Mae cadernid o fewn ein cymunedau yn cael ei hybu ac mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial drwy annog a chefnogi pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, gan gynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas
Mynd yn ôl i’r awyr agored
Mae pandemig Covid-19 wedi cael effaith negyddol ar iechyd meddwl a hyder oedolion hŷn gan adael nifer ohonynt yn profi cynnydd mewn arwahanrwydd cymdeithasol ac unigrwydd. Er mwyn mynd i’r afael â hyn yng Nghonwy, mae’r tîm Lles Cymunedol wedi cynnig cefnogaeth i helpu unigolion ailgysylltu gyda’u cymunedau gyda hyder drwy drefnu amrywiaeth o weithgareddau awyr agored fel teithiau cerdded gyda themâu a rhai cymdeithasol.
Bu’r sesiynau hyn yn llwyddiannus iawn, a rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2022, fe gynhaliom 17 taith gerdded wahanol ledled y sir. Rydym yn parhau i weithio gyda darparwyr lleol i sicrhau bod y ddarpariaeth yn parhau, oherwydd mae’r adborth rydym ni wedi’i gael yn dangos bod unigolion yn ystyried bod y sesiynau cerdded hyn yn fuddiol iawn ac yn awyddus iddynt barhau bob mis.
Bws Teithiol yn rhoi Profiad Rhithiol o Ddementia
Ym mis Awst 2022, cynhaliodd ein Tîm Cadw’n Iach daith Bws Dementia Rhithiol yng Nghanolfan Fusnes Conwy. Drwy ddarparu dull sydd wedi’i brofi o roi profiad i unigolyn sydd â meddwl iach o’r teimlad o fod yn dioddef â dementia, mae’r profiad yn gadael i gyfranogwyr dreiddio mewn i fyd yr unigolyn, a deall pa newidiadau syml ellir eu gwneud i’w harferion a’u hamgylchedd i wella bywydau pobl â dementia. Cafodd 36 o gyfranogwyr yr hyfforddiant a chawsom adborth gwych ar ôl y sesiynau.
Byddwn yn argymell yr hyfforddiant hwn i unrhyw un sydd ag aelod o’r teulu â dementia, felly rydw i’n falch fy mod wedi dod heddiw
Diolch i chi gyd am drefnu’r hyfforddiant hwn, roedd o’n wych, rydw i wedi dysgu gymaint.
Beth nesaf?
Rydym wedi trefnu bod y bws yn dychwelyd ym mis Mawrth 2023 i ddarparu’r Daith Dementia Rhithiol ‘cynhwysol’ newydd. Mae hyn yn cynnwys symud drwy’r daith arferol i amgylchedd newydd. Yma, mae darparwr yr hyfforddiant yn arddangos sut allai bywyd fod petai’r holl newidiadau angenrheidiol yn cael eu gwneud er mwyn sicrhau bod yr amgylchedd mor gyfforddus â phosib i’r person sy’n byw gyda dementia.
Byddwn yn cynnal dwy sesiwn; un yng Nghanolfan Fusnes Conwy yng Nghyffordd Llandudno ar gyfer aelodau o’r cyhoedd sydd ag anwylyd yn byw â dementia, ac un ar gyfer staff Gofal Cymdeithasol, a fydd yn cael ei gynnal yng nghartref preswyl Llys Elian.
Tîm Cryfhau Teuluoedd a Chefnogaeth Cyn Geni
Mae gan y Tîm Cryfhau Teuluoedd adnoddau penodol i ddarparu cefnogaeth cyn geni i rieni sy’n cael eu hatgyfeirio at y Gwasanaeth Plant ac sydd mewn perygl mawr o weld eu babanod yn cael eu tynnu o’u gofal. Yn aml iawn mae’r rhieni yma eisoes wedi profi achosion gofal a gweld eu plant yn cael eu tynnu o’u gofal. Mae’r merched beichiog yma’n ddiamddiffyn am amryw o resymau; er enghraifft, oherwydd cyflwr iechyd meddwl, oherwydd eu bod yn rhieni yn eu harddegau, wedi dioddef trais domestig, tlodi neu ddigartrefedd, yn camddefnyddio sylweddau neu oherwydd eu bod wedi bod mewn gofal eu hunain.
