Mae Gweithwyr Cefnogi Cymunedol yn gweithio gydag unigolion yn eu cartrefi eu hunain yn eu cefnogi gyda thasgau bob dydd fel gofal personol, paratoi prydau bwyd a rheoli meddyginiaeth. Yn y gorffennol, byddai dyraniad gwaith yn cael ei gydlynu gydag un system bapur, a byddai taflenni amser papur yn cael eu cyflwyno ar gyfer cyflogau a bilio defnyddwyr gwasanaeth.
Mae CallConfirmLive! yn system fodern sy’n defnyddio technoleg ffonau clyfar i ddarparu gwybodaeth amser real i Weithwyr Cymorth Cymunedol gan sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu’n llawn am bob un o’u hymweliadau dydd ac unrhyw newidiadau a allai fod eu hangen. Mae’n cynnwys Porth Teuluoedd sy’n galluogi cleientiaid a’u teuluoedd i weld eu hymweliad unigol eu hunain. Mae hefyd yn cefnogi rheolwyr gan eu bod yn gallu gwneud y gorau o amser gweithwyr a lleihau teithio diangen ar draws yr awdurdod. Mae’n cefnogi iechyd a diogelwch gyda system o rybuddion yn hysbysu’r swyddfa nad yw gweithwyr cymorth wedi cyrraedd neu adael galwad a drefnwyd a bydd y system yn cynhyrchu ffeil electronig ar gyfer cyflogau heb fod angen llenwi amserlenni papur.
Mae CallConfirmLive! wrthi’n cael ei weithredu a disgwylir iddo fod yn hollol weithredol erbyn diwedd 2016.