categori awdurdod lleol. Nod y prosiect yw mynd i’r afael ag arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd a helpu cleifion i ailgysylltu â’u cymuned ar ôl gadael yr ysbyty.
Prosiectau cymunedol sy’n helpu pobl â dementia
Mae’r tîm wedi llwyddo i gynnal grwpiau a sesiynau cymunedol i helpu pobl sy’n byw gyda dementia a’u Gofalwyr. Dyma rai yn unig o enghreifftiau:
- Mae’r tîm wedi sefydlu Caffi Cyfeillgarwch yn Llanrwst ar gyfer unigolion sy’n byw gyda dementia a’u Gofalwyr. Mae’r sesiynau wedi bod yn boblogaidd ac yn cael eu cynnal yn Hwb yr Hen Ysgol, Ffordd Tan yr Ysgol, ar ddydd Mawrth olaf y mis.
- Mae’r tîm yn cymryd rhan weithgar ac wedi helpu sefydlu tri grŵp sy’n deall dementia yn y sir, gan gynnwys Grŵp sy’n Deall Dementia Stella Maris yn Llandudno, Caffi Dementia Deganwy a Chaffi’r Cof ym Mae Cinmel.
- Rydym yn parhau i gynnig cymorth i gartrefi gofal yn ein sir ac wedi bod yn cydweithio’n agos â thri cartref preswyl Henoed Bregus eu Meddwl ym Mae Cinmel i ddatblygu sesiynau pontio’r cenedlaethau. Mae cyswllt wedi’i lunio rhwng Ysgol Maes Owen a Kinmel Lodge ac Alistair House, a rhwng meithrinfa Chwarae Teg ym Mhensarn a Bay Court; mae sesiynau’n cael eu cynnal yn rheolaidd erbyn hyn.
Roedd 81% o’r bobl a ymatebodd i’r Arolwg Dinasyddion yn fodlon gyda’r cymorth y maent yn ei gael gan deulu, ffrindiau a chymdogion.
Mae fy nheulu’n gefnogol iawn… fe fyddwn i ar goll hebddyn nhw.
Mae gan deulu, ffrindiau a chymdogion eu bywydau eu hunain, felly alla’ i ddim galw arnyn nhw am gymorth bob amser.
Mae pwysigrwydd cymuned yn dod i’r amlwg, yn enwedig pan nad yw pobl yn byw’n agos at eu teuluoedd mwyach. Mae gofalwyr yn benodol yn gwerthfawrogi cymorth a charedigrwydd eraill, gan ei fod yn gallu lleddfu rhywfaint ar y pwysau y maent yn ei deimlo mewn rôl sy’n gofyn cymaint ohonyn nhw.
Dysgu a Chyfranogiad Plant sy’n Derbyn Gofal (LAC)
Mae’r Grant Datblygu Plant sy’n Derbyn Gofal wedi ein galluogi i helpu plant o fewn a thu hwnt i’r sir gael gafael ar addysg a chyfleoedd i reoli eu lles eu hunain. Rydym wedi helpu ysgolion gyda Diploma Ysgolion sy’n Wybodus am Drawma, cyrsiau llythrennedd emosiynol, rhaglenni anogaeth a therapi celf a chwarae. Mae Cynlluniau Addysg Personol (CAP) ar gyfer LAC yn parhau i gael eu datblygu drwy hyrwyddo ac ymgysylltu ysgolion, ac mae cynllun newydd yn cael ei ddatblygu yn unol â’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae adolygiadau rheolaidd yn sicrhau cysylltiad â phob darparwr addysg y tu allan i’r broses adolygu, a chyswllt amlwg rhwng yr Awdurdod Lleol ac ysgolion.
