Mae angen ystod o leoliadau i ddiwallu anghenion Plant sy’n Derbyn Gofal. Er mwyn adeiladu ar ein hamrywiaeth o leoliadau maethu mewnol, mae angen strategaeth ddiwygiedig arnom i sicrhau bod ein hoffer marchnata a’n proses recriwtio’n addas at y diben. Gan weithio mewn partneriaeth gyda chwmni annibynnol, rydym wedi adolygu ein prosesau presennol ac adnewyddu ein harfau marchnata presennol.
Fel Awdurdod Lleol, rydym yn cystadlu gyda’r sector annibynnol i recriwtio Gofalwyr Maeth, ac yn teimlo bod angen hunaniaeth brand cryf. Ar ôl ymgynghori â Gofalwyr Maeth a staff presennol, mae gennym bellach ddeunyddiau marchnata cryfach, wedi eu halinio â Chonwy. Mae darpar Ofalwyr Maeth bellach yn cael neges glir ein bod “Angen Gofalwyr Maeth i Faethu Plant Conwy”.
Mae pecynnau gwybodaeth Gofalwyr Maeth wedi cael eu hadnewyddu hefyd, ac mae Gofalwyr Maeth presennol wedi cyfrannu at greu pedwar fideo, sy’n canolbwyntio ar y meysydd canlynol:
- Maethu brodyr a chwiorydd
- Maethu Plant ag Anableddau
(Seibiant byr) - Proses Asesu a Chefnogi
- Maethu Plant yn eu Harddegau
Mae’r fideos yma wedi cael eu rhannu ar gyfryngau cymdeithasol (Facebook, Twitter ac YouTube), i foderneiddio’r ffordd yr ydym yn recriwtio Gofalwyr Maeth.
Diweddarwyd gwefan Conwy i sicrhau ei bod yn fwy deniadol a gellir bellach llenwi ffurflenni cais ar-lein.
Er bod recriwtio Gofalwyr Maeth newydd yn flaenoriaeth i ni, mae’n bwysig i ni gadw’r rhai sydd gennym yn barod. Felly, datblygwyd dulliau newydd i’n cynorthwyo i gadw staff, fel newyddlen bob chwarter a diwrnod Dathlu Derbyn Gofal i ddathlu llwyddiannau Plant sy’n Derbyn Gofal. Mae cynllun cymhellion ar gyfer Gofalwyr Maeth hefyd ar waith, lle y gellir ennill gwobrau am gyfeirio darpar Ofalwyr Maeth newydd i wneud cais. Mae Gofalwyr Maeth presennol hefyd yn cefnogi nosweithiau gwybodaeth, a digwyddiadau recriwtio cymunedol.