Conwy Social Services Annual Report

  • Hafan
  • Adroddiad
    • Adroddiad 2020-21
    • Adroddiad 2019-20
    • Adroddiad 2018-19
    • Adroddiad 2017-18
    • Adroddiad 2016-17
    • Adroddiad 2015-16
    • Adroddiad 2014-15
    • Adroddiad 2013-14
  • Cysylltu

ADRAN 2: Diweddariad am y Rhaglen Trawsnewid Gofal Cymdeithasol

Section 2

Mae’r Rhaglen Trawsnewid Gofal Cymdeithasol yn tynnu at ei therfyn bellach. Mae’r trefniadau llywodraethu sydd wedi bod ar waith ar lefel y Prosiect a’r Rhaglen wedi bod yn hanfodol i’w llwyddiant.

Mae cwmpas a graddfa’r Rhaglen Trawsnewid wedi bod yn ddigynsail, ac mae’n ganmoladwy bod prosesau darparu gwasanaeth a busnes corfforaethol wedi cael eu cynnal yn ystod y cyfnod hwn.

Mae’r rhaglen drawsnewid wedi cael ei halinio â’r canlyniadau gwasanaeth / preswylydd a 4 ffactorau sy’n sbarduno newid, sef:

  • Darparu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles
  • Cyfnod ymchwil y rhaglen (a oedd yn cynnwys staff o’r gwasanaeth yn datblygu argymhellion)
  • Cydweithredu rhanbarthol a;

Yr heriau ariannol y mae’r Gwasanaeth a’r Cyngor yn parhau i’w hwynebu

Mae’r Rhaglen yn cynnwys 14 o brosiectau (a oedd â dros 60 o becynnau gwaith rhyngddynt) sy’n ffurfio’r rhaglen ac yn wahanol o ran eu cymhlethdod a’u natur.  Mae pob un o’r prosiectau wedi cyflwyno newidiadau neu ddulliau newydd o weithio, i gefnogi’r gwaith o ddarparu gwasanaethau a gwell canlyniadau i drigolion Conwy.

Mae canlyniadau’r prosiectau’n amrywiol, ac yn cynnwys y canlynol:

  • Sefydlu prosesau ac offer atgyfeirio newydd, fel asesiad syml fframwaith “Yr hyn sy’n bwysig”, i dynnu gwybodaeth gan y cleient
  • Gwella Gwasanaeth Un Pwynt Mynediad Conwy, sy’n darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth ar draws sectorau
  • Creu Fframwaith Asesu i Oedolion, sy’n canolbwyntio ar ba ganlyniadau y mae pobl am eu cyflawni
  • Buddsoddiad cyfalaf i ddatblygu canolbwyntiau lles newydd yn Llandudno a Llanrwst a datblygu rhaglenni gweithgarwch lles
  • Creu adroddiadau newydd i reoli perfformiad y gwasanaeth
  • Prynu a chyflwyno’r system “Call Confirm Live” newydd, a ddefnyddir yn bennaf gan weithwyr gofal cymdogaeth drwy ddefnyddio dyfeisiau symudol.
  • Ail-alinio adnoddau a chyflwyno ailstrwythuro, sy’n cynnwys datblygu Gwasanaeth Lles, Pobl Werthfawr ac Anabledd Hyd Oes, sy’n canolbwyntio ar atal
  • Cynhyrchu ac adolygu arferion diogelu
  • Moderneiddio’r broses model talu Gofalwyr Maeth, i’w gwneud yn fwy agored, syml, teg a hawdd i’w deall
  • Cwblhau ymarferiad adolygu ar ddeddfwriaeth, polisïau ac arferion y Gwasanaeth Plant sy’n Derbyn Gofal, gydag argymhelliad wedi’i nodi a’i ddatblyguy. i gefnogi’r gwasanaeth penodwyd Gweithiwr ar Ddyletswydd, Swyddog Lleoliadau a Chomisiynu a chrëwyd swydd Recriwtio Gofalwyr Maeth newydd
  • Datblygu Strategaeth Gyfranogi ac Ymgysylltu, er mwyn sicrhau bod defnyddwyr gwasanaeth yn cael eu cynnwys wrth lunio’r modd y cyflwynir gwasanaethau
  • Cynhyrchwyd Cynllun Cyfathrebu ac Ymgysylltu Staff Gofal Cymdeithasol, gyda’r nod o sicrhau bod yr holl weithwyr yn cael eu hysbysu, yn cael eu cynnwys, yn cael llais ac yn gallu cyfrannu at wella gwasanaethau.
  • Datblygu Gwasanaeth Preswyl Cyfunol “Llys Gogarth”, gan gynnig darpariaeth breswyl well gyda 10 gwely am 52 wythnos, 7 diwrnod yr wythnos a;
  • offer eraill, fframweithiau arfer a buddsoddiad TGCh i helpu staff i ymgymryd â’u swyddi a chefnogi cyflwyno gwasanaethau o ansawdd

Mae’r Rhaglen drawsnewid a’r prosiectau trawsnewid i gyd yn dod i ben yn ffurfiol ym mis Mehefin 2016, gyda chanlyniadau’r prosiect yn dod yn rhan o “waith arferol” y gwasanaethau. Mae unrhyw waith sydd heb ei wneud yn cael ei drosglwyddo i gael ei reoli a’i fonitro’n ymarferol fel y bydd yn yr adolygiad parhaus o ganlyniadau’r gwasanaeth / preswylydd dros y blynyddoedd sydd i ddod.

Tystlythyr cleient yn ymwneud â datblygu canolbwyntiau iechyd a lles a’r rhaglenni gweithgaredd:

Roedd gŵr lleol yn ei saithdegau yn teimlo bod ei fywyd wedi mynd yn wag iawn ar ôl colli ei wraig. Ar ôl cyfnod cychwynnol o alaru derbyniodd gefnogaeth gan y Groes Goch Gofal a arweiniodd at ymweliad â Chanolfan Gymunedol Tŷ Llywelyn. Dywedodd:

“Bu gwagle enfawr yn fy mywyd ar ôl i mi golli fy ngwraig. Roeddwn yn poeni sut y byddwn yn ei lenwi, beth fyddwn i’n gwneud â mi fy hun. Pan ddes i Tŷ Llywelyn a chael fy nangos o gwmpas y lle a fy nghyflwyno i’r rhaglen o’u gweithgareddau lles, roeddwn i’n meddwl bod llawer o bethau y gallwn i fod yn rhan ohonynt. Rhoddodd hyn yn obaith i mi.”

Ers yr ymweliad cyntaf hwnnw, mae wedi rhoi cynnig ar nifer o weithgareddau.

“Mae cymryd rhan yn y gwahanol weithgareddau yn Nhŷ Llywelyn wedi gwneud gwahaniaeth enfawr i fy mywyd. Mae wedi llenwi’r gwagle roeddwn yn profi ar ôl colli fy ngwraig. Rwyf wedi gwneud cysylltiadau ystyrlon gyda phobl rwyf wedi cwrdd â nhw ac wedi meithrin cyfeillgarwch. Drwy gymryd rhan yn un o’r grwpiau cefais hefyd y cyfle i gyfrannu fy sgiliau ac arbenigedd i wasanaethu’r grŵp. Cafodd hyn i gyd effaith aruthrol ar fy lles ac ansawdd fy mywyd.”

Chwilio

Adroddiad 2015-16

Cyflwyniad

ADRAN 1: Cynnydd a wnaed yn erbyn y meysydd blaenoriaeth

ADRAN 2: Diweddariad am y Rhaglen Trawsnewid Gofal Cymdeithasol

ADRAN 3: Llwyddiant mewn Gwasanaethau

ADRAN 4: Heriau Presennol

ADRAN 5: Partneriaeth Pobl Conwy

Ewch i’n prif wefan

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghonwy, ewch i www.conwy.gov.uk/gwasanaethaucymdeithasol

Lluniau

Cysylltu â’r gwasanaethau cymdeithasol

Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Oedolion: 0300 456 1111
Ymholiadau Cyffredinol ynglŷn â Gwasanaethau Plant: 01492 575111

E-bost: [email protected]

Iaith

Plygio amlieithyddol Wordpress gan WPML.org

Defnyddiwch y dolenni isod i weld y safle yn Gymraeg neu’n Saesneg.

Copyright © 2025 · Conwy County Borough Council

  • Cymraeg
  • English