Nododd COG 5 nifer o fylchau mewn hyfforddiant o gwmpas lles emosiynol ac iechyd meddwl, cytunwyd ar y dull canlynol:
- Dull partneriaeth aml-asiantaeth wrth gyflwyno gwasanaeth
- Targedu staff priodol ar gyfer yr hyfforddiant cywir
- Sicrhau ei fod yn gost-effeithiol a defnyddio adnoddau presennol gymaint ag y bo modd.
Trefnwyd cyrsiau hyfforddi a’u darparu mewn partneriaeth; Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl a Chysylltu â Phobl.
- Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl – nodwyd ei fod yn gwrs drud, darparwyd y cwrs yn rhad ac am ddim gan bartner achrededig, defnyddiwyd eiddo’r Cyngor a phrynwyd llyfrau adnoddau drwy Grant Gweithgareddau Lles Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Cysylltu â Phobl – Nodwyd angen hyfforddiant penodol o gwmpas gweithwyr rheng flaen sydd angen hyfforddiant a chefnogaeth ar sut i ddelio ag unigolion sy’n bygwth lladd eu hunain tra’u bod ar y ffôn gydag aelodau staff Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
Dangosodd dull partneriaeth COG 5 ganlyniadau cadarnhaol, o ran lleihau costau, gan rannu adnoddau a defnyddio gwybodaeth ac arbenigedd, ac arbediad ariannol posib o £7280 i’r Awdurdod Lleol.