Gan ddefnyddio’r model cymorth cyn geni nod ymyrraeth cyn geni Cryfhau Teuluoedd yw:
- Gweithio gyda rhieni cyn gynted ag y mae’r atgyfeiriad yn ein cyrraedd a phan fo’r babi yn y groth yn destun asesiad cyn geni
- Helpu rhieni i fynd i’r afael â’r pryderon sydd wedi arwain at yr asesiad cyn geni
- Meithrin perthynas gadarnhaol sy’n ganolog i ganlyniadau llwyddiannus
- Darparu cymorth gydag asesiadau gwaith cymdeithasol, gan gynnig cyngor ac arweiniad
- Atgyfeirio unigolion yn gynnar at wasanaethau cefnogaeth, er enghraifft gwasanaethau amenedigol a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau
- Atgyfeirio unigolion at Gynadledda Grŵp er mwyn nodi cefnogaeth briodol
- Darparu ymyraethau i rieni i fynd i’r afael â’r rhwystrau i fagu plant yn llwyddiannus
Mae ymyraethau yn aml yn seiliedig ar nodi Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, cefnogaeth i ddeall effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a datblygu gwytnwch personol a sgiliau ymdopi. Hefyd, mae ymyraethau sydd wedi’u llywio gan drawma yn helpu i wella iechyd a lles y rhieni, sy’n gallu effeithio ar eu gallu i roi gofal.
Mae ymyraethau yn aml yn seiliedig ar nodi Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod, cefnogaeth i ddeall effaith Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod a datblygu gwytnwch personol a sgiliau ymdopi. Hefyd, mae ymyraethau sydd wedi’u llywio gan drawma yn helpu i wella iechyd a lles y rhieni, sy’n gallu effeithio ar eu gallu i roi gofal.
Coleg Adfer
Pwrpas Coleg Adfer yw cefnogi hunan-reolaeth pobl o anawsterau iechyd meddwl drwy addysg a dysgu. Mae’r rhan fwyaf o golegau yn cael eu cyd-ddylunio gan bobl sydd â phrofiadau bywyd a phobl gydag arbenigedd proffesiynol.
Mae’r Tîm Lles Meddyliol wedi cyflwyno cais llwyddiannus i Gronfa Adfywio Cymunedol Llywodraeth y DU, sydd wedi bod yn gyfle i gynnal prosiectau tymor byr fel cam cyntaf gweithredu Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Sefydlwyd y prosiect er mwyn ymgynghori a chanfod partneriaid a buddiolwyr i helpu i greu coleg adfer yng Nghonwy. Ein gweledigaeth yw:
Coleg adfer wedi’i greu ar y cyd ar gyfer sir Conwy, sy’n galluogi pobl i adfer gobaith, meithrin gwytnwch, cysylltu a chreu cymuned, a chynnal eu hunain i gael bywyd bodlon a bwriadol.
Cynhaliwyd cyfres o weithdai a digwyddiadau gyda’n partneriaid yn Mind Conwy i gyflwyno’r syniad o Goleg Adfer a chyd-ddylunio, a arweiniodd at sesiwn gynllunio i fapio’r camau nesaf. Mae’r llun ar y dudalen nesaf wedi’i greu gan artist graffig mewn amser real, gan adlewyrchu’r trafodaethau a gafwyd ar y diwrnod (Saesneg yn unig).
Beth oedd yr heriau?
Yr her fwyaf oedd recriwtio Cydlynydd i’r coleg, a fyddai wedi gallu canolbwyntio’n benodol ar y prosiect. Gan na lwyddwyd i recriwtio cydlynydd roedd yn rhaid rheoli’r prosiect ar dop gwaith arferol, a gafodd effaith ar nifer y gweithdai yr oedd modd i ni eu cynnal.
Roedd yna hefyd heriau o ran cyfnod byr y cyllid. Un wers a ddysgwyd oedd bod meithrin perthynas gyda phobl a phartneriaid yn cymryd amser ond mae’n hollbwysig er mwyn cael sylfeini cryf i’r dyfodol.
