Beth a ddysgom ni o’r Arolwg Dinasyddion?
Dim ond 46% o oedolion sy’n teimlo’n rhan o’u cymunedau ac mae’r rhwystrau rhag hynny’n cynnwys bod wedi symud i’r ardal o rywle arall, methu â mynd o le i le oherwydd afiechyd corfforol, ac arwahanrwydd cymdeithasol. Ar y llaw arall, roedd 87% o’r oedolion a gwblhaodd y fersiwn hawdd ei ddarllen o’r holiadur yn teimlo’u bod yn perthyn yn eu cymunedau.
Roedd 46% o Ofalwyr yn teimlo’n rhan o’u cymunedau; mae’r gyfradd yn isel, a’r rheswm pennaf am hyn yw bod yn rhaid iddynt roi blaenoriaeth i’w cyfrifoldebau gofalu dros fynd allan a chrwydro o amgylch eu cymunedau.
Roedd 70% o blant yn cytuno â’r datganiad hwn.
Fe ofynnon ni i ofalwyr a oeddent yn teimlo’u bod yn cael cefnogaeth i barhau yn eu swyddi gofalu a dywedodd 64% o’r ymatebwyr eu bod yn teimlo felly. Mae’r sylwadau ychwanegol yn dangos fod gofalwyr dan bwysau mawr i gadw’n iach a medru dal ati i ofalu. Mae pobl yn bryderus ynglŷn â’r dyfodol a beth fydd yn digwydd i’w hanwyliaid.
Doedd dim dewis – mae’n rhaid ei wneud o.
Mae’n lle unig weithiau. Byth digon o amser i gysgu.
Fe holon ni ofalwyr hefyd a oeddent yn teimlo’n rhan baratoi’r cynllun gofal a chymorth ar gyfer yr unigolyn y maent yn gofalu amdanynt, a dywedodd 81% ohonynt eu bod yn teimlo felly.
Darparu cymorth i deuluoedd
Canolfannau Teuluoedd Conwy
Y llynedd fe soniom ein bod yn bwriadu agor Canolfan Deuluoedd yn Abergele er mwyn darparu cymorth hygyrch yn y gymuned, fel y gallai teuluoedd gael cefnogaeth yn gynt, a bod hynny ar gael i bob teulu. Mae’r Ganolfan Deuluoedd yn mynd o nerth i nerth ac rydym wedi gwneud llawer o gynnydd wrth ddatblygu dull newydd ar gyfer ein gwasanaethau Cefnogi Cynnar ac Atal i deuluoedd yng Nghonwy.
Dros y flwyddyn aeth heibio fe wnaethom:
- Sefydlu pump o Dimau Lleol Cymorth i Deuluoedd – y Tîm o Amgylch y Teulu, gynt – a phenodi gweithwyr teuluoedd Dechrau’n Deg. Mae Canolfan Deuluoedd Llanrwst wedi bod ar agor ers sawl blwyddyn bellach, ac mae’r tîm yno’n dal i ddarparu gwasanaethau yn ne Conwy.
- Agor Canolfan Deuluoedd newydd yn Abergele (Canolfan Dinorben) i ddarparu gwasanaethau yn nwyrain Conwy.
- Datblygu a chyflwyno amserlen o sesiynau a gweithgareddau ymhob ardal, gan gynnwys grwpiau mynediad agored, cyrsiau magu plant, sesiynau â gwasanaethau sy’n bartneriaid a chymorth unigol i deuluoedd.
- Dechrau’r gwaith o ddatblygu Canolfan Deuluoedd ynghanol Conwy (Bae Colwyn a’r cyffiniau).
- Dal i weithio’n agos â theuluoedd a’r bobl hynny sy’n gweithio a theuluoedd – mae gennym Grŵp Cynghori Prosiectau sy’n cynnwys rhieni a phobl ifanc.
Dros y deuddeg mis diwethaf mae’r Ganolfan Deuluoedd yn Llanrwst wedi gweithio â 676 o ddefnyddwyr gwasanaethau. Darparwyd 232 o sesiynau i gyd, gan gynnwys grwpiau. Rydym wedi cofnodi y darparwyd 542 o grwpiau cymorth unigol i aelodau o deuluoedd hyd yn hyn.
Gallwch ddysgu mwy am y Canolfannau Teuluoedd drwy gael golwg ar ein ffilm ar YouTube. Mae’r diagram isod yn dangos y cymorth sydd ar gael gan ein timau integredig.
Astudiaeth Achos
Atgyfeiriodd ‘S’ ei hun at y Ganolfan Deuluoedd a hithau’n cael trafferth magu ei mab wyth oed a’i merch pedair ar ddeg mlwydd oed. Roedd ‘S’ newydd adael perthynas dreisgar a gormesol â’i chyn-bartner, ond roedd y plant wedi gweld trais domestig yn erbyn eu mam. O ganlyniad i hynny roedd mab ‘S’ yn ymddwyn yn heriol, rhywbeth y gallai fod wedi’i ddysgu gan ei dad, ac roedd ei merch yn cael trafferthion emosiynol difrifol ac yn ymddwyn yn fentrus ar y rhyngrwyd.
- Cysylltodd ‘S’ â’r Ganolfan Deuluoedd a chafodd ei hatgyfeirio at Relate ar gyfer cyfryngu teuluol.
- Atgyfeiriwyd ei merch at y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc a’r rhaglen STAR.
- Cynhaliwyd cyfarfodydd amlasiantaethol yn ysgolion y ddau blentyn er mwyn llunio cynllun gweithredu pendant ar y cyd ag asiantaethau eraill, a gwella’r berthynas a’r ddealltwriaeth rhwng y cartref a’r ysgol.
- Bu Gweithiwr Teulu’n gwneud gwaith ‘Pot Pryderon’ gyda’r tri aelod o’r teulu.
O ganlyniad i hyn, dywedodd ‘S’ ei bod yn medru bod yn rhiant mwy effeithiol i’w phlant, a bod eu hymddygiad hwythau wedi gwella. Roedd canlyniadau’r ymyrraeth hwn yn dda iawn, gyda phob asiantaeth yn cyfathrebu’n dda â’i gilydd er mwyn sicrhau bywyd tawelach a hapusach ar yr aelwyd i ‘S’ a’i phlant.
Tîm o Amgylch y Teulu
Ers mis Ebrill 2018, mae’r Tîm o Amgylch y Teulu wedi gweithio â 588 o deuluoedd a ofynnodd am gymorth gan wasanaethau ataliol. Mae’r rhan helaeth o deuluoedd yr ydym yn gweithio â hwy wedi cael profiad o amrywiaeth o bethau fel trais domestig, afiechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol neu sylweddau, neu wrthi’n mynd drwy’r profiad. Nid yw’n beth anarferol i deuluoedd a phlant wynebu cyfuniad o’r materion hyn ar yr un pryd.
Tîm Cryfhau Teuluoedd
Mae’r Tîm Cryfhau Teuluoedd yn dîm profiadol o Weithwyr Cymdeithasol a Gweithwyr Therapiwtig â Theuluoedd. Maent yn darparu gwasanaeth atal, gan weithio i ddiwallu’r anghenion mwyaf dybryd lle mae teuluoedd ar fin chwalu. Mae’r tîm yn canolbwyntio ar atal plant rhag dod yn blant sy’n derbyn gofal drwy gefnogi teuluoedd i gadw pobl ifanc yn ddiogel gartref, neu alluogi pobl ifanc i ddychwelyd adref (os oes modd) drwy ddarparu cymorth dwys wedi’i deilwra i’r unigolyn. Ehangwyd sgiliau’r tîm sydd bellach yn darparu amrywiaeth o ymyriadau cymhleth, gan gynnwys therapi chwarae a chyfryngu teuluol.
Pa wahaniaeth a wnaeth hyn?
Hyd yn hyn atgyfeiriwyd 58 o bobl at y tîm, ac roedd ar lawer ohonynt angen dulliau amlasiantaethol er mwyn atal lleoliadau rhag mynd ar chwâl. O ganlyniad i hyn fe wnaeth 103 o blith 106 o blant aros yn eu cartrefi neu yn yr un lleoliad.
Beth oedd yr heriau?
- Rhoi’r gorau i ddulliau gweithredu traddodiadol, gan ganolbwyntio ar gryfderau yn ogystal â risgiau;
- Mynediad prydlon at y Gwasanaeth Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc;
- Nid oedd modd penodi’r nifer llawn o staff i’r tîm, ac felly nid oedd ganddo gefnogaeth allweddol.
- Bodloni gofynion oedd yn gwrthdaro gan dimau mewnol.
Beth nesaf?
Rydym wedi buddsoddi arian ac amser datblygu yn aelodau presennol ein tîm, ac mae’n flaenoriaeth inni fedru cynnig contractau parhaol iddynt. Byddwn yn gweithio’n agos â’r Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc er mwyn datblygu dull ar y cyd ar gyfer plant sy’n derbyn gofal, yn ogystal â gweithredu’r llwybr hunan-niweidio ar y cyd â’r Gwasanaeth hwnnw.
Cynlluniau ar gyfer y dyfodol
- Byddwn yn dal i gynnig lleoliadau i fyfyrwyr gwaith cymdeithasol er mwyn darparu profiad gwerthfawr yn y maes;
- Bwriadwn feithrin cysylltiadau â’r Canolfannau Teuluoedd ledled Conwy er mwyn hyrwyddo dull ‘camu i lawr’ a helpu teuluoedd i ddatblygu rhwydweithiau yn y gymuned;
- Byddwn yn sefydlu grwpiau arbenigol ynglŷn ag ymglymiad ar gyfer teuluoedd, ac yn cefnogi pobl ifanc ag Anhwylder ar y Sbectrwm Awtistig;
- Mae arnom angen magu sgiliau a phrofiadau er mwyn ymateb i nifer cynyddol yr atgyfeiriadau ynglŷn â lleoliadau mabwysiadu’n mynd ar chwâl.
Astudiaethau Achos
Yn ddiweddar bu ein Tîm Cryfhau Teuluoedd yn gweithio â theulu â phlentyn (D) mewn perygl o ddod yn blentyn sy’n derbyn gofal, oherwydd gwrthdaro ac anghydfod ar yr aelwyd. Cafodd ‘D’ ddiagnosis o awtistiaeth, ac roedd yn ymddwyn yn heriol gartref. Gyda chymorth y tîm mae’r teulu bellach wedi datblygu a dysgu ffyrdd o ddelio ag ymddygiad heriol ‘D’. Golyga hynny fod ‘D’ yn fwy cysurus, ac mae yno lai o wrthdaro ar yr aelwyd.
Mae ‘T’ wedi cael cymorth y Tîm Cryfhau Teuluoedd i hybu ei lles emosiynol, gan gynnwys cymorth i fynd i’r afael ag anawsterau iechyd meddwl. Treuliwyd wythnosau lawer gyda ‘T’ yn gweithio ar ganolbwyntio ar ei thargedau personol. Rydym hefyd wedi cydweithio ag asiantaethau eraill sy’n darparu cymorth, a bu ‘T’ yn cymryd rhan mewn rhaglen sydd wedi’i galluogi i fod yn agored am brofiadau yn y gorffennol a gafodd effaith andwyol arni hi a’i theulu. Mae ‘T’ bellach mewn llawer gwell sefyllfa yn feddyliol, yn emosiynol ac yn gymdeithasol. Mae’r cymorth hefyd wedi hybu lles ei theulu’n gyffredinol, ac wedi gwella ei sgiliau magu plant.
Cefnogi ein Gofalwyr Maeth
Mae Gofalwyr Maeth yn darparu gwasanaeth hollbwysig i Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy drwy roi cartrefi diogel a chefnogol i’r plant hynny sydd arnynt eu hangen fwyaf. Mae’n hanfodol fod Gofalwyr Maeth yn cael digon o gefnogaeth i ddal ati, ac felly ym mis Ionawr 2019 fe ofynnom i’n Gofalwyr Maeth am sylwadau ynglŷn â’r cymorth a gawsant gan Wasanaeth Maethu Gofal Cymdeithasol Conwy. Cytunodd deugain o Ofalwyr Maeth i leisio’u barn ar faterion fel cyfleoedd hyfforddiant, cyfathrebu â’n tîm o weithwyr proffesiynol, ac ansawdd y gefnogaeth a gawsant.
Beth a ddywedont wrthym?
Mae 55% o’r Gofalwyr Maeth wedi bod yn gweithio gyda’r Cyngor ers dros bum mlynedd, ac mae hanner o’r rheiny wedi bod gyda ni ers mwy na deng mlynedd. Rhaid inni weithio’n galed i sicrhau fod maethu’n dal yn apelio at bobl, a’n bod yn dal i recriwtio Gofalwyr Maeth newydd.
O ran lleoliadau gofal maeth newydd, cafwyd ymateb cadarnhaol ynglŷn â chyfathrebu â’r rhan helaeth o staff y gwasanaeth, y profiad ‘paru’ lle mae’r plant yn cael eu lleoli yn y cartref mwyaf priodol, a’r eglurder ynglŷn â swyddogaeth y tîm o ran darparu cymorth i Ofalwyr Maeth. Hefyd, dywedodd y rhan fwyaf o ofalwyr maeth eu bod wedi derbyn y dogfennau allweddol, a bod y prosesau cyflwyno’n dda.
Yn fodlon iawn â’r ffordd y caiff lleoliadau posib eu hadnabod, ac ansawdd y wybodaeth a rennir.
Fe ofynnom i’n gofalwyr maeth am sylwadau ynglŷn â’r berthynas â staff yn y Gwasanaeth Maethu. Ar y cyfan fe gawsom ymateb cadarnhaol ynglŷn ag amrywiaeth o staff, gan gynnwys Gweithwyr Cymdeithasol, y Nyrs Plant sy’n Derbyn Gofal, Swyddog Addysg Plant sy’n Derbyn Gofal, gweithwyr cyswllt ac asiantaethau allanol fel y Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc.
Dywedodd 74% o’r ymatebwyr fod y cymorth a gawsant gan y Gwasanaeth Maethu naill ai’n Rhagorol neu’n Dda.
Mae arnom angen gweithio ar ddarparu ffyrdd ystyrlon i Ofalwyr Maeth gwrdd yn anffurfiol, ac ystyried a gaiff ein hyfforddiant ei ddarparu fel y disgwylir. Rhaid hefyd inni sicrhau y caiff Gofalwyr Maeth eu trin fel gweithwyr proffesiynol, a’n bod yn gwrando ar eu barn.
Beth nesaf?
Rydym wedi comisiynu adolygiad mwy trwyadl o’r cymorth ar gyfer lleoliadau, ac wedi penodi ymgynghorydd annibynnol i ymgynghori â Gofalwyr Maeth, Gweithwyr Cymdeithasol Gofal Plant a’r Tîm Ymyriadau Teuluol; yna byddwn yn cynnwys unrhyw argymhellion yn ein cynllun gweithredu.
Llwybr Dysgu Gofalwyr Maeth
Yn y flwyddyn aeth heibio rydym wedi arfarnu’r cyfleoedd hyfforddiant a dysgu a ddarparwn i’n Gofalwyr Maeth. Ar sail hynny rydym wedi creu’r Llwybr Dysgu Gofalwyr Maeth, sydd wedi arwain at ddatblygiadau mawr o ran cynnig cyfleoedd dysgu i’n Gofalwyr Maeth. Mae prif ddatblygiadau’n cynnwys:
- Blaenoriaethau hyfforddiant i bob Gofalwr Maeth yn y flwyddyn gyntaf, a datblygiad yn parhau yn yr ail flwyddyn a thu hwnt. Byddwn yn darparu mwy o gyfleoedd drwy hyfforddiant wedi’i deilwra.
- Cwrs hyfforddiant ar-lein sy’n cynnwys dros 150 o fodiwlau ar gyfer oedolion a phlant.
- Canolfan sy’n cynnwys dolenni cyswllt at sefydliadau allweddol, teclyn i archebu hyd at ugain o gyrsiau wedi’u targedu, a doleni cyswllt at grwpiau cymorth.
I gadw golwg ar gyfranogiad yn y Llwybr Dysgu ac unrhyw ymatebion gan ofalwyr maeth, bydd ein Tîm Datblygu’r Gweithlu yn trafod y materion hyn bob tri mis.
Cymorth i Unigolion Cysylltiedig
Mae’r term ‘Unigolyn Cysylltiedig’ yn disgrifio math penodol o leoliad gofal maeth lle mae perthynas neu ffrind yn gofalu am y plentyn. Sefydlwyd y Grŵp Cymorth Unigolion Cysylltiedig rai blynyddoedd yn ôl er mwyn rhoi cyfle i ofalwyr maeth oedd yn unigolion cysylltiedig gwrdd â’i gilydd yn anffurfiol i rannu eu profiadau. Mae’r grŵp hefyd yn darparu hyfforddiant ffurfiol ac yn trafod pynciau penodol. Rydym yn falch bod y grŵp wedi mynd o nerth i nerth ers ei ffurfio. Yn y flwyddyn aeth heibio fe ddaeth chwech o grwpiau at ei gilydd, gyda hyd at ugain o ofalwyr maeth yn cymryd rhan i gyd.
Mae’r grŵp wedi elwa ar sesiwn ymwybyddiaeth alcohol gan CAIS, a chwrs magu plant. Cafodd gofalwyr gyfle hefyd i fynd i Gynhadledd Gofalwyr Maeth a digwyddiad ymgynghori yng Nghaerdydd.
Rhoddwyd cyfle hefyd i Unigolion Cysylltiedig leisio’u barn am y cymorth a ddarparwyd. Cafwyd ymateb cadarnhaol gan fod Gofalwyr yn gwerthfawrogi’r cyfle i gwrdd a thrafod pethau sy’n berthnasol iddynt. Maent wedi dweud yr hoffent gael grwpiau mwy rheolaidd bob mis, a threfnu digwyddiadau arbennig.
Beth nesaf?
Bu twf mawr yn nifer y Gofalwyr sy’n Unigolion Cysylltiedig dros y ddwy flynedd diwethaf. Byddwn yn sefydlu tîm penodol er mwyn sicrhau y darperir cymorth iddynt, gan ganolbwyntio ar ofalu am berthynas neu ffrind.