Roedd canran y cynadleddau achos cychwynnol a gynhaliwyd o fewn 15 diwrnod o’r drafodaeth strategaeth/atgyfeiriad wedi dirywio yn ystod 2013 / 2014. Mae’r targed penodol hwn yn ddangosydd pwysig o allu Conwy i fynd i’r afael â phryderon diogelu yn gyflym, a risg a allai fod yn uwch i les y plenty.
Bu gostyngiad ers 2012/13 (96.1% i 78.3%), a’n cymhellodd i chwilio am esboniad ar unwaith a chymryd camau positif a buan.
Roedd y gostyngiad yn y ffigwr cyfartalog yn bennaf oherwydd y 3ydd chwarter, lle’r oedd dim ond 18 o’r 28 plentyn wedi cael eu cynadleddau o fewn y terfynau amser. Roedd y 10 plentyn a gafodd gynadleddau hwyr o ddau grŵp mawr o frodyr a chwiorydd (grŵp o 6, a grŵp o 4). Roedd y 2 gynhadledd hon yn hwyr: gan fod yn rhaid ail-drefnwyd un ohonynt oherwydd nad oedd rhieni yn gallu dod ar y dyddiad cyntaf, trefnwyd y llall ychydig y tu allan i’r terfyn amser mewn camgymeriad, a chafodd ei gynnal yr wythnos ganlynol.
Mewn gwirionedd dim ond 8 cynhadledd oedd tu allan i’r terfynau amser yn ystod y flwyddyn, a chynhaliwyd pob un ohonynt yn yr wythnos waith ganlynol – a 19 diwrnod gwaith oedd yr amser hiraf a gofnodwyd. Roedd yr 8 cynhadledd hyn mewn perthynas â 26 o blant, sydd wedi gwneud i’r perfformiad ymddangos yn sylweddol is.
Y canlyniad terfynol oedd 78.3% (barnwyd fod 94 o gyfanswm o 120 o blant wedi cael eu cynhadledd gyntaf yn ystod y terfyn amser o 15 diwrnod gwaith).Fel y soniwyd eisoes roedd hyn yn ymwneud â 26 o blant ond dim ond 8 cynhadledd amddiffyn oedd y tu allan i’r terfyn amser hwn mewn gwirionedd.(Pe bai’r DP yn cyfrif cynadleddau 86.7% fyddai’r canlyniad – 52 cynhadledd gychwynnol o gyfanswm o 60 yn y flwyddyn).
Beth sydd wedi newid?
Crëwyd cynllun gweithredu gan reolwyr i sicrhau gwelliant mewn prydlondeb:
- Peidio â gohirio cynadleddau pan fydd rhieni’n dweud na allant ddod.
- Archebu cynadleddau yn ôl nodiadau Trafodaeth Strategaeth swyddogol.
- Dyddiad i fod yn 15 diwrnod gwaith o’r drafodaeth strategaeth gychwynnol.
- Cydlynydd Amddiffyn Plant i fynd i bob cyfarfod gwaith cymdeithasol i atgyfnerthu’r broses a chynnwys gwybodaeth yn y rhaglen hyfforddiant flynyddol.
- Archwilio datblygu system TG PARIS i “nodi” dyddiadau dyladwy yn awtomatig.
Pa wahaniaeth mae hyn wedi’i wneud?
Adroddwyd y mater hwn yn ffurfiol i Bwyllgor Craffu Cwsmeriaid Conwy ar 25/9/14, ar ôl ymgynghori ag Aelod Cabinet y portffolio Diogelu Plant a Theuluoedd, a oedd yn cefnogi’r camau sy’n cael eu cymryd.
Dangosodd chwarter olaf y flwyddyn bod y cynllun gweithredu wedi cael effaith, gyda gwelliant o 11% ar berfformiad diwedd y flwyddyn flaenorol. Er bod hyn yn dal yn is na’n ffigwr targed ac ychydig islaw’r lefel goddefiant o 90%, mae gwaith yn parhau i sicrhau’r sefyllfa.