Rydym hefyd wedi bod yn gweithio i ddatblygu perthnasoedd gwaith integredig rhwng gweithwyr proffesiynol Gofal Cymdeithasol ac Addysg, gyda nodau amlwg i gefnogi addysg LAC drwy sicrhau dealltwriaeth o brosesau’r ddau. Cafwyd datblygiad penodol yn y maes hwn ar gyfer plant sydd ar hyn o bryd yn byw y tu allan i Gonwy mewn gofal preifat. Mae mwy o ymgysylltiad ar lefel strategol a gweithredol wedi ein helpu i fonitro’r addysg a’r dysgu sy’n digwydd yn fwy manwl, sydd wedi arwain at well canlyniadau wedi’u targedu. Rydym wedi helpu plant i gael mynediad i leoliadau prif ffrwd y tu allan i’r lleoliad gofal, gan ddefnyddio dulliau pontio a chymorth wedi’u cynllunio.
Mae cymorth parhaus gan GwE a’r Awdurdodau cyfagos mewn perthynas ag ymarfer a datblygu darpariaeth wedi sicrhau ein bod yn cynllunio’n effeithiol ar gyfer newidiadau yn y dyfodol, ac hefyd yn rhoi amrywiaeth o gyfleoedd i’n Plant sy’n Derbyn Gofal.
Beth nesaf?
Yn ddi-os, y cam cyntaf o’r camau nesaf fydd recriwtio i swydd barhaol sy’n cymell ac yn annog creadigrwydd yn y maes hwn. Rydym wedi clustnodi meysydd gwaith amlwg, yn y tymor byr a’r hirdymor, er mwyn sicrhau bod addysg a chyrhaeddiad LAC yng Nghonwy yn parhau i fod yn flaenoriaeth ac hefyd yn cyd-fynd â newidiadau deddfwriaethol ehangach o fewn y maes hwn drwy’r Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY). Mae hwn yn gam gyffrous yn natblygiad y cymorth rydym yn ei ddarparu i’n LAC i feithrin cyswllt a dysgu, gyda’r cyfle i groesawu’r newidiadau a gynigir drwy’r Ddeddf, ac hefyd gychwyn ar y rhaglen waith a glustnodwyd. Bydd meysydd allweddol y gwaith yn cynnwys cychwyn Rhith-ysgol, datblygu Cynlluniau Addysg Personol yn unol â’r Cynllun Datblygu Unigol [Deddf ADY CDU], ymgysylltu’n ehangach gyda darpariaeth addysg yr awdurdod lleol, a datblygu adnoddau o fewn lleoliadau i helpu dysgwyr.
Helpu pobl ifanc sy’n gadael gofal i gyflawni eu potensial
Rydym wedi gweithio ar sawl menter i roi pob cyfle i bobl ifanc sy’n gadael gofal ffynnu pan fyddant wedi dod yn annibynnol:
- Canolbwyntio ar brentisiaethau a chyrsiau, a’r rhwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag manteisio arnynt.
- Cyllid Kickstart i gynnig cymorth 24 awr i blant sy’n derbyn gofal a phobl ifanc sy’n gadael gofal gydag anghenion cymhleth.
- Cyllid ar gyfer cymorth camu i lawr o ofal preswyl ar ffurf 2 fflat byw’n annibynnol gyda chymorth ynghlwm.
- Cydweithrediad rhwng y tîm Cynghorwyr Personol a’r Swyddog Llwybrau Cadarnhaol er mwyn lleihau digartrefedd o lety â chymorth.
- Elfen atal digartrefedd Cronfa Dydd Gŵyl Dewi, er mwyn helpu gyda rhent a blaendaliadau i bobl ifanc sy’n gadael gofal gael gafael ar lety preifat pan fyddant yn barod am hynny.
- Gweithio gyda darparwyr llety preswyl â chymorth preifat i sicrhau cymorth cyson i bobl ifanc.
Cynnwys pobl ifanc sy’n gadael gofal ar baneli cyfweld ar gyfer Gweithwyr Cymdeithasol a Chynghorwyr Personol y Brifysgol Agored.
Beth oedd yr heriau?
Y brif her oedd meithrin cyswllt â phobl ifanc mewn sefyllfa grŵp. Er bod y tîm Cynghorwyr Personol wedi datblygu perthnasoedd gwaith cadarnhaol iawn ar sail un-i-un, yr adborth a geir o’r digwyddiadau yw nad yw pobl ifanc yn aml yn hoffi mynychu sesiynau grŵp.
