Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu
You are here: Home / 2014-15 / Adolygu perfformiad cwynion

Adolygu perfformiad cwynion

Y Fframwaith Gyfreithiol

Daeth trefniadau newydd ar gyfer trin cwynion y gwasanaethau cymdeithasol i rym ar 1 Awst 2014. Mae hefyd yn alinio gwasanaethau cymdeithasol gyda gwasanaethau cyhoeddus eraill, yn arbennig y GIG. Mae’r gweithdrefnau’n seiliedig ar ddwy egwyddor:

  • Mae hawl gan bawb sy’n gwneud cwyn am wasanaethau cymdeithasol yng Nghymru i gael eu clywed. Rhaid gwrando ar eu safbwyntiau, dymuniadau a’u teimladau; a dylid datrys eu pryderon yn gyflym ac mor effeithiol â phosibl.
  • Gall cwynion amlygu ble mae angen i wasanaethau newid. Mae’n bwysig bod awdurdodau lleol yn nodi lle y dylid gwella gwasanaethau o ganlyniad.

Y Broses Dau Gam

  • Cam 1 – Datrysiad lleol

Mae’n rhaid i’r awdurdod lleol bob amser gynnig trafod cwyn neu sylw gyda’r achwynydd i geisio datrys materion. Rhaid i’r drafodaeth hon ddigwydd o fewn 10 diwrnod gwaith. Dylai hyn ganiatáu i’r rhan fwyaf o gwynion gael eu datrys yn gyflym ac yn llwyddiannus.

  • Cam 2 – ymchwiliad ffurfiol

Mae hawl gan yr achwynydd i ofyn i’r awdurdod lleol am ymchwiliad ffurfiol o’u cwyn. Ar y cam hwn, bydd Ymchwilydd Annibynnol yn ymchwilio i’r gŵyn. Mae hwn yn rhywun nad yw’n cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol sy’n destun y gŵyn. Rhaid cynhyrchu adroddiad gyda chanfyddiadau, casgliadau ac argymhellion. Rhaid i’r awdurdod ymateb i’r achwynydd o fewn 25 diwrnod gwaith i dderbyn y cais i symud i’r cam hwn.

Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru

Os ydynt yn parhau i fod yn anfodlon, gall yr achwynwyr yna fynd â’u cwyn at yr Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Effaith yng Nghonwy

Yr adroddiadau chwarterol a nodir oedd y 2 adroddiad diwethaf a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru ac maent yn dangos y nifer o gwynion a dderbyniwyd a’r niferoedd a gafodd eu trosglwyddo i gam 2. Mae’r niferoedd yn debyg iawn ar gyfer y 2 gyfnod.

Adroddiadau cwynion chwarterol 1/8/14 tan 31/10/14 1/11/14 tan 31/1/15
Cyfanswm y cwynion a gafwyd

15

18

Cwynion Cam 1 a gafwyd

11

15

Cwynion a gafodd eu datrys yng Ngham 1

8

11

Cwynion Cam 1 sy’n symud ymlaen i gam 2

3

4

Cyfanswm y cwynion Cam 2 a gafwyd

7

7

Cwynion sy’n dal heb eu datrys

4

6

Beth sydd wedi newid? – Datblygiadau gyda’r Gwasanaethau Cwynion yn 2014-15

Er mwyn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth newydd, mae’r Gwasanaeth Cwynion wedi bod yn rhan o’r datblygiadau canlynol:

  • Er mwyn helpu i ddatrys cwynion Cam 1, bydd y Gwasanaeth Cwynion yn cynnal ymweliad ar y cyd â’r Rheolwr Tîm perthnasol i gwrdd â’r achwynydd a cheisio “canoli” penderfyniad.
  • Mae’r “Polisi Gwneud Cwynion a Derbyn Cwynion” a’r Taflenni Cwynion wedi cael eu diweddaru yn unol â Chanllawiau Llywodraeth Cymru
  • Mae’r gronfa ddata yn cynnwys CVs (a manylion eraill) Ymchwilwyr Annibynnol a’r Unigolion Annibynnol wedi cael ei datblygu ymhellach yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, er mwyn gwella’r posibilrwydd o gomisiynu ymchwilydd addas cyn gynted ag y bo modd a gwella’r dewis sydd ar gael.
  • Mae’r Swyddog Cwynion wedi gweithio gyda Grŵp Swyddogion Cwynion Gogledd Cymru ar ddatblygiadau newydd fel y Protocol Cwynion ar y Cyd gydag Iechyd
  • Bydd Canllawiau Diweddaraf yn cael eu rhoi i Staff Gofal Cymdeithasol, i’w cefnogi fel staff i ddeall eu hawliau pan eu bod yn destun cwyn
  • Cynhaliwyd Gweithdy Cwynion Pellach ar gyfer staff ym mis Ebrill 2015
  • Gweithio gyda Cwynion Corfforaethol ar gaffael system TG newydd i helpu cefnogi’r adran i reoli’r broses Gwynion yn fwy effeithiol a darparu fframwaith adrodd mwy effeithiol
  • Yn y broses o ddechrau datblygu holiadur adborth cwsmeriaid. Bydd yr Holiadur yn cynorthwyo’r Gwasanaeth Cwynion i ddod i ddeall eu profiad o’r broses gwyno.
  • Y gwasanaeth cwynion i gyflwyno yn y dyddiau Adborth Sicrhau Ansawdd bob chwarter blwyddyn i sicrhau bod staff yn dysgu o gwynion

Pa wahaniaeth y gwnaeth hyn? – Gwersi a Ddysgwyd o Gwynion

Y gwersi mwyaf arwyddocaol sy’n deillio o gwynion yn ystod y flwyddyn ddiwethaf yw:

  • Mynegi’n glir yr hyn y gellir ei gyflawni a’r hyn na ellir ei gyflawni
  • Sicrhau cefnogaeth gan weithwyr proffesiynol eraill fel y bo’n briodol
  • Sicrhau cyfathrebu effeithiol gyda theuluoedd
  • Sicrhau bod terfynau amser adroddiad yn cael eu bodloni
  • Sicrhau ymateb prydlon i gysylltiadau gan ddefnyddwyr gwasanaeth
  • Sicrhau bod gweithwyr cymdeithasol yn cysylltu â theuluoedd cyn rhyddhau o’r ysbyty
  • Sicrhau bod staff yn cael eu hatgoffa o bwysigrwydd cyfrinachedd
  • Esbonio terfynau ein gwaith yn llawn i ddefnyddwyr gwasanaeth
  • Nodi person cyswllt allweddol wrth ymateb i gysylltiadau
  • Cofnodi pob ymholiad a chysylltiad
  • Ymateb i bryderon mewn modd amserol
  • Gosod rhaglenni ac amserlenni clir ar gyfer cyfarfodydd a sicrhau bod cofnodion cywir y cytunwyd arnynt yn cael eu darparu.

Ffeiliwyd dan: 2014-15, Dilyniant ers 2013-14

Chwilio

Adroddiad 2014-15

Cyflwyniad

Cyflwyniad

Dilyniant ers 2013-14

Dilyniant ers 2013-14

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymateb i Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 2014

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Plant)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

Ymyrraeth Ataliol a Chynnar (Oedolion)

LAC Sefydlogrwydd

LAC Sefydlogrwydd

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Integreiddio Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer Pobl Hŷn ag Anghenion Cymhleth

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb

Gostyngiadau / ail-alinio’r gyllideb
Return to the home page

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: gwasanaethaucymdeithasol@conwy.gov.uk

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English