Dywedodd 73% o’r unigolion a ymatebodd i’r Arolwg Dinasyddion eu bod wedi cael y wybodaeth a’r cyngor iawn pan oedd arnynt ei angen.
Rydw i mewn cysylltiad rheolaidd gyda gweithwyr proffesiynol a sefydliadau cymorth allweddol.
Ar y cyfan, dywedodd 76% o’r bobl eu bod yn rhan weithredol o’r penderfyniadau am sut i ddarparu eu gofal a’u cymorth.
Darpariaeth seibiant newydd cyffrous ar gyfer pobl anabl
Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy gynlluniau i greu gwasanaeth seibiant preswyl newydd oherwydd y cynnydd mewn pobl ag anableddau sydd â Gofalwyr sydd angen seibiant yn rheolaidd.
Bydd yr adeilad newydd, ym Mron y Nant, Bae Colwyn, yn darparu lle byw preifat ac ardal gyffredinol fawr i gymdeithasu i bawb sy’n dod i aros. Bydd ei leoliad yn ei wneud yn hygyrch i’r rhan fwyaf o bobl ei gyrraedd ac yn hawdd iddynt ddefnyddio’r amwynderau a’r gwasanaethau y maent eu hangen ac yn eu mwynhau yn yr ardal.
Bu i ni rannu ein cynlluniau drwy ymarfer ymgynghori a digwyddiad agored gyda phobl sy’n defnyddio ein cyfleusterau seibiant presennol, pobl allai ddefnyddio’r gwasanaeth yn y dyfodol a phobl sy’n byw gyda Gofalwyr. Yn y noson agored yn ein swyddfeydd yng Nghoed Pella, cafwyd sesiwn galw heibio a chyfle i siarad â’r pensaer, Rheolwr y Gwasanaeth, y rheolwyr anableddau a chynrychiolwyr o’r maes Iechyd. Buom yn ateb ymholiadau ac yn cofnodi unrhyw bryderon, gan roi sicrwydd o ran parhad y ddarpariaeth seibiant.
Dywedodd 79% o’r bobl wrthym eu bod yn gwybod gyda phwy i gysylltu ynglŷn â’u gofal a’u cymorth.
Rydw i’n teimlo cysur dim ond o wybod bod cymorth ar gael i mi.
Mae’r gofalwyr wedi bod yn wych ac yn hawdd cael gafael arnyn nhw.
Mae rhai ymatebwyr yn teimlo’n rhwystredig nad yw gweithwyr cymorth neu weithwyr proffesiynol cyfarwydd yn cael ymweld â hwy bob tro. Rydym yn ceisio bod yn gyson lle bynnag y bo’n bosib, ond nid yw wastad yn bosib sicrhau bod yr un gweithwyr ar gael drwy gydol y cyfnod gofal a chymorth.
Gall oedolion sydd eisiau gwybodaeth, cyngor neu gymorth gysylltu â ni o ddydd Llun i dydd Gwener ar 0300 456 1111, a gall unrhyw un sy’n ffonio ynglŷn â phlentyn gysylltu â 01492 575 111.
Gwasanaeth integredig i blant a phobl ifanc ag anableddau
Mae’r Gronfa Gofal Integredig wedi hwyluso ffrwd waith i ganolbwyntio ar blant ag anableddau ac anghenion cymhleth, oedolion ag anableddau dysgu a Gofalwyr, ac wedi darparu ffordd o gyd-gomisiynu gwasanaethau sydd ar gael i blant ag anableddau. Mae elfen sylweddol o’r cyllid yn canolbwyntio ar ymyrraeth gynnar ac atal a helpu plant i wneud cynnydd. Mae’r Gwasanaeth Anabledd Dysgu Plant a Phobl Ifanc (CALDS) wedi cefnogi’r Gwasanaeth Anableddau i gynnal clwb gwyliau anghenion cymhleth peilot ar gyfer plant sydd angen cymorth gan Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Bu’r peilot yn llwyddiannus ac mae wedi’i ymestyn i bob gwyliau ysgol. Mae prosiect arall wedi galluogi plentyn ag anghenion iechyd cymhleth gael gofal seibiant yn Llys Gogarth. Caiff gymorth gan weithiwr gofal iechyd sy’n gallu cynnal ymyriadau iechyd pan fydd hi yn Llys Gogarth.
Datblygiadau Cyngor yr Ifanc
Grŵp o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed yw Cyngor yr Ifanc, sy’n ceisio rhoi cyfle i bob person ifanc sy’n byw yn y sir gael dweud eu dweud am yr hyn sy’n effeithio arnynt. Mae yna nifer o gynrychiolwyr ar Gyngor yr Ifanc o wahanol ysgolion uwchradd, colegau a’r Gwasanaeth Ieuenctid. Dros y deuddeng mis diwethaf, mae Cyngor yr Ifanc wedi cymryd rhan mewn gwaith anhygoel. Dyma rai enghreifftiau:
Hyrwyddo Diogelwch Ar-lein
Yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol gyda Phartneriaeth Pobl Conwy, dewisodd Cyngor yr Ifanc archwilio thema diogelwch y rhyngrwyd. Yn fwy penodol, bu iddynt benderfynu canolbwyntio ar y peryglon a’r risgiau sy’n gysylltiedig â radicaleiddio ar-lein fel pwnc dewisol am y flwyddyn i ddod. Er mwyn dysgu mwy am y pwnc, aeth y grŵp i gyfarfod â Swyddog Gwybodaeth Ddigidol y Gwasanaethau Ieuenctid. Aeth Cyngor yr Ifanc hefyd am ddiwrnod dysgu i ymchwilio ymhellach i’r pwnc a phenderfynu ar yr agwedd iawn sy’n berthnasol i bobl ifanc. Bu iddynt hefyd gyfarfod â chynrychiolwr o Heddlu Gogledd Cymru sy’n darparu hyfforddiant mewn perthynas â gwrth-radicaleiddio.