Roedd darparu sesiynau wyneb yn wyneb ar ôl y pandemig hefyd yn anodd, gan fod rhai pobl heb fagu hyder i fynd i ddigwyddiad wyneb yn wyneb a COVID yn dal yn effeithio ar gapasiti.
Felly penderfynwyd cynnal arolwg ar-lein, er mwyn i bobl allu mynegi eu barn. Roedd 88% yn teimlo y byddai coleg adfer yn fuddiol i gefnogi eu hiechyd meddwl, a nodwyd cyfres o gyrsiau a ffefrir ar gyfer eu datblygu a’u cynnal fel rhan o’r coleg.
Beth nesaf?
Rydym ni wedi cyflwyno cais i’r Gronfa Ffyniant Gyffredin, sef ail ran y cyllid gan Lywodraeth y DU, i’n galluogi ni i recriwtio i swyddi i helpu i ddatblygu’r coleg. Rydym ni hefyd yn bwriadu cyflwyno cais am gyllid i’r Loteri Fawr er mwyn comisiynu amrywiaeth o bartneriaid trydydd sector i ni allu agor y coleg.
Rydym ni’n gweithio mewn partneriaeth â’r Gwasanaeth Llyfrgell i ailwampio llawr cyntaf Llyfrgell Bae Colwyn i greu lle diogel a chroesawgar i ni ddechrau darparu cyrsiau adfer a sesiynau lles, fel Cofnodi Creadigol a Darllen ar y Cyd.
Gwasanaeth Rhandiroedd
Mae’r Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn yn parhau i reoli’r rhandiroedd sy’n darparu gofod therapiwtig a diogel i unigolion sy’n defnyddio’r gwasanaeth. Ar hyn o bryd, rydym yn gobeithio eu datblygu ymhellach, ac mae rhan o’r gwaith yn cynnwys agor y rhandiroedd i bob unigolyn sy’n defnyddio’r gwasanaeth, gan gynnwys y rhai sy’n Gadael Gofal a’r Gwasanaeth Lles Meddyliol.
Beth oedd yr heriau?
Mae annog presenoldeb a chyfranogiad wedi bod yn heriol.
Beth nesaf?
Byddwn yn ymgynghori gyda’r rheiny sy’n defnyddio’r rhandiroedd ar hyn o bryd o ran y gwasanaeth maen nhw’n gael a’r hyn y mae modd ei wella. Byddwn yn cysgodi staff sy’n rheoli’r rhandiroedd fel ein bod yn deall y gwasanaeth. Byddwn yn hyrwyddo’r rhandiroedd i bob un o ddefnyddwyr y Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn.
Haf o Hwyl 2022
Un o raglenni adfer ar ôl Covid-19 Llywodraeth Cymru yw Haf o Hwyl, ac mae’r gweithgareddau’n cael eu hariannu er mwyn rhoi cyfleoedd i blant, pobl ifanc a’u teuluoedd i ailgysylltu gyda ffrindiau ac eraill i hyrwyddo sgiliau cymdeithasu, lleferydd, iaith a chyfathrebu a gwella iechyd meddwl a lles yn dilyn y pandemig. Eleni fe ddyrannwyd dros £186,000 gan Lywodraeth Cymru ar gyfer rhaglen Haf o Hwyl Conwy. Cefnogwyd cyfanswm o 27 prosiect, yn cynnwys gwirfoddolwyr a busnesau lleol. Fe ddarparodd hyn dros 870 o sesiynau gweithgareddau am ddim dros 13 wythnos o 1 Gorffennaf i 30 Medi 2022. Daeth dros 10,000 o bobl i’r sesiynau yn ystod y cyfnod hwn. Daeth dros 1,500 o blant ac 850 o oedolion i’r diwrnod chwarae ym Mharc Eirias ym mis Awst 2022 a chafodd y digwyddiad hefyd ei gynnwys ar raglen ITV News am 6pm! Un o’r prosiectau cyffrous a ddatblygwyd ar gyfer Haf o Hwyl oedd ffilm gafodd ei chreu o’r gweithgareddau Haf o Hwyl:
Beth oedd yr heriau?
