Gweithredwyd Fframwaith Rheoli Perfformiad newydd Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill 2020, sy’n cynnwys set newydd o dargedau a mesurau perfformiad. Mae’r mesurau hyn yn tanategu pob agwedd o’r gwaith rydym yn ei wneud, drwy hysbysu ein timau rheoli o gynnydd, arferion da a thueddiadau newydd. Nid yn unig yw’r mesurau a’r targedau hyn, ar lefel leol a chenedlaethol, yn monitro perfformiad, maent hefyd yn caniatáu i ni gynllunio darpariaeth ein gwasanaethau yn y dyfodol. O ganlyniad, gallwn reoli unrhyw faterion posibl yn rhagweithiol, lliniaru yn erbyn risgiau a defnyddio’r wybodaeth i gymell ein gwasanaethau yn y dyfodol.
Safon Ansawdd 1 – Mae pawb yn bartneriaid cyfartal sydd â llais, dewis a rheolaeth dros eu bywydau ac maent yn gallu cyflawni’r hyn sydd o bwys iddyn nhw.
Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad | 2020-2021 | 2021-2022 |
---|---|---|
Cyfanswm nifer y pecynnau ail-alluogi a gwblhawyd yn ystod y flwyddyn (AD/010) | 770 | 749 |
Nifer y cysylltiadau newydd i oedolion a dderbyniwyd gan wasanaethau cymdeithasol statudol yn ystod y flwyddyn (AD/001) | 5,639 | 5,571 |
Safon Ansawdd 2 – Mae arweinyddiaeth effeithiol yn amlwg ar bob lefel gyda gweithlu hynod fedrus a chymwys a gefnogir yn dda yn rhannu’r un weledigaeth yn eu gwaith.
Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad | 2020-2021 | 2021-2022 |
---|---|---|
Nifer y swyddi gwag a hysbysebwyd yn ystod y flwyddyn | 113 o geisiadau swyddi gwag | 258 |
Nifer y swyddi gwag a gafodd eu llenwi’n llwyddiannus | Ni benodwyd ar gyfer 6 swydd wag. Cafodd 4 eu llenwi gan weithwyr asiantaeth. Mae gwaith yn mynd rhagddo i recriwtio ar gyfer 40 o swyddi gwag ar hyn o bryd | 183 |
Safon Ansawdd 3 – Mae’r angen am ofal a chefnogaeth yn cael ei leihau a’r cynnydd o ran anghenion yn cael ei atal, tra’n sicrhau bod y canlyniadau gorau posibl yn cael eu sicrhau i bobl.
Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad | 2020-2021 | 2021-2022 |
---|---|---|
Cyfanswm nifer y plant sy’n derbyn gofal a ddychwelodd adref yn ystod y flwyddyn (CH/045) | 10 | 14 |
Nifer y plant a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi bod mewn tri lleoliad neu ragor yn ystod y flwyddyn (CH/043) | 14 | 13 |
Cyfanswm y Cynlluniau Llwybr cychwynnol sydd i’w cwblhau yn ystod y flwyddyn (CH/049) | Nid yw’r ffigyrau ar gael | 12 |
Safon Ansawdd 4 – Mae cadernid o fewn ein cymunedau yn cael ei hybu ac mae pobl yn cael eu cefnogi i gyflawni eu potensial drwy annog a chefnogi pobl sydd angen gofal a chefnogaeth, gan gynnwys gofalwyr, i ddysgu, datblygu a chyfrannu at gymdeithas.
Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad | 2020-2021 | 2021-2022 |
---|---|---|
Cyfanswm nifer y plant a oedd yn derbyn gofal ar 31 Mawrth sydd wedi newid ysgol unwaith neu fwy yn ystod y flwyddyn (ac eithrio trefniadau pontio, symud sy’n gysylltiedig â mabwysiadu neu symud tŷ) (CH/044) | Nid yw’r ffigyrau ar gael | 9 |
Safon Ansawdd 5 – Mae partneriaethau effeithiol ar waith i gomisiynu a darparu canlyniadau cynaliadwy, cwbl integredig, o ansawdd uchel i bobl.
Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad | 2020-2021 | 2021-2022 |
---|---|---|
Cyfanswm nifer y plant gyda chynllun gofal a chymorth ar 31 Mawrth (CH/015) | 1,014 | 712 |
Cyfanswm nifer y plant gyda chynllun gofal a chymorth ble fo anghenion yn cael eu diwallu drwy Daliad Uniongyrchol ar 31 Mawrth (CH/016) | 106 | 60 |
Nifer yr oedolion gyda chynllun gofal a chymorth ar 31 Mawrth (AD/012) | 3,026 | 4,336 |
Cyfanswm nifer yr oedolion gyda chynllun gofal a chymorth ble fo anghenion yn cael eu diwallu drwy Daliad Uniongyrchol ar 31 Mawrth (AD/013) | 186 | 141 |
Safon Ansawdd 6 – Mae pobl yn cael eu hannog i gyfrannu at ddyluniad a darpariaeth eu gofal a’u cefnogaeth fel partneriaid cyfartal.
Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad | 2020-2021 | 2021-2022 |
---|---|---|
Cyfanswm nifer y bobl sy’n gadael gofal yng nghategorïau 2, 3 a 4 sydd wedi bod mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant am o leiaf 3 mis yn olynol yn y 12 mis ers gadael gofal (CH/054a) | 17 | 8 |
Cyfanswm nifer y bobl sy’n gadael gofal yng nghategorïau 2, 3 a 4 sydd wedi bod mewn cyflogaeth, addysg neu hyfforddiant am 3 mis yn olynol yn y 13 – 24 mis ers gadael gofal (CH/054b) | 26 | 26 |
Cyfanswm nifer y bobl sy’n gadael gofal sy’n cael profiad o ddigartrefedd yn ystod y flwyddyn (fel y’i diffinnir yn Neddf Tai (Cymru) 2014) o fewn 12 mis o adael gofal (CH/052) | 16 | 25 |
Safon Ansawdd 7 – Mae pobl yn cael eu diogelu rhag camdriniaeth ac esgeulustod a mathau eraill o niwed.
Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad | 2020-2021 | 2021-2022 |
---|---|---|
Cyfanswm nifer yr ymholiadau a gwblhawyd o fewn 7 niwrnod o gael gwybod am yr honiad o gamdriniaeth (AD/024) | 79 | 114 |
O’r plant hynny a roddwyd ar y gofrestr amddiffyn plant yn ystod y flwyddyn, y nifer sydd wedi bod ar y gofrestr o’r blaen o dan unrhyw gategori, ar unrhyw adeg yn ystod y 12 mis diwethaf (CH/024) | 9 | 0 |
Cyfnod cyfartalog o amser yr holl blant a oedd ar y Gofrestr Amddiffyn Plant yn ystod y flwyddyn (PMC28) | 247.58 diwrnod | 225.45 days |
Safon Ansawdd 8 – Mae pobl yn cael eu cefnogi i reoli eu lles a gwneud eu penderfyniadau deallus eu hunain fel eu bod yn gallu cyflawni eu llawn botensial a byw’n annibynnol am gyn hired â phosibl.
Disgrifiad o’r Dangosydd Perfformiad | 2020-2021 | 2021-2022 |
---|---|---|
Nifer y bobl ifanc sy’n gadael gofal sy’n symud i leoliad ‘Pan fydda i’n Barod’ (CH/055) | 5 | 2 |
Cyfanswm nifer y bobl ifanc y cafodd ymgynghorydd personol ei neilltuo ar eu cyfer yn ystod y flwyddyn – o fewn 3 mis os oedden nhw yng nghategori 1 neu 4, gweler y canllawiau (CH/051) | 28 | 10 |