Mae Deddf y Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) yn gofyn i ni gryfhau ein hymagwedd tuag at Ddiogelu Oedolion. Bydd yn trawsnewid y ffordd y caiff Gwasanaethau Cymdeithasol eu darparu ac yn hyrwyddo annibyniaeth pobl, mae’n gofyn inni sicrhau bod ein cwsmeriaid yn ganolog i’r hyn a wnawn a’n bod yn ymgynghori ac yn gwrando arnynt. Yn y gwasanaethau anableddau, yn aml mae gan yr oedolion rydym yn gweithio gyda nhw anawsterau cyfathrebu ac mae hyn yn gosod her i sicrhau bod eu barn yn cael ei chlywed. Mae eu cynnwys yn y broses POVA yn her y mae angen i ni fynd i’r afael â hi, yn enwedig o ran ymchwiliadau POVA.
Beth sydd wedi newid?
Mae ymchwiliadau POVA yn cynnwys cyfweliadau ffurfiol gyda staff, a defnyddwyr gwasanaethau dan sylw. Er mwyn gwneud y broses yn gynhwysol ac yn ystyrlon, dyfeisiwyd dulliau creadigol i ymgysylltu â defnyddwyr gwasanaeth. Mae nifer o ffactorau i’w hystyried; iaith, cyflymder, gallu a hanes personol pobl. Rydym wedi cynnal dau ymarferiad grŵp gan ddefnyddio’r ddwy dechneg. Yn gyntaf, gan ddefnyddio cwestiynau agored a’u cofnodi ar bapur siart troi mawr, gan ddefnyddio geiriau syml a lluniau. Roeddem yn defnyddio testunau cyffredinol ac nid oedd unrhyw gwestiynau arweiniol. Gwelsom fod hyn yn annog sgwrs naturiol, ac yn y ddau ymarferiad, casglom y wybodaeth oedd angen heb achosi unrhyw ofid i’r unigolion dan sylw. Ar yr un pryd, roeddem yn onest iawn ac yn glir ynghylch yr hyn roeddem yn ei ofyn. Defnyddiais rai awgrymiadau gweledol hefyd, ar ffurf blwch sgleiniog aur a bin du i osod sylwadau da a drwg ynddo. Gweithiodd hyn yn dda a rhoddwyd cefnogaeth i’r defnyddwyr gwasanaeth ysgrifennu eu sylwadau i lawr. Defnyddiwyd lluniau o staff ac awgrymiadau gweledol lle bynnag yr oedd modd.
Pa wahaniaeth y mae wedi’i wneud?
Y prif wahaniaeth yw ein bod yn gallu defnyddio barn a theimladau ein defnyddwyr gwasanaeth yn ein hymchwiliad a’n hargymhellion ar gyfer y broses POVA. Ni allwn dybio ein bod yn gwybod beth mae pobl yn meddwl ac nid yw’n dderbyniol gofyn i’r bobl yng nghanol y broses. Mae’n gwneud i’n defnyddwyr gwasanaeth deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn dystiolaeth ein bod yn eu gosod yng nghanol ein harfer.