Roedd y ceisiadau a gafwyd gan grwpiau a sefydliadau i ddarparu gweithgareddau yn fwy na’r arian oedd ar gael. Cynhaliwyd panel i asesu’r ceisiadau a rhannu’r arian mor gyfartal â phosib ledled y sir, yn unol â lleoliad a’r mathau gwahanol o weithgareddau fel diwylliant, chwarae, chwaraeon a chreadigrwydd. Cafodd rhai ceisiadau lai o arian am lai o sesiynau oherwydd faint o arian oedd ar gael.
Beth nesaf?
Ar hyn o bryd, nid yw’n hysbys os bydd arian Haf o Hwyl ar gael yn 2023. Ar hyn o bryd, nid oes dyraniad ar ei gyfer o’r wybodaeth a ryddhawyd am gyllideb Llywodraeth Cymru. Petai arian ar gael, byddem yn parhau â’r un prosesau yr ydym wedi’u datblygu a’u defnyddio dros y ddwy flynedd ddiwethaf er mwyn dyrannu arian a gwahodd ceisiadau gan amrywiaeth o bartneriaid allanol a mewnol i ddarparu gweithgareddau.
Datblygiadau yn ein Canolfannau Teuluoedd
Mae bob un o’n pum Tîm Cefnogi Teuluoedd, sy’n gweithio yn ein Canolfannau Teuluoedd, yn parhau i weithio gyda theuluoedd i ddarparu cymorth cynnar, ac er mwyn datblygu gweithgareddau a mentrau i fodloni anghenion y cymunedau lleol. Eleni rydym wedi bod yn:
- Gweithio gydag ymchwilydd o Brifysgol Bangor i ddatblygu llwybr o gefnogaeth, pecyn gwaith o ymyriadau, a hyfforddiant ar gamdriniaeth plentyn-rhiant/gofalwr o’r enw ‘Pennod Newydd’
- Sefydlu pum Gweithiwr Teulu Anableddau; un ym mhob ardal leol
- Ymateb i batrwm o ymddygiadau rhywiol niweidiol mewn cymuned drwy gynnal sesiwn Prosiect Rhieni gyda’r Lucy Faithful Foundation
- Gweithio gydag ysgolion a gwasanaethau cefnogi ieuenctid i ddarparu sesiynau ymwybyddiaeth am gamfanteisio, diwylliant gangiau a diogelwch ar y rhyngrwyd
Mae Canolfan Ffordd Douglas ym Mae Colwyn wedi bod ar agor ers blwyddyn ac mae nifer fawr o ddatblygiadau cyffrous wedi bod, ac agorodd Canolfan Teuluoedd Eryl Wen yn Llandudno ei drysau ar ôl gwaith adnewyddu eleni hefyd. Ceir rhagor am hynny isod.
Adnewyddu Eryl Wen
Yn dilyn ymgynghoriad yn 2019-20, fe wnaethom ddefnyddio Arian Nawdd Cyfalaf Dechrau’n Deg Llywodraeth Cymru ar gyfer adnewyddu ein Canolfan Teuluoedd yn ardal y gogledd, sef Eryl Wen yn Llandudno.
Caeodd y drysau ym mis Chwefror 2022 ac ailagor i’r cyhoedd ym mis Hydref 2022. Erbyn hyn, mae gennym fwy o le i groesawu teuluoedd, gan gynnwys:
- Ardal groesawu
- Ystafelloedd un i un
- Ystafell Chwarae
- • Cegin ar gyfer gweithgareddau coginio i’r teulu
- Ystafelloedd cyfarfod aml-asiantaeth
- Ystafelloedd hyfforddi
- Ardal wych i chwarae’r tu allan
- Gardd hyfryd gyda choed ffrwythau
- Maes parcio
Fe wnaethom gynnwys nodweddion er mwyn gostwng y costau cynnal a chadw a gostwng ein hôl-troed carbon, fel inswleiddio o safon uchel, system wresogi effeithlon o ran ynni a golau sy’n arbed ynni.
Beth oedd yr heriau?