Gan ddilyn ymlaen o ymchwil Cyngor yr Ifanc i’r pwnc, bu iddynt benderfynu edrych ar ymyrraeth gynnar mewn perthynas â meithrin perthynas amhriodol a dylanwadu ar bobl ifanc ar lein. Maent bellach wedi llunio poster fydd yn cael ei rannu â gwahanol wasanaethau, ac sy’n cynnwys pwyntiau cyswllt ar gyfer plant a phobl ifanc.
Senedd Ieuenctid Cymru Gyfan
Mae aelodaeth Cyngor yr Ifanc wedi tyfu dros y flwyddyn ddiwethaf ac mae’n bleser mawr gennym gyhoeddi bod tri o aelodau Cyngor yr Ifanc wedi cael eu hethol i fod yn rhan o’r Senedd Ieuenctid Cymru Gyfan gyntaf. Roedd yr etholiadau’n cynnwys cynrychiolwyr ar gyfer Pobl Ifanc Anabl Cymru ac ardaloedd Aberconwy a Gorllewin Clwyd.
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y Senedd Ieuenctid yng Ngogledd Cymru ym mis Ionawr 2020. Mae’r tri sydd newydd eu hethol hefyd wedi mynychu eu cyfarfod cyntaf yng Nghaerdydd. Dros y ddwy flynedd nesaf, bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn canolbwyntio ar dri maes allweddol, sef cymorth iechyd emosiynol a meddyliol, sgiliau bywyd yn y cwricwlwm a thaflu sbwriel a gwastraff plastig.
Rôl y Swyddog Ailalluogi
Cafodd rôl newydd y Swyddog Ailalluogi ei chreu i gefnogi’r llif o unigolion drwy ein Gwasanaeth Ailalluogi. Mae’r Swyddog Ailalluogi’n cydweithio’n agos â’r tîm i gefnogi camau nesaf unigolion yn dilyn diwedd y cyfnod ymyrraeth. Mae’r unigolion hyn naill ai’n cael eu helpu i symud ymlaen i’r sector annibynnol os oes angen pecyn gofal a chymorth hirdymor arnynt i sicrhau eu bod yn cyflawni eu canlyniadau lles, neu eu cyfeirio at wasanaethau lles eraill yn y gymuned os nad oes angen cynllun gofal a chymorth ffurfiol arnynt. Mae hyn yn sicrhau llif cyson o unigolion drwy’r gwasanaeth a gallwn gynnig cyfnod o ymyrraeth ailalluogi i fwy bobl.
Os yw unigolion angen pecyn gofal hirdymor, cynhelir asesiad ariannol i bennu faint i’w godi arnynt am y gwasanaeth hwn. Caiff y broses hon ei chwblhau’n gyflym, sy’n sicrhau y codir ffi yn brydlon ar unigolion am y gwasanaethau y maent eu hangen.
Ers i’r swyddi newydd hyn gael eu cyflwyno, rydym wedi gweld gwelliant yn ein gallu i gynnig gwasanaeth ail-alluogi, yn ogystal â throsglwyddo’n fwy esmwyth i wasanaethau eraill. Mae’r galw am, a’r gallu i ddarparu cefnogaeth i boblogaeth hŷn Conwy yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Mae ein gallu i ddarparu gwasanaeth ailalluogi effeithiol ac effeithlon yn allweddol i reoli’r galw hwnnw. Mae creu’r rôl hon wedi ein galluogi i wella effeithlonrwydd y gwasanaeth hanfodol hwn a sicrhau y gall y mwyaf posib o unigolion elwa ar gyfnod ailalluogi yn ogystal â chadw neu adennill eu hannibyniaeth.
Roedd 77% o’r bobl a ymatebodd i’r Arolwg Dinasyddion yn cytuno eu bod yn fodlon gyda’r gofal a’r cymorth y maent yn ei dderbyn.
Allai o ddim bod yn well.
Gweithwyr Cymorth Dementia
Drwy ddefnyddio’r arian sydd ar gael drwy’r Gronfa Gofal Integredig, rydym wedi gallu cyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia 2018-2022. Mae’r Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia yn nodi strategaeth glir i Gymru ddod yn genedl sy’n deall dementia, sy’n cydnabod hawl pobl â dementia i deimlo’u bod yn cael eu gwerthfawrogi ac i fyw mor annibynnol ag sy’n bosib o fewn eu cymunedau. Mae’r Cynllun yn cydnabod yr angen am gefnogaeth draws-lywodraethol, amlasiantaeth drwy’r gymdeithas gyfan ar gyfer pobl â dementia.