Er ein bod yn ymdrechu i oresgyn rhwystrau sy’n atal pobl ifanc rhag ymgymryd â phrentisiaethau, gosodir y graddau mynediad ar safon genedlaethol, ac ni all darparwyr addysg wyro oddi wrth hyn (2 radd TGAU yw’r gofyniad ar hyn o bryd).
Beth nesaf?
Mae’r Gronfa Dydd Gŵyl Dewi newydd ryddhau cyllid pellach i bobl ifanc sy’n gadael gofal, a byddant yn cael rhoi eu barn ar sut y caiff ei wario drwy arolwg ar-lein. Efallai y byddwn hefyd yn mabwysiadu dull ‘senedd y bobl’ o ddyrannu’r cyllid, gan adael i garfan fechan o bobl ifanc eistedd ar y panel a phenderfynu a ddylid dyfarnu’r cyllid i ymgeiswyr ai peidio.
O ran llety, mae gennym sawl cynllun ar y gweill ar gyfer yr ychydig fisoedd nesaf fydd yn cynnig cyfleoedd cyffrous i bobl ifanc â gwahanol anghenion:
- Prydlesu ‘pod’ gan Cartrefi Conwy i ddarparu llety i bobl ifanc sy’n gadael gofal sy’n dychwelyd o’r brifysgol, neu yn ystod cyfnodau seibiant ‘Pan Fydda’ i’n Barod’.
- Rydym yn edrych ymlaen at gael cwblhau safle Maelgwyn, fydd yn darparu uned â phedair ystafell wely i bobl ifanc sy’n gadael gofal.
- Mae’r tîm Cefnogi Pobl wedi gweithio ar y cyd â Hafan Cymru a’r tîm Pobl Ddiamddiffyn i edrych ar ddatblygu Tŷ Coed Pella, sef uned â chwech ystafell wely i bobl ifanc.
- Bydd un o’n Cynghorwyr Personol yn gweithio gyda’r adran Tai i gwblhau cwrs Parod i Rentu. Yna bydd y CP yn parhau â’r gwaith hwn gyda’r tîm a’r bobl ifanc sy’n defnyddio’r gwasanaeth CP.
Cymorth i blant ag anableddau
Rydym wedi gallu defnyddio cyfleusterau newydd yng Nghanolfan Dinorben i ddarparu cymorth i blant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion cymorth ymddygiadol cymhleth. Mae dau glwb ar ôl ysgol i blant rhwng 5 a 19 oed wedi cael eu trosglwyddo yma, gan roi mynediad i fan awyr agored diogel, amgylchedd dan do tawel i’r synhwyrau, digon o fannau chwarae i gyflwyno’r lleoliad i blant ag anghenion mwy cymhleth, a staff profiadol mewn sefyllfaoedd heriol. Mae rhieni a theuluoedd wedi cael gweld yr amrywiaeth eang o wasanaethau eraill a gynigir gan y Canolfannau Teuluoedd, ac yn gwybod sut i gael gafael arnynt.
Yn ogystal â’r clybiau ar ôl ysgol, bydd plant ag anableddau sy’n cael cymorth un-i-un ar benwythnosau bellach yn gallu defnyddio Canolfan Dinorben pan fydd hi’n dywydd garw; doedd dim lleoliad ar gael iddynt cyn hyn. Mae’r Ganolfan Deuluoedd yn darparu amgylchedd diogel lle gall plant ddysgu a datblygu sgiliau a gweithio tuag at gymryd rhan mewn gweithgareddau yn y gymuned neu ymuno â chlybiau gyda grwpiau o blant eraill.
Y gobaith yw, pan fydd Canolfannau Teuluoedd yn agor ledled Conwy, e.e. ym Mae Colwyn, y bydd mwy o blant a phobl ifanc ag anableddau ac anghenion cymhleth yn gallu eu defnyddio yn yr un modd, gan ddarparu budd iddynt hwy a’u teuluoedd.