Mae rhedeg sefydliad mawr yn golygu mwy na rheolaeth dda, mae’n golygu arweinyddiaeth ysbrydoledig. Mae gennym weledigaeth o ble rydym eisiau mynd, ac rydym yn cymryd ein staff ar y daith gyda ni, drwy eu cynnwys wrth gynllunio a chyfathrebu ein rhaglen trawsnewid.
Rhaglen Trawsnewid
Yn ganolog i’r Rhaglen Trawsnewid mae Bwrdd Prosiect sydd yn cynnwys Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol, Penaethiaid Gwasanaeth o Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion, Gwasanaethau i Blant a Theuluoedd a Gwasanaeth Datblygu Cymunedol. Mae’r Aelod Cyngor sydd yn ddeilydd portffolio Gwasanaethau Cymdeithasol hefyd yn mynychu, ynghyd â chynrychiolaeth o’r Pwyllgor Craffu. Yn dilyn penderfyniad gan y Cabinet, mae deilydd portffolio Addysg a Sgiliau hefyd yn mynychu.
Mae gan y Rhaglen Grŵp Sicrhau Safon, sydd bennaf yn cynnwys Aelodau Etholedig, gan gynnwys Cefnogwr Pobl Hŷn (Yr Arweinydd) a Chefnogwr Gofalwyr. Mae gan y grŵp hwn gyfle i ystyried cynnydd y prosiectau a’r rhaglen ar adegau amrywiol.
Cynhaliwyd sesiwn i hysbysu’r grŵp ehangach o Aelodau am gynnydd Rhaglen Trawsnewid Gwasanaethau Cymdeithasol a daeth llawer o bobl i’r sesiwn. Y nod oedd cyflwyno argymhellion o gyfnod ymchwil y rhaglen. Mae gan bob aelod gopi o newyddlen y rhaglen, sy’n cael i gyhoeddi bob deufis.
Mae sioeau teithiol i staff wedi cael eu cynnal i roi cyfle i staff gael gwybod am ddatblygiadau, ac am yr argymhellion sy’n cael eu cyflwyno, er mwyn siapio cyfnod nesaf y rhaglen. Bydd sioeau teithiol eraill i staff yn cael eu trefnu eleni a fydd yn cynnwys uwch reolwyr.
Enwebwyd uwch reolwyr o fewn y gwasanaeth fel gweithredwyr prosiect ar gyfer newidiadau’r prosiect yn y rhaglen, ac mae ganddynt gyfrifoldeb dros gyflwyno’r prosiectau. Cynigir hyfforddiant i’w cefnogi yn eu rôl yn weithredwyr prosiect.
Mae’r rhaglen trawsnewid bellach nawr yn eitem safonol ar yr agenda yng nghyfarfodydd Rheolwyr Gwasanaeth sy’n cael eu cynnal bob mis, a threfnwyd cyfarfodydd briffio rheolaidd gyda deilydd portffolio Gofal Cymdeithasol ac Iechyd ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.
Mwy Na Geiriau
Fel y soniwyd yn adroddiad y llynedd, rydym yn falch o adrodd bod Conwy yn gweithredu strategaeth ac rydym yn ymroddedig i sicrhau bod ymagwedd ag unigolion yn ganolog ar waith sy’n hyrwyddo anghenion siaradwyr Cymraeg.
Mae gennym fwrdd penodol i ganolbwyntio ar y strategaeth a chynllun gweithredu, ac mae rhai o’n hymdrechion dros y flwyddyn ddiwethaf yn cynnwys:
- Codi ymwybyddiaeth o’r strategaeth gyda’n darparwyr preswyl a gofal yn y cartref.
- Dangos y DVD i grwpiau staff ar draws y cyngor.
- Sicrhau bod y wybodaeth y mae cwsmeriaid yn ei dderbyn yn ddwyieithog, ee, asesiadau a chynlluniau gofal.
- Llunio canllaw am yr hyn a olygir gennym gan ‘cynnig gweithgar’ o ddewis iaith i sicrhau bod y tîm gofal cwsmer neu unrhyw staff pwynt cyswllt cyntaf yn dewis yr iaith gywir.
- Mae hyn yn flaenoriaeth i’r cyngor ac mae wedi’i gynnwys yn chwech o’n prif fentrau allweddol.
- Cyfarwyddwr y Gwasanaethau Cymdeithasol ydi Cefnogwr Iaith Gymraeg yr adran, ac mae’n aelod cabinet sydd â’r swydd honno ar ran y cyngor.