Cymorth i Deuluoedd
Y llynedd, gwelwyd cynnydd mawr yn y gwaith o sefydlu ein model Cymorth i Deuluoedd newydd. Mae’r pum Tîm Cymorth i Deuluoedd wedi ymwreiddio’n llwyr yn eu cymunedau lleol ac yn darparu cymorth gyda:
- Grwpiau mynediad agored
- Grwpiau wedi’u targedu (er enghraifft cyrsiau rhianta, gweithdai ar themâu)
- Gwybodaeth a chyngor
- Cymorth gan wirfoddolwyr a chymorth cymheiriaid
- Cymorth un i un
- Cymorth gan Weithwyr Teulu ar sail yr hyn sy’n bwysig i’r teulu
- Cael gafael ar gymorth arbenigol i deuluoedd (er enghraifft, mae gwasanaethau fel Hawliau Lles, Camdriniaeth Ddomestig a Chwnsela i Deuluoedd wedi’u lleoli gyda phob un o’r Timau Cymorth i Deuluoedd bob wythnos)
- Gwaith amlasiantaeth wedi’i seilio ar anghenion y teuluoedd unigol
Rydym wedi gallu cyrraedd mwy fyth o deuluoedd sydd angen cymorth ychwanegol drwy ein gwasanaethau Dechrau’n Deg.
Proffil Lles y Teulu
Rydym yn defnyddio adnodd newydd y gwnaethom ei gynhyrchu ar y cyd â theuluoedd i gynnal sgyrsiau am yr hyn sy’n bwysig iddynt. Mae’r adnodd “Proffil Lles y Teulu” hwn wedi cyrraedd rhestr fer am Wobr Gofal Cymdeithasol ac wedi cael adborth cadarnhaol iawn gan deuluoedd a’r gweithlu fel fframwaith ar gyfer sgwrs “Beth sy’n Bwysig”, sy’n gynnwys pob agwedd ar fywyd teuluol. Mae’r adnodd yn cynnig cyfle i fesur canlyniadau ac i deuluoedd gymryd perchnogaeth o’u cynllun gweithredu eu hunain.
Rydym wedi datblygu Safonau Ansawdd ar gyfer y gwasanaeth, mewn partneriaeth â’r teuluoedd rydym yn gweithio â hwy a’r staff sy’n gweithio gyda’r teuluoedd (gweler y blwch ar y dde).
Fel rhan o hyn, rydym wedi bod yn cyfweld teuluoedd i gael cipolwg ar eu hanes, a gweld pa wahaniaeth mae’r cymorth wedi’i wneud iddynt.
Astudiaeth Achos
Rydym yn defnyddio’r adnodd ‘Enillion Cymdeithasol ar Fuddsoddiad’ i roi syniad o’r arian a arbedir drwy atal teuluoedd rhag mynd i fwy o argyfwng a chymhlethdod. Mae’r swm a gyfrifwyd rhwng Ebrill a Rhagfyr 2019 dros £1 miliwn.
Cyfathrebu a Gweithio mewn Partneriaeth
Rydym yn gweithio gyda llu o bartneriaid i ddarparu gwasanaethau’n effeithiol. Rydym wedi sefydlu system fel bod teuluoedd nad ydynt yn symud ymlaen at y gwasanaethau gofal a reolir, yn cael eu hatgyfeirio’n awtomatig at y Timau Cymorth i Deuluoedd. Rydym wedi bod yn gweithio gyda Heddlu Gogledd Cymru i’n cyflwyno ein hunain fel llwybr cymorth amgen i deuluoedd drwy ‘atgyfeiriadau cymorth cynnar’.
Unrhyw heriau?
Y brif her i ni fel gwasanaeth yw llwyddo i gyrraedd pobl sydd angen cymorth; mae nifer y teuluoedd sy’n elwa o gysylltu â’n Timau Cymorth i Deuluoedd yn fwy na’r disgwyl. Rydym yn defnyddio ein hadnoddau mewn ffordd ddoeth ac yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd i weithio mewn partneriaeth a gyda’r gymuned leol i fodloni’r galw hwn. Mae hefyd wedi bod yn her gwneud yn siŵr bod ein gwaith cymorth cynnar ac atal yn parhau i fod yn flaenoriaeth, pan fo gan nifer o’r teuluoedd anghenion ac amgylchiadau cymhleth.
Beth nesaf?
Byddwn yn parhau i ddarparu’r gwasanaethau rydym wedi’u sefydlu, a chael ein harwain gan anghenion y gymuned leol. Rydym yn parhau ar ein taith i ganfod safleoedd priodol i sefydlu Canolfannau Teuluoedd neu gymorth yn y cymunedau lleol.
Gwasanaeth Cyswllt
Ar ôl i’n timau drosglwyddo i’r swyddfeydd newydd yng Nghoed Pella ym Mae Colwyn, roeddem yn gallu cynnig gwell amgylchedd i deuluoedd yn ystod ‘amser cyswllt’. Mae’n hawdd cyrraedd y lleoliad canolog ar gludiant cyhoeddus ac mae wedi helpu llawer o deuluoedd i deithio’n ddidrafferth i sesiynau cyswllt. Mae pob un o’r pum ystafell wedi’u creu’n bwrpasol, gyda cheginau cyflawn, cyfleusterau toiled cysylltiedig gyda mannau newid clytiau a lle i storio teganau, ac rydym yn gweithredu ar adborth teuluoedd o ran gwelliannau pan fo hynny’n bosib. Yn ystod y cam dylunio, rhoddwyd ystyriaeth hefyd i natur sensitif sefyllfaoedd y teuluoedd a’r heriau posib wrth drosglwyddo plentyn rhwng aelodau teulu a gofalwyr maeth, felly mae dwy fynedfa ar wahân i’r ystafell gyswllt, a man parcio diogel dynodedig i ollwng a chasglu. Mae cyfarpar monitro TCC ym mhob ystafell yn gadael i weithwyr cyswllt arsylwi a chofnodi amser y teulu gyda’i gilydd heb fod yn ymwthiol, ac mae’r ystafell arsylwi staff yn rhoi mwy o gyfle i fyfyrio ar y gwasanaeth rydym yn ei ddarparu, a’i wella.
Gan fod natur cyswllt dan oruchwyliaeth yn newid ac yn cael ei ystyried yn gyfle i ddarparu a phrofi sesiynau sgiliau rhianta, penderfynwyd uwchsgilio’r gweithlu i adlewyrchu’r cyfrifoldebau newydd a’r gwasanaeth mwy cymhleth. Mae’r tîm cyfan bellach yn ystyriol o ACE ac felly’n deall rhywfaint o’r profiadau niweidiol yn ystod plentyndod y gallai’r rhieni eu hunain fod wedi mynd drwyddynt. O ganlyniad, mae eu hymagwedd tuag at deuluoedd wedi tyneru ac maent wir wedi ymrwymo i gydweithio â rhieni i gyflawni’r canlyniadau gorau ar gyfer y plant. Eleni, mae’r Gweithwyr Cyswllt hefyd wedi gweithio gydag Ymwelwyr Iechyd a Gweithwyr Ymyrraeth Teuluol i ddarparu pecynnau rhianta pwrpasol i deuluoedd mewn angen. Cafwyd un sefyllfa eleni lle bu angen cynnwys dehonglwr i sicrhau bod y Tad hefyd yn gallu cyfrannu at rianta ei faban newydd anedig. Cyflawnwyd gwaith gyda’r Tîm Cyfreithiol hefyd i wella ansawdd nodiadau achos a sicrhau eu bod yn gadarn ac yn dderbyniol fel tystiolaeth mewn llys. O ganlyniad, gwelwyd gwelliant nodedig, gydag un barnwr lleol yn ein llongyfarch ar safon cofnodion yr achos cyswllt.
Cydberthynasau a Rhywioldeb
Gan fod hyfforddiant ar gydberthnasau ac iechyd rhywiol i bobl ag anableddau dysgu wedi bod yn un o ganolbwyntiau eleni, defnyddiwyd cyllid ar gyfer cyrsiau a ddarparwyd gan brosiect Jiwsi, a groesawyd gan y rhai a fynychodd. O ganlyniad, rydym wedi comisiynu hyfforddiant pellach gan yr un prosiect, fydd yn gweithio gyda phobl ifanc sy’n byw yng Ngogledd Cymru ac sydd wedi’u hadnabod fel pobl ifanc diamddiffyn sydd mewn mwy o berygl o ddioddef problemau iechyd rhywiol nawr neu yn y dyfodol.
Ochr yn ochr â hyn, mae gennym Bolisi Cydberthnasau sy’n cynnig canllawiau i bobl ag anableddau, eu Gofalwyr ac unrhyw un sy’n gweithio gyda hwy, i’w helpu i ddeall sut y dylai gwasanaethau weithio gydag unigolion mewn perthynas â rhywioldeb a chydberthnasau. Credwn fod gan bobl sy’n defnyddio gwasanaethau oedolion yr un anghenion a hawliau personol a rhywiol â phawb arall, ac y dylai ein staff helpu’r unigolion sy’n defnyddio ein gwasanaethau i archwilio a deall eu rhywioldeb. Mae’r Polisi yn dangos ein hymrwymiad i annog unigolion i fynegi eu dewisiadau a’u hoffterau personol mewn perthynas â chydberthnasau personol a rhywioldeb.
Mae’r Rhaglen Drawsnewid Anableddau Dysgu Ranbarthol wedi blaenoriaethu cydberthnasau a rhywioldeb ac wedi dyrannu cyllid i gefnogi’r gwaith hwn ymhellach, gan gynnwys hyfforddiant a chymorth gan y trydydd sector i ddatblygu asiantaeth cyfeillgarwch a chariad.
Helpu Gofalwyr Conwy
Mae Conwy wedi cofrestru ar gyfer Strategaeth Gofalwyr Rhanbarthol Gogledd Cymru, a grëwyd gyda chyfranogiad Gofalwyr a gweithwyr proffesiynol statudol a’r trydydd sector ledled y rhanbarth. Mae’r strategaeth yn amlinellu gweledigaeth o “gynnig” cyson ar gyfer Gofalwyr ar hyd a lled chwe sir Gogledd Cymru, er mwyn ceisio sicrhau bod gwasanaethau ar gael i Ofalwyr, waeth lle maent yn byw, i’w helpu yn eu rôl ofalu ac i gefnogi eu lles.
Er mwyn mesur cynnydd yn erbyn y strategaeth ranbarthol, mae Conwy wedi cwblhau hunanasesiad a ddangosodd bod gan Gonwy gymysgedd effeithiol o gymorth i Ofalwyr ar y cyfan. Mae hyn yn cynnwys y tîm cymorth i Ofalwyr mewnol ac amrediad o ddarparwyr trydydd sector a gomisiynir, gyda chymorth penodol ar gyfer Gofalwyr Ifanc a’r unigolion hynny sy’n gofalu am bobl â phroblemau iechyd meddwl.
Er mwyn cefnogi’r hyn a gynigir fel arfer i Ofalwyr yng Nghonwy, defnyddiwyd cyllid y Gronfa Gofal Integredig (CGI) i gynnig darpariaeth ychwanegol i gefnogi gwytnwch a lles y Gofalwyr. Cynhaliwyd rhaglen beilot o gyrsiau ymwybyddiaeth ofalgar ar ddechrau 2019 ar gyfer gofalwyr pobl sy’n byw gyda dementia. Yn dilyn adborth cadarnhaol iawn, ail gomisiynwyd y cwrs ar gyfer diwedd 2019/20 ar gyfer pob Gofalwr.
Mae cyllid dementia CGI hefyd wedi cael ei gymeradwyo i sefydlu tîm o weithwyr cymorth dementia, a gweithwyr cymorth dementia sy’n gysylltiedig â’r Timau Adnoddau Cymunedol ym mhob un o’r pum ardal leol. Mae’r timau hyn wedi cael eu recriwtio a byddant yn cael effaith sylweddol ar helpu pobl sy’n byw gyda dementia a’u Gofalwyr. Yn olaf, rydym wedi sicrhau cyfle i ddarparu rhai cynlluniau peilot newydd i gynnig seibiannau byr, sy’n hyblyg a phersonol.
Cytunodd 80% o’r Gofalwyr eu bod wedi bod yn rhan o bob penderfyniad am sut i ddarparu’r gofal a’r cymorth i’r person y maent yn gofalu amdanynt.
Cafwyd sgyrsiau da gyda gweithwyr proffesiynol allweddol a sefydliadau cymorth.
Beth oedd yr heriau?
Rhan allweddol o helpu Gofalwyr yw ein gallu i adnabod a chlustnodi Gofalwyr, a her barhaus yn y maes hwn yw nad yw cyfran sylweddol ohonynt yn adnabod eu hunain fel Gofalwr, ond yn hytrach, fel rhywun sy’n cyflawni eu dyletswydd fel partner. Mae pobl hefyd yn aml yn wyliadwrus o’r derminoleg, ac i lawer, mae’r syniad o “asesiad” yn dod â rhagdybiaeth yn ei sgil y bydd ansawdd y gofal y maent yn ei ddarparu yn cael ei feirniadu, gyda’r posibilrwydd o ganlyniadau negyddol.
Beth nesaf?
Bu i’r hunanasesiad yn erbyn y strategaeth ranbarthol ganfod meysydd i’w gwella, ac mae grŵp cynllunio amlasiantaeth ar gyfer gwasanaethau Gofalwyr bellach yn cymryd camau mewn perthynas â’r canlynol:
- Cydweithio â thîm y gweithlu wrth symud ymlaen i gyflwyno adnoddau Pecyn Cymorth i Ofalwyr Gofal Cymdeithasol Cymru yn ein trefniadau hyfforddi a sefydlu mewn swyddi.
- Archwilio ffyrdd o fynd i’r afael â’r gyfran helaeth o Ofalwyr sy’n gwrthod asesiadau. Mae nifer y bobl sy’n gwrthod asesiad yn gyson uwch na nifer yr holl asesiadau a gwblheir bob chwarter.
- Datblygu cynigion i greu amrywiaeth mwy hyblyg o seibiannau byr/gofal seibiant.
Yn rhanbarthol, rydym wrthi’n datblygu fframwaith canlyniadau a rennir, fydd yn monitro agweddau allweddol ar gefnogi Gofalwyr y gwyddom ei bod yn bwysig i ni eu gwneud yn gywir. Bydd hyn yn hybu cydweithrediad ac arloesedd pellach ar draws y sector, gydag asiantaethau’n cydweithio â Gofalwyr i helpu cyd-gynhyrchu’r gwasanaethau sy’n helpu cefnogi lles Gofalwyr a chynnal eu rôl ofalu.
Cytunodd 62% o’r Gofalwyr eu bod yn teimlo’u bod yn cael cefnogaeth i barhau yn eu rôl ofalu
Rydw i’n eithaf hapus i barhau yn fy rôl ofalu o wybod bod yna gymorth ar gael i mi os bydda’ i ei angen.
Rydw i’n teimlo’n unig iawn yn fy rôl ofalu y rhan fwyaf o’r amser, er fy mod i’n cael cymorth.
Helpu ein gofalwyr maeth
Mae’r adran Plant sy’n Derbyn Gofal wedi bod yn rhan o ymgynghoriad â seicotherapydd teulu a systemig ymgynghorol allanol, er mwyn canolbwyntio ar ddatblygu strategaethau clir i fodloni anghenion ein plant sy’n derbyn gofal. Rydym yn datblygu ein sgiliau asesu i allu canfod anghenion ymddygiadol plant yn glir a’u cydweddu â gofalwyr y gellir eu helpu i ddatblygu eu sgiliau rhianta i ddiwallu anghenion y plentyn yn fwy effeithiol.
Mae’r gweithwyr cymdeithasol sy’n asesu ac yn goruchwylio wedi cymryd rhan mewn gweithdai hyfforddi er mwyn parhau i ddatblygu eu sgiliau ar gyfer nodi strategaethau ar gyfer y gofalwyr maeth y maent yn gweithio â hwy, i roi’r gefnogaeth orau i’r lleoliad maethu. Y nod yw ei gwneud yn llai tebygol i’r lleoliad chwalu.
Rydym wedi canolbwyntio ar y canlynol:
- A yw anghenion y plant yn cael eu nodi’n glir, gyda’r ddealltwriaeth o’r anghenion hynny’n cael ei diweddaru dros amser?
- A yw strategaethau clir yn cael eu datblygu i ddiwallu’r anghenion hynny?
- A yw gofalwyr ac aelodau staff yn cael hyfforddiant a chymorth priodol i gyflawni’r strategaethau hynny?
- A yw effeithiolrwydd y strategaethau’n cael ei adolygu dros amser a’i addasu fel y bo’n briodol?
Beth oedd yr heriau?
Mae creu lle yn ein hwythnos waith i ganolbwyntio ar ddatblygu o fewn y gwasanaeth wedi bod yn her, yn ogystal â chynyddu nifer y dyddiau hyfforddi a sicrhau bod y gweithwyr proffesiynol perthnasol yn mynychu.
Beth nesaf?
Mae gennym gynllun hyfforddi wedi’i drefnu ar gyfer y deuddeng mis nesaf, fydd yn gwella’r cymorth a roddir i ofalwyr maeth, y plant a’r bobl ifanc, a’r lleoliadau eu hunain. Byddwn yn adolygu ein hasesiad o anghenion ymddygiadol a strategaethau rhianta.
Cyflawniadau maethu
Gwyliwch ein fideo i glywed Matilda’n siarad am ei phrofiad o fod yn rhan o deulu maeth. Enillodd wobr y Rhwydwaith Maethu am Gyfraniad Eithriadol Cenedlaethol gan Feibion a Merched.
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn maethu, cysylltwch â ni ar 01492 576350 neu [email protected]