Cymerodd y gwaith adnewyddu fwy o amser nag a ddisgwyliwyd oherwydd problemau gyda’r gadwyn gyflenwi ac anawsterau yn cael contractwyr i wneud y gwaith.
Roedd hi’n anodd annog teuluoedd yn ôl i’r ganolfan ar gyfer gweithgareddau grŵp, yn dilyn cyfyngiadau Covid-19. Dechreuom ein grwpiau gyda llai yn bresennol i godi hyder, a chan bod teuluoedd yn fwy hyderus bellach, mae’r nifer sy’n mynychu’n cynyddu.
Beth nesaf?
Byddwn yn cysylltu gyda’r gymuned leol i ganfod yr hyn sydd ei angen ar deuluoedd. Yna, fe wnawn weithio gyda phartneriaid lleol i ddatblygu sesiynau i deuluoedd, yn seiliedig ar yr hyn wnaethon nhw ei ddweud wrthym.
Rydym yn bwriadu datblygu ardal rhandir fechan i dyfu ein ffrwythau a’n llysiau ein hunain er mwyn eu rhannu a’u coginio gyda theuluoedd.
Cefnogaeth i Ofalwyr
Un o flaenoriaethau strategaeth Llywodraeth Cymru i ofalwyr di-dâl yw gwella asesiadau gofalwyr, yn arbennig er mwyn galluogi awdurdodau lleol i ddarparu asesiadau statudol yn effeithiol ac ar amser sy’n ymateb i anghenion unigol gofalwyr di-dâl.
Mae cynllun “Ymwybodol o Ofalwyr” cenedlaethol Gofalwyr Cymru wedi darparu cyfle gwerthfawr i weithio gyda staff ar bobl lefel o’r systemau Iechyd a Gofal Cymdeithasol ledled Cymru i greu newid diwylliannol ystyrlon i elwa gofalwyr di-dâl yng Nghymru. Hyd yma mae 17 o staff Conwy wedi cymryd rhan yn eu sesiynau hyfforddiant. Mae gan y cynllun gyllid ar gyfer dwy flynedd arall ac felly’n parhau i ddylanwadu’n gadarnhaol ar staff i roi cefnogaeth fwy effeithiol i ofalwyr.
Yn wahanol i awdurdodau eraill mae gan Gonwy Dîm o Ofalwyr yn fewnol sy’n gallu cyflawni asesiadau gofalwyr mewn achosion lle gall fod yn fuddiol i rywun arall ei wneud yn hytrach na’r Gweithiwr Cymdeithasol sydd wedi cael ei benodi ar gyfer y person sy’n derbyn y gofal. Mae’r system hon wedi bod yn fanteisiol yng Nghonwy, ac yn cael ei gydnabod gan bartneriaid trydydd sector sy’n gweithio ar draws y rhanbarth i fod yn gryfder penodol o fewn Conwy o ran y gefnogaeth sy’n cael ei roi i ofalwyr. Rydym hefyd yn comisiynu Hafal (sydd bellach yn rhan o Adferiad) i gyflawni asesiadau gofalwyr ac i ddarparu cefnogaeth o ran lles meddyliol, a Credu i wneud yr asesiadau ac i ddarparu cefnogaeth i ofalwyr ifanc.
Fodd bynnag, mae galw wedi bod yn cynyddu’n raddol ac mae ein tîm mewnol yn rheoli’n ofalus y rhestr aros sy’n tyfu ers pandemig Covid-19 , ac wedi dechrau cynllun peilota i weithio’n fwy agos gyda’r Timau Adnoddau Cymunedol aml-asiantaeth. Bydd hyn yn cynyddu’r pwysigrwydd o gefnogi gofalwyr, a darparu ymateb mwy cyfannol. Mae darganfyddiadau yn y lle cyntaf yn gadarnhaol, ac mae ystod ehangach o staff cymwys bellach yn cyflawni mwy o asesiadau gofalwyr, mae ein tîm Lles Cymunedol yn cefnogi drwy roi cefnogaeth lefel is a chyfeirio at y gefnogaeth briodol, ac yn sgil hynny mae’r rhestr aros wedi lleihau i fod yn un rhan o dair mewn dim ond ychydig fisoedd.
Cyn y pandemig roedd dadansoddi yn dangos fod mwy o ofalwyr ar gyfartaledd yn gwrthod y cynnig o asesiad na’r rheiny oedd yn derbyn y cynnig. Yn aml y rheswm dros hynny yw’r anhawster sydd gan bobl o weld eu hunain fel gofalwyr yn y lle cyntaf, mi fyddan nhw’n hytrach yn syml yn gweld eu hunain fel aelod o’r teulu ac yn cyflawni’r disgwyliadau o ‘ddyletswydd’ fel gwraig neu ŵr, mab neu ferch ayb. Mae’n ymddangos fod hynny wedi newid rhywfaint ac yn ystod 2022 cafodd 330 o asesiadau eu cwblhau gyda dim ond 198 yn cael eu gwrthod. Mae’n debyg fod y galw ar ôl y pandemig wedi cam-ystumio’r duedd i ryw raddau.
Mae cael asesiad gofalwr yn gallu eich helpu i drafod y cymorth sydd ei angen arnoch fel gofalwr ac arwain at gefnogaeth ychwanegol ar eich cyfer.
Ymgynghoriad gyda gofalwyr ynghylch cefnogaeth i’r rheiny sy’n byw gyda dementia
Mae gan Gonwy Fforwm Dementia sydd ag aelodau allweddol o Ofal Cymdeithasol, Iechyd a phartneriaid trydydd sector. Yn ddiweddar mae’r grŵp wedi dechrau cyfres o gyfarfodydd rheolaidd gyda grŵp o ofalwyr, mewn perthynas i’w profiadau o ofalu am rywun yn byw gyda dementia. Un o’r problemau wnaeth y grŵp dynnu sylw ato yn ein cyfarfod cyntaf oedd y gefnogaeth sy’n cael ei ddarparu ar ôl diagnosis o ddementia. Mae’r problemau hyn yn cael eu harchwilio a’u defnyddio i ddylanwadu ar y ffordd y mae gwasanaethau (yn lleol a rhanbarthol) yn cael eu cyflawni, gyda’r gobaith o gael y balans cywir rhwng darparu’r wybodaeth gywir ar yr amser cywir, a hynny mewn ffordd sy’n teimlo’n iawn ar gyfer bob gofalwr unigol.
Cynhwysiant digidol o fewn rhwydweithiau cefnogi anabledd
Datblygwyd y Strategaeth Technoleg a Digidol Gogledd Cymru Gyda’i Gilydd yn 2021 ac mae’n cael ei gyflwyno ar draws y rhanbarth. Mae’r strategaeth yn adnabod y rhwystrau i gynhwysiant digidol a’r camau sydd angen eu cymryd i fynd i’r afael â’r rhwystrau hynny. Yn fyr, mae cynhwysiant digidol yn cael ei effeithio gan fynediad i offer a chysylltedd, mynediad i gefnogaeth i ddefnyddio offer, a lefelau isel o hyder ymysg y rheiny sy’n cefnogi pobl gydag anableddau dysgu a’u teuluoedd a’u gofalwyr.
Mae Paul Mazurek, Swyddog Cynllunio a Datblygu wedi gweithio gyda Cyswllt Conwy (sydd wedi cael ei ariannu trwy wasanaethau gweithredol a thrwy’r rhaglen) i hyrwyddo defnydd o dechnoleg a mynediad i ddulliau technolegol. Mae o wedi gweithio gyda Chyswllt Conwy i roi benthyg cyfarpar i unigolion neu maent wedi eu cael fel rhodd ar sail un-i-un i ddatblygu sgiliau a magu hyder, a chefnogi unigolion i gael mynediad at adnoddau a gweithgareddau ar-lein.
Mae Paul yn y broses o weithio gyda Thîm Datblygu Gweithlu Conwy i gyflwyno hyfforddiant sy’n mynd i’r afael, er enghraifft: â phobl ddiamddiffyn ar-lein, radicaleiddio. Mae’r mater hwn wedi cael ei adnabod fel problem a phryder ar draws y rhanbarth. Mae’n dechrau ym mis Mawrth yn Sir y Fflint a bydd yn cael ei gyflwyno i bawb arall yn fuan wedi hynny. Mi fyddan nhw’n edrych ar greu hyfforddiant pellach o ganlyniad i’r gyfres hon o sesiynau.
Nod y gweithdy ‘Niwed, Meithrin Perthynas Amhriodol, Anableddau Dysgu ac Awtistiaeth’ yw codi ymwybyddiaeth o niwed ar-lein (yn enwedig meithrin perthynas amhriodol) o ran pobl gydag anableddau dysgu ac awtistiaeth. Bydd yn edrych ar sut i ymyrryd a chefnogi pobl mewn risg o niwed. Mae modiwlau ar-lein yn cael eu cyflwyno ar Zoom gyda thiwtor profiadol. Mae’r sesiynau ar-lein yn rhyngweithiol iawn ac yn cynnwys mewnbwn tiwtor, trafodaethau, astudiaethau achos, pleidleisiau, gweithio mewn grwpiau bychain ac adlewyrchu ar aseiniadau.
Mae Prosiect Pontio Cyswllt Conwy wedi gweithio gydag unigolion drwy gyflwyno:
- Dau sesiwn clwb ieuenctid hybrid y mis i annog cynhwysiant digidol
- Chwech o sesiynau gwybodaeth ar-lein gyda phobl broffesiynol yn trafod pynciau pontio
- Hyfforddiant Stop it Now gan y Lucy Faithfull Foundation, yn edrych ar gadernid digidol ar gyfer rhieni a gofalwyr
- Mae dau reolwr anabledd wedi hyfforddi ar apiau Cefnogaeth Weithgar ac wedi trafod eu bod nhw gyflwyno nhw i ddau brosiect.
Beth oedd yr heriau?
Mae pobl yn awyddus i gymryd rhan ond o fewn gwasanaethau yn arbennig mae staff yn ei chael yn anodd cael digon o amser a chymhwysedd i ddatblygu sgiliau a hyder. Mae pwysau ar y gweithlu yn golygu fod gweithwyr, yn ddealladwy, yn gorfod blaenoriaethu tasgau gofal uniongyrchol sy’n golygu bod datblygiad technegol yn mynd i lawr y rhestr o’r tasgau sydd angen eu gwneud. Mae cyrraedd a chael mynediad i staff a rhwydweithiau cefnogi yn her oherwydd lleoliadau gwasgaredig. Mae’n cael effaith ar ymrwymiad a gallu pobl i wneud y mwyaf ac i ddefnyddio technoleg gan na fyddan nhw bob tro yn ymwybodol o’r rhaglen a’i adnoddau. Mynediad cynyddol i dechnoleg yn golygu risg o ymddygiad amhriodol ar-lein a chynnydd mewn cam-fanteisio a radicaleiddio unigolion diamddiffyn, ac felly’r angen am yr hyfforddiant a amlygir uchod.
Unwaith y bydd mynediad digidol yn cael ei ddarparu, mae angen cynnig cefnogaeth yn barhaus i helpu unigolion i gadw i fyny gyda’r defnydd o dechnoleg. Bydd offer yn cael ei roi fel rhodd neu’n cael ei osod. Y tro cyntaf y bydd yn stopio gweithio mae yna berygl o ddadymgysylltu.
Beth nesaf?
Mae’r rhaglen yn peilota cyfres o gyfleoedd hyfforddiant i unigolion, teuluoedd ac i gefnogi’r gweithlu. Bydd hynny’n cael ei gyflwyno yng Nghonwy’r flwyddyn nesaf.
Bydd Paul yn ail-ymweld â’r syniad o sefydlu grŵp digidol yng Nghonwy. Mae Cyswllt Conwy wedi dod o hyd i unigolyn i wneud y gwaith technoleg ar gyfer y prosiect pontio (wedi’i ariannu gan y rhaglen). Mae Cyswllt Conwy yn alluogwr allweddol i gael y gwaith hwn wedi’i wneud oherwydd eu cysylltiad cymunedol.