Rydym wedi cyflogi pum Gweithiwr Cymorth Dementia i weithio fel rhan o’r pump o Dimau Adnoddau Cymunedol yng Nghonwy. Mae’r unigolion hyn yn gwella ymdrechion y timau amlddisgyblaethol i gynnal a chefnogi unigolion sy’n byw gyda dementia yn eu cartrefi eu hunain yn ogystal â darparu cymorth i’w Gofalwyr.
Er gwaethaf yr heriau a wynebwyd wrth geisio recriwtio i’r swyddi hyn, rydym eisoes yn cychwyn gweld y manteision y maent yn eu cyflwyno i fywydau unigolion sy’n byw gyda dementia.
Astudiaeth Achos
Daeth Mr X i gysylltiad â’r gwasanaeth drwy’r tîm bro. Mae Mr X yn byw ar ei ben ei hun a daeth yn amlwg fod ganddo nifer o broblemau gan gynnwys colli ei gof, problem iechyd gorfforol a’i fod hefyd yn galaru oherwydd iddo golli ei wraig yn ddiweddar. Llwyddodd y Gweithiwr Cymorth Dementia i ddatblygu perthynas dda gyda Mr X ac aelod o’i deulu. Trefnwyd apwyntiad ar ran Mr X i weld ei feddyg teulu, a roddodd ddiagnosis o broblemau sylweddol o ran colli ei gof, ac fe’i atgyfeiriwyd at glinig cof.
Darparwyd cymorth ymarferol rheolaidd i alluogi Mr X i fynd i siopa, mynychu apwyntiadau clinigol ac ymweld yn rheolaidd â bedd ei ddiweddar wraig, sydd wedi helpu Mr X drwy’r broses alaru. Gyda mewnbwn y Gweithiwr Cymorth Dementia, mae Mr X wedi cael ei atgyfeirio at asiantaeth allanol, ac mae’r Gweithiwr Cymorth yn ei helpu gyda’r broses bontio. Mae Mr X hefyd yn cael cymorth parhaus gyda’r broblem iechyd gorfforol. Mae hyn wedi golygu na chododd unrhyw argyfwng meddygol ac mae wedi gallu cael rheolaeth dros y sefyllfa.
Er gwaethaf byw gyda cholli ei gof a galar, mae Mr X yn parhau i fyw yn ei gartref ei hun. Mae’n parhau i fwynhau ei annibyniaeth ac yn byw’n dda iawn gyda chymorth y Gweithiwr Cymorth Dementia, ymweliadau gan ei deulu ac ymweliadau cartref hanfodol.
Mae 89% o’r bobl a ymatebodd i’r Arolwg Dinasyddion yn cytuno eu bod wedi cael eu trin gydag urddas a pharch.
Roedd y staff a alwodd draw a’r rhai a ffoniodd yn gymwynasgar ac yn gwrtais
Hyfforddiant Staff – Gweithio i gael Canlyniadau
Mae ein hadran Datblygiad a Dysg y Gweithlu wedi darparu hyfforddiant drwy gydol y flwyddyn mewn perthynas â darparu gwasanaeth sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn a chanlyniadau. Gweithio i gael canlyniadau yw canolbwynt arferion ac asesiadau a gynhelir gan ymarferwyr Gwaith Cymdeithasol ar draws Gofal Cymdeithasol. Dyma nodau ac amcanion yr hyfforddiant:
- Mwy o ymwybyddiaeth o ddull ymarfer sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau
- Mwy o hyder i ddefnyddio dull sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau
- Nodi sut y mae deddfwriaeth yn newid y berthynas rhwng darparwyr a’r unigolion sy’n derbyn gwasanaethau
Y cynnydd hyd yma
Rydym wedi darparu amryw o sesiynau hyfforddi i ddarparwyr gofal a chymorth mewnol ac allanol yng Nghonwy. Mae sesiynau hefyd wedi cael eu darparu i amrywiol adrannau ar draws Gofal Cymdeithasol, er enghraifft y tîm Safonau Ansawdd, y gwasanaeth Plant Sy’n Derbyn Gofal, Gofalwyr Maeth, timau Iechyd Meddwl a thimau bro.
Pa wahaniaeth a wnaeth hyn?
Mae’r sesiynau wedi gwneud gwahaniaeth o ran bod gan y staff a’r ymarferwyr gwell dealltwriaeth o ganolbwyntio mwy ar yr unigolyn sy’n derbyn gofal a chymorth, ac mae yna ymrwymiad mwy cadarn i sicrhau bod llais yr unigolyn yn cael ei glywed.
Beth nesaf?
Rydym wedi clustnodi angen i integreiddio â’n cydweithwyr Iechyd ar gyfer gweithgareddau dysgu yn y dyfodol. Byddwn yn datblygu gweithdai cydweithredol ar gyfer comisiynwyr a darparwyr er mwyn ehangu cwmpas yr hyfforddiant hwn.