Rydym yn gwerthuso ffyrdd o fesur effaith y Gwasanaeth Pobl Ddiamddiffyn.
Mae’r strwythur Pobl Ddiamddiffyn bellach ar waith ac mae pob penodiad wedi’u gwneud. Mae’r gwasanaeth yn datblygu diwylliant “gwasanaeth cyfan”, gan rannu sgiliau ac arferion gwaith gorau i wella canlyniadau ar gyfer pobl ddiamddiffyn.
Mae’r tîm wedi archwilio fframweithiau arfarnu ar gyfer mesur canlyniadau defnyddwyr gwasanaeth, i ddarparu tystiolaeth galed o’r canlyniadau buddiol sy’n cael eu cyflawni. Ystyriwyd y system “Sêr Canlyniadau” a sefydlwyd yn ateb posibl i’w brynu, gan ddarparu asesiad “cyn ac ar ôl” o ganlyniadau defnyddwyr gwasanaeth, a darparu tystiolaeth uniongyrchol o effaith ac effeithiolrwydd y gwasanaeth o ran helpu pobl i gyflawni eu canlyniadau. Yn ogystal, byddai’r system yn darparu adborth cadarnhaol uniongyrchol i gleientiaid unigol ynghylch y cynnydd a wnaed ganddynt, a thrwy hynny atgyfnerthu a chydgyfnerthu eu llwyddiannau.
Mae penderfyniad wedi ei wneud i ddatblygu model gwerthuso yn ein system gwybodaeth cleientiaid (PARIS), wedi’i alinio â’r asesiadau newydd sy’n ofynnol o dan y Ddeddf